Agenda item

Diweddariad llafar ar y sefyllfa gydag ysgolion a dysgu cyfunol: Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Rhoddodd Will McLean ddiweddariad ac ateb cwestiynau aelodau:

 

Ar 17 Rhagfyr penderfynodd yr awdurdod lleol ar ei gynlluniau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol, gyda chytundeb y dylai dau ddiwrnod cyntaf y tymor fod yn ddysgu o bell gyda wyneb-i-wyneb yn ailddechrau ar 6 Ionawr. Hysbyswyd rhieni am y penderfyniad hwnnw ac fe wnaethom gytuno ar 4 Ionawr i werthuso’r sefyllfa ddiweddaraf. Ar 4 Ionawr fe wnaethom drafod newid ein cynlluniau; fodd bynnag, cafodd ein trafodaethau lleol ei disodli gan ymyriad y Gweinidog. Cyhoeddodd y byddai pob ysgol yn parhau i ddysgu o bell tan 18 Ionawr. Pan wnaed y penderfyniad i ddychwelyd ar 6 Ionawr, roedd y gyfradd yn Sir Fynwy yn 409 fesul 100,000; pan wnaethom ei drafod eto ar 4 Ionawr, roedd y gyfradd wedi gostwng i 316 fesul 100,000. Parhaodd y trafodaethau gyda’r Gweinidog, yna ar 8 Ionawr cyhoeddodd y byddai addysg yn ffurfio rhan o gylch adolygu 3-wythnos, na fyddai unrhyw ddysgu wyneb i wyneb ar gyfer mwyafrif helaeth disgyblion tan 28 Ionawr fan gyntaf, ac mae’n debyg y byddai’n hanner tymor cyn y byddai mwyafrif disgyblion yn dechrau dychwelyd i’r ysgol mewn camau.

 

Roedd dwy ffactor o amgylch y drafodaeth honno: a oedd ysgolion yn lle diogel ar gyfer disgyblion a staff ac effaith y rhif R ar gau ysgolion ar gyfer dysgu wyneb i wyneb. Mae trafodaethau gyda’r undebau llafur wedi canolbwyntio ar y ffactor gyntaf, ond bob amser gan roi ystyriaeth ddyledus i’r ail. Y canlyniad yw fod ein hysgolion ar agor ar hyn o bryd, gan ddarparu dysgu o bell ar gyfer mwyafrif helaeth y disgyblion, gyda dwy eithriad allweddol: plant bregus a phlant gweithwyr hanfodol. Ar gyfer plant bregus, rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i benderfynu ar 6 categori dysgwyr a ddaw o fewn y gr?p hwnnw – ein hegwyddor sylfaenol yw y dylai unrhyw un sy’n fwy diogel yn yr ysgol na gartref fod yn yr ysgol. Ar gyfer plant gweithwyr hanfodol, bu ychydig o newidiadau o’r cyfnod clo cyntaf pan oedd ein hysgolion yn cynnig darpariaeth Hwb: yn gyntaf daeth yn amlwg mai dim ond un rhiant sy’n rhaid iddynt fod yn weithiwr allweddol i gael mynediad i’r ddarpariaeth ac yn ail, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o swyddi sy’n cyfrif fel ‘gwaith hanfodol’. Ond rydym yn parhau i bwysleisio mai dim ond os nad oes dewis arall y dylai teuluoedd ddefnyddio dysgu wyneb i wyneb.

 

Mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, mae 908 o ddisgyblion wedi cofrestru fel plant gweithwyr hanfodol; ar gyfartaledd, yr wythnos ddiwethaf roedd 570 wedi mynychu’r ysgol. Mae 363 o ddysgwyr bregus wedi cofrestru, gyda 218 ar gyfartaledd yn bresennol yr wythnos ddiwethaf. Mae’r ystod nifer sy’n mynychu yn dibynnu ar leoliad a chyd-destun ysgol a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu e.e. mae 100 o blant wedi cofrestru yn Osbaston, gyda dim neu nifer fach yn unig wedi cofrestru yn yr ysgolion mwy gwledig. Drwyddi draw, mae hyn yn gynnydd sylweddol ar yr wythnos olaf o ddarpariaeth Hwb, lle mynychodd tua 400 o blant. Mae’r gyfradd hon yn debyg o gynyddu os ydym yn cadw’r patrwm dysgu o bell am gyfnod estynedig.

 

Mae hyn yn her am nifer o resymau. Yng Ngwanwyn 2020, cafodd ysgolion eu hailwampio i ddarparu gofal plant ond disgwylir iddynt yn awr gyflwyno addysg. Mae hyn yn defnyddio adnoddau ysgolion gan eu bod yn cefnogi plant yn yr ysgol a hefyd y rhai sy’n cael mynediad i ddysgu o bell, sydd yn ei dro yn effeithio ar reolaeth staff. Rydym wedi cael trafodaethau gyda phenaethiaid ysgol a chydweithwyr yn yr undebau llafur am sut y caiff staff eu rheoli. Her arall yw’r pwysau sylweddol ar rieni: mae ysgolion gyda disgwyliadau uchel  iawn ar rieni yn ogystal â theuluoedd nad oes ganddynt am wahanol resymau, bob amser y modd i gefnogi eu plant. Mae felly’n llinell anodd i ysgolion ei cherdded, gan fod rhai teuluoedd eisiau mwy o waith ac eraill eisiau llai. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg i ddynodi arfer gorau.

 

Mae llesiant plant yn elfen hollbwysig drwy gydol y cyfnod. Dros amser,

mae angen i ni feddwl sut ydym yn sefydlu cefnogaeth llesiant. Ffactor hollbwysig arall i’w hystyried yw’r gwahanol ymagweddau at ddysgu o bell o gofio am yr amrywiaeth yn oedran disgyblion.

 

Mae diffiniadau clir yn bwysig. Caiff ‘dysgu o bell’ ei ddiffinio fel dull sy’n cyfuno profiadau dysgu wyneb-i-wyneb a dysgu o bell’. Dylai dysgu wyneb-i-wyneb a dysgu o bell ategu ei gilydd, a chael eu gyrru gan un cwricwlwm. Mae ‘dysgu cyfunol’ yn ddysgu a gaiff ei ddarparu drwy gyfuniad o ddysgu wyneb-i-wyneb a thasgau a gweithgareddau dysgu o bell. Sonnir yn aml am ‘ystafell ddosbarth gwrthdro’ yn y cyswllt hwn. ‘Dysgu wyneb-i-wyneb’ yw’r hyn a gaiff plant pan maent yn gorfforol mewn ysgol. ‘Dysgu cydamserol’ yw pan fo athrawon a dysgwyr yn mynychu gwers yr un pryd, naill ai wyneb-i-wyneb neu ar-lein h.y. gwers fyw.  ‘Dysgu anghydamserol’ yw pan fo athrawon yn darparu deunyddiau dysgu (fideos, pytiau sain, cyflwyniadau ac ati) a gaiff eu lanlwytho ar lwyfan Hwb, y gall myfyrwyr wedyn gael mynediad iddynt unrhyw amser. ‘Dysgu ar-lein’ (neu ‘e-ddysgu’) yw addysg sy’n digwydd dros y rhyngrwyd, felly math gwahanol o ddysgu o bell. Bydd penaethiaid ysgolion yn siarad am y dulliau hyn yn y seminar ddydd Iau.

 

Drwy EAS rydym yn parhau i gynnig cryn dipyn o ddysgu proffesiynol ar gyfer ein hysgolion, fel eu bod yn hollol ymwybodol o’r technegau a’r dulliau  diweddaraf. Rydym yn edrych sut yr ydym yn datblygu a rhannu arfer gorau ar draws yr ardal.

 

Her

Beth yw’r sefyllfa bresennol am ddarpariaeth gliniaduron ac offer?

 

Yn y cyfnod clo cyntaf, roedd ymgyrch fawr i ddarparu offer ar gyfer plant gyda nifer sylweddol o offer yn cael ei ddosbarthu. Deall y lefel angen sydd ar ôl oedd ein hystyriaeth gyntaf yn dilyn datganiad y Gweinidog ar 4 Ionawr, felly buom yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion a’r tîm digidol. Fel ar ddoe, roeddem wedi cael 37 cais am liniaduron ar draws ein hysgolion; cawsant eu cyrchu a byddant gyda’r teuluoedd erbyn diwedd yr wythnos. Y drefn yw: rydym yn sicrhau’r offer ac yn gosod Neverware, sydd o’i hanfod yn troi gliniadur yn Chromebook, sy’n rhoi’r holl swyddogaeth sydd ei angen i gael mynediad i Hwb, Google Classroom a’r llwyfannau eraill a ddefnyddir i ddarparu dysgu i oedolion. Fe wnaethom brynu nifer sylweddol o My-Fi ar ddechrau’r pandemig, sef donglau sy’n rhoi cysylltiad uniongyrchol i’r rhyngrwyd ar gyfer aelwydydd sydd â phroblem band eang. Mae gennym nifer ohonynt ar ôl a byddwn yn parhau i’w darparu fel sydd angen. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflymu ei gyllid EdTech yn sylweddol i adnewyddu stoc  TG mewn ysgolion. Bu her yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang yn nhermau’r galw sylweddol am offer ond mae gennym 300 Chromebook yn cael eu paratoi ar ein cyfer naw a 170 o ddyfeisiau eraill – felly caiff dros 450 dyfais eu hymestyn i ysgolion yn yr wythnosau nesaf. Fel mae hyn yn digwydd, gellir gosod Neverware ar yr offer hynaf a’i ddosbarthu i deuluoedd, os yw’r angen yn dal i fodoli.

 

Pa ganran o blant sy’n derbyn gwersi byw?

 

Mae budd dysgu cydamserol/byw yn un dybiedig – dengys ymchwil nad yw o fwy o fudd na dulliau eraill o gyflwyno dysgu o bell. Dywedodd y Sefydliad Gwaddol Addysgol, “Gall disgyblion ddysgu drwy ddysgu o bell. Mae sicrhau bod elfennau addysgu effeithlon yn bresennol – er enghraifft esboniadau clir, sgaffaldau ac adborth – yn bwysicach na sut neu pryd y cânt eu darparu. Nid oedd unrhyw wahaniaethau clir rhwng dysgu mewn amser real (cydamserol) neu ddulliau eraill (anghydamserol). Er enghraifft, gallai athrawon esbonio syniad yn fyw neu mewn fideo a recordiwyd ymlaen llaw. Yr hyn sydd bwysicaf yw os yw’r esboniad yn adeiladu’n glir ar ddysg blaenorol disgyblion neu sut y caiff dealltwriaeth disgyblion ei asesu yn ddilynol.” Mae hyn yn dangos fod gan y ddau ddull eu lle. Mae’n amhosibl dweud fod ‘un maint yn gweddu pawb’.  ‘Nid yw cael plentyn o flaen gliniadur am ddiwrnod cyfan yn ganlyniad da. Mae ymgysylltu ag athrawon ac ystafell ddosbarth yn wirioneddol bwysig. Mae’n debyg mai’r ffordd ymlaen yw meddwl am i rai tasgau fod yn anghydamserol a rhai yn gydamserol mewn achosion lle mae disgyblion angen cyswllt gydag athrawon.

 

A ydym yn tracio’r lefel ymgysylltu sydd gan ddisgyblion gyda darpariaeth dysgu cyfunol?

 

Mae ein holl ysgolion yn tracio lefelau ymgysylltu. Mae gan rai ysgolion well mynediad i dadansoddeg nag eraill, a rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr i ddeall hynny. Un o’r heriau, yn anochel, yw y bydd pobl yn gwneud cymariaethau rhwng dosbarthiadau o fewn ysgol, rhwng ysgolion mewn ardal ac yn y blaen, ond mae gwahanol ymagweddau mewn gwahanol ysgolion at addysgeg a sut mae dysgu’n digwydd. Felly mae peth amrywiaeth i’w ddisgwyl. Gall fod gwendid os oes nifer fawr mewn aelwyd yn ceisio defnyddio’r rhyngrwyd yr un pryd – gall cael adnoddau anghydamserol y gall plan eu ddefnyddio’n ddiweddarach fod o fudd yno.

 

A oes rhyw fath o ddarpariaeth argyfwng y gallwn ei roi yn ei le ar gyfer y rhai sydd angen offer, yn hytrach nag aros i’r archeb fynd trwodd? Sut mae darparu offer yn cyd-fynd gyda’r nifer fawr o ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim?

 

Gwelsom dwf mawr mewn prydau ysgol am ddim, yn gysylltiedig gydag effaith economaidd y pandemig. Rydym yn talu £3.90 y diwrnod fesul plentyn yn uniongyrchol ar sail wythnosol i’n teuluoedd sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Yng nghyswllt ymateb argyfwng, erbyn diwedd yr wythnos bydd unrhyw un sydd wedi dweud eu bod angen offer wedi ei gael. Yn nhermau darpariaeth rhieni, rydym yn darparu’r offer hwn i’r teuluoedd hynny sydd ei angen. Pe byddai mynediad i ddysgu i barhau i fod yn her i deulu, yna ar ryw bwynt mae’n dod yn fath o fregusrwydd, a’r adeg honno gallem feddwl am ddarparu lle mewn ysgol ar gyfer y dysgwr dan sylw er mwyn cael mynediad i’r adnoddau yno. Ond yr holl dystiolaeth a gawsom yw y cafodd yr offer ei gyflenwi i’r cartrefi hynny sydd ei angen.

 

Er gwybodaeth, mae BT ac EE ar hyn o bryd yn cynnig data heb gyfyngiad heb ddim cost ychwanegol i helpu gyda dysgu cartref.

 

Ydynt. Mae’r Prif Weithredwr wedi bod yn ymgyrchu ar-lein yn ddiweddar i godi ymwybyddiaeth o hyn, gan fod rhai o’r cynigion hynny ar gael yn Lloegr ond nid o reidrwydd yng Nghymru. Bu ysgolion yn ceisio hysbysu teuluoedd am y cyfleoedd hynny.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Cawsom eglurhad am ddysgu cydamserol ac anghydamserol. Mae rhieni wedi siarad gydag aelodau am galedwedd – mae’n galonogol clywed am ddarpariaeth hynny, a band eang, i deuluoedd incwm isel. Mae’n bryder mawr ar draws y wlad, yn arbennig mewn teuluoedd gyda nifer fawr o blant a rhieni yn gweithio gartref. Byddwn yn cadw llygad ar y mater hwn. Bydd y Cynghorydd Dymock yn rhannu manylion cynigion data heb gyfyngiad BT ac EE. Mae’r pwyllgor yn diolch i bawb sy’n gweithio mewn addysg.