Agenda item

Trafodaeth ar yr adborth o'r holiadur a gylchredwyd yn ddiweddar

Mae'r Holiadur ar gael yma:

 

Gr?p Trafnidiaeth Strategol - Papur Trafod ar ei rôl yn y dyfodol (office.com)

 

Ymatebion i'w dychwelyd erbyn hanner dydd 5ed Chwefror 2021.

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi rhoi diolch i’r Pennaeth Gwasanaeth  (Prosiectau Strategol) a’r Swyddog Cyfathrebu am lunio a rhannu’r holiadur ac i bawb a oedd wedi llenwi’r holiadur. 

 

Rôl y Gr?p yn wreiddiol oedd cynnig cefnogaeth i’r Aelod Cabinet drwy gynnig arbenigedd o’r  tu allan i’r awdurdod, a hynny gan unigolion sydd â diddordeb arbenigol yn datblygu trafnidiaeth o fewn y sir. Nid pwyllgor craffu yw’r Gr?p ond mae’n amhrisiadwy wrth ddarparu sylwadau a herio polisïau a strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol.  Mae’r Gr?p wedi elwa o sawl cyflwyniad gan asiantaethau allanol.  Mae hyn yn cynorthwyo i lywio’r Cyngor wrth iddo ddatblygu strategaethau, blaenoriaethau, cyfleoedd a mentrau eraill. 

 

Roedd yr adborth a rannwyd fel a ganlyn yn seiliedig ar 13 ymateb: 

 

·         Cytunodd y mwyafrif fod amlder y cyfarfodydd yn addas gydag un neu ddau yn nodi  bod hyn yn rhy aml;

·         Credwyd fod hyd y cyfarfodydd yn briodol, gydag un ymateb yn nodi fod y cyfarfodydd yn rhy hir; a  

·         Credwyd fod hyd yr agenda yn addas gyda dau ymateb yn nodi fod yr agenda yn rhy hir. 

 

Roedd adborth arall yn cynnwys:

 

·         Credai’r mwyafrif y dylai’r gr?p barhau fel y mae gydag un ymateb yn nodi y dylai fod yn fwy strategol a’n llai gweithredol, gyda’r awgrym y dylid sefydlu is-bwyllgorau (e.e. ar gyfer bysiau a rheilffyrdd) sydd yn adrodd yn ôl i’r prif Gr?p gyda’r nod o reoli’r agenda yn well;

·         Derbyniwyd sylw fod yna ormod o bwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus a diffyg ffocws ar deithio llesol a lleihau’r defnydd o geir;

·         Gwnaed cais am ddealltwriaeth well o sut y mae’r Cyngor yn neilltuo cyllid;

·         Cafwyd awgrym y dylid trefnu cyfarfodydd yn seiliedig ar themâu. 

 

Wrth ystyried yr hyn sydd yn annog aelodau i fynychu a’r hyn y mae’n cynnig, roedd yr adborth yn cynnwys:

 

·         Pryder am drafnidiaeth gyhoeddus;

·         Awgrym y dylid mynd nôl at y fformat Gogledd/De gwreiddiol;

·         Cwestiynwyd a ddylai’r Gr?p fod yn is-bwyllgor o’r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf;

·         Yn codi proffil trafnidiaeth gyhoeddus ac yn herio darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus;

·         Yn cynnig cyfleoedd i godi materion traws-ffiniol;

·         Helpu gwella trafnidiaeth gyhoeddus;

·         Mae cyflwyniadau gan fudiadau allanol yn fuddiol;

·         Rhwydweithio gyda Chynghorwyr a swyddogion er mwyn rhannu materion cyfredol;

·         Trafnidiaeth bws gwledig – cyfle i bartïon a chanddynt diddordeb  i gael eu clywed mewn gr?p strategol;

·         Ni fyddai amser gan Bwyllgorau Dethol i ganolbwyntio ar ddarpariaeth trafnidiaeth integredig;

·         Pwyllgor pwysig – gallai cynrychiolwyr y pwyllgor ardal fynychu ar gyfer materion ehangach sydd yn ymwneud gyda gwasanaethau bysiau, trenau, mynediad at orsafoedd rheilffordd, parcio ayyb;

·         Yn codi proffil materion a fyddai fel arall yn cael eu hesgeuluso; a

·         Dylai feddu ar fwy o wrthrychedd o ran ei bwrpas.

 

Rhannwyd crynodeb o’r adborth gyda’r Gr?p. Bydd y cylch gorchwyl yn cael ei ail-ddrafftio er mwyn adlewyrchu’r adborth. Bydd y cylch gorchwyl drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf. 

 

Cadarnhawyd fod Teithio Llesol  wedi ei ychwanegu at y portffolio ar gyfer y Gr?p. Roedd y Cadeirydd wedi atgoffa’r Gr?p fod unrhyw gais am gyllid yn gorfod cynnwys elfen o Deithio Llesol. 

 

Roedd y Rheolwr Ieuenctid, Chwaraeon a Theithio Llesol wedi esbonio’r  ffocws strategol  o ran y dull awdurdod cyfan ar gyfer Teithio Llesol. Mae cynigion uchelgeisiol, gyda chyfanswm o £4.2m, wedi eu cyflwyno eleni ar gyfer prosiectau yng Nghil-y-coed, Y Fenni a Threfynwy. Bydd diweddariadau cyson ar waith cyfredol a chynlluniau’r dyfodol yn cael eu darparu ac mae croeso i unrhyw aelod o’r gr?p i gynnig mewnbwn. 

 

Roedd Aelod Gr?p wedi datgan, wrth roi eu cefnogaeth lawn i  Orsaf Rhodfa Magwyr mewn cyfarfod diweddar, roedd y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog wedi pwysleisio’r pwysigrwydd  o ystyried y daith gyfan o’r cartref i’r orsaf. O ganlyniad,  mae angen cynllun strategol sydd yn integreiddio teithio llesol  ar frys.  Roedd y Rheolwr Teithio Llesol a Phennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd, yn gweithio gyda  Magor Action Group On Rail (MAGOR) er mwyn ystyried teithio llesol, parcio a’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig.

 

Roedd Aelod o’r Gr?p wedi codi’r pwysigrwydd o wasanaeth bysiau yn cysylltu gyda gwasanaethau rheilffyrdd o fannau dechrau gwledig. Anogwyd pawb yn y Gr?p i ddarllen dogfen Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Bydd tîm bysiau rhanbarthol yn cael ei greu er mwyn gweinyddu grantiau i’r diwydiant bysiau a bydd yn rhan o gylch gorchwyl  Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas Caerdydd. - darllenwch Adroddiad y Cabinet (20fed Ionawr 2021)  cliciwch yma.    

 

Wrth drafod y cysylltiadau rhwng bysiau a rheilffyrdd, nodwyd fod Twristiaeth ar goll o Strategaeth Trafnidiaeth Cymru ac Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent.  Gallai hyn gael effaith sylweddol ar y defnydd o geir tra’n cynnal gwasanaethau i drigolion. Rhaid i’r tîm bysiau rhanbarthol  ymgynghori gyda defnyddwyr bysiau, cynrychiolwyr defnyddwyr bysiau tra’n gweithio hefyd ar y marchnata a’r cyfathrebu. Mae Ffrindiau Bws 65 wedi cynnig chwarae rhan. 

 

Gofynnod Aelod pam na roddwyd ystyriaeth i drafnidiaeth gyhoeddus  i Ysbyty’r Grange yn Llanfrechfa.  Cytunwyd y dylai’r Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd i wneud ymholiadau gyda Thîm Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.   Ychwanegwyd bod trigolion yn Ne’r Sir wedi cael problemau yn cyrraedd Gorsaf Cwmbrân ar gyfer y brechiad COVID.  Mae’r gwasanaeth Grassroutes yn caniatáu trigolion i ddefnyddio’r Grassroutes o fewn oriau arferol i deithio i Gwmbrân (gan lacio’r cyfyngiad arferol o 15 milltir).  Rhoddwyd cyngor fod trigolion ag apwyntiadau yn ystod y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn medru defnyddio’r gwasanaeth.  Cytunwyd y dylid cynnal adolygiad o’r gwasanaeth/gwasanaethau bysiau/y galw cymunedol o ran Grassroutes a byddai modd trafod hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Dywedodd Aelod nad yw amserlenni ar gyfer bysiau ar gael mewn gorsafoedd bysiau ac nid oes ffonau clyfar gan bawb er mwyn cael gafael ar y wybodaeth hon.  Dylai cwmnïau gwasanaethau bysiau sicrhau bod manylion y ddarpariaeth ar gael  fel bod defnyddwyr yn medru gweld pryd y bydd y bws nesaf ar gael a dylai’r gwasanaethau cael eu hadolygu / ail-drefnu gyda’r nod o gynyddu’r nifer o deithwyr a bod yn fwy effeithiol.    Bydd darpariaeth Gwasanaeth Bysiau (gan gynnwys y Gwasanaeth Grassroutes) yn cael ei ychwanegu at agenda’r dyfodol.