Skip to Main Content

Agenda item

Cais DM/2020/00712 – Caniatâd cynllunio ôl-weithredol ar gyfer newid mynediad cerbyd. Cae (2140) Lôn Waelod, Mynyddbach, Cas-gwent, NP16 6BU.

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei chymeradwyo gyda’r pump amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd y Cynghorydd I. Martin, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Drenewydd Gellifarch wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn amlinellu gwrthwynebiadau’r cyngor cymuned i’r cais, a gafodd ei ddarllen i’r Pwyllgor Cynllunio gan y Pennaeth Cynllunio, fel sy’n dilyn:

 

‘Yn ein hymateb ar 7 Awst tynnodd Cyngor Cymuned Drenewydd Gellifarch sylw at bedwar mater sydd angen eu diweddaru:

 

1.    Diogelwch priffordd. Rydym yn parhau i fod yn bryderus, ac felly o leiaf 6 cymydog, fod lledaenu’r fynedfa yn golygu y gallai fod mwy o ddefnydd yn cynnwys cerbydau mwy a hirach a/neu beiriannau angen cylch troi llydan a chyflymder araf iawn pan fyddant yn gadael y safle. Mae hyn ar drofa ddall ac ar gyffordd y B4523 gyda Lôn Waelod gan felly greu perygl diogelwch ffordd sylweddol i ddefnyddwyr ffyrdd eraill yn cynnwys y llu o seiclwyr a beiciau modur. Rydym yn cadw ein gwrthwynebiad i’r cais ar sail diogelwch priffyrdd.

2.    Llwybr troed 17. Ar ôl cyfeirio at y mapiau yn dangos y llwybr troed a ddiffiniwyd yn gyfreithiol, sylwn fod llwybr troed 17 yn adawedig (“Llwybr Troed Gadawedig”) drwy’r safle. Mae’r cyhoedd wedi defnyddio llwybr troed sydd wedi ei sefydlu ond heb ei gofnodi am o leiaf 40 mlynedd (‘Llwybr Troed Arall’). Deallwn i Gyngor Sir Fynwy yn y 1980au godi llwybr troed, stepiau ac arwydd ar gyfer y Llwybr Troed Arall.

 

Cytunwn gyda’r Swyddog Llwybrau Troed yn ei adroddiad ar 30 Hydref na fedrir defnyddio’r Llwybr Troed Gadawedig ar yr aliniad a gofnodwyd yn gyfreithiol ar ei gyfer.

 

Deallwn fod gan y Swyddog Llwybrau Troed yn awr bryderon am lwybr y llwybr troed ac nad yw adroddiad y Swyddog Cynllunio nad oes ganddo unrhyw wrthwynebiad bellach yn gywir.

 

Byddai’r gymuned leol yn feirniadol iawn o unrhyw gynnig i ailagor y Llwybr Troed Gadawedig oherwydd ei effaith negyddol ar yr amgylchedd a’i fod yn achosi bygythiad i ddiogelwch gan y byddai’n dod allan ar y B4253 ar y drofa ddall a nodwyd uchod. Mae’r graddiant anffafriol ar waelod Lôn Waelod yn achosi i draffig sy’n teithio yn y ddau gyfeiriad i ddefnyddio’r ochr honno o’r ffordd. Mae preswylwyr wedi sôn am beryglon cerddwyr yn croesi’r rhyngdoriad neilltuol hwn. Mae’r Llwybr Troed Amgen mewn lleoliad mwy diogel.

 

Mae angen eglurhad ar gynllun diwygiedig yr ymgeisydd gan nad yw’n dangos fod y pyst ffens a osodwyd yn ymestyn tu hwnt i orchudd y goeden dderw ac yn anghywir drwy beidio dilyn y Llwybr Troed Gadawedig.

 

Mae canllawiau Llwybr Troed a Phrotocolau Cyngor Sir Fynwy yn ei gwneud yn glir y gall yr Awdurdod Cynllunio ystyried bod angen datrys bodolaeth y Llwybr Troed Arall mewn cysylltiad gydag ystyriaeth y cais cynllunio. Ystyriwn y dylai’r cais gael ei wrthod neu ohirio nes caiff llwybr y llwybr troed ei ddatrys.

 

Gan fod yr ymgeisydd yn bwriadu cadw anifeiliaid ar y safle yna os yw’r Pwyllgor o blaid rhoi caniatâd, byddai angen i ni ofyn am i’r Llwybr Troed Arall gael ei ddiogelu a’i ffensio er diogelwch y cyhoedd.

 

3.    Gorchmynion cadwraeth coed. Rydym yn cymeradwyo gofynion safle y Swyddog Cadwraeth Coed.

 

4.    Tynnu gwrychoedd. Os yw’r Pwyllgor o blaid rhoi caniatâd, byddai angen i ni ofyn am i’r gwrychoedd gael eu hailblannu a’i meithrin a chynnwys argymhellion y Swyddog Cadwraeth Coed fel amodau.

 

Ystyriwn y dylai’r cais gael ei wrthod ar y seiliau uchod neu fan leiaf oll ei ohirio nes caiff llwybr y llwybr troed ei ddatrys.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Drenewydd Gellifarch, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

 

·         Tan yn ddiweddar roedd clwyd amaethyddol safonol na wnaed fawr o ddefnydd ohoni ar y cae tu allan i ffin y datblygiad ar gyfer Drenewydd Gellifarch ac yn agos at Wayside House ar waelod Lôn Waelod.

 

·         Cafodd y fynedfa ei dyblu o ran maint ar benwythnos g?yl y banc gyda gwaith tyllu i dynnu gwrychoedd a phentyrru cerrig wrth ymyl coed a warchodir.

 

·         Mae hyn yn gais ôl-weithredol yn dilyn cais i’r fynedfa a gwrychoedd gwreiddiol gael eu hadfer.

 

·         Gobeithiai’r Aelod lleol y byddai gweithredu i sicrhau y byddai’r glwyd a’r gwrychoedd a symudwyd yn cael eu hadfer neu fod y swyddog yn argymell gwrthod y cais oherwydd ei leoliad peryglus ar y briffordd, fel y mae mewn ceisiadau mynediad eraill yn agos at drofeydd dall ar y B4235.

 

·         Mae’r fynedfa yn agos i allfan a mynedfa Lôn Waelod. Mae gostyngiad cyflym ac mae hyweledd Lôn Waelod yn gyfyngedig ac wedi’i rwystro i’r B4235. Mae uchder a chambr y ffordd yn golygu ei bod yn anodd gadael Lôn Waelod i’r B4235 heb fynd i ochr arall y ffordd. Mae’r symudiad hwn yn anodd ac yn beryglus gyda’r ongl a’r gostyngiad i’r B4235.

 

·         Yn ychwanegol mae’r safle yn agos at drofa ddall sydyn ac mewn ardal a nodir fel bod yn beryglus oherwydd y llinellau perygl dwbl dim pasio.

 

·         Mae hefyd yn ffordd y gwyddys y caiff ei defnyddio gan feiciau modur cyflym.

 

·         Gall un o’r dadleuon priffyrdd fod yn seiliedig ar ‘dim mwy o ddefnydd nag ar hyn o bryd’. Fodd bynnag mae’r adroddiad yn cyfeirio at ddefnydd dyddiol disgwyliedig y safle, fydd yn cynyddu ei defnydd gan 100% ar fynedfa beryglus iawn. Mae’r Adran Priffyrdd wedi ceisio gwella’r sefyllfa drwy ddweud y dylai’r glwyd gael ei gosod o leiaf 12 metr o’r briffordd. Mae cynllun yr ymgeisydd yn dweud fod hyn 11 metr yn ôl o’r ffordd ond nid oes amod priffordd nad oes clwyd gan 13 metr yn ôl i helpu gyda llif rhydd traffig. Dylid nodi hyn fel amod clwyd priffordd.

 

·         Mae angen amod y dylai clwyd y cae gael ei gosod o leiaf 12 metr yn ôl (13 metr yn y cynlluniau o ymyl y briffordd gyffiniol, ac y caiff ei adeiladu i fod yn amhosibl ei hagor ar i allan tuag at y briffordd). Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir symud unrhyw gerbydau sy’n gwasanaethu’r safle o’r briffordd pan gaiff clwyd y cae ei hagor a’i chau er budd diogelwch priffordd a llif rhydd traffig ar hyd y B4235 yn unol â pholisi MV1 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

·         Aeth y cynllun gwreiddiol yn ôl i ben draw y cae gan mai dyma lle’r oedd y dramwyfa gerrig rhydd eisoes wedi eu gosod. Mae angen cwtogi ychydig ar hyn i osgoi difrod i goeden dderw. Fodd bynnag, gan y bydd blwch ceffylau 9.2 metr yn mynd i’r cae, yna bydd angen cylch troi, oedd yn y cynllun gwreiddiol ond a gafodd ei dynnu o’r cynllun diwygiedig. Mae angen cylch troi i atal blwch ceffylau hir rhag gorfod bacio i’r ffordd brysur a pheryglus a galluogi’r cerbyd i adael y safle mewn gêr ymlaen fel ag yn y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cais.

 

·         Mae’r cynllun yn dangos llwybr troed 17. Fodd bynnag, ni chafodd y llwybr troed gadawedig hwn ei ddefnyddio ers y 1980au. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi codi camfa ac arwydd ar gyfer llwybr diogelach i ganol y cae ac mae pobl leol wedi eu defnyddio ers y 1980au. Mae hwn yn lwybr troed a gaiff ei ddefnyddio’n gyson a byddai’r gymuned yn hoffi parhau ei ddefnyddio fel llwybr mwy diogel. Cafodd y llwybr troed presennol ei wyro o leiaf 35 mlynedd yn ôl.

 

·         Yn ôl gwybodaeth leol, roedd yr ymgeisydd yn berchennog Wayside House a’r cae tua 40 mlynedd yn ôl. Cafodd yr ardd ei hymestyn i’r cau gyda gwrych a ffens o amgylch Wayside House. Sefydlwyd hawl tramwy cyhoeddus arall diogel yng nghanol y cae o leiaf 35 mlynedd yn ôl.

 

·         Gwerthwyd Wayside House i’w berchennog presennol tua 30 mlynedd yn ôl. Mae’r Aelod lleol yn credu, oherwydd gweithredoedd Cyngor Sir Fynwy, fod dyletswydd foesol gref os nad gyfreithiol i hyn gael ei gadarnhau gan orchymyn gwyro llwybr troed fel rhan o’r cais.

 

·         Bydd pryderon sylweddol yn y gymuned os na chaiff y llwybr presennol ei gadw ac mae’n ystyried y dylai’r Pwyllgor Cynllunio ystyried hyn.

 

·         Hoffai’r Aelod lleol i’r cais gael ei ohirio ar sail cynllunio gan nad yw i raddfa yn iawn nac yn fanwl gywir. Roedd cylch troi yng nghynllun gwreiddiol yr ymgeisydd nad yw yno mwyach. Mae angen cynnwys hyn ar sail diogelwch priffordd. Ar yr un pryd, dylid cyflwyno gorchymyn llwybr troed i wyro’r llwybr troed yn ei ddefnydd presennol.

 

·         Byddai’n well pe cedwid y cynlluniau gwreiddiol a gytunwyd gan yr ymgeisydd gyda chylch troi, ond ychydig yn fyrrach, os yn bosibl i osgoi’r problemau gyda’r coed gydag amod y dylai gorchymyn y llwybr troed gynnwys y llwybr gwyro a’r llwybr a ddefnyddir.

 

·         Ni chaiff Llwybr Troed ei ddefnyddio ac mae’n dod i’r cae mewn lleoliad anniogel ar waelod Lôn Waelod. Os na chaiff y cylchoedd troi eu dynodi a’u cynllunio, yna gallai troi effeithio ar y llwybr presennol i gerddwyr.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gohirio y cais.

 

·         Mae ystyriaeth llwybrau troed yn ystyriaeth sylweddol mewn materion cynllunio.

 

·         Pe byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn tueddu bod o blaid peidio gohirio’r cais, yna gofynnodd yr Aelod lleol i ystyried gwrthod y cais ar sail diogelwch priffordd.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad am y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Credai Aelod fod angen cyfeirio at y Map Diffiniol er mwyn i’r llwybr troed gael ei ystyried yn iawn yn ei gyflwr presennol gyda’r Adran Hawliau Tramwy cyn penderfynu ar y cais cynllunio.

 

·         Ystyrir bod y cais yn welliant ar y safle.

 

·         Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu y Pwyllgor, yn nhermau hawliau tramwy cyhoeddus, ei fod yn ystyriaeth sylweddol i ryw raddau ond bod angen sefydlu os yw’r datblygiad yn effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus. Mae’r llinell diffiniol yr hawl tramwy yn rhedeg drwy ardd y cymydog ac ar draws y cae ond nid yw’r cynnig hwn yn effeithio arno hyd yn oed pan gafodd ei ymestyn gan 13 metr gyda’r clwydi. Fel y’i cynigir ar hyn o bryd, heb y llwybr mynediad estynedig a’r cylch troi, nid oes unrhyw effaith ar y llwybr diffiniol. Lle mae ganddo gyfeirnodau dros dro, am flynyddoedd lawer, nid yw’r datblygiad hwn wedi effeithio ar hynny ychwaith.

 

·         Dywedodd Rheolwr Datblygu Priffyrdd fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno mân newidiadau i wella diogelwch mynd i mewn ac allan o’r cau.  Byddi gosod y clwydi 12 metr yn ôl yn galluogi pob cerbyd amaethyddol i agor y clwydi a pheidio aros ar y briffordd gyhoeddus. Mae hyn yn welliant sylweddol o ran diogelwch priffordd. Mae hefyd yn galluogi gadael y safle a chau’r glwyd sy’n welliant diogelwch ar gyfer da byw yn y cae. Bydd darparu barclod gadarn o bum metr yn gostwng yn fawr y tebygrwydd y caiff unrhyw ddeunydd rhydd a llaid o’r cae eu llusgo i’r briffordd gyhoeddus. Nid oes gan yr Adran Priffyrdd unrhyw seiliau dros wrthwynebu’r cais.

 

Rhoddodd yr Aelod lleol grynodeb fel sy’n dilyn:

 

·         Roedd y syniad cyntaf a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ddatrysiad gwell, h.y. y cynllun gyda’r cylch troi. Mae hyn eisoes yn ei le ond gellid cwtogi rhywfaint arno i osgoi effeithio ar y goeden dderw. Felly, gwnaed cais i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gohirio’r cais i adolygu’r opsiwn. Ystyriwyd y gellid hefyd ddatrys y broblem gyda’r llwybr tro ar yr un pryd.

 

Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu y Pwyllgor Cynllunio y cafodd y cynllun ei negodi i eithrio’r pen troi. Mae’r Swyddogion Cynllunio yn cymeradwyo’r cynllun i’r Pwyllgor Cynllunio yn unol â hynny. Mae cwmpas i drin a throi cerbydau o amgylch yn y cae a’i adael mewn gêr ymlaen. Caiff y clwydi eu gosod 13 metr yn ôl i’r safle.

 

Yng nghyswllt hawl tramwy cyhoeddus, byddai’r mater yn gyfrifoldeb y Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn yr Adran Cefn Gwlad. Mae’r Tîm yn gwybod am y broblem. Fodd bynnag, nid yw’r hawl tramwy yn effeithio ar y cais.

 

Nid oes caniatâd am yr ardal droi bresennol ac nid yw’n rhan o’r cynllun. Felly mae angen i amod 2 yn yr adroddiad i’w adfer gyda glaswellt i fod yn rhan o’r cae.

 

Roedd yr Aelod lleol wedi cynnig bod y Pwyllgor Cynllunio yn gohirio ystyried y cais ar seiliau cynllunio nad yw i raddfa nac yn fanwl gywir. Fodd bynnag, ni chafodd hyn ei eilio.

 

Mewn ymateb i amod ychwanegol a godwyd gan Aelod lleol, sef:

 

“Dylid gosod clwyd y cae yn ôl gan o leiaf 12 metr (13 metr yn y cynlluniau o ymyl y briffordd gyffiniol a chaiff ei adeiladu fel na fedrir ei agor ar i allan tuag at y briffordd). Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff unrhyw gerbydau sy’n gwasanaethu’r safle eu symud o’r briffordd wrth agor a chau clwyd y cae er budd diogelwch priffyrdd a llif rhydd traffig ar hyd y B4235 yn unol gyda pholisi MVI y Cynllun Datblygu Lleol.”

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu y gellid cynnwys yr amod hon.

 

Roedd yr Aelod lleol wedi cynnig ein bod yn gwrthod y cais ar sail diogelwch priffordd. Fodd bynnag, ni chafodd hyn ei eilio.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor bleidleisio ar gymeradwyo cais DM/2020/00712 yn destun i’r pum amod a amlinellir yn yr adroddiad a gydag amod ychwanegol, fel sy’n dilyn:

 

Dylid gosod clwyd y cae yn ôl o leiaf 12 metr (13 metr yn y cynlluniau o ymyl y briffordd gyffiniol a chaiff ei adeiladu fel na fedrir ei agor ar i allan tuag at y briffordd). Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff unrhyw gerbydau sy’n gwasanaethu’r safle eu symud o’r briffordd wrth agor a chau clwyd y cae er budd diogelwch priffyrdd a llif rhydd traffig ar hyd y B4235 yn unol gyda pholisi MVI y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo        -           10

Yn erbyn cymeradwyo     -           1

Ymatal                               -           1

 

Cariwyd y cynnig..

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2020/00712 gyda’r pum amod a amlinellir yn yr adroddiad a gydag amod ychwanegol fel sy’n dilyn:

 

Dylid gosod clwyd y cae yn ôl gan o leiaf 12 metr 13 metr yn y cynlluniau o ymyl y briffordd gyffiniol a chaiff ei adeiladu fel na fedrir ei agor ar i allan tuag at y briffyrdd). Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff unrhyw gerbydau sy’n gwasanaethu’r safle eu symud o’r briffordd wrth agor a chau clwyd y cae er budd diogelwch priffyrdd a llif rhydd traffig ar hyd y B4235 yn unol â pholisi MVI y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Dogfennau ategol: