Agenda item

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2021/22

Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i’r papurau ar gyfer yr eitem hon – ar gael fel rhan o

Agenda’r Cabinet ar gyfer 20 Ionawr 2021.

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4793&Ver=4

 

Cofnodion:

Jonathan Davies a Dave Loder a draddododd y cyflwyniad ac atebodd gwestiynau'r aelodau, gyda Frances O'Brien.  Cyflwynodd Jonathan Davies a Dave Loder yr adroddiad ac fe wnaethant ateb cwestiynau’r aelodau, gyda Frances O'Brien.

Herio:

O ystyried y drafodaeth flaenorol am rewi cyflogau a darparu gwasanaethau, a phwysau'r flwyddyn nesaf, a yw'n realistig dweud ein bod yn mynd i barhau i ddarparu ein cyfres lawn o wasanaethau?

Mae hwnnw'n gwestiwn dilys oherwydd bydd yn rhaid i ni ystyried a fydd rhai o'r gwasanaethau'n gynaliadwy yn y tymor hir, neu a ellir eu darparu mewn ffordd wahanol.  Bydd angen i ni barhau i'w hadolygu dros y cynllun a'r strategaeth ariannol tymor canolig.  Rydym wedi bod yn ffodus iawn i beidio â gorfod cau neu newid unrhyw wasanaethau'n sylweddol, ond mae'n rhaid i ni fonitro'r sefyllfa'n barhaus a blaenoriaethu, o ran pa wasanaethau anstatudol sydd yno y byddem yn ceisio eu haddasu a'u newid.  Mae'r rheini'n ystyriaethau anodd iawn i'w gwneud.  

Un o'r pwysau cost nas cyllidebwyd ar ei gyfer yw ystyriaethau buddsoddi MonLife. A allwn gael rhagor o fanylion am hyn?

Nid oes gennym wybodaeth fanwl ar gyfer y cyfarfod hwn.  Mae'r tîm yn ystyried a ddylid gohirio rhai o'r buddsoddiadau hynny ar gyfer y dyfodol agos tra ein bod yn deall beth yw sefyllfa adfer Covid.  Roedd y sleid gyflwyno yn ymwneud â'r ymrwymiadau cyfalaf wrth symud ymlaen, a'r pwysau a'r buddsoddiadau hynny'n eistedd y tu allan i'r gyllideb bresennol.  Mae rhestr o fuddsoddiadau posibl MonLife y byddent yn ceisio'u gwneud dros y tymor canolig, sydd ar gael yn y pecyn o bapurau a aeth i'r Cabinet ac sy'n gysylltiedig â'r agenda heddiw.

Mae setliad Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy hael nag erioed eleni.  Beth yw’r rhesymau dros hyn? A oes gwersi i'w dysgu gan gynghorau eraill?

Mae'r setliad ei hun yn cynnwys cyfrifiad eithaf cymhleth o amgylch llawer o ffactorau, y mae rhai ohonynt yn cael effeithiau uwch nag eraill.  Mae un neu ddau o'r dangosyddion lle'r ydym wedi elwa y tro hwn yn ymwneud â phoblogaeth a 'chyfartalu adnoddau': mae hyn yn edrych ar allu awdurdodau i godi eu cyllid o'r dreth gyngor, ac yn cymhwyso cymhareb i addasu ar gyfer hynny ar draws awdurdodau Cymru.  Mae'n anodd iawn esbonio.  Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio nawr i wneud y dangosydd hwnnw'n llawer cliriach i awdurdodau.  Mae wedi bod yn ffactor mawr y tro hwn; mae'n debyg bod y rhesymau dros hynny'n ystadegol, ac nid ydym yn deall y darlun llawn o hynny eto.

A yw ein mewnbwn yn effeithio ar y swm rydym yn derbyn?

Mae'r mewnbynnau wedi'u gosod ar lefel statudol felly mae'r dychweliadau a wnawn, o ran y dychweliadau ystadegol hynny i Lywodraeth Cymru, yn mynd tuag at gynhyrchu'r data hwnnw iddynt ei roi yn eu model.  Nid oes gennym y gallu i newid y rheini ond mae niferoedd amrywiol o'r hyn sy'n cael eu cynnwys: niferoedd disgyblion, amcangyfrifon poblogaeth, data budd-daliadau, a'r galwadau ar ein gwasanaethau a'r poblogaethau yr ydym yn dychwelyd gwybodaeth arnynt. Felly, ychydig iawn o gyfle sydd gennym i newid neu ddylanwadu ar y ffactorau hynny – mae'n dibynnu i raddau mawr ar y dangosyddion statudol hynny y mae'n rhaid i ni adrodd yn ôl arnynt.

Beth fu'r trafodaethau ynghylch y cynllun tymor canolig ac adfer y diffyg? Beth yw ein disgwyliadau?

Mae'n ddarlun anodd iawn i weithio drwyddo mewn perthynas â'r tymor canolig.  Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar y meysydd y gallwn eu rheoli, ac yn ceisio dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o eglurder yngl?n â'r sefyllfa yn y dyfodol.  Pan fydd gennym setliad blwyddyn, prin iawn yw'r cyfle i gynllunio ar ôl diwedd 2021-2022. Byddwn bob amser yn anelu at gynorthwyo a chynnal gwasanaethau – nid ydym am i wasanaethau ddiflannu. Mae llawer ohonynt yn mynd i drawsnewid a datblygu wrth i ni wella o'r pandemig e.e. sut mae canol trefi'n edrych, sut mae trigolion yn teithio, gweithio gartref, ac ati.  Mae gweithgorau amrywiol wedi'u sefydlu i edrych ar y pethau hyn.  Y pwynt allweddol yw rhoi pwysau ar lefel wleidyddol yn ôl ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y bydd ein cyllid yn dod drwodd yn y setliad tymor hwy.

A yw ein Swyddog Adran 151 (Peter Davies) wedi codi unrhyw bryderon ynghylch tynnu lawr y cronfeydd wrth gefn?

Mae ein swyddog wedi gorfod ystyried hynny wrth i ni ddatblygu'r cynigion hyn.  Mae llawer o'r cronfeydd wrth gefn a balansau cronfeydd y cyngor yn gyfyngedig.  Rydym wedi elwa o sefyllfa alldro 2019-20 – roeddem yn gallu cryfhau cronfa'r cyngor £1.8m.  Rhoddodd hyn rywfaint o hyblygrwydd i ni ddelio â'r pwysau covid a phwysau nad ydynt yn rhai Covid a ddaw yn y flwyddyn ariannol gyfredol.  Mae'n bwysig nodi, er i hynny gynyddu £1.8m, ei fod yn dal i ddod â ni i lefel ganol ar gronfa'r cyngor wrth gefn, o'i gymharu ag ar draws awdurdodau Cymru. Rydym yn cynnig defnyddio £750 mil o'r gronfa gyngor honno, sy'n ddefnydd untro’n unig. Pan ddywedwn nad yw'n gynaliadwy cynnal hynny, os byddwn yn ei ddefnyddio ac nad ydym wedyn yn ychwanegu at y gronfa honno ar ddiwedd y flwyddyn, mae'n gylch parhaus yn y gostyngiad yn y balansau hynny, ac yn rhoi cyfleoedd cyfyngedig i ni gefnogi'r gyllideb pan mai ein hunig opsiynau ymarferol eraill o ariannu'r blaenoriaethau hynny yw'r dreth gyngor a setliad Llywodraeth Cymru.  Fesul pen, rydym yn dal i fod ar waelod y cyllid hwnnw.

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym wedi ymdrin â'r effaith ar incwm, sydd wedi cael effaith sylweddol ar gynllunio cyllidebau. Mae'r gwahanol lefelau o ansicrwydd mewn perthynas â llywodraeth ganolog yn her i ni fapio sut olwg yn ariannol fydd ar y blynyddoedd nesaf. Nid oes argymhellion penodol ond gallwn roi adborth cyffredinol, fel pwyllgor.  Bydd yr Aelod Cabinet Phil Murphy yn codi'r pwyntiau a'r cwestiynau a godwyd gan aelodau heddiw.

 

 

Dogfennau ategol: