Agenda item

Cais DM/2020/01036 – Ad-leoli mynediad a chlwyd, phlannu newydd a chadw trac mynediad.Bluebell Farm, Heol Blackbird Farm, Earlswood.

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda’r ddwy amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd y Cynghorydd I. Martin, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Drenewydd Gellifarch, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn amlinellu gwrthwynebiad y cyngor sir i’r cais, a ddarllenwyd i’r Pwyllgor Cynllunio gan y Pennaeth Cynllunio, sef:

 

‘Mae Cyngor Cymuned Drenewydd Gellifarch yn gwrthwynebu’r cais hwn.

Efallai nad yw’r Pwyllgor Cynllunio yn gwybod am gais DC/2017/00607 oedd yn bron yn union yr un geiriad ?’r cais hwn, ac am benderfyniad Cyngor Sir Fynwy i’w wrthod ar sail:

1 Oherwydd ei leoliad amlwg, byddai’r fynedfa a’r ffordd a gynigir yn nodweddion anghydnaws a fyddai’n niweidiol i gymeriad yr ardal. Byddai gan y datblygiad effaith niweidiol sylweddol ar gymeriad ac ymddangosiad y tirlun gwledig yn groes i bolisïau DES1 (c), (e) a (h), LC1 a LC5 y Cynllun Datblygu Lleol.

2 Mae’r fynedfa newydd a gynigir yn ymlediad gwneuthuredig diangen ar draws ardal agored amlwg na fyddai’n rhoi mynediad rhwydd a diogel ac a fedrai o bosibl niweidio iechyd a chyfleuster defnyddwyr ffordd eraill yn groes i Bolisi MV1 a meini prawf (a) ac (e) Polisi DES1 Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

 

Nid ydym yn ymwybodol fod y polisïau cynllunio hynny wedi newid ers y gwrthodiad hwnnw.

 

Ystyriwn fod yr adroddiad gan Lime Transport yn anghywir oherwydd:

 

1. Mae ganddo bennawd Mynedfa Amaethyddol a Gynigir ac mae’n cyfeirio at amaethyddiaeth. Preswylfa breifat ac nid fferm yw hyn. Nid oes cyfiawnhad dros roi ffordd breifat ar draws dau gae. Mae’r fynedfa ar gyfer symud ceffylau y preswylwyr eu hunain, ac nid yw cadw’r ceffylau hynny yn weithgaredd amaethyddol..

 

2. Ym mharagraff 1.1.3 mae’n dweud nad oes unrhyw newid defnydd ar y fferm ac y bydd nifer a math o symudiadau cerbyd a achosir gan y safle yn parhau heb newid. Felly, nid oes unrhyw effaith ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach yn gysylltiedig gyda’r fynedfa ychwanegol hon..

 

Yn flaenorol, roedd mynediad drwy Lôn Blackbird Farm ac nid Old Road. Mae Old Road yn gul iawn gyda gall cyfyngedig i weld a gwrychoedd uchel, heb unrhyw leoedd pasio yn ôl i’r briffordd (gweler para 2.14 – mae:  lled lon cerbyd cyfyngedig wrth groesffordd Old Road/Bluebell Road). Mae eisoes yn beryglus ar gyfer modurwyr a cherddwyr fel ei gilydd.

 

Rydym yn siomedig nad yw Priffyrdd wedi cefnogi gwrthodiad Cyngor Sir Fynwy yn 2017 na fyddai’n rhoi mynediad rhwydd a diogel a gallai o bosibl niweidio ar ddiogelwch a chyfleuster defnyddwyr ffordd.

 

Ymhellach rydym yn anghytuno gyda’r Papur Gwerthuso Tirlun a Gweledol sy’n dweud na fedrid gwahaniaethu rhwng y trac arfaethedig ag ymddangosiad y cae. Nid yn unig y gellir gweld y trac fel y’i gosodwyd ar hyn o bryd ar unwaith oherwydd natur agored y tirlun ond hefyd bydd defnyddio blychau ceffyl dros y trac yn y gaeaf yn achosi olion sylweddol gan fod angen sylfaen mwy cadarn i’r ffordd yn nes ymlaen. Er gwaethaf y penderfyniad cynharach i wrthod, cafodd y ffordd yn awr ei gosod. Ystyriwn fod rhoi ffyrdd preifat ar draws caeau yn arfer ffermio gwael ac yn graith ddiangen ar y tirlun.

 

Dengys ein harolwg diweddar o breswylwyr eu bod eisiau cadw nodweddion ein hardal sydd yn bennaf yn dirlun amaethyddol a gwledig. Dylai’r ardal gael ei dynodi eto fel un o ddiddordeb arbennig ac ystyriwn ei bod yn bwysig cadw’r nodweddion hynny er mwyn denu twristiaid a hefyd er budd cenedlaethau’r dyfodol.

 

Roedd Mr S. Courtney, asiant yr ymgeisydd, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig i gefnogi’r cais a gafodd ei ddarllen i’r Pwyllgor Cynllunio gan y Pennaeth Cynllunio fel sy’n dilyn:

 

‘Rwy’n gweithredu ar ran yr ymgeisydd, Mr James Howells, yng nghyswllt y cais hwn ar gyfer newid safle mynedfa a chlwyd, newid safle gwrych ynghyd â phlannu newydd a chadw trac mynediad yn arwain at ei ysgubor/stablau. Mae’r cais hwn yn dilyn gwrthodiad blaenorol yn 2017 i gadw mynedfa a thrac diwygiedig.

 

Dylai Aelodau wybod fod angen y cais er mwyn goresgyn problem sylweddol gyda diogelwch priffordd gan alluogi’r ymgeisydd i gael mynediad diogel i’w ysgubor/stablau drwy fynedfa a thrac wedi eu haddasu, gan osgoi problemau diogelwch a gwrthdaro gydag eiddo cyfagos. Mae’r ymgeisydd yn cadw ceffylau ac weithiau angen eu cludo yn defnyddio ei flwch ceffylau. Mae’r llwybr gwreiddiol i’r de, drwy Blackbird Farm Road, yn lon un trac a gaiff ei rhannu gydag eiddo cyfagos ac mae blwch ceffyl yr ymgeisydd yn rhy fawr i ddefnyddio’r llwybr hwn yn ddiogel; mae hyn yn flaenorol wedi arwain at wrthdaro gyda chymdogion yr ymgeisydd. Mae natur rhan ôl-weithredol y cais hwn oherwydd y cynghorwyd yr ymgeisydd yn wreiddiol nad oedd y gwaith, yn cynnwys yr addasiad i’r fynedfa bresennol i’r maes, angen caniatâd.

 

Hoffwn sicrhau Aelodau a rhai â diddordeb y cafodd y pryderon a godwyd gan y Cyngor Cymuned ac yn wir yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn flaenorol eu hystyried yn drwyadl o fewn y cynllun diwygiedig. Yng ngoleuni hyn ac yn dilyn proses o ymgynghoriad cyn gwneud cais gyda swyddogion, cafodd y cynigion eu diwygio a’u hategu fel sy’n dilyn:

 

• Cynigir mynedfa lai yn awr yn cynnwys clwyd fferm dur wedi galfanu gyda phostyn pren a ffens rheilen, ynghyd â phlannu gwrych, a ystyrir yn fwy addas ar gyfer y lleoliad gwledig.

 

• Caiff y fynedfa ei chilannu i’r parsel o’r cae er mwyn rhoi digon o le i’r blwch ceffylau fynd i mewn ac allan o’r eiddo heb flocio’r lôn. Mae’r gilan yn rhoi budd diogelwch ychwanegol drwy ddarparu bae pasio ychwanegol ar gyfer traffig sy’n mynd heibio.

 

• Cynigir plannu coed a gwrychoedd ychwanegol i liniaru ymhellach effaith weledol y cynnig ac i roi budd bioamrywiaeth net cyffredinol.

 

• Paratowyd Asesiad Tirlun sy’n cadarnhau fod unrhyw effaith gweledol sydd gan y fynedfa newydd yn fach iawn a heb fod yn anghydnaws gyda’r lleoliad gwledig ac felly caiff y cynnig ei ystyried yn dderbyniol mewn termau tirlun a gweledol.

 

• Mae Nodyn Technegol yn cyd-fynd gyda’r cais sy’n cadarnhau fod y fynedfa newydd yn cydymffurfio gyda’r safonau dylunio perthnasol ac yn rhoi mynediad mwy addas i gerbydau amaethyddol (yn cynnwys blwch ceffylau mawr) ac y bydd yn welliant o ran diogelwch priffordd.

 

I gau, hoffwn sicrhau Aelodau a’r Cyngor Cymuned y cafodd y cais hwn ei ystyried yn gywir a’i fod yn ddilynol wedi derbyn cefnogaeth eich Swyddogion, yn dilyn proses o ymgynghori, gan roi ystyriaeth i nifer o awgrymiadau a wnaed yn ystod y broses. Ni chafodd unrhyw wrthwynebiad eu gwneud gan unrhyw un o’r ymgyngoreion arbenigol, yn cynnwys y Swyddog Priffyrdd a Thirlun.

 

Yng ngoleuni’r uchod, byddwn yn gofyn yn barchus fod Aelodau yn cefnogi argymhelliad eich Swyddog ar gyfer cymeradwyaeth yn unol â chanllawiau cenedlaethol ynghyd â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol.’

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Drenewydd Gellifarch, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

 

  • Cafodd y cais cyntaf ei wrthod gan y Pwyllgor Cynllunio Lleol yn 2017 ar sail pryderon tirlun gydag effaith niweidiol ar y tirlun gwledig a phryderon priffyrdd y gallai niweidio diogelwch a chyfleuster defnyddwyr ffordd.

 

  • Roedd y cais gwreiddiol yn rhoi clwyd breswyl arddull drefol gyda thramwyfa gro, tywod a chlai 420 metr o hyd ar draws dau gae. Cafodd ei ddiwygio yn y cais hwn i glwyd amaethyddol safonol, ond mae’r dramwyfa gro, tywod a chlai yn parhau.

 

  • Gwrthodwyd y cais wreiddiol ar sail tirlun a phriffordd. Mae’r asesiad tirlun a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ar gyfer y cais hwn yn dweud fod hyn yn nodwedd amaethyddol mewn tirlun amaethyddol ac y caiff ei ystyried yn dderbyniol mewn termau tirlun a gweledol. Fodd bynnag, mae hyn yn dramwyfa at breswylfa breifat. Mae’n bwysig cadw mewn cof fod adroddiad tirlun yr ymgeisydd hefyd yn dweud fod y safle yn uchel ac yn rhagorol ar ochr tirlun hanesyddol o ran ystyriaethau tirlun.

 

  • Mae adroddiad y swyddog gwreiddiol am yr un dramwyfa gro, tywod a chlai ar gyfer y cais ôl-weithredol yn dweud fod yr Awdurdod Priffyrdd yn ystyried fod y fynedfa a gynigir yn ddiangen ac y bydd yn creu pwynt gwrthdaro diangen ar y briffordd gyhoeddus. Caiff safle’r cais eisoes ei wasanaethu gan fynedfa a thramwyfa addas. Mae’r fynedfa newydd a’r dramwyfa gro, tywod a chlai enfawr yn ddiangen gan fod eisoes fynedfa bresennol fyrrach a gaiff ei rhannu ar Bluebell Farm Lane yn creu mynediad heb fod yn amaethyddol i breswylfa breifat newydd ar draws dau gae mewn cefn gwlad agored yn Old Road, sydd yn gul iawn.

 

  • Ar bedair metr, mae’r dramwyfa gro, tywod a chlai yng nghanol dau gae ar gefn gwlad agored yn lletach na’r llwybr un trac ar gyfer y fynedfa newydd o Old Road.

 

  • Dywedodd adroddiad y swyddog gwreiddiol, yng nghyswllt  y dramwyfa gro, tywod a chlai, nad yw’r datblygiad arfaethedig wedi ei gymhathu’n foddhaol yn y tirlun oherwydd y pellter ar draws sefyllfa tir gwledig agored a’r deunydd a ddefnyddiwyd.

 

  • Nid yw’r trac yn parchu cymeriad yr ardal o amgylch ac mae ganddo effaith niweidiol annerbyniol ar y tirlun drwy osod mynedfa domestig ar draws cae. Nid oes ei angen ychwaith oherwydd fod y fynedfa bresennol ar gael i’w defnyddio.

 

  • Mae’n bwysig ar gyfer pobl leol fod cysondeb mewn gwneud polisi.

 

  • Gofynnodd yr Aelod lleol i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais ar y seiliau y gwrthodwyd y cais gwreiddiol.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Ystyriwyd fod Paragraff 6.1 yr adroddiad yn dod i’r casgliad fod yr holl ddatblygiad angen caniatâd. Fodd bynnag, mynegwyd peth pryder am sut y daethpwyd i’r casgliad hwnnw. Mae Paragraff 6.1 yn gwneud ei bwynt ar faterion amherthnasol, yn rhoi pwysau iddynt ac yn awgrymu na fyddai egwyddor y trac wedi bod yn ystyriaeth sylweddol pe byddai’r broses gymeradwyo flaenorol wedi ei dilyn. Dywedodd Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu y byddai paragraff 6.1 yn cael ei adolygu a dywedodd y dylai’r Pwyllgor Cynllunio ystyried y cais fel y saif ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd yr Aelod lleol grynodeb fel sy’n dilyn:

 

·         Mae’r tirlun yn fater neilltuol oherwydd y dramwyfa wneuthuredig.

 

·         Dyfynnodd yr Aelod lleol o asesiad tirlun yr ymgeisydd.

 

·         Mae un o’r caeau a ystyriwyd yn y cais cynharach tua 30 metr. Mae’r cais hwn yn cyfeirio at drac 420 metr sydd tua pedair metr o led, sy’n lletach na’r ffyrdd sydd o amgylch. Mae hyn wedi’i leoli mewn ardal gyda thirluniau eithriadol.

 

Dywedodd Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu y cafodd y cais ei ystyried gan Swyddog Tirlun yr Awdurdod ac na wnaed unrhyw wrthwynebiad yng nghyswllt y trac na’r effaith ar y tirlun. Argymhelliad y swyddog tirlun yw nad yw’r trac arfaethedig yn ddigon niweidiol i fod yn haeddu gwrthod y cais a bod y fynedfa fel y’i cynlluniwyd yn awr ac y cafodd ei newid hefyd yn welliant. Lliniarwyd yn erbyn y pryderon tirlun a godwyd yng nghyswllt y cais blaenorol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Webb ac eiliodd y Cynghorydd D. Evans fod cais DM/2020/01036 yn cael ei gymeradwyo yn destun i’r ddwy amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol

O blaid cymeradwyo  -           10

Yn erbyn cymeradwyo           -           2

Ymatal                       -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais  DM/2020/01036 yn destun i’r ddau amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: