Agenda item

Craffu cyn penderfynu ar y Gwasanaeth Gwastraff Gardd.

Cofnodion:

Yn dilyn cyflwyniad fideo o ymatebion preswylwyr Sir Fynwy, cyflwynodd y swyddog Laura Carter yr adroddiad.

 

Her:

 

Mae cynnydd o £18 i £35 yn 94% ac yn eithafol iawn. Pa fath o ostyngiad o ran cwsmeriaid a ddisgwylir ar gyfer y gwasanaeth, o ystyried cynnydd mor sylweddol? A ydym yn ceisio cael gwared â’r gwasanaeth ar bwrpas?

Rydym wedi pwysleisio heddiw fod bwlch o ran y cyllid, ac rydym wedi gweithio allan y swm y mae angen i ni ei godi er mwyn cau’r bwlch. Yr argymhelliad heddiw yw ystyried a chymeradwyo’r taliad a godir. O heddiw ymlaen, gobeithiwn y bydd y syniad o daliad yn cael ei gytuno, er mwyn ein galluogi i fynd â’r penderfyniad i’r cabinet. Nid yw’r adroddiad yn awgrymu y dylid codi’r taliad llawn – rydym yn gofyn i’r Pwyllgor Dethol, heddiw, wneud argymhelliad ar y gost.

 

Mae’r adroddiad yn nodi bod nifer o awdurdodau’n defnyddio’r gwasanaeth ailgylchu, ac yn ei gadw’n rhad ac am ddim, er mwyn cadw eu targedau ailgylchu’n uchel. Sut y bydd cynnydd mor sylweddol yn ein helpu yn hyn o beth?

 

Ydy, mae cynghorau yn rhoi cymhorthdal i gynnal y gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Y sefyllfa y mae rhai yn ei wynebu yw na fyddent yn cwrdd â’u targedau heb wneud hynny; nid yw Sir Fynwy yn y sefyllfa honno eto, roeddem yn agos iawn at gyrraedd y targed o 65% y llynedd. Mae hyn yn peri pryder. Caiff 8% o’n gwastraff gardd ei gasglu ar stepen y drws; rydym o’r farn, hyd yn oed pe byddai hyn yn gostwng, byddai’r rhan fwyaf o’r gwastraff gardd yn cael ei gyflwyno i’n CAGC – felly byddai’n cael ei gynnwys yn ein cyfraddau ailgylchu o hyd, ond mewn ffordd wahanol.

O ran gwaith llaw a chriwiau, onid oes ystyriaeth wedi ei roi i’r undebau?

Mae ein Rheolwr Gweithrediadau mewn cyswllt agos gyda’r undebau, ac mae wedi trafod y materion gyda hwy.

 

Pam fod y newidiadau yn digwydd nawr? Mae nifer o gamau wedi eu cymryd o ran newidiadau i fagiau – pam na chyflwynwyd biniau ag olwynion arnynt yn gynt, yn enwedig o ystyried eu bod yn cael eu defnyddio’n barod gan awdurdodau eraill?

 

Rydym wedi bod yn trafod symud at finiau ag olwynion arnynt ers peth amser, o safbwynt codi a chario. Nododd adroddiad AD diweddar mai anafiadau cyhyrol-ysgerbydol yw’r math o salwch sy’n effeithio fwyaf ar griwiau. Rydym angen caffael cerbydau: fe ddylai’r cerbydau 2012 sydd gennym fod wedi eu disodli’n barod, ac rydym yn cael problemau mawr gyda’r cerbydau yma. Mae llogi cerbydau’n ddrud iawn, felly nid yw’n opsiwn. Mae gwastraff yn wynebu pwysau aruthrol o ran cyllideb yn ystod y flwyddyn, felly gofynnwyd i ni edrych am ffyrdd o’u lleihau.

 

Mae’r adroddiad yn crybwyll y posibilrwydd y gallai cwmni o’r Fenni gymryd y gwastraff gardd – a fyddant yn talu am hyn, neu a ydym yn ei basio ymlaen iddynt am ddim?

 

Gan Abergavenny Garden Waste mae’r cytundeb i droi gwastraff gardd Sir Fynwy’n gompost, ac rydym yn talu swm benodol iddynt am bob tunnell. Nid oes unrhyw incwm yn dod yn ôl.

 

Mae’r adroddiad yn crybwyll y gallai swyddi ddod i ben neu y gallai staff gael eu hail leoli – i ble y byddai’r gweithwyr yn cael eu hail leoli? A yw’r trafodaethau yma wedi digwydd?

 

Byddai casglu biniau bob pythefnos yn golygu y byddai angen ail leoli un criw sy’n casglu gwastraff gardd ar hyn o bryd. Y flwyddyn nesaf, rydym yn cyflwyno bagiau coch a phorffor y gellir eu defnyddio eto, a bydd angen criw ychwanegol ar gyfer y y gwaith yma. Mae ein llwythwyr yn cael eu cyflogi fel llwythwyr, p’unai eu bod yn llwytho gwastraff gardd, ysbwriel neu ailgylchu – yn syml, byddent yn symud i rownd wahanol.

 

Beth yw’r rhesymeg dros gasglu bob dwy wythnos – oni fydd hyn yn gor-lwytho cerbydau?

 

Beth bynnag fo penderfyniad y Cyngor, mae angen i ni gaffael am gerbydau ar unwaith. Os ydym yn parhau gyda bagiau y gellir eu defnyddio eto, bydd angen i ni gaffael cerbydau sy’n debyg iawn i’r rhai sydd gennym ar hyn o bryd; os mai’r penderfyniad yw casglu biniau bob pythefnos, yna bydd arnom angen cerbydau sydd â liftiau arbenigol er mwyn ein galluogi i gasglu’n gyflymach ac yn fwy effeithiol. Byddai’r pwysau ar gyfer casgliadau bob pythefnos yn gymharol gyda’r pwysau ar hyn o bryd. Byddai maint y rownd yn cael ei lleihau, gan y byddem yn cymryd mwy o gapasiti o bob cartref.

 

A yw biniau ag olwynion arnynt 120L wedi cael eu hystyried, fel sy’n cael eu defnyddio ym Mhowys, am y gallai’r rhain fod yn haws i’w symud pan fyddant yn llawn.

 

Trafodom hyn gyda Thorfaen y bore ma, gan mai dyma y maent yn ei gynnig i ddinasyddion na all ymdopi â bin 240L. Rydym ni, ar y llaw arall, wedi cynnig bag y gellir ei ddefnyddio eto. Mae’n rhywbeth y gallem edrych arno, ond byddai’r taliad am gasglu yn gorfod aros yr yn fath a’r taliad am fin 240L er mwyn i’r cynnig weithio’n ariannol.

O ran casglu â chymorth, beth yw’r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys fesul achos?

 

Pe byddai rhywun yn gwneud cais am gasglu â chymorth, byddai un o’n tîm Addysg Gwastraff unai’n ffonio neu’n ymweld â’r unigolyn, er mwyn eu hasesu yn erbyn meini prawf amrywiol. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys ‘a yw’r ymgeisydd yn byw gyda rhywun a allai roi’r bin allan drostynt?’, ‘pa mor bell y bydd angen i’n criwiau deithio er mwyn gwneud casgliad â chymorth’, ac ati

 

Gellid dadlau y byddai bin ag olwynion arno yn haws i’w lanhau na’r bagiau presennol.

 

Gallem gynnig bag y gellir ei ddefnyddio eto i unrhyw un sy’n teimlo na allant lanhau eu bin yn ddigonol.

 

A oes modd ein sicrhau y bydd hawl gan y rheiny sy’n byw mewn tai teras, neu sydd â stepiau neu anawsterau eraill, gadw eu bagiau brown?

Oes, os yw aelodau’r cyhoedd yn byw mewn t? teras, ac nad oes man storio byddwn yn cynnig bagiau y gellir eu hail-ddefnyddio sy’n gyfwerth â’r litrau mewn biniau.

 

A ellir defnyddio’r cerbydau newydd i gasglu biniau ag olwynion arnynt yn ogystal â bagiau? A oes modd i’r cyhoedd gael dewis?

 

Na, ni fyddai’r lifftiau arbenigol yn addas ar gyfer llwytho bagiau un ar ôl y llall. Mae swyddogion wedi trafod yr opsiwn o roi dewis i’r preswylwyr. Ond pan edrychwyd ar hyn, gwelwyd na fyddai modd i ni gaffael y lifftiau arbenigol, a byddai’n rhaid i ni barhau gyda’r gwasanaeth gan ddefnyddio’r lifftiau bar ‘tuck under’. Byddai hyn yn gwthio ein costau casglu yn ôl i fyny i’r un lle ac yr ydym nawr, sef £660,000. Drwy gynnig bagiau i dai teras, neu i’r rheiny na all ymdopi â bin, credwn y gallwn gynnig nifer fechan o fagiau i’r cwsmeriaid rheiny; fwy na thebyg, byddem yn gwneud rownd ar ddiwrnod gwahanol, gan ddefnyddio cerbyd gwahanol heb lifft. Ond nid ydym yn meddwl y gallwn roi dewis i bobl o ran defnyddio unai bin neu fag.

 

Beth fyddai’r gost i’r rheiny sy’n gallu parhau i ddefnyddio bag?

 

Yn yr adroddiad, rydym yn cynnig fod yr un pris yn cael ei godi ar gyfer bin ag olwynion arno a’r litrau cyfwerth mewn bagiau. Felly y gost fyddai £35 am un bin neu dri bag, bob pythefnos.

 

A oes modd rhoi’r opsiwn i breswylwyr brynu bagiau ychwanegol ar gyfer eu gwaith gardd ee ar gyfer y rheiny sydd â thir anwastad sydd angen cario eu chwyn i’r bin? 

 

Unwaith y byddwn wedi cyrraedd y pwynt o ran preswylwyr gyda thir anwastad neu tramwyfeydd hir, mae’n anodd iawn mesur, er mwyn cytuno/anghytuno. Ar y pwynt yma, mae’n debygol na fyddai modd darparu’r gwasanaeth. Pe byddem yn rhoi dewis i bobl, ac yn diweddu gyda gormod o fagiau y gellir eu defnyddio eto, ni fyddai modd i ni eu rheoli o fewn ein rowndiau presennol, ac o bosib, byddai hyn yn arwain at gostau ychwanegol o ran criwiau a cherbydau.

 

Sylwadau pellach y Cynghorwyr:

Y Cynghorydd Batrouni: Roeddwn o dan yr argraff bod y cynnydd o 94% yn cael ei argymell oherwydd yn Atodiad 4 mae’n dweud ‘Cynigiodd Sir Fynwy newid a chost’ Os nad dyma’r bwriad penodol, mae angen eglurder. Os mai’r gwir reswm dros y newid yw pwysau o ran costau, rwy’n teimlo bod angen datgan hynny’n glir. Os oes ymgynghoriad wedi bod gyda’r undebau, mae angen i’r adroddiad adlewyrchu hynny. Hoffwn wybod beth yw’r goblygiadau posib o ran gostyngiad yn y defnyddwyr gwasanaeth, a yw’r cynnydd yn gynnydd o 94% neu lai, ac fe hoffwn i’r pwyllgor weld yr adroddiad AD sy’n cyfeirio at anafiadau ‘cyhyrol-ysgerbydol’.

 

Y Cynghorydd Pratt: Yr hyn sy’n cael ei gynnig sy’n rhoi’r gwerth am arian mwyaf i’n cwsmeriaid, ac i ni o ran parhau gyda’r gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ein cwsmeriaid ac mae’n rhaid i ni gofio nad yw’n un statudol – gan nad yw’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud, mae angen i ni feddwl am faint o gymhorthdal yr ydym yn fodlon ei roi i’w gynnal. Mae llawer o breswylwyr nad ydynt yn defnyddio’r gwasanaeth (mae ganddynt ardd fechan, neu dim gardd o gwbwl), felly mae angen i ni ystyried a fyddent yn hapus i roi cymhorthdal er mwyn cynnal y gwasanaeth i eraill. Ydym, rydym yn talu am wasanaethau nad ydynt yn cael eu defnyddio gan bawb, ond mae’r rhain yn dueddol o fod yn orfodol ee ysgolion. Rydym yn mynd trwy 12,000 bag y flwyddyn; gan ein bod wedi datgan Argyfwng Hinsawdd, mae’n rhaid i ni feddwl am ffyrdd y gallwn leihau’r gwastraff yma. Caiff y biniau eu gwneud gyda 95% o blastig sydd wedi ei ailgylchu, a chânt eu gwneud yn y DU – nid fel y bagiau presennol. Byddai rhoi cymhorthdal er mwyn cynnal y gwasanaeth yma’n golygu torri cyllideb gwasanaeth arall. Bydd nifer o gwsmeriaid yn parhau i dalu llai na £1 yr wythnos am y gwasanaeth yma.

 

Y Cynghorydd Easson: Nid wyf yn teimlo bod y gwahaniaeth rhwng cymryd bagiau porffor a glas nawr, a chymryd bagiau hessian porffor a glas yn eglur. Rwy’n bryderus yngl?n â’r meini prawf ar gyfer casglu â chymorth, gan y byddai’r penderfyniad yn cael ei wneud gan y cyngor, er mai’r unigolyn sy’n deall eu gallu a’u hamgylchiadau’n well.

 

Y Cynghorydd Powell: O ran cymhorthdal, dylid cofio mai Sir Fynwy yw’r Cyngor Sir a ariennir waethaf – gall cynghorau eraill redeg y gwasanaeth am ddim am fod y cyllid ganddynt, ond pe byddem ni’n gwneud hyn, y trethdalwr a fyddai’n ysgwyddo’r baich.

 

Y Cynghorydd Woodhouse: Tai teras yw tua 95% o fy ward i. Calonogol yw clywed y gallant gael y bagiau. Hoffwn weld y cyfle hwn yn cael ei gynnig i bobl heb iddynt orfod cymryd rhan mewn proses fetio – hoffwn iddynt gael dewis. Does dim mynediad i’r ochor gan nifer o dai, felly byddai angen iddynt ddod â’r bin trwy’r t?. Rwy’n bryderus yngl?n â strydoedd cul, sydd â cheir wedi eu parcio yn rhannol neu’n gyfan gwbwl ar y palmant. Efallai y byddai biniau’n cael eu gadael allan trwy’r dydd gan fod pobl yn gweithio, o leiaf y gellir gwthio bag i’r naill ochor er mwyn ei atal rhag bod yn rwystr. Mae llwybrau diogel i’r ysgol yn bryder penodol. Byddwn yn gofyn i fagiau fod ar gael yn rhwydd ar gyfer y mathau yma o strydoedd. Rwy’n bryderus y byddai nifer y bobl sydd ag un bag ar hyn o bryd yn gostwng, gan y byddai’n rhaid iddynt dalu £35 am fin heb fod angen y capasiti.

 

Y Cynghorydd Webb: Rwyf hefyd yn bryderus yngl?n â pheidio â rhoi dewis i’r preswylwyr, yn enwedig o ystyried sefyllfa rhywun sydd â gardd fechan ac sydd eisiau un bag yn unig. Rwy’n credu y dylent gael dewis.

 

Y Cynghorydd Brown: Yn fy ward i, mae llethrau uchel iawn ar dramwyfeydd: Nid wyf yn sicr pa mor hawdd fyddai symud bin ag olwynion arno yn y sefyllfa yma. Da fyddai gweld yr hyblygrwydd y mae swyddogion yn ei ddisgrifio yn cael ei gynnwys yn yr argymhellion, er mwyn tawelu meddyliau preswylwyr ac aelodau. Rwy’n awgrymu, felly, y dylid cael hyblygrwydd o fewn y system casglu gwastraff gardd er mwyn cael darpariaeth bag gardd ar gyfer yr henoed, pobl fregus, y rheiny sydd â llethrau anwastad ac/neu broblemau tir a phroblemau storio. O ran costau, mae cydbwysedd rhwng y costau sy’n cynyddu, a’r cwsmeriaid a gollir. At ei gilydd, rwy’n pendroni pa mor gost-effeithiol yw hyn mewn gwirionedd.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym wedi trafod pa mor hawdd yw defnyddio bagiau a biniau ag olwynion arnynt; mae’n ymddangos mai dewis personol yw hyn. Bydd yr opsiwn y byddwn yn penderfynu arno’n dibynnu ar y math o gerbyd y byddwn yn ei gaffael, un sy’n casglu biniau a bagiau, neu bydd angen casgliadau gwahanol gyda cerbyd gwahanol. Gellir edrych ar y posibilrwydd o gyflwynol biniau llai, 120L, ond byddai cost y casgliad angen aros yr un fath. Wrth wneud asesiadau ar gyfer pobl sydd angen casglu â chymorth, bydd hyn yn cael ei wneud unai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb (er ni fydd hyn yn digwydd o dan ganllawiau presennol Covid) Mae glanhau biniau wedi cael ei grybwyll, ac eto, mae’n ymddangos mai barn bersonol yw hyn. Mae aelodau wedi gofyn am sicrwydd y gellir rhoi bag i breswylwyr sydd ag anawsterau o ran mynediad, ac maent wedi gofyn am hyblygrwydd, yn enwedig o ran oed, tir ar lethr, ac ati. Fodd bynnag, bydd hyn yn creu mwy o gostau. Bydd swyddogion yn sicrhau bod yr adroddiad AD yn cael ei anfon at holl aelodau’r pwyllgor, a byddant yn darparu’r ffigurau o ran y gostyngiad yn y cwsmeriaid.

 

Pleidlais ar Argymhellion

Ar gyflwyno biniau ag olwynion arnynt, roedd y pwyllgor yn erbyn yr argymhellion.

 

 

 

Dogfennau ategol: