Agenda item

Ymgynghori ar Gynllun Busnes Gwasanaeth Cyflawni Addysg (CGA) ar gyfer 2021/2022 cyn cytundeb y Cabinet ym mis Ebrill 2021 (adroddiad i ddilyn).

Cofnodion:

Cyflwynodd Ed Pryce a Darren Jones o EAS yr eitem drwy esbonio fod EAS yn cyflwyno ystod eang o wasanaethau gwella ysgolion i bob ysgol yn yr awdurdodau lleol sy’n ffurfio rhan o’r consortia. Esboniodd Ed y byddai’n canolbwyntio ar elfennau allweddol yr adroddiad cyn y byddai Darren yn ateb cwestiynau penodol am ysgolion Sir Fynwy. Mae’r adroddiad yn dod i’r pwyllgor i roi cyfle i aelodau gyflwyno sylwadau ar gynnwys y cynllun busnes lleol a, thrwy wneud hynny, i ystyried y cryfderau a’r meysydd ar gyfer gwella yn ysgolion Sir Fynwy.

 

Dywedodd Ed y cafodd y cynllun busnes ei ysgrifennu yng nghyd-destun y sefyllfa newidiol gyda phandemig COVID-19 ac i ba raddau y gallwn ragweld y dyfodol ar gyfer y 12 mis nesaf. Mae EAS wedi trafod y prif flaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth gyda uwch arweinwyr mewn ysgolion ac mae ffocws y 12 mis nesaf ar obaith ac optimistiaeth ac esblygu ac addasu dysgu yn ystod cyfnod adferiad COVID-19. Cadarnhaodd Ed y byddai EAS yn sensitif i anghenion gweithlu’r ysgol ac yn gefnogol ac ymatebol fel sefydliad. Er y byddai cymorth yn gydnaws gyda disgwyliadau awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, mae EAS yn ystyried ymchwil sy’n dod i’r amlwg ar ddysgu cyfunol. Byddai’r EAS hefyd yn ceisio osgoi biwrocratiaeth diangen ar gyfer ysgolion. Cadarnhaodd EAS bod y gwerthusiadau canol blwyddyn a adroddir i grwpiau llywodraethiant EAS ar gael i’w gweld. Clywodd Aelodau y byddai ‘Cynnig Dysgu Proffesiynol’ ar gael i bob ysgol i ateb anghenion datblygu wrth i’r pandemig dynnu at ei derfyn ac os yw’r grant yn caniatáu, caiff pob ysgol ei hariannu i gyflwyno cyfran fawr o’r gweithgaredd dysgu proffesiynol. Byddai ysgolion hefyd yn manteisio o becynnau cymorth pwrpasol sy’n diwallu’r blaenoriaethau a ddynodwyd yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol ac y byddai hyblygrwydd i ganiatáu newidiadau mewn amgylchiadau yng ngoleuni’r pandemig. Cadarnhaodd fod model canoledig EAS wedi ei alluogi i sicrhau arbedion ac arbedion maint ac wedi galluogi datblygu arbenigedd lefel uchel ar draws y rhanbarth.

 

Byddai EAS yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda chynghorau i drin eu hargymhellion i Estyn a’u blaenoriaethau strategol. Blaenoriaethau strategol Sir Fynwy yw gwella deilliannau ar gyfer rhai o’n dysgwyr mwyaf bregus, cynyddu nifer y disgyblion sy’n cael safonau rhagorol, manylu strategaeth glir ar gyfer anghenion addysgol arbennig a chryfhau defnyddio  tystiolaeth hunanarfarnu i fod yn sylfaen i gynllunio gwella. Rhai o’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer EAS fyddai darparu cefnogaeth llesiant i ymarferwyr a dysgwyr, darparu cefnogaeth bwrpasol i ysgolion, gwella ansawdd addysgu a dysgu (yn cynnwys dysgu cyfunol) a chefnogi grwpiau penodol o ddysgwyr difreintiedig a bregus, yn cynnwys y rhai yr mae cau ysgolion yn effeithio’n anghymesur arnynt. Blaenoriaethau eraill fyddai helpu ysgolion i wireddu Cwricwlwm Cymru i sicrhau mynediad i amrywiaeth o ddysgu proffesiynol rhanbarthol a chenedlaethol, i gynnwys mynediad i fentora a hyfforddi a hyrwyddo rhwydweithiau ymarferwyr rhanbarthol. Byddai’r EAS yn parhau i gefnogi datblygu arweinwyr mewn ysgolion, meithrin gallu cyrff llywodraethu drwy ddysgu proffesiynol a datblygu diwylliant o atebolrwydd sy’n gwerthfawrogi nodweddion ysgolion effeithlon. Byddent hefyd yn ymwreiddio eu model arfarnu mewnol i sicrhau y rhoddir cefnogaeth effeithlon ac effeithiol i bob ysgol a lleoliad. Tynnodd Ed sylw’r aelodau at adrannau uchelgeisiau a risgiau yr adroddiad ac esboniodd fod camau lliniaru yn eu lle. Cyfeiriwyd yn fwy manwl at y goblygiadau adnoddau, gyda Ed yn cynghori Aelodau am gyfraniad ariannol Sir Fynwy a’r ansicrwydd ar hyn o bryd yng nghyswllt y sefyllfa cyllido grant.

 

Her Aelod:   

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ed am ei gyflwyniad cynhwysfawr ar yr adroddiad a diolchodd hefyd i EAS am eu gwasanaethau mewn cyfnod heriol a digynsail. Gwahoddodd gwestiynau gan y pwyllgor, fel sy’n dilyn: 

 

·                     Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â’r gostyngiad mewn cyllid awdurdodau lleol y cyfeirir ato ym mharagraff 5.10. Gan ei bod yn debyg y bydd mwy o alw i gefnogi plant bregus fel canlyniad i’r pandemig, roeddwn yn tybio os y cawsoch lai o arian gan y Cyngor eleni neu os oedd hwn yn ostyngiad oedd wedi’i gynllunio mewn cyllid.

 

Roedd hwn yn ostyngiad wedi’i gynllunio fel canlyniad i arbedion effeithiolrwydd i bob awdurdod lleol sy’n bartneriaid.   

 

·                     Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg fod y pandemig wedi effeithio ar ddeilliannau dysgu ar gyfer dysgwyr bregus. Pe byddai athrawon yn gorfod buddsoddi eu hymdrechion i ddatblygu dulliau dysgu ar-lein, a yw gwaith ar symud ymlaen gyda’r Cwricwlwm i Gymru wedi ei oedi ac a oes dadl dros ofyn i Lywodraeth Cymru ohirio ei gyflwyniad?

 

Gan gydnabod fod hwn yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru, gallaf werthfawrogi y gellid gweld hwn fel baich diangen ar hyn o bryd ond gan fod cynifer o’n hysgolion yn paratoi amdano fel proses barhaus, cyhyd â bod ysgolion yn cael hyblygrwydd a dealltwriaeth i ysgolion wrth ei weithredu, rwy’n ei weld fel cyfle yn hytrach na bygythiad. Yn ystod y pandemig, mae EAS wedi cefnogi ysgolion i weithio tuag at gyflwyno’r cwricwlwm newydd a bydd yn parhau i helpu cefnogi unrhyw fylchoedd.

 

·                     A allwch egluro os ydych yn dweud hynny oherwydd y gall fod ysgolion yn llai parod ar gyfer y cwricwlwm newydd nag y byddent wedi bod mewn gwahanol amgylchiadau oherwydd heriau’r 12 mis diwethaf?

 

Rwy’n credu yn sicr fod heriau wedi bod ac efallai nad yw ysgolion yn teimlo mor barod ag yr hoffent, ond bu hwn yn waith parhaus ac nid wedi ei atal yn llwyr. Mae dysgu proffesiynol yn gymaint mwy hyblyg nawr ac mewn rhai ffyrdd, gall dysgu proffesiynol yng nghyswllt y cwricwlwm newydd fod wedi datblygu ymhellach.

 

·                     Yn nhermau’r blaenoriaethau strategol ar gyfer Sir Fynwy a restrir dan baragraff 3.21, ymddengys fod blaenoriaethau strategol Sir Fynwy yn aros yr un fath tra bod dau o’r awdurdodau lleol eraill yn rhestru mai cau’r bwlch COVID yw eu blaenoriaeth. A ddylai hyn hefyd fod yn un o’n blaenoriaethau ni, ac ystyried fod plant wedi colli mas ar addysg lawn-amser ac y bydd wedi effeithio’n fwy ar blant bregus? Ymddengys fod rhai o’r blaenoriaethau strategol ar goll ar gyfer rhai o’r cynghorau.

 

Hefyd, yng nghyswllt y Bil Cwricwlwm ac Asesu, roedd peth o’r adborth yn awgrymu fod pryder y gall fod baich ychwanegol ar athrawon wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn ogystal â helpu dysgwyr. Fe wnaethoch chi ddweud fod ysgolion yn paratoi ar gyfer hyn ar sail barhaus, fodd bynnag a ddylid rhoi mwy o ymdrech i helpu plant i ddal lan ar ôl colli addysg lawn-amser mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.

 

EAS ~ Bydd gan bobl eu barn eu hunain ar y cwricwlwm newydd ond mae angen i ni fod yn gydnaws gyda chyfeiriad Llywodraeth Cymru ac mae adborth gan ysgolion yn awgrymu fod rhai ysgolion yn teimlo’n barod ar gyfer hyn. Mae’n anochel fod peth amrywiaeth a byddwn yn gwneud ein gorau glas i gefnogi’r ysgolion hynny. Roedd rhai o flaenoriaethau strategol yr awdurdodau lleol eraill ar goll adeg paratoi’r adroddiad hwn, ond cânt i gyd eu cynnwys yn y fersiwn terfynol. 

 

MCC ~ Mae argymhellion Estyn wedi llywio ein gwaith wrth symud ymlaen. Rydyn ni mewn sefyllfa yn awr lle mae’n rhaid i ni gefnogi ysgolion mewn gwahanol ffyrdd a bu’n rhaid i’n blaenoriaethau newid. Mae ein nodau strategol yn gynhwysfawr ac ar ddechrau’r pandemig y flaenoriaeth oedd galluogi plant gweithwyr allweddol i ddychwelyd i’r ysgol, nad oedd yn dasg rwydd. Yna fe newidiodd y flaenoriaeth i gefnogi dysgu o bell fel a drafodwyd yn y seminar i aelodau a gynhaliwyd ychydig wythnosau yn ôl. Yn fwy diweddar, y flaenoriaeth oedd i blant ddychwelyd i’r ysgol yn ddiogel ac rydyn ni wedi llwyddo hyn i wneud hyn i raddau, gan dderbyn fod rhai plant yn dal i ddysgu gartref ar hyn o bryd. Y flaenoriaeth nawr fydd paratoi ein plant ar gyfer pa bynnag olwg fydd ar broses asesu eleni a chefnogi ein hysgolion. Rydym yn adolygu ein nodau strategol yn barhaus yn unol â’r gwaith a wnawn gydag Estyn a byddwn yn adolygu ein blaenoriaethau ar ôl i’r plant ddychwelyd i’r ysgol. Byddwn yn siarad gydag ysgolion i weld os bydd angen ychwanegu blaenoriaeth bellach am gau’r bylchau mewn dysgu fel y gwnaethoch gyfeirio ato. Fodd bynnag, mae’n anodd iawn penderfynu i ba raddau y mae hyn yn broblem a’r camau i fynd i’r afael â hynny nes fod ein myfyrwyr wedi dychwelyd i leoliadau ysgol.

 

·                     Nid wyf yn credu y dylem ddiystyru faint o waith sydd angen ei wneud i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd ac rwy’n bryderus y bydd llawer o heriau i athrawon felly rwy’n meddwl fod angen i ni fod yn ystyriol o hynny.

 

EAS – Mae angen i ni fod yn effro am sut mae ysgolion yn ymateb i heriau ond byddwn yn parhau i wrando a chefnogi athrawon gystal ag y medrwn.

 

Hoffwn adleisio a chefnogi pryderon y Cynghorydd Brown yng nghyswllt cau’r bwlch ar gyfer dysgwyr bregus.   

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Hoffwn ddiolch i Ed a Darren o EAS am fod yn bresennol a’u mewnbwn i’r cyfarfod ac am ateb y cwestiynau. I grynhoi, esboniwyd y mater am ostwng cyllid, fodd bynnag pryderon allweddol y Pwyllgor o hyd yw os bydd angen blaenoriaeth strategol newydd i gau’r bwlch mewn dysgu ar gyfer pob plentyn ond yn neilltuol blant bregus a all fod wedi dioddef yn anghymesur yn ystod y pandemig.

 

Mae gennym bryderon am gyflwyno cwricwlwm newydd yn 2022 ond sylweddolwn fod hwn yn fater gwleidyddol y bydd angen i Lywodraeth Cymru ei ystyried ac na all y Pwyllgor Dethol ddylanwadu ar hynny. Mae gennym bryderon am les athrawon a rydym yn hyderus y bydd y Cyngor ac EAS yn gwrando arnynt ac yn cynnig y gefnogaeth briodol iddynt.

 

Dogfennau ategol: