Agenda item
Cais DM/2020/01328 – Adeiladu 2 dŷ pâr 2 ystafell wely yng ngardd rhif 7 Heol Parc, Cil-y-coed. 73 Heol Parc, Cil-y-coed, NP26 4EL.
Cofnodion:
Derbyniwyd adroddiad y cais a gyflwynwyd ar gyfer gwrthodiad am un rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.
Amlinellodd Aelod lleol Dewstow, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:
· Bydd y datblygiad mewnlenwi yn medru defnyddio’r tir yn effeithol a rhoi mynediad rhwydd i amwynderau presennol drwy gerdded, seiclo ac yn y blaen, gan ostwng yr angen i ddefnyddio cerbydau preifat.
· Bydd yr anheddau yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
· Nid yw’r safle yn safle tir cefn.
· Nid oedd yn ymarferol ymestyn y brif annedd i deras oherwydd byddai cael rhyng-gysylltiad ffisegol yn golygu problemau mynediad a chreu ar gyfer yr annedd arfaethedig bresennol drwy ale gyda hawliau cyfreithiol cysylltiedig perchnogaeth o’r gofod. Felly, dymchwel y t? allan a’r cynllun i ffurfio llwybr a a gaiff eu rannu ar yr ochr honno.
· Mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn ymwneud â datblygiad mewnlenwi graddfa fach gyda llai na 10 annedd fel y’u diffinnir ym mholisïau H1, H2, H3 y Cynllun Datblygu Lleol.
· Mae’r nodweddion tirlun presennol a golygfeydd ar draws y safle yn cefnogi hyn ac yn gydnaws gyda’r ardal o amgylch.
· Mae’r tir yn ddigon mawr ar gyfer mwy o dai a hefyd gynllunio ar y safle. Bydd y gofod gardd yn debyg i dai presennol yn yr ardal.
· Bydd yr anheddau arfaethedig yn manteisio o ofod gardd preifat ar gyfer defnydd hamdden y preswylwyr.
· Bydd y datblygiad arfaethedig yn gydnaws gyda llinell adeiladu anheddau eraill.
· Bydd y deunyddiau a ddefnyddir yn gydnaws gyda’r anheddau gwreiddiol a chyfagos. Bydd y to yn debyg i doau anheddau presennol ac yn ategu’r golwg stryd.
· Ni fydd safle’r tai newydd yn effeithio ar breifatrwydd cymdogion gan na fydd unrhyw ffenestri ar y naill dalcen na’r llall
· Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn awgrymu ei bod yn ddymunol cael gofod o 50 metr rhwng prif weddau Bydd gofod o 13 metr yn yr achos hwn. Mae ffactor lliniaru ar gyfer y gofod 13 metr gan fod garej fawr ar wahân gerllaw fydd yn cysgodi agweddau a allai ymyrryd.
· Mae nifer fawr o enghreifftiau ar draws Cil-y-coed lle cafodd y gofod 50 metr a ddymunir ei lacio, gyda’r pellter yn bum metr mewn rhai amgylchiadau.
· Mae’r cynnig yn ateb holl ofynion y Canllawiau Cynllunio Atodol.
· Mae’r Aelod lleol yn cefnogi cymeradwyo y cais a gofynnodd i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried yr amgylchiadau lliniaru yng nghyswllt y gofod 13 metr ac yn ystyried cymeradwyo’r cais.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:
· Hysbysodd Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu y Pwyllgor nad yw’r anheddau arfaethedig yn unedau fforddiadwy. Mae’r anheddau yn unedau marchnad.
· Mae’r anheddau yn anymarferol. Nid oes digon o le y naill ochr na’r llall o bob annedd. Byddai’r safle yn fwy addas i gael dim ond un annedd ar y safle.
· Byddai ceir wedi parcio yn dominyddu blaen y tai.
· Byddai cymeradwyo’r cais yn arwain at orddatblygiad y safle.
· Cytunodd rhai aelodau gyda’r farn a fynegwyd gan yr Aelod lleol gan yr ystyriwyd nad oedd digon o le ar y safle i adeiladu dwy annedd ar wahân. Nid oes unrhyw edrych dros anheddau eraill.
Rhoddodd yr Aelod lleol y crynodeb dilynol:
· Dim ond am y pellter rhwng 1 Elm Road a’r anheddau arfaethedig yr oedd y Swyddog Cynllunio wedi mynegi pryderon. Gofynnodd yr Aelod lleol am yr amgylchiadau lliniaru o ran y pellter rhwng yr annedd ac 1 Elm Road. Mae’r Pwyllgor Cynllunio wedi cymeradwyo dwysedd llawer mwy ar ofodau mwy na’r safle hwn yng Nghil-y-coed. Felly gofynnodd yr Aelod lleol am roi ystyriaeth i amgylchiadau lliniaru 13 metr rhwng yr eiddo ac 1 Elm Road.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Davies ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir G. Howard y dylid gwrthod cais DM/2020/01328 am un rheswm a amlinellir yn yr adroddiad (fel yn argymhelliad y swyddog yn yr adroddiad).
Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
O blaid gwrthod - 10
Yn erbyn gwrthod - 3
Ymatal - 1
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd gwrthod cais DM/2020/01328 am un rheswm a amlinellir yn yr adroddiad (yn unol ag argymhelliad y swyddog yn yr adroddiad).
Dogfennau ategol: