Skip to Main Content

Agenda item

Cais DM/2018/00757 – Cynnig i newid defnydd hen reilffordd, a gaiff hefyd ei defnyddio ar hyn o bryd fel mynediad fferm, i drac fferm a thrac seiclo/llwybr troed defnydd cymysg. Bydd angen clirio peth tyfiant, deunydd wyneb a gosod wyneb llwybr a chodi ffens mewn rhannau i wahanu traffig fferm o seiclwyr/cerddwyr. Hen linell rheilffordd, Woodside, Brynbuga i dir i’r gorllewin o safle Coleg Gwent, Monkswood.

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn destun i’r 10 amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mynychodd yr Aelod lleol dros Lanbadog y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

  • Mae potensial yn y cynnig ond mae rhai problemau.

 

  • Mae rhan o’r llwybr yn mynd ar hyd arglawdd a gallai fod problemau strwythurol yn ymwneud â phont.

 

  • Caiff y fynedfa beryglus ar draws yr A472 ei chydnabod a gallai mynd i’r afael â’r mater hwn fod o fudd i breswylwyr Woodside yng nghyswllt cyflymder traffig.

 

  • Mae’r llwybr yn croesi fferm waith gyda gyrr o 200 o wartheg a gaiff eu symud yn rheolaidd ar hyd ac ar draws y llwybr.

 

  • Mae angen i wyneb y trac gael ei adeiladu’n dda i sefyll lan i’w defnydd nhw a defnyddwyr eraill.

 

  • Mynegwyd pryder am fater defnyddwyr beiciau a cherddwyr yn dod i gysylltiad gyda gwartheg a pheiriannau fferm ar hyd y llwybr.

 

  • Mae’n llwybr hamdden.

 

  • Mynegwyd pryder am atebolrwydd pe byddai aelod o’r cyhoedd yn cael ei anafu ar ôl dod i gysylltiad gyda gwartheg/peiriannau fferm tra’n teithio ar hyd y llwybr.

 

  • Mae rhan olaf y llwybr ar draws caeau agored ger y ganolfan farchogaeth. Bydd ceffylau yn y cae o bryd i’w gilydd a mynegwyd pryder am aelodau o’r cyhoedd yn dod i gysylltiad â nhw. Mae hefyd bryder am y potensial i glwydi gael eu gadael ar agor yn galluogi da byw i adael y cae.

 

  • Byddai angen ystyried ffens ar draws y cae hwn i atal cyswllt rhwng da byw ac aelodau o’r cyhoedd.

 

  • Gallai mynd drwy’r ganolfan farchogaeth fod yn llwybr arall ar gyfer y fynedfa.

 

  • Mynegwyd consyrn y bydd adran o’r llwybr yn rhedeg yn agos at gartrefi lleol ac ystyriwyd bod hynny yn tresmasu ar y preswylwyr hyn. Dylid ystyried llwybr arall ar y sail hwn. Dylai’r budd dynol gael ei gymryd gymaint o ddifri â’r mater amgylcheddol gan yr effeithir ar amwynder preswyl.

 

  • Mynegwyd consyrn y bydd beicwyr modur yn gwaethygu lefelau s?n.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae ffermwyr lleol wedi mynegi pryder am y cynnig a sut y byddant yn ymdopi pan fydd y llwybr seiclo yn weithredol. Mae angen trafod gyda’r ffermwr tenant.

 

·         Hysbysodd Rheolwr Tîm Ardal Datblygu Rheoli y Pwyllgor fod mater rhwymedigaeth yn disgyn tu allan i’r broses Cynllunio. Byddai angen cyfeirio unrhyw bryderon a godid at y Rheolwr Prosiect ar gyfer y cais. Daw ymgysylltu gyda’r ffermwr a phreswylwyr lleol o fewn amodau a byddai’n briodol cynnal ymgynghoriad am y mannau lloches ac archwiliadau diogelwch, yn ogystal â’r cynigion sgrinio ger y ddau gymydog a ddynodwyd. Rhagwelid y gellid sicrhau datrysiad rhesymol drwy amodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliodd y Cynghorydd Sir M. Feakins i gymeradwyo cais DM/2018/00757 gyda’r 10 amod a amlinellir yn yr adroddiad. Byddir yn gofyn i’r Rheolwr Prosiect gydlynu gyda’r ffermwyr tenant ar hyd y llwybr i helpu rhoi manylion y cynllun fel mae’n effeithio ar ddefnydd y fferm.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid cymeradwyo          -    14

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Ymatal                                    -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2018/00757 yn destun i’r 10 amod a amlinellir yn yr adroddiad. Byddir yn gofyn i’r Rheolwr Prosiect gydlynu gyda ffermwyr tenant sy’n defnyddio’r tir ar hyd y llwybr i helpu rhoi manylion y cynllun fel mae’n effeithio ar ddefnydd fferm.

 

Dogfennau ategol: