Agenda item

Monitro Cyllideb: Craffu ar sefyllfa monitro cyfalaf a refeniw'r gyllideb ym Mis 7, gan osod y cyd-destun ar gyfer craffu ar gynigion cyllidebol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Tyrone Stokes a Nicola Wellington yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau.

 

Her:

A ydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewn iechyd a gwasanaethau plant fel ein bod yn gwybod mewn da bryd pa blant sy’n dod trwodd y bydd angen iddynt fynd i ddarpariaeth tu allan i’r sir yn ddiweddarach, fel y gallwn gynnwys y costau yn y gyllideb ar gyfer blynyddoedd i ddod?

 

Rydym yn ymwybodol iawn o’r costau addysg sy’n dod trwodd ac rydym wedi gweld gwelliant mewn amcanestyniadau mewn blynyddoedd diweddar. Mewn misoedd diweddar rydym wedi rhoi dull tracio ar waith fydd yn olrhain disgyblion o ddechrau eu haddysg, ac felly’r costau wrth iddynt symud drwy eu haddysg. Bydd hyn yn sicr yn rhoi llawer mwy o eglurdeb am gostau’r dyfodol ar gyfer ein holl ddisgyblion. Gweithiwn yn agos iawn gyda chydweithwyr mewn iechyd ac addysg.

 

Pan gyflwynir plentyn i’r awdurdod lleol, mae gennym ddull gweithredu am-asiantaeth; rydym yn delio gydag iechyd ac yn ceisio sicrhau’r cyllid priodol; yn yr un modd gydag addysg, ac os ydynt angen mwy o gymorth addysg, gallwn gysylltu â’r corff perthnasol eto.

 

Bu gennym ddull tracio yn ei le am y 7 neu 8 mlynedd diwethaf mewn Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant. Ychydig flynyddoedd yn ôl, daeth swyddogion â phapur i’r pwyllgor yn cynnwys ystod o gostau uned ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal: ar gyfartaledd mae’n £45k y flwyddyn. Ond mae’n amrywio llawer. Os yw plant mewn gofal maeth, y gost uned y £28-30k y flwyddyn, ond os ydynt mewn gofal preswyl tu allan i’r sir, gallai fod gymaint â £300-500k y flwyddyn.

 

Mae Gwasanaethau Plant mewn lle da iawn yn awr, ar ôl cynyddu ein hymyriad ac ataliad, ac rydym wedi gwneud gwaith gwych mewn blynyddoedd diweddar. Mae nifer y plant sy’n derbyn gofal yn sefydlogi ar 220. Yr hyn na allwn roi sicrwydd i aelodau amdano yw sut y bydd y niferoedd yn amrywio wrth i ni ddod allan o’r pandemig, a’r cyfeiriad y bydd y llysoedd yn ei roi i ni. Roedd papur arall a aeth at aelodau yn flaenorol yn ymwneud â thîm cymorth MIST a all edrych ar fwy o wasanaethau mewnol a chymunedol , yn hytrach na gorfod rhoi plant sy’n derbyn gofal mewn lleoliadau drud tu allan i’r sir.

 

Gyda phwysau ar gyllidebau, a ydym yn dal i fod yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau atal a chymorth i deuluoedd? Mae’n debyg y bydd y niferoedd sefydlog yn annhebyg o barhau pan fydd effeithiau’r pandemig yn taro nes ymlaen,

 

Ie, dyna yw’r anhawster yn awr. Wrth i ni ddechrau symud allan, ni fedrwn fod yn hunanfodlon fod y niferoedd yn sefydlogi. Rydym yn dal i fuddsoddi’n helaeth yn y gwasanaethau ymyriad ataliol ac yng nghyllideb y flwyddyn nesaf byddwn yn anelu i fynd i’r afael â’r diffyg yn y flwyddyn ar gyfer gwasanaethau plant, felly rydym yn parhau â’r buddsoddiad hwnnw hefyd.

 

A allwn gael y ffigur am gyfanswm y diffyg ym mis 7 ac sut mae hynny’n cysylltu gyda’r gyllideb Plant a Phobl Ifanc?

 

Roedd diffyg Mis 7 yn orwariant o £6.43m ar gyfer cronfa refeniw’r Cyngor, gyda £5.91m o hynny yn ymwneud â Covid.  Yn nhermau gwasanaethau plant, nid oes dim o hynny yn cyfeirio at Covid – cafodd unrhyw bwysau cysylltiedig â Covid yno eu hadennill yn llawn drwy’r gronfa Caledi. Mae’r gorwariant mewn gwasanaethau plant yn £1.46m, sy’n cyfeirio at y costau fyddai wedi bod gennym beth bynnag, oherwydd cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal (ychydig dros £1.1m), y dyfarniad cyflog uwch yn y flwyddyn a’r costau cyfreithiol. Mae Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc £125k drosodd.

 

Mae’n amlwg fod budd ariannol i recriwtio ein staff ein hunain mewn gwasanaethau plant, yn ogystal ag un dynol. A fedrid dileu cost staff asiantaeth yn y flwyddyn nesaf?

 

Pan wnaethom osod y gyllideb, roedd gennym 197 o blant sy’n derbyn gofal, a gynyddodd i 218 mewn ychydig fisoedd. Mae hyn yn effeithio ar y gwasanaethau cymorth eraill: cyfreithiol, cludiant a staffio. Weithiau mae’n rhaid i ni fynd at staff asiantaeth i ymdopi tra’n bod yn ceisio recriwtio ac i ddelio gyda’r cynnydd mawr yn nifer y plant sy’n derbyn gofal. Mae gennym gynllun gweithlu a gr?p sy’n edrych ar hyn ar sail barhaus i weld sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i recriwtio yn fewnol.

 

Pa ganran dros y 12 mlynedd diwethaf fu’n staff asiantaeth a beth yw’r ymrwymiad contract ar gyfer gweithiwr asiantaeth?

 

Roedd y canran o staff asiantaeth yn llawer uwch ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae’n debyg fod y sefyllfa staffio mewn gwasanaethau plant yn fwy sefydlog nag a fu yn y degawd diwethaf. Fel y nodir uchod, mae cynllun ar waith sy’n adolygu ac yn monitro gofyniad a defnydd asiantaethau. Rydym yn denu pobl ragorol sydd eisiau gweithio ac aros yn Sir Fynwy ond mae adegau pan mae problemau salwch, swyddi gwag ac yn y blaen, a gall gymryd amser i gael rywun i mewn o’r safon cywir. Buom yn rhedeg staff asiantaeth ar gontractau hirach – nid oes lefel ddynodedig, mae yngl?n â’r gwasanaeth a’r anghenion gweithredol ar adeg neilltuol. Rydym wedi medru trosi rhai staff asiantaeth i fod ein staff ein hunain, sy’n gadarnhaol iawn. Ond derbyniwn y gall fod ymyriad mewn cael staff asiantaeth. Y bwriad yw cael ein gweithlu ein hunain ond bydd bob amser rai staff asiantaeth. Mae gennym 6 o staff asiantaeth ar hyn o bryd – tua 8%. Ar ddechrau’r flwyddyn, roedd yn 12-13 staff asiantaeth; eleni rydym wedi llwyddo i ostwng ein defnydd asiantaeth yn ei hanner a throsi’r staff.

 

Beth yw’r gwahaniaeth ariannol rhwng cyflogi aelod asiantaeth a datblygu ein staff ein hunain?

 

Nid yw’n ateb syml oherwydd y gallwn amrywio’r oriau y mae staff asiantaeth yn eu gweithio. Drwyddi draw, mae effaith hyn tua £200-250k ond rydym wedi llwyddo i negodi gyda Llywodraeth Cymru i geisio cael peth o hynny drwy’r Gronfa Caledi lle mae’n ymwneud â phwysau cynyddol.

 

Mae Atodiad 3 yn cyfeirio at lithriad o £12.5m yn y cynllun Ysgolion 21ain Ganrif yn y Fenni, sy’n achos consyrn. A allwn gael sicrwydd bod y prosiect yn ôl ar y trywydd ac ar amser?

 

Bu oedi yn y prosiect oherwydd y sefyllfa bresennol gyda’r pandemig. Rydym wedi penodi rheolwyr y prosiect a phenseiri, felly mae’n symud ymlaen a gallwn sicrhau aelodau ein bod yn gweithio tuag at y dyddiad agor yn 2024 – mae popeth ar y trywydd ar gyfer hynny ar hyn o bryd.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Mae swyddogion wedi amlinellu’r anawsterau a chost nifer y plant sy’n derbyn gofal yn codi o 197 i 200. Mae gan hyn oblygiad cost, gyda chynnydd mewn ffioedd cyfreithiol a chynnydd cyflog ar gyfer staff. Roedd gennym gwestiynau manwl am y gyllideb a’r meysydd yn gysylltiedig â Covid a defnydd staff asiantaeth sydd a chost sylweddol ac ystyriaethau dynol. Yn nhermau cyllideb Plant a Phobl Ifanc, mae’n dda nodi fod llai o ysgolion mewn diffyg, er fod 3 yn dal i fod mewn diffyg. Mae budd mewn peidio gorfod talu i’r canolfannau hamdden. Yn gyffredinol, ymddengys ein bod mewn sefyllfa gryfach yn y dyfodol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, heb unrhyw doriadau mawr yn y flwyddyn i ddod. Mae hefyd yn dda clywed fod yr ysgol newydd 3-19 yn symud yn ei blaen.

 

Dogfennau ategol: