Agenda item

Cais DM/2020/00875 – Newid defnydd bloc stabl i lety gwyliau hunangynwysedig. Stablau, Church Farm, Lôn Church Cottage, Llanwynell, Devauden.

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn destun i’r naw amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Awgrymodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu y dylai’r Pwyllgor ystyried cymeradwyo y cais gyda’r amod bod cytundeb cyfreithiol Adran 106 hefyd yn cael ei sicrhau i ystyried y safleoedd gwyliau a’u clymu gyda’r deiliad fferm yn Church Farm.

 

Roedd Aelod lleol Devauden yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae’r Aelod lleol yn gyffredinol o blaid arallgyfeirio ffermydd a llety twristiaid lle’n briodol. Fodd bynnag, mae’r cais hwn wedi creu llawer o gynnen.

 

·         Cafodd yr adeilad ei godi yn 1988 a chafodd ei ddisgrifio’n wreiddiol fel stabl. Fodd bynnag, dywedodd yr ymgeisydd na chafodd erioed ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwnnw ond ar gyfer defaid.

 

·         Mae’r ymgeisydd yn awr yn byw yn Devauden sydd yng nghanol eu menter amaethyddol gyda’r safle hwn yn ddarn o dir ar y cyrion.

 

·         Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn 2008 ar gyfer to goleddf newydd. Roedd waliau croen dwbl newydd gydag agoriadau ffenestri a drysau wedi eu codi cyn 2008 sy’n golygu eu bod yn awr yn gyfreithiol hyd yn oed er na wnaed cais am ganiatâd cynllunio bryd hynny.

 

·         Yn 2018 gyda’r waliau â statws cyfreithiol, cynhaliwyd trafodaeth cyn gwneud cais gyda Swyddogion Cynllunio ond ni chyflwynwyd cais bryd hynny.

 

·         Y llynedd cafodd wal ei chodi ar gyfer trin gwartheg ond nid yn y safle lle rhoddwyd caniatâd cynllunio. Ni chafodd y wal ei defnyddio ar gyfer y diben hwnnw. Mae’r wal yn ymestyn 1.9 metr, ar un pwynt, i’r tir cyfagos. Mae’r Aelod lleol yn ystyried na fedrai’r adeilad hwn fod wedi ei wneud yn gyfreithiol pe byddai’r wal wedi cael ei chodi yn y safle y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.

 

·         Cyfeiriodd yr Aelod lleol at Bolisi Cynllunio T2 sy’n cyfeirio at lety ymwelwyr. Wrth edrych ar yr eithriadau i T2, un o’r cwestiynau a ofynnir yw ‘a yw hyn yn adeilad fferm presennol sy’n cael ei ddefnyddio?’ Nid oes t? fferm ar y safle. Mae’n edrych fel adeiladau fferm diffaith. Nid oes adeilad fferm gweithredol ar y safle.

 

·         Darllenodd yr Aelod lleol ran B o Bolisi Cynllunio T2.

 

·         Os yw’r waliau dros 10 oed mae ganddynt statws cyfreithiol. Fodd bynnag nid yw T2 yn dweud y dylid rhoi ystyriaeth i unrhyw beth h?n na 10 mlynedd.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol am ystyriaeth ofalus i’r cais ac os y gwnaed hyn ar gyfer osgoi’r rheoliad  cynllunio.

 

·         Nid oes unrhyw ddyluniad rhesymol yn yr adeilad arfaethedig. Mae’n iwtalitaraidd iawn ac yn anghydnaws mewn termau polisi.

 

·         Cafodd nifer o goed eu cwympo ar ffin y safle yn ddiweddar gan wneud y safle yn amlwg iawn o’r llwybr troed cyfagos.

 

·         Nid yw’r Aelod lleol yn ystyried fod y datblygiad arfaethedig yn addas ar gyfer ei addasu dan Bolisi Cynllunio T2 a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried gwrthod y cais ar y sail hwn.

 

 

·         Mae Swyddogion Priffyrdd wedi ystyried bod y fynedfa yn addas. Fodd bynnag, mae’r fynedfa yn gul iawn a gall fod yn anodd i gerbydau ei defnyddio pan mae’n dywyll. Nid yw’r fynedfa yn addas ar gyfer llety o safon.

 

Roedd y Cynghorydd A. Williams, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Devauden, wedi paratoi recordiad fideo a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ac amlinellwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae Cyngor Cymuned Devauden yn ceisio cydbwyso’r angen i ddod ag amrywiaeth a chyfle i’r gymuned gydag amwynderau i’r gymuned yn gyffredinol. Fodd bynnag, ystyrir fod y cais hwn yn methu cyflawni hynny.

 

·         Mae nifer o wrthwynebiadau cryf gan gymdogion am addasrwydd y datblygiad fel gosodiad gwyliau masnachol ac mae’r Cyngor Cymuned yn cytuno gyda’r gwrthwynebiadau hyn.

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned wedi gweld ceisiadau mewn safle gwell ac wedi eu cynllunio’n well na’r cynnig hwn.

 

·         Mynegwyd pryder am y fynedfa newydd i’r datblygiad arfaethedig a’r drwgdeimlad a achosodd.

 

·         Roedd y Cyngor Cymuned a chymdogion wedi ei wrthwynebu o’r cychwyn cyntaf ond cafodd ei gymeradwyo fel datblygiad a ganiateir.

 

·         Mae’n gul iawn ac yn effeithio ar fynediad i adeiladau cyfagos.

 

·         Ni all ddarparu’n ddiogel ar gyfer y cynnydd mewn traffig a fyddai’n ganlyniad y datblygiad a fyddai hefyd o bosibl yn cymysgu peiriannau fferm gyda phobl ar wyliau.

 

·         Mae’r ymgeisydd wedi ymestyn y terfyn dwyreiniol i dir cyfagos ac wedi gwyro trac mynediad presennol pwysig o’i amgylch heb ganiatâd y perchennog tir.

 

·         Mae Cyngor Cymuned Devauden yn cefnogi’r gwrthwynebiadau i’r cais ac wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais.

 

Roedd Mr Marlow, a wrthwynebai’r cais, wedi paratoi recordiad fideo a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ac amlinellwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Tan yn ddiweddar, roedd y fenter hon yn dyddyn ac dim ond newydd gael ei gysylltu gyda thir ffermio arall yn yr ardal y mae.

 

·         Roedd Church Cottage yn gysylltiedig gyda’r adeiladau a’r caeau hyn ond cafodd ei werthu 20 mlynedd yn ôl, felly nid oes unrhyw berson ar y safle gyda’r adeiladau hyn.  Dim ond bob ychydig o ddyddiau mae rhywun yn ymweld â’r safle.

 

·         Mae’r dyluniad a gynigir yn ddolur llygad ac nid yw’n welliant ar yr hyn sydd yno eisoes.

 

·         Dechreuodd yr adeilad bloc, a ddisgrifir fel adeilad amaethyddol, fel sied groes a gafod ei hail-doi 10 mlynedd yn ôl i greu to goleddf. Gwnaed gwaith arall yn cynnwys adeilad croen dwbl gyda waliau bloc mewnol. Mae ciliau ffenestri domestig tu ôl i’r croen sengl gyda drysau domestig wedi eu gosod. Gosodwyd plymio ar gyfer dau doiled, gan wneud yr adeilad hwn yn fwy o un domestig nag un amaethyddol.

 

·         Mae’r adeilad arall yn floc stabl pren gydag ystafell tac yn gysylltiedig sydd o leiaf 30 mlynedd oed ac mewn cyflwr gwael y byddai’n rhaid ei ddymchwel, ei ail-adeiladu mewn gwaith bloc ar yr un olion ac yna gwneud iddo edrych fel pe bai ganddo gladin pren.

 

·         Mae’r fynedfa a gynigir yn drac cul sy’n rhedeg wrth ochr eiddo y gwrthwynebwr ac i gael ei rannu gyda’r fferm a’r bythynnod gwyliau. Mae hwn yn drac cul gyda mynediad anodd. Pe byddai dau gerbyd yn dod i gwrdd ei gilydd, byddai’n rhaid i un facio 200 metr yn ôl at yr eglwys gan nad oes unrhyw leoedd pasio.

 

·         Yn ddiweddar achosodd cerbyd oedd yn ceisio mynediad i’r lôn ddifrod i wal y gwrthwynebydd a’u llinell gyflenwi oel allanol.

 

·         Yr unig draffig sy’n teithio ar hyd  y trac hwn ar hyn o bryd yw ymwelwyr i eiddo’r gwrthwynebydd neu eiddo eu cymydog.

 

·         Mae mynedfa bresennol a ddefnyddiwyd am 40 mlynedd gerllaw sydd â chlwyd fawr i fuarth y fferm a phorth mawr i safle’r datblygiad. Byddai hyn yn opsiwn gwell pe byddai’n parhau i gael ei ddefnyddio fel fel y fynedfa yn lle’r trac cul.

 

·         Yn ddiweddar, cafodd nifer o goed aeddfed eu cwympo ar hyd y llinell derfyn sy’n golygu y gall y safle gael ei weld o’r llwybr troed cyhoeddus ac o’r ochr arall gellir gweld y safle o Eglwys Llanwynell a chrib Cobblers Plain.

 

·         Mae Marlow Vets yn cyflogi 26 o bobl yn y filfeddyga ac yn gofalu am anifeiliaid o’u cartref felly maent angen mynediad.

 

·         Byddai creu’r anheddau a’r cynnydd mewn traffig a fyddai ar y lon gul yn effeithio’n ddifrifol ar ansawdd bywyd cartref y gwrthwynebydd.

 

Roedd Mr S. Leaver, asiant yr ymgeisydd wedi paratoi recordiad sain a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ac amlinellwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Nid yw hawliau mynediad i’r eiddo a pheidio bod â hawliau cerbyd cyhoeddus yn ystyriaeth sylweddol i’r broses gais, Fodd bynnag, rhoddwyd tystiolaeth yn cadarnhau y caiff y ffordd sy’n arwain at ardal cais terfyn safle llinell goch ei ystyried yn drac gyda hawliau i gerbydau cyhoeddus.

 

·         Mae’r ymgeisydd yn rhedeg busnes ffermio dilys ac wedi gwneud hynny am 40 mlynedd. Caiff y busnes ei redeg dros tua 179 erw o dir amaethyddol a gaiff ei ffermio mewn pedwar bloc. Mae tua 40 erw yn Church Farm ynghyd ag adeilad y cynigir ar gyfer ei addasu ac adeilad mwy ar gyfer da byw a gedwir ar gyfer cadw gwartheg yn y dyfodol.

 

·         Mae’r ymgeisydd hefyd yn gweithredu tenantiaeth busnes fferm dros 75 erw o fferm sy’n eiddo Cyngor Sir Fynwy. Mae’r ymgeisydd hefyd yn ffermio 50 erw arall ar drwyddedau pori.

 

·         Bu Church Farm yn nwylo’r ymgeisydd ers y 1980au a chodwyd yr adeilad y cynigir ei addasu yn 1988.

 

·         Codwyd yr adeilad pren ar gyfer wyna a chafodd ei rannu ar gyfer y defnydd hwnnw gyda wal blociau yn cael ei hychwanegu’n ddiweddarach i roi mwy o le ac i wrthsefyll y tywydd. Defnyddiwyd yr adeilad ar gyfer wyna dros flynyddoedd lawer ond gyda’r busnes ffermio wedi tyfu a newidiadau mewn arferion amaethyddol, mae’r ymgeisydd yn awr yn wyna mewn siedau mwy ymaith o’r safle. Ni wneir fawr o ddefnydd o’r adeilad ar hyn o bryd a chaiff ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer offer a bwyd anifeiliaid.

 

·         Y bwriad tu ôl i’r cynnig yw addasu’r adeilad na wneir fawr o ddefnydd ohono ar hyn o bryd i greu ffrwd incwm arallgyfeiro ychwanegol ar gyfer y fferm. Mae ffermydd yn gorfod arallgyfeirio er mwyn ysgogi refeniw ychwanegol.

 

·         Er y bydd y busnes ffermio yn parhau i fod y busnes creiddiol, bydd darparu incwm safle gwyliau o’r adeilad hwn yn rhoi sefydlogrwydd o ran llif arian ar gyfer y busnes mewn cyfnod economaidd cythryblus.

 

·         Gofynnodd asiant yr ymgeisydd i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r sylwadau a gafwyd, trafodwyd y cais yn faith a chodwyd nifer o faterion yn ymwneud â dyluniad y cynnig a mynediad i’r safle.

 

Yn dilyn y drafodaeth, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Harris ein bod yn gohirio ystyried cais DM/2020/00875 i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i alluogi swyddogion i ymchwilio newidiadau i’r dyluniad gydag asiant yr ymgeisydd i alluogi’r adeilad i gael mwy o gymeriad, i egluro os y gellir defnyddio’r fynedfa arall i’r dwyrain yn lle’r fynedfa a gynigiwyd; gofyn am gynllun gosodiad y safle yn dangos darpariaeth parcio; ymchwilio ardal storfa sbwriel a dull o locio.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid gohirio-           11

Yn erbyn gohirio          -           2

Ymatal             -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried cais rhif DM/2020/00875 i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i alluogi swyddogion i ymchwilio newidiadau dylunio gydag asiant yr ymgeisydd i alluogi’r adeilad i gael mwy o gymeriad, i egluro p’un ai y gellir defnyddio’r fynedfa arall i’r dwyrain yn lle’r fynedfa a gynigiwyd, gofyn am gynllun gosodiad safle yn dangos darpariaeth parcio, ymchwilio ardal storfa sbwriel a dull o locio.

 

Dogfennau ategol: