Agenda item

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2021/22.

Defnyddiwch y ddolen hon i gyrchu'r papurau ar gyfer yr eitem hon, os gwelwch yn dda - ar gael fel rhan o agenda'r Cabinet 20fed Ionawr 2021. 

 

 Cliciwch Yma   

Cofnodion:

Rhoddodd Peter Davies, Nicola Wellington a Tyrone Stokes gyflwyniad ac adroddiad, ac ateb cwestiynau aelodau, ynghyd â Julie Boothroyd a Phil Murphy, Aelod o’r Cabinet.

 

Her:

Mae’n rhaid bod Monlife wedi colli llawer o refeniw gan ysgolion yn defnyddio canolfannau hamdden yn ogystal â champfeydd ar gau. A ydym yn hapus y gall Monlife ddod drwy’r storm?

 

Ni fedrai’r amseriad fod wedi bod yn ddim gwaeth ar gyfer Monlife yn nhermau’r hyn ddigwyddodd eleni. Cafodd y colledion incwm a ddioddefodd Monlife eu talu’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Caledi Covid – mae’n glod iddynt eu bod wedi dilyn lan gyda’r cyllid yn delio â diffygion incwm fel canlyniad i’r pandemig. Disgwyliwn i hyn barhau i’r flwyddyn nesaf nes bydd gwsanaethau’n ôl ac yn rhedeg. Er y cafodd nifer o staff Monlife eu rhoi ar ffyrlo rydym wedi defnyddio’r capasiti hwnnw i gefnogi Profi, Olrhain a Diogelu ac wedi cynorthwyo gyda gweinyddu grantiau busnes. Bydd yn cynorthwyo i gefnogi peth o ledaeniad y pandemig, gan weithio gydag iechyd.

 

Gan fod nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi cynyddu, a oes unrhyw gyfle ar gyfer grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn arbennig os yw’r cynnydd yn fwy nag mewn awdurdodau lleol eraill?

 

Bu rhai symiau bach o gyllid sydd wedi helpu ar y cyrion, ond dim byd yn benodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Dros flwyddyn yn ôl fe wnaeth tasglu Llywodraeth Cymru asesu ein strategaeth o amgylch y gostyngiad yn nifer y plant sy’n derbyn gofal, ac mae’n rhaid i ni adrodd yn chwarterol ar sut ydym yn symud ymlaen. Felly cedwir golwg agos iawn o safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae ein niferoedd wedi aros yn yr unfan eleni, a gobeithiwn y bydd hynny’n parhau. Bu symiau bach o arian grant a ddaeth drwodd yn ddefnyddiol wrth hybu ymyriad a darpariaeth ataliaeth, i atal cynyddu ymhellach i wasanaethau mwy costus.  Drwy’r dystiolaeth a gasglwyd, gobeithiwn fedru sicrhau arian o ffynonellau eraill.

 

A yw’r 3 disgybl oedd yn parhau yn Nh? Mounton yn dal yno, ac a yw hynny dan yr Uned Cyfeirio Disgyblion? Beth yw’r cynllun ar eu cyfer?

 

Mae’r 3 disgybl y cyfeirir atynt yn ddisgyblion o Sir Fynwy oedd yn Nh? Mounton pan gafodd ei gau. Mae dau yn awr wedi symud i ddarpariaeth annibynnol, mae un wedi symud i’r Uned Cyfeirio Disgyblion. Cafodd y gost ar gyfer pob un o’r 3 ei gynnwys a bydd yn y tracer y soniwyd amdano ynghynt wrth i ni symud ymlaen.

 

A yw’r Uned Cyfeirio Disgyblion yn seiliedig yn Nh? Mounton? A oes disgyblion eraill ar gyfer yr Uned Cyfeirio Disgyblion yn seiliedig yno?

 

Mae T? Mounton yn dal yn wag. Byddai achos busnes i gefnogi’r ddarpariaeth honno pe byddem yn penderfynu symud y ffordd honno, ond ni fyddai’n un disgybl, byddai’r gwasanaeth Uned Cyfeirio Disgyblion. Rydym yn edrych ar yr opsiwn hwnnw ond mae goblygiadau cost i weithio drwyddynt.

 

Mae consyrn am gasglu treth gyngor yn dilyn effeithiau economaidd Covid a’r newidiadau mewn demograffeg. A gafodd hynny ei werthuso’n iawn a’i gynnwys yn y cyfrifiadau?

 

Cafodd y cynnyrch treth ei seilio ar i ni benderfynu ar sylfaen treth gyngor ar gyfer y cyngor. Un o’r sbardunau am hynny yw ei fod yn amcanestyniad ac asesiad o’r nifer o anheddau y codir tâl amdanynt a chartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu. Yr ail ystyriaeth allweddol yw cyfradd casglu’r dreth gyngor. Yr ydym mewn gwirionedd wedi cadw tybiaeth sylfaenol o gyfradd casglu o 99% oherwydd fod ein data yn dangos nerth ac adladd cadarnhaol ar gasglu. Os ydym yn cymharu gydag awdurdodau eraill yng Nghymru, mae gennym sefyllfa adfer llawer cryfach drwyddi draw. Rydym yn gysurus yn ei ddal ar 99%. Mae’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau yn greiddiol i waith Richard Jones (Polisi a Llywodraethiant) a’i dîm, yn edrych ar asesiad Effaith ar Gydraddoldeb Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol – mae’r dreth gyngor yn nodwedd allweddol yn hynny. Mae hefyd yn edrych ar effaith amrywiaeth o gynigion cyllideb a chanlyniad hynny gyda rhai ar incwm is. Mae cynlluniau gostwng Treth Gyngor a’r disgownt sydd ar gael i deuluoedd yn bwysig. Mae’n anodd iawn i’r cyngor sicrhau’r fantol oherwydd ei sefyllfa ariannol. Mae’r Cabinet yn cynnig cynnydd o 4.9% ond mae mesurau diogelwch a lliniaru yn eu lle o amgylch y disgownt sydd ar gael.

 

Yng nghyswllt y rhestr o risigau posibl, a ydym yn hyderus wrth werthuso’r buddsoddiadau nad ydym yn effeithio ar ein gallu i fenthyca yn y dyfodol?

 

Ydym, nid oedd y sleid ar risgiau ac ystyriaethau yn cynnwys popeth. Mae un pwynt bwled yn siarad am y pwysau nad ydym yn gwybod amdanynt hyd yma – dyma’r gofrestr risg strategol, sy’n dangos lle mae gennym risgiau a allai ddod. Caiff y gyllideb ei seilio ar gyfres o dybiaethau. Er enghraifft, pe byddai swyddog yn gofyn am arian ychwanegol mewn cynnig cyllideb ar gyfer pwysau ychwanegol ond yn methu rhoi tystiolaeth bod y pwysau hynny i ddod, ni fyddai’n cael ei gynnwys. Mae’r dybiaeth resymol a gyflwynwyd yn seiliedig ar bwysau plant sy’n derbyn gofal y mae’n rhaid i ni eu lletya, a’r ffaith ei fod wedi sefydlogi. Rydym yn edrych ar bob achos ar wahân a chysuro ein hunain ar y tybiaethau sylfaenol. Nid ydym seilio pethau ar risgiau sy’n llai tebygol na thebygol, oherwydd os ydynt yn llai tebygol yna byddai’n ddoeth eu cynnwys yn y gyllideb mewn rhyw ffordd arall.

 

Gan edrych ar y risgiau presennol, a’n hanallu posibl i fenthyca, a oes risg bosibl ar gyllido ar draws y bwrdd?

 

Cawn ein rheoli gan y Cod Materion Ariannol, sy’n penderfynu bod ein benthyca yn fforddiadwy, cynaliadwy a darbodus. Mae dangosyddion yn gosod trothwyon y gweithiwn o’u mewn. Mae gennym ddigon o le ar gael yn ein gallu benthyca. Yn y pen draw, bydd y gallu i benderfynu os yw ein benthyca yn gynaliadwy, darbodus a fforddiadwy yn dod o fewn ei gallu i’w gyllido o fewn y gyllideb refeniw h.y. y costau benthyca yn nhermau llogau ac ad-dalu, a elwir yn MRP. Nid oes gennym unrhyw bryderon yn y cyswllt hwnnw ar hyn o bryd. Er gwybodaeth bellach, bydd y strategaeth trysorlys yn mynd i’r Pwyllgor Archwilio ac yna’r Cyngor ar 11 Mawrth, a bydd yn gwneud y casgliadau hynny.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Gofynnwyd cwestiynau am Monlife a chynaliadwyedd, materion grantiau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a materion yn ymwneud â chasglu’r dreth gyngor, yn ogystal â chwestiynau ehangach y bernid eu bod tu allan i gwmpas y pwyllgor hwn. Er gwybodaeth, bydd ymgynghoriad rhithiol dros y 4 wythnos nesaf. Bydd y dudalen ar y gyllideb ar y wefan yn cynnwys trosolwg, dolen i gyflwyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb craidd, papurau’r gyllideb, blog gan Phil Murphy, Aelod o’r Cabinet a ffurflen adborth. Bydd atebion i gwestiynau cyffredinol am y gyllideb ar gael ym mhapurau’r Gyllideb.

 

 

Dogfennau ategol: