Agenda item

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2021/22

Defnyddiwch y ddolen hon i gyrchu'r papurau ar gyfer yr eitem hon, os gwelwch yn dda - ar gael fel rhan o agenda'r Cabinet 20fed Ionawr 2021. 

 

 Cliciwch Yma   

 

Cofnodion:

1.    Craffu’r Gyllideb: Craffu’r cynigion cyllideb ar gyfer 2021/22

Roedd Jonathan Davies a Tyrone Stokes wedi cyflwyno’r cyflwyniad ac wedi ateb cwestiynau  gan aelodau, gydag Ian Saunders a Peter Davies.

 

Roedd y pwyllgor wedi derbyn adroddiad cyn hyn yn nodi y bydda’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cael ei leihau o £900k i £600k?

 

Mae’r gefnogaeth ar gyfer y gyllideb gyfalaf o £900k ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl wedi bod yn rhan o’r cynigion am flynyddoedd lawer erbyn hyn. Felly, rydym wedi adrodd ers sbel y byddwn yn parhau ar lefel uwch na £600k, gyda’r £900k yn gyllideb sylfaen. Nid ydym yn sicr pa adroddiad yr ydych yn cyfeirio ato ond mi wnewn ni wirio hyn. 

 

Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn cynnwys Diogelwch yn y Cartref, ac mae’r swm ar gyfer hyn yn cynyddu – a yw’r   £900k ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn bendant, a faint o hyn sydd ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn hytrach na Diogelwch yn y Cartref?

 

Rydym yn ceisio bod yn hyblyg gyda hyn o ddydd i ddydd. Rydym yn gweithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol yngl?n â’r rhaniad gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig yw diogelwch yn y cartref.  Mae tua £100k o’r gyllideb yn cael ei neilltuo ar gyfer diogelwch yn y cartref ond byddwn yn hyblyg ac yn cael ein llywio gan OTE a Gofal a Thrwsio o ran y lefelau gwariant. Yn ogystal â’n cyllideb, rydym hefyd yn derbyn arian Hwyluso, sydd yn grant gan Lywodraeth Cymru sydd yn helpu ni sicrhau hyblygrwydd er mwyn addasu. 

 

Mae Covid yn rhannu’r gymdeithas – a yw’r Cyngor yn cydnabod y nifer o bobl sydd yn mynd drwy’r trafferthion yma a pha effaith y bydd hyn yn ei gael ar y modd y bydd gyllideb yn cael ei rhannu?

 

Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, nid ydym yn gwybod beth sydd o’n blaenau neu beth fydd y lefel newydd. O ran mynd i’r afael gyda’r  pandemig, mae Cronfa Galedi Covid Llywodraeth Cymru  wedi ein caniatáu ni i fynd i’r afael gyda’r pwysau yn y sector Gofal hefyd – mae’r gefnogaeth yma ar gael ar draws y gwasanaethau, gan gynnwys oedolion ifanc (gan gynnwys y rhai hynny ag anableddau corfforol a meddyliol) ac oedolion h?n (er mwyn helpu sefydlogi’r farchnad a mynd i’r afael gyda’r anghenion yma wrth i ni fynd drwy’r pandemig).  Roedd yna fuddsoddiad sylweddol yn y gyllideb eleni ar gyfer oedolion ag anableddau corfforol a dysgu: £1.044m. Rydym wedi ceisio mynd i’r afael ag anghenion y boblogaeth gyfan, gan sicrhau nad ydym yn gadael neb ar ôl, ac rydym wedi ymrwymo i barhau gyda hyn. 

 

Nid yw’r ffigyrau gan Ystadegau Cymru yn gyson gyda ffigyrau Sir Fynwy – a oes modd esbonio hyn?

 

Y rheswm am hyn yw y dylai ein cyllideb, sydd yn cael ei labelu gennym fel   ‘DFG’, o bosib ei enwi’n ‘Addasiadau ar gyfer Pobl Anabl’, ac felly, mae hyn ychydig yn gamarweiniol.

  

O ran y cynnydd mewn ffioedd ar gyfer gofal preswyl a gofal  dibreswyl: pa effaith fydd y  cap o £100 yn ei gael ar yr elfen breswyl? Sut y mae’r cap yn gweithredu?

 

O ran codi ffioedd, rydym yn dilyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol  Llesiant a gyflynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014. Ar gyfer gwasanaethau dibreswyl, mae’n ymdrin gyda gofal yn y cartref neu’r gymuned (canolfannau dydd a phreswyl) ac mae cap ar y swm yr ydym yn medru ei gasglu, sef tua £100 yr wythnos. Er mwyn gwneud hyn, rhaid iddynt fynd drwy asesiad o brawf modd. Os ydym yn eu hasesu  a’n credu bod modd iddynt dalu hyd at uchafswm o £100, byddwn yn codi’r tâl sydd yn fwyaf isel: y  £100 neu gost y gwasanaeth. Felly, os yw rhywun ond yn derbyn 2 awr yr wythnos, byddem ond yn codi’r gyfradd bob awr (£14.64) x 2. Pe bai rhywun yn derbyn   20 awr yr wythnos, byddai 20 x £14.64 dipyn mwy drud na £100, ond byddem ond yn codi tâl o  £100.

 

Nid oes cap ar gyfer gwasanaethau preswyl. Mae’n seiliedig nid yn unig ar incwm person ond hefyd eu hasedau a’u hannedd h.y. byddem yn ystyried eu prif eiddo. Os ydym yn penderfynu bod digon o incwm a chyfalaf ganddynt i dalu am eu hunain, efallai na fyddant yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan yr awdurdod.  

 

A yw’r cap o £100 yn berthnasol er enghraifft os yw rhywun yn dod i mewn yn y bore ac eto gyda’r hwyr er mwyn helpu person h?n na sydd angen gofal mewn cartref?

 

Pam yn codi tâl, nid ydym yn gwahaniaethu rhwng a yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol neu’r farchnad allanol. Os yw rhywun yn ceisio derbyn 1 awr gan yr awdurdod lleol ac 1 awr yn breifat, byddai hyn yn costio tua £30 yr wythnos. Os yw rhywun yn cael ei asesu ac maent yn medru talu’r uchafswm, mae’r cap yn  £100, ac felly, byddant angen talu £30. Pe baent yn derbyn 20 awr yr wythnos - 5 o’r awdurdod lleol a 5 o’r sector preifat - bydd hyn yn gyfanswm o tua £150, ac felly, byddai angen talu £100. Ni fydd neb yn talu mwy na £100 os ydynt wedi dod drwy’r awdurdod lleol ac wedi eu hasesu’n ariannol, o ran gofal dibreswyl. Mae hyn yn cynnwys gofal yn eu cartrefi neu mewn canolfan ddydd - y cap yw    £100. Mae yna gyfradd bob awr am dderbyn gofal yn y cartref a ffi am bob sesiwn pan yn mynychu canolfan ddydd.

Felly, nid yw gofal dibreswyl yn seiliedig ar incwm neu gyfalaf?

 

Mae’n seiliedig ar hyn, oherwydd os yw rhywun wedi derbyn asesiad prawf modd, byddant ond gorfod talu’r hyn y maent yn medru fforddio. Os ydynt yn medru fforddio talu mwy na’r £100, bydd cap  o £100. Mae hyn dal yn cynnwys eu hincwm a chyfalaf ond nid eu prif  annedd, gan eu bod dal yn byw yn y gymuned a dal angen cartref. Ond os ydynt yn mynd i gartref preswyl neu gartref gofal, byddwn wedyn yn ystyried y prif annedd; dyna’r un gwahaniaeth rhwng preswyl a dibreswyl, a dyma pam ein bod yn medru codi mwy o dâl neu efallai nad ydynt yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr awdurdod lleol, oherwydd rydym yn medru ystyried mwy o bethau gyda’r asesiad prawf modd pan ddaw hi at ystyried gofal preswyl.

 

A yw hyn yn wahanol i Loegr?

 

Ydy, mae Deddf Gofal Cymru yn wahanol i’r gyfraith yn Lloegr. Felly, os oes rhywun yn symud o Loegr i Gymru, mae’n medru creu penbleth a rhaid i ni egluro hyn. Hefyd, os yw cleientiaid yn defnyddio cyfreithwyr o Loegr, neu o Age Concern, rhaid i ni esbonio iddynt fod y Ddeddf yn wahanol yng Nghymru.

 

Mae yna dybiaeth o gynnydd o 1% o ran costau cyflog i staff – beth am staff gofal? Beth yw’r goblygiadau ehangach pe bai cwmnïau hefyd yn  darparu mwy nag 1% i’w  staff?

 

Mae’r dyfarniad cyflog yn cael ei bennu gan Ganghellor y DU. Rydym wedi bod yn ofalus wrth glustnodi dyfarniad cyflog o 1%. Mae’r wybodaeth am ofalwyr allanol yn y cyflwyniad gyda’r sleidiau, a hynny o ran y pwysau yr ydym yn wynebu’r flwyddyn gyda Gofal Cymdeithasol i Oedolion: mae yna bwysau o £536k ar gyfer costau darparwyr, sydd yn cynnwys unrhyw gynnydd mewn cyflogau y mae darparwyr o bosib yn rhoi i’w staff. Mae teclyn teg gennym ar gyfer negodi’r tâl ac rydym yn defnyddio hyn gyda’r darparwyr gofal; gyda hyn, rydym yn ystyried yr holl faterion gan gynnwys y dyfarniad cyflog. Un dangosydd sydd yn cael ei ystyried yw’r cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol. Mae hyn eisoes wedi ei gyhoeddi gan Ganghellor y DU ac rydym wedi ymgorffori fel hyn yn rhan o’n modelu. 

 

A fyddwn dal yn medru recriwtio staff o dramor yn dilyn Brexit? A fydd staff o’r DU yn fodlon llenwi’r swyddi gwag?

 

Mae hyn yn bryder cenedlaethol ac nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y pendraw. Rydym wedi ceisio lliniaru’r effaith ar y rhengflaen gymaint ag sydd yn bosib. Gyda’r darparwyr, rydym wedi ceisio cwrdd â’r gofyn o ran y cynnydd mewn cyflog.

 

A yw’n ddoeth cynnwys y £536k – a fydd y darparwyr yn penderfynu codi eu cyflogau yn y dyfodol?

 

Un o’n datganiadau cenhadaeth fel awdurdod yw bod yn dryloyw. Mae’n gywir ein bod yn rhannu ein cyllideb a’n ceisio mynd i’r afael gyda hyn. Mae’r broses negodi ymgynghori tâl teg gennym, ac felly, rydym eisoes yn trafod hyn gyda darparwyr fel y gallwn barhau i weithio mewn partneriaeth. Ond dim ond adnoddau ariannol chyfyngedig sydd gennym,  ac mae’r sector Gofal yn gwerthfawrogi hyn. Mae’r teclyn hwn ar gyfer negodi tâl teg wedi bod yn effeithiol dros y ddeng mlynedd diwethaf a mwy.

 

Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal er mwyn ceisio deall sut y bydd y Gronfa Galedi yn esblygu?

 

Ein dull o weithio yw ffocysu ar yr hyn sydd o fewn ein rheolaeth h.y. yr elfennau hynny o’r gyllideb yr ydym yn gwybod amdanynt. Mae’r gofrestr risgiau gennym hefyd sydd yn edrych ar y risgiau    Covid posib a sut y mae modd eu hariannu wrth i ni symud i’r flwyddyn ariannol nesaf. Rhaid i ni ystyried nifer o bethau. Y peth pwysicaf yw parhau i ymgysylltu gyda Llywodraeth Cymru er mwyn deall sut y mae’r Gronfa o  bosib yn mynd i barhau, gan ddatblygu o bosib  i mewn i grantiau mwy penodol, gan symud i ffwrdd o orfod gwneud ceisiadau i rannu grantiau. Rydym yn parhau i lobïo ar lefel wleidyddol gyda’r Arweinydd yn gwneud sylwadau cryf.  Ond ar lefel leol, rydym yn ystyried effaith bosib y pandemig ar y modd yr ydym yn darparu rhai gwasanaethau a sut y  bydd y gofynion ar y gwasanaeth yn newid wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Mae yna nifer o bethau i’w hystyried yn yr hirdymor.

 

O ran talu am lefydd gwag, a ydym wedi profi canlyniadau na ddisgwyliwyd gyda darparwyr yn gwrthod derbyn unigolion gan ein bod yn talu am y llefydd yma ‘ta beth? 

 

Rydym yn talu am lefydd gwag ar ran Lywodraeth Cymru, a hynny drwy’r Gronfa Galedi. Mae’n ddealladwy bod cartrefi gofal yn fwy petrusgar yngl?n â derbyn cleientiaid newydd ond nid ydynt yn gwrthod ac maent yn gweithio gyda ni. Rydym yn siarad gyda’r sector Gofal mewn fforwm wythnosol am nifer o faterion a sut y mae modd i ni eu cefnogi gydag unrhyw broblemau y maent yn wynebu. Rydym yn gweithio ar y cyd gyda hwy.

 

Gyda phobl angen  adsefydlu ac  ail-alluogi yn sgil Covid, a oes ffigyrau gennym o ran y pwysau a’r pecynnau gofal newydd ar gyfer blwyddyn nesaf?

 

Mae polisi ymyrraeth ail-alluogi byrdymor gennym a thîm ail-alluogi. Rydym yn gor-recriwitio ein gofalwyr cartref mewnol er mwyn medru ateb y galw ac mae Iechyd wedi cynnig arian pwysau’r gaeaf er mwyn lliniaru’r effaith. Mae yna fuddsoddiad ychwanegol o £250k ar gyfer y diffyg o ran y gofal a gomisiynir yn ardal Brynbuga. Rydym yn gobeithio medru talu am y capasiti ychwanegol penodol yma yn y gyllideb flwyddyn nesaf.  

 

Gan fod COVID yn fater iechyd, a ddylai’r broses o adsefydlu ac ail-alluogi yn fater i awdurdodau lleol yn unig? Beth am y Bwrdd Iechyd a’r arian y mae’n derbyn?  

 

Mae ein 3 tîm gofal yn y gymuned wedi eu hintegreiddio gydag Iechyd, ac felly, mae’r ymarferwyr gennym ynghyd â’r  ‘OTs’. Mae bwrdd partneriaeth gwasanaethau integredig gennym sydd yn dod ynghyd hefyd. Bydd y broses asesu yn adnabod beth yw tasg gofal cymdeithasol a’r cyfrifoldebau sydd gan yr awdurdod lleol a’r hyn sydd yn gyfrifoldeb i Iechyd. Mae’n cael ei benderfynu felly, gan sicrhau bod pawb yn cwrdd â’u goblygiadau.

 

Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod Gofal Iechyd yn uchel ar ei hagenda. Bydd yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu lobïo yn galed am ariannu teg o fewn y sector gofal. Rydym yn gobeithio y bydd yna gydnabyddiaeth deg a chyllid wrth i ni symud i’r cyfnod hwn, gan y bydd y sector dal yn wynebu pwysau  o ran y gyllideb.  Felly, nid yw’n achos o awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd yn chwarae rhan - mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl allweddol wrth gydnabod ble y mae’r arian yn cael ei rannu.  

O ran y taliadau i ddarparwyr, a yw’n bosib y bydd y ffigwr £536k o bosib yn cynyddu?

 

Rydym wedi modelu’r ffigwr yma ar ein proses negodi tâl teg. Mae rhan 9 o’r Ddeddf yn ymdrin gyda chyfuno cyllidebau preswyl, ac mae un arall yn ymdrin gyda’r broses o osod ffioedd yn rhanbarthol: mae yna waith gr?p sydd wedi trafod hyn ond mae cryn ffordd cyn bod hyn wedi ei gytuno, gan fod angen cadarnhau’r prisiau pe bai Sir Fynwy yn cytuno. Pe bai modd i ni gyrraedd y pwynt hwn, byddai’n cael ei gyflwyno i Aelodau er mwyn ei graffu a’i gytuno cyn ein bod yn mabwysiadu unrhyw beth.

 

A oes enghraifft o’r defnydd hyblyg o dderbyniadau cyfalaf er mwyn ariannu’r broses o ddiwygio’r gwasanaeth?

 

Mae’r defnydd hyblyg o dderbyniadau cyfalaf o dan gyfarwyddiaeth Cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi ei ddefnyddio yn y flwyddyn ariannol    2019/20 ac wedi cyllidebu hyn ar gyfer eleni hefyd. Mae hawl gennym i ddefnyddio ein derbyniadau cyfalaf er mwyn ariannu gwariant refeniw cymwys sydd yn ceisio diwygio’r gwasanaeth. Rydym yn cynnig   £1m o dderbyniadau cyfalaf fel rhan o’r gyllideb ddrafft hon. Mae'r risg allweddol yn ymwneud gyda’r ffaith fod ein cronfa derbyniadau cyfalaf wedi ei chyfyngu. Yn draddodiadol, rydym wedi defnyddio hynny er mwyn cefnogi ein pwysau cyfalaf parhaus. Rhaid i ni fod yn ymwybodol o natur gyfyngedig ein harian wrth gefn er mwyn ariannu’r rhaglen gyfalaf. Fel rhan o’r cynigion cyllideb yma, rydym yn cydnabod fod hon yn flwyddyn eithriadol a’n bod yn defnyddio’r arian wrth gefn am yr un tro’n unig, cyn belled ag sydd yn bosib. 

 

Felly, er mwyn defnyddio arian cyfalaf ar refeniw, rhaid cwrdd â meini prawf penodol?

 

Oes, mae yna feini prawf llym ar gyfer defnyddio derbyniadau cyfalaf, a hynny o ran trawsnewid gwasanaeth, gweithio mewn parterniaeth, rhannu ag awdurdodau a mudiadau rhanbarthol ayyb.

  .

A oedd arbedion gofal dibreswyl yn seiliedig ar gynnydd bach yn y gyfradd bob awr a beth oedd y cynnydd? Sut ydych wedi cyfrif yr arbedion ar gyfer gofal preswyl?

 

Roedd arbedion dibreswyl yn £11k a phreswyl yn £68k. Mae’r arbedion yma yn ymwneud gyda ffioedd a thaliadau, fel sydd wedi eu trafod cyn hyn, ac yn seiliedig ar y cynnydd a gyhoeddwyd gan yr adran Waith a Phensiynau i’r taliad ymddeol a budd-daliadau’r wladwriaeth o 2.5%. Rydym wedi ystyried ein cyllidebau incwm ac wedi eu cynyddu 2.5%. Dyna’r incwm ychwanegol yr ydym yn cynnig fel arbedion ac o bosib yn medru eu hawlio drwy’r ffioedd. Mae’r arbedion preswyl nid yn unig yn ymwneud gyda’n cartref gofal    (Severn View), ond y bobl sydd yn derbyn gofal preswyl. Gallant fod mewn cartrefi gofal preifat a bod yr awdurdod lleol yn ariannu eu lle, a bod eu hasesiadau prawf modd yn dweud nad oes modd iddynt dalu’r ffi lawn eu hunain ond mae rhaid iddynt dalu cyfraniad i’r awdurdod lleol, ac nid oes ots os ydynt yn byw yn ein hunig gartref gofal neu mewn cartref gofal preifat.  

 

Wrth i ni edrych i’r dyfodol, a oes disgwyl y bydd gwasanaethau yn cael eu hail-ddylunio?

 

Wrth ystyried y gyllideb flwyddyn nesaf (21/22), rydym wedi gwneud penderfyniad i beidio sicrhau arbedion drwy ail-ddylunio’r gwasanaethau rhengflaen. Efallai y bydd gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffordd wahanol wrth i ni ddod allan o  Covid - ond nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd. Os oes angen ail-ddylunio’r gwasanaeth, byddwn yn dewis y flwyddyn o ran y gyllideb ac yn dwyn hynny i sylw’r Aelodau.

 

Mae digartrefedd yn bwysau sylweddol arall   – £874k. A ydym yn medru clywed am y diweddariad polisi gan Lywodraeth Cymru a beth fydd eu disgwyliadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf?

 

Mae’r sefyllfa yn gyson gyda thrafodaethau blaenorol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i newid eu polisi er mwyn sicrhau bod cysgu ar y strydoedd yn dod i ben. Maent am wella darpariaeth llety dros dro a pharhaol – ansawdd, math ayyb. Ni fyddai neb yn anghytuno gydag uchelgais y polisi ond mae’n creu heriau i ni. Mae’r gofyn am y fath wasanaethau yn parhau i fod yn uchel; mae’r ffigwr diweddaraf yn dangos bod mwy na 120 o bobl mewn llety dros dro, gyda’r rhan fwyaf yn meddu ar anghenion uchel ac yn meddu ar achosion heriol a chymhleth.  Mae’r sefyllfa dros y 6 mis diwethaf wedi bod yn fwy heriol yn sgil yr ariannu ond wedi gwella’n sylweddol ac mae’n parhau i wella. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r grant Cymorth Tai.  Rydym wedi derbyn ychydig llai na £700k o’r rhaglen honno ac yn parhau gyda phrosiectau Cam 2 a ddyfarnwyd yn y flwyddyn ariannol hon. Rydym hefyd wedi derbyn sicrwydd am y Gronfa Galedi yn y maes hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd y Cabinet yn cytuno i staffio ychwanegol, gan ganiatáu i ni fabwysiadu agwedd mwy rhagweithiol. Rydym yn parhau i weithio gyda chymdeithasau tai o ran y llety ychwanegol.

 

Ac eithrio Iechyd a Gofal, beth yw sefyllfa’r gyllideb o ran y meysydd portffolio eraill?

 

O ran y gyfarwyddiaeth gyffredinol, mae yna bwysau sydd ychydig o dan  £3m. Mae £1.26m yn ymwneud gyda’r portffolio Dethol Oedolion, ac mae gweddill y pwysau yn ymwneud gyda Gwasanaethau Plant a’n ceisio mynd i’r afael gyda’r gorwariant a’r pwysau a nodwyd yn y papur yr wythnos diwethaf i’r Pwyllgor Dethol Plant, a Phobl Ifanc.  Mae pwysau o ran Diogelu’r Cyhoedd a   cholli incwm cofrestrydd yn sgil Covid, sef rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’n digolledi ni, yn caniatáu’r tîm nawr i orffen y flwyddyn o fewn terfynau’r gyllideb.  Mae TTP yn gweithredu ar draws Gwent , ac mae yna fyrddau gwahanol a reolir gan Iechyd. Rydym yn adennill yr holl arian yn unol gyda’r costau sydd wedi eu cyflwyno gan Sir Fynwy i’r TTP.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar i’r swyddogion a’r staff rhengflaen am eu gwaith caled. Mae’r Cynghorydd Pavia yn bryderus nad yw adsefydlu ac ail-alluogi yn disgyn yn anghymesur o fewn cyfrifoldeb yr awdurdod lleol, yn enwedig gan and ydym yn gwybod yn union beth yw’r sefyllfa ar ôl Covid. Cytunodd swyddogion gan ymrwymo i gadw hyn mewn cof. Gan fod yna nifer o elfennau  trawsbynciol yn y cyllidebau yma, gofynnwyd i swyddogion i roi rhifau ar y tudalennau yn yr adroddiadau. Nododd  Peter Davies bod angen symleiddio’r wybodaeth ar gyfer y cyhoedd - dyna bwrpas y cyflwyniad - ond mae mwy o wybodaeth ar y wefan ar gyfer unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd yn dymuno darllen mwy o fanylion.

 

 

 

Dogfennau ategol: