Skip to Main Content

Agenda item

Strategaeth Ddiwygiedig ar Gyfiawnder Cymdeithasol

Cofnodion:

Cyflwynodd Judith Langdon, Cath Fallon, Deserie Mansfield ac Ian Bakewell y cyflwyniad a’r adroddiadau a bu iddynt ateb cwestiynau’r aelodau. Gwnaed sylwadau ychwanegol gan yr Aelod Cabinet Sara Jones.

Her:

Nid yw’r adroddiad yn nodi’r amddifadedd a welir ar lawr gwlad. Sut y gallwn ni, fel awdurdod lleol, roi gwybod ble mae’r amddifadedd?

Ydi, mae hyn yn adlewyrchu’r hyn y mae swyddogion yn ei weld, sef amddifadedd gwasgaredig ei natur. Rydym yn gweithio ar fapio’r amddifadedd ar lefel cod post, ac mae hyn yn dangos ei fod yn frith ar draws y sir. Am ei fod mor wasgaredig, mae’n ymddangos nad yw’r ddeial yn symud, am nad yw’r crynodiadau’n ddigon mawr. Er hyn, os yw rhywun yn wynebu tlodi, incwm isel a’r effeithiau cysylltiedig, yr un yw’r profiad dim ots ble mae rhywun yn byw. Ond mae’n anodd dangos y darlun yma. Mae grwpiau gweithredu ynghlwm â phob un o’r blaenoriaethau sy’n rhan o’r Cynllun Mynd i’r Afael â Thlodi; un o dasgau cyntaf y gr?p Anghydraddoldeb fydd adeiladu cyfanwaith o ddata mwy soffistigedig a chymhellol sy’n ystyried sut y byddai’r darlun yn edrych pe byddai’r dotiau yn cael eu grwpio i mewn i un ward ddamcaniaethol, a sut y byddai’n cymharu ag ardaloedd eraill. Ynghyd â gwaith ymchwil meintiol a rhoi llais y rheiny sy’n wynebu amddifadedd wrth galon y gwaith, mae rhai meysydd sydd wedi datblygu amrywiaeth o gomisiynau er mwyn dod â phrofiadau pobl i’r amlwg. Bydd hwn yn brosiect cynnar a phwysig a fydd yn amlygu’r pa mor frith yw’r amddifadedd; gall hefyd ein helpu o ran cael sail dystiolaeth ar gyfer, er enghraifft, lobio am Grant Anghydraddoldeb gan Lywodraeth Cymru.

Rydym bellach mewn sefyllfa ble mae chwyddiant tai yn dod yn broblem i’r rheiny sy’n rhentu. Mae cyn dai Cymdeithasol wedi eu gwerthu’n ôl i ddatblygwyr preifat, sydd, yn eu tro, yn codi prisiau yn uwch na’r hyn y gall trigolion yr ardal ei fforddio.

Mae’r newid o ran amgylchiadau digartrefedd wedi amlygu nifer o sefyllfaoedd cudd y byddem wedi delio â hwy ers amser maith. Rydym nawr yn delio’n uniongyrchol gyda nifer sylweddol o bobl sy’n syrthio i mewn i’r categori amddifadedd, a sydd heb ddim wrth gefn. Mae hyn yn rhoi i ni garfan helaeth o bobl sy’n weladwy ac y gallwn weithio â hwy, a phobl y gallwn dargedu adnoddau sydd wir eu hangen atynt. Mae’r broblem o ran llety’n gywir, mae’n rhywbeth yr ydym yn ei wynebu trwy’r amser: ceisio sicrhau eiddo rhent preifat ar gyfer pobl, ond yn methu oherwydd lefel y rhent.

O ran tlodi bwyd, mae gennym system ddadansoddi data a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n brosiect sy’n datblygu – rydym yn adeiladu’r platfform ar hyn o bryd – a fydd yn cynnwys gwaith mapio cynhyrchwyr a busnesau bwyd, a bydd modd i ni ychwanegu data ar lefel ward. Gallwn osod y senario mynediad tlodi bwyd drosto. Mae mynediad i fwyd ffres, maethlon o fewn ein sir yn un o’r prif broblemau; mae hyn yn cynnwys drwy ysgolion a defnydd o dir. Rydym yn gosod data sy’n dangos y mannau drwg posib a grybwyllwyd yn gynharach dros y data ar dlodi bwyd, ac rydym yn edrych ar ddata arall sy’n dangos, ar lefel gronynnog, faint o brydau ysgol am ddim sy’n cael eu cynnig a ble y dylid ymyrryd. Gallwn roi gwybodaeth bellach i’r Cynghorwyr yn dilyn y cyfarfod.

A oes cyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol benodol y gellid ei defnyddio ar ddisgresiwn y tîm, neu ai’r bwriad yw cael un?

Nid oes pennawd penodol ar gyfer ‘Cyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol’; ond rydym y gweithio’n dda iawn ar draws cyfarwyddiaethau. Mae gan y Tîm Cymorth Cymunedol ei chyllideb ei hun (mae Judith Langdon yn gweithio o fewn y tîm) ac mae gennym fynediad at sawl cyllideb arall ee ariennir cryn dipyn o’r gwaith a wneir gan Deserie Mansfield drwy Datblygu Cymunedol a Llywodraeth Cymru. Telir am y gwaith y mae Ian Bakewell yn ei wneud gan y Grant Cymorth Tai a’r Ddarpariaeth Digartrefedd. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n gilydd er mwyn mapio ble mae’r cyllid yn eistedd er mwyn sicrhau ein bod yn dod ag o at ei gilydd – ac mae hyn yn digwydd, yn eithaf effeithiol.O ran arloesi, gallwn dalu am nifer o’n prosiectau newydd gan ddefnyddio ffrydiau arian amrywiol; er enghraifft, roedd y prosiect data a grybwyllwyd nawr yn gyfle ariannol a gododd drwy Lywodraeth Cymru.

Mae Mynd i’r Afael ag effeithiau tlodi’n awgrymu ein bod yn gwneud hynny ar ôl y digwyddiad – a ydym yn canolbwyntio ar achos hefyd?

Nid yw’r gwaith ar y cynllun wedi ei orffen eto. Nid yw wedi ei gadarnhau, a’n gobaith yw datrys problemau fel y rhain fel rhan o’r broses ymgynghori. Gall gwahaniaethu rhwng achos ac effaith fod yn anodd – gall ddod yn gylch dieflig. Er enghraifft, gellir dadlau bod lefelau is o gyrhaeddiad o ran addysg yn un o effeithiau tlodi incwm isel, ond gall hyn yn ei dro achosi incwm isel o fewn rhai teuluoedd. Wedi dweud hyn, y rheswm dros y geiriad sy’n ymwneud â mynd i’r afael ag effeithiau anghydraddoldeb yw ceisio dod ag ychydig o realaeth, ac edrych ar yr hyn sy’n gyraeddadwy hy yr hyn y gallwn ni, fel awdurdod lleol, gael gafael arno a dylanwadu arno. Yr hyn y gallwn ei wneud ar lawr gwlad yw cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae anghydraddoldeb yn dylanwadu ar fywydau pobl. Dyna’r rhesymeg dros ffafrio mynd i’r afael â’r effeithiau – ond nid yw hyn yn golygu nad oes diddordeb gennym mewn mynd i’r afael â’r achos hefyd.

Beth yw manteision y gr?p cynghori ar gyfiawnder cymdeithasol – a oes modd iddynt newid unrhyw beth? Ai bwrdd seinio ydyw?

Mae byrddau seinio’n bwysig iawn o ran y darn yma o waith am ei fod yn waith mor eang. Mae’r gr?p cynghori’n helpu o ran syniadau’n ymwneud â llunio polisi a chyfnewid syniadau. Mae gallu rhedeg syniadau heibio aelodau yn gynnar o fudd mawr – aeth pob un o’r syniadau yma i’r gr?p cynghori ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Rhywbeth goddrychol, efallai, yw safon y gr?p, ond mae’n ddefnyddiol iawn, ac yn rhan bwysig o’n strwythur llywodraethol.

Mae mesur anghydraddoldeb yn gythreulig o anodd. Gallwn drafod bylchau o ran incwm rhwng cymunedau ar MSOAs ee yng Nghas-gwent, mae gwahaniaeth o £20 mil rhwng incwm blynyddol y rhannau cyfoethocaf a’r rhannau tlotaf. A oes modd i ni ddatblygu’r data yma er mwyn dangos pa mor fawr yw’r bwlch, er mwyn ceisio ei gau?

Mae nifer o fesurau sy’n taflu goleuni ar y realiti o ran anghydraddoldeb; mae edrych ar bob un ar wahân yn annigonol ac nid yw’n cyfleu’r darlun llawn. Felly, mae angen dod â chyfres soffistigedig o fesurau ynghyd, sydd, gyda’u gilydd, yn cyfleu’r darlun. Bydd peth o hyn ar lefel sir, peth ar lefel MSOA. Rydym wedi cyffroi yngl?n â’r data ar lefel cod post, gan y bydd yn cychwyn dangos y gwir ddarlun o ran anghydraddoldeb yn y sir – mae crynodiadau bychan iawn mewn ardaloedd cymharol gefnog. Drwy gyfuno’r holl bethau yma, mae cyfle i wneud rhywbeth diddorol iawn a ddylai ein symud yn ein blaenau o ran ein dealltwriaeth o anghydraddoldeb.

Beth yw’r weledigaeth ar gyfer tai yn y tymor hir?

Rydym yn teimlo’r un rhwystredigaeth o ran y diffyg llety. Mae dyletswydd arnom i edrych ar yr holl gyfleoedd, dim ots pa mor fach, i wneud gwahaniaeth, am nad oes un datrysiad yn unig. Mae’r hyn y mae’r cyngor yn bwriadu ei wneud o ran adeiladu’n gyffrous iawn, a gobeithiwn y bydd hyn yn cael effaith ar y sefyllfa? Mae sicrhau bod tir ar gael, sy’n cefnogi datblygiadau dichonol yn her barhaus i Sir Fynwy. Mae gan y cyngor rôl bosib i’w chwarae yn hyn o beth. Mae cymorth gan Lywodraeth Cymru o ran Digartrefedd wedi cychwyn, drwy raglenni gwahanol. Efallai mai dim ond yn y tymor byr y bydd hyn yn digwydd, sy’n rhwystredig. Un maes arall y byddem wrth ein bodd yn ei ddatblygu – yn enwedig o ran tai fforddiadwy – yw’r bartneriaeth bosibl gyda’r maes iechyd, gan edrych a oes cyfle i ddod a mwy ger bron o’r ochor honno. Yn syml, mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed ar y ffrydiau amrywiol.

Does dim sôn am ffermydd sirol yn y cynllun ar Dlodi Bwyd. A ydym yn gweld fod ganddynt rôl i’w chwarae?

Rydym yn berchen ar ffermydd sirol, ond maent o dan gytundeb gyda ffermwyr preswyl. Ein gweledigaeth ar gyfer Sir Fynwy yw bod yn esiampl o ran cynhyrchu bwyd a chael mynediad at dir. Y llwybr y mae’r cyngor wedi ei ddilyn yn y gorffennol yw edrych ar werth y tir a’r safbwynt cytundebol – pa mor hir y mae preswylwyr yn dal y cytundeb, sut y gallwn eu hymestyn, ac ati. Rydym wedi edrych y tu hwnt i’r ffermydd sirol, ac rydym yn edrych ar gysylltu perchnogion tir gyda thyfwyr posib, yn hytrach na defnyddio ein ffermydd sirol, sy’n ddarostyngedig i gytundeb. Rydym yn gweithio gyda’r Community Farm Land Trust ar hyn o bryd, ac mae gennym brosiect yn ei le sy’n creu adnoddau ar gyfer entrepreneuriaid fferm. Mae pobl yn dueddol o ddod atom i ddweud yr hoffent dyfu, bod gennym lawer o dir yn Sir Fynwy, ond nad oes modd i ni ei ddefnyddio na’i roi. Dyma pam ein bod yn defnyddio’r cysylltiad yma gyda perchnogion tir yn benodol.

Crynodeb y Cadeirydd:

Gofynnodd y Cynghorydd Easson gwestiynau yngl?n â’n gallu i wybod ble mae amddifadedd, ac mae pryderon ganddo fod ein lleoliad yn achosi chwyddiant o ran tai. Cododd y Cynghorydd Batrouni y pwyntiau canlynol; a oes cyllideb cyfiawnder cymdeithasol; mynd i’r afael ag achos ac effeithiau anghydraddoldeb, a pham y dewiswyd y geiriau rheiny; diben y gr?p cynghori cymdeithasol; mesur anghydraddoldeb o ran bylchau mewn incwm; y weledigaeth tymor hir ar gyfer tai; a pham nad oes sôn am y ffermydd sirol yn y cynllun gweithredu ar Dlodi Bwyd.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: