Agenda item

Craffu cyn penderfynu ar Ddarpariaeth Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dyfodol (gan gynnwys Brynbuga).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Carl Touhig yr adroddiad.

 

Her:

 

A yw’r arbedion o ran staff, llai o oriau a chau yn ystod y dydd yn cynnwys Brynbuga?

 

Mae’r arbedion sy’n deillio o gau yn ystod y dydd a lleihau oriau ac eithrio Brynbuga – nid yw wedi ei gynnwys yn y ffigurau yma. Mae cau Brynbuga’n creu arbediad o £40 mil ynddo ei hun; Mae’r arbediad o £240k ar gyfer cau am ddiwrnod a lleihau’r oriau wedi ei seilio ar y tri safle arall.

 

A yw’r £40 mil ar gyfer y flwyddyn ariannol yma yn unig, neu bob blwyddyn?

 

Mae’n arbediad a fyddai’n cael ei wneud yn ystod y flwyddyn hon. Ar hyn o bryd mae’r safle ar agor 5 diwrnod yr wythnos (50 awr yr wythnos) ac mae 2 aelod o staff ar y safle. Mae’r arbediad yn deillio o hyn – yn fras £20 mil yr aelod o staff. Gan fod y ganolfan wedi cau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, mae’r staff dan sylw’n gweithio yn rhai o’r canolfannau mwy er mwyn helpu i reoli’r ymateb i Covid. Mae Viridor wedi cytuno i roi £40 mil i ni eleni, ar yr amod bod y safle’n aros ynghau, oherwydd byddent wedyn yn mynd yno ac yn clirio’r sgipiau, mynd a’r offer swyddfa oddi yno, ac ati. O’n safbwynt ni, arbedion o ran staff a wneir eleni; nid ydym yn gwybod beth fydd yr arbedion y flwyddyn nesaf, ond byddwn yn cymryd y byddem yn bendant yn arbed £40 mil y flwyddyn nesaf hefyd, heb 2 aelod o staff ar y safle am 50 awr. Bydd peidio â symud sgipiau o Frynbuga i Llan-ffwyst yn arbed mwy o arian fyth. Nid wyf yn gwybod beth fyddai cyfanswm y swm a arbedir, ond byddwn yn disgwyl iddo fod o gwmpas £60 mil y flwyddyn nesaf os yw Brynbuga ar gau.

 

Beth yw’r ateb i bryderon y byddai cau’r safle’n cynyddu traffig ac yn cynyddu’r teithiau y byddai angen eu gwneud ar draws Sir Fynwy, yn enwedig o ran nod Dyfodol Gwyrdd y Cyngor?

 

Gellir lleihau’r pellter y mae pawb yn ei deithio drwy ddefnyddio’r gwasanaeth casglu ar stepen y drws. Mewn ymateb i’r ddadl o ran llygredd yn yr aer a charbon, gwasanaeth casglu ar stepen y drws yw’r ffordd orau ymlaen. Mae hyn yn atal llygredd, ac yn osgoi’r angen i unrhyw un orfod teithio i unman. Mae problem yn barod ym Mrynbuga o ran llygredd aer yng nghanol y dre – ac felly mae angen gofyn y cwestiwn ai priodol, cyn covid, oedd dod â 170 a mwy o geir a loriau mawr drwy Frynbuga bob dydd er mwyn gwasanaethau’r safle, a chynyddu’r broblem.

 

A oes datrysiad ‘hanner ffordd’ wedi ei ystyried ee cael safle mewn man arall, efallai ym Maes Parcio’r Cyngor Sir, a allai ddefnyddio CCTV ac o ganlyniad beidio bod â staff ar y safle?

 

Bu i ni edrych ar symud cyfleuster Brynbuga i leoliad arall yn y dref, ond nid yw pobl eisiau safleoedd gwastraff wrth eu hymyl. Nid wyf wedi fy narbwyllo y byddem yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster gwastraff ar safle Rhadyr, na safle riverside, o ystyried y perygl o lifogydd. Nid yw safleoedd eraill wedi bod yn boblogaidd ym Mrynbuga, megis y safle AD ychwanegol a safle Biomass, ymysg eraill, felly mae’n annhebygol y bydd cyfleuster gwastraff arall yn cael caniatâd cynllunio, ac mae angen trwyddedau ar ben hynny. Byddai Cyfoeth Naturiol Cymru, heb os, yn edrych ar y perygl llifogydd o ran agor cyfleuster arall unrhyw le ym Mrynbuga. Heddiw, pe byddem yn ceisio agor safle Brynbuga ar ei safle presennol, rwyf o’r farn na fyddem yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer safle sydd mor agos at gartrefi preswylwyr mewn parth llifogydd.

 

Beth yw’r ystyriaeth o ran effaith fwyaf – sef effaith cau’r ganolfan ar breswylwyr h?n?

 

Mae nifer cynyddol o henoed ar draws Sir Fynwy, ac rydym yn deall bod angen i ni weithio gyda phawb ar draws y sir. Nid ein bwriad yw anwybyddu’r henoed. Y gwasanaeth stepen drws cynhwysfawr yw’r ffordd orau i’r henoed ddelio â’u gwastraff. Mae nifer o ymholiadau wedi dod i lawr drwy ddirprwy, yn gofyn sut y bydd yr henoed yn cael eu gwastraff i’r safle os nad ydynt yn gallu gyrru, ond nid ydym yn gweld nifer o henoed yn cerdded i’r safle presennol. Rydym bob amser yn ceisio gwella’r gwasanaeth stepen drws, a nifer y deunyddiau y gallwn eu casglu, ond mae’n rhaid i bobl ei ddefnyddio.

 

Os mai casglu ar stepen drws yw’r unig ffordd ymlaen, faint o waith sydd wedi cael ei wneud ar gynyddu’r hyn y gellir ei ailgylchu ar stepen drws? Beth am well addysg?

 

Wrth i bobl ddechrau defnyddio’r gwasanaeth stepen drws fy fwy ar gychwyn y pandemig, gwelsom ailgylchu’n cynyddu’n sylweddol – mae hyn angen parhau, ac mae agen i ni ddal ati i rannu’r neges mai ailgylchu priodol ar stepen y drws yw’r ffordd orau ymlaen. Yn bersonol, fel preswylydd yn Nhorfaen, os wyf yn ymweld â chyfleuster yno unwaith y flwyddyn, mae hynny unwaith yn ormod. Nid wyf yn gweld pam y dylai mwyafrif o bobl ddefnyddio’r cyfleusterau mor aml â hynny, eto mae 71% o breswylwyr Brynbuga sydd ar y safle, yno unwaith yr wythnos. Os yw’r lefel yma o wastraff o ddifri yn cael ei greu, mae angen llunio ymgyrch addysg wahanol – un sy’n awgrymu lleihau’r swm sy’n cael ei brynu er mwyn lleihau’r swm sydd angen cael gwared ag o maes o law. Fe ddylai’r neges ymwneud â lleihau gwastraff, yn hytrach na chanolbwyntio ar safleoedd.

 

Os yw’r safle’n wael, pam nad oes dim wedi ei wneud ynghynt, cyn i ni gyrraedd y pwynt argyfwng yma?

 

Nid ydym wedi gadael i Frynbuga gyrraedd pwynt argyfwng. Rydym wedi bod yn ymwybodol o’r gwaith sydd ei angen yno ers sbel, ac rydym wedi buddsoddi yn y safle’n barod er mwyn ei gadw ar agor. Mae wastad wedi perfformio’n wael, ac gan fod gweddill Sir Fynwy’n perfformio’n dda, mae hyn wedi gallu cario Brynbuga. Gwnaethom waith archwilio ar y safle gyda Eunomia yn 2018, ac fe dynnwyd sylw at y broblem o ran y dreiniau. Rhoddwyd adroddiad ynghyd yn 2019 a oedd yn cynnig cau’r safle. Mae materion megis y rhain yn cymryd amser i’w prosesu. Nid oedd pwynt argyfwng, ond mae pawb arall yn gwneud mwy. Roeddem yn wynebu dirwyon posib o hyd at £120 mil y llynedd, ac roedd angen i ni wneud penderfyniadau yngl?n â sut y byddem yn gwella cyfraddau ailgylchu – dyma pryd y rhoddwyd ystyriaeth i gau Brynbuga.

 

Rydym yn defnyddio Viridor ar ein safleoedd. Pan wnaeth Torfaen y gwasanaeth hwn yn un mewnol, gwnaethant arbediad o £167,000 y flwyddyn – a roddwyd ystyriaeth i’r posibilrwydd yma?

 

Roedd Viridor yn gweithredu cyfleuster crynhoi’r gwastraff stepen drws yn Nhorfaen, a gwnaeth y Cyngor y gwasanaeth yn un mewnol unwaith eto. Caiff canolfannau ailgylchu gwastraff cartref Torfaen eu rhedeg gan FCC, cwmni tebyg  Viridor. Felly, nid oedd hyn mor syml â’r chymryd y gwasanaeth yn ôl – roedd y gwasanaeth yr oeddynt yn ei redeg yn un gwahanol iawn. Rydym wedi edrych ar wneud y gwasanaeth yn un mewnol yma fel rhan o’r broses tendro, ac rydym yn eithaf hapus i ystyried hynny os y teimlwn y gallem redeg y gwasanaeth yn fewnol am yr un gost â’r costau a geir yn y tendrau sy’n dod yn ôl.

 

Gan fod gwastraff gardd yn effeithio ar bawb yn y sir, ond fod cau canolfan Brynbuga’n effeithio trigolion Brynbuga’n unig, does bosib nad oes modd cymharu nifer yr ymatebion.

 

Rwy’n gobeithio fy mod wedi gwneud cyfiawnder ag ymatebion Brynbuga – roeddynt yn niferus ac rwyf wedi ateb bob un ohonynt.

 

O ran y boblogaeth h?n, mae’r pwynt o ran gwell ailgylchu ar stepen y drws wedi cael ei nodi, ond mae rhai pethau, o hyd, na ellir eu hailgylchu a bydd angen mynd â hwy i ganolfan – bydd poblogaeth h?n yn cael hyn yn anodd, ac mae’r gyfran o boblogaeth Brynbuga sy’n h?n, yn uwch na dyweder Cas-gwent.

 

Mae demograffeg h?n ym Mrynbuga, ond dylid defnyddio’r cyfleusterau stepen drws i’w cefnogi. Roedd llawer o’r llythyrau a dderbyniwyd gan bobl h?n, a oedd yn dweud eu bod yn defnyddio’r safle bob dydd. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw annog gwell defnydd o’r cyfleusterau stepen drws, a symud y preswylwyr i ffwrdd oddi wrth ddibynnu ar y safleoedd yma, yn enwedig gan fod safle Brynbuga’n perfformio mor wael, o ran nifer y bagiau du sy’n mynd yno. Bydd angen i breswylwyr Brynbuga deithio mwy i safleoedd eraill, ond nid os ydynt yn defnyddio’r system stepen drws. Mae rhai deunyddiau na ellir eu hailgylchu ar stepen y drws, ond rydym yn cynnig opsiynau eraill: Bydd Homemakers yn dod i gasglu tri eitem swmpus am £15, sy’n gynllun da iawn.

 

Mae Cyngor Tref Brynbuga, bob amser, wedi unioni diffygion o ran costau wedi iddynt gael gwybod gan MCC bod problem ee yr Hwb, Swyddfa’r Post, adnewyddiadau ac ati. Oni ddylid rhoi’r cyfle iddynt newid y sefyllfa yma hefyd?

 

Nid oes trafodaeth wedi bod gyda Chyngor Tref Brynbuga ar rannu’r costau, ac nid ydynt wedi cynnig rhannu’r costau, hyd y gwn i. Nid yw hyn yn ymwneud â chost rhedeg y cyfleuster yn unig; mae’n ymwneud â chyrraedd ein cyfraddau ailgylchu. Ar gyfer y gwastraff sy’n mynd i mewn i Frynbuga, os ydym yn methu ein targedau o’r un cyfran o wastraff, byddwn yn talu dirwyon o bron i £200 mil. Nid wyf yn si?r sut y byddai’r costau yma’n cael eu rhannu gyda Chyngor Tref Brynbuga – nid y gost o £40 mil, cost weddol isel, sydd o dan sylw yma, ond y dirwyon posibl hefyd.

 

O ran costau anghymesur, does bosib na ellir cymharu Brynbuga gyda chanolfannau trefol, gan fod y ganolfan yn un fwy gwledig.

 

Nid yw Five Lanes yn safle trefol, mae’n safle gwledig sy’n gwasanaethu ardaloedd trefol. Mae preswylwyr ardaloedd trefol (Cil-y-coed a Chas-gwent) yn teithio i Five Lanes, sy’n gymharol wledig. Wrth orfod gwneud hynny, maent yn meddwl am y gwastraff y maent yn ei roi yno, ac yn ailgylchu mwy. Dyma’r data sydd gennym. Ym Mrynbuga, mae pa mor hawdd yw cael mynediad at y safle, yn gyrru ymddygiad gwael. Mae’r safle’n rhu fach hefyd, ond mae nifer uwch o finiau du yn cael eu cario i’r safle na fyddem yn ei weld yn Five Lanes.

 

Mae cyfran y Bagiau Du ym Mrynbuga yn 25%, sydd yr un fath â safleoedd eraill, yn yr un modd, cyfradd y gwastraff gardd yw 30%, felly pam fod y niferoedd yn broblem benodol ym Mrynbuga?

 

Mae’r siart sy’n dangos y ffigurau yma’n dangos canfyddiadau preswylwyr o’r hyn y maent yn ei gario i’r safle. Nid yw’r niferoedd yn adlewyrchu’r hyn a dderbynnir ar y safle mewn gwirionedd. Mae nifer llawer uwch o fagiau du’n cael eu cario i Frynbuga na’r 25% a dybir gan breswylwyr. Y data mewn gwirionedd, yw bod 53% o wastraff Brynbuga’n Fagiau Du. Rydym wedi cytuno, ac rydym ar fin cyflwyno, system didoli bagiau du ar yr holl safleoedd, a byddai hyn yn cynnwys Brynbuga pe byddai’n aros ar agor. Byddai hyn yn rhywbeth anodd iawn i’w wneud yn Mrynbuga, gan fod diffyg cyfleusterau yno i gymryd y deunydd a’i roi yn rhywle arall. Mae hyn yn bryder mawr wrth ystyried didoli bagiau du.

 

A yw’n bosib cael daliedydd ar gyfer eitemau trydanol bychan ym Mrynbuga?

 

Mae rhai o’r archfarchnadoedd mwy wedi cynnig cymryd eitemau trydanol bach; gallem edrych ar p’unai y gellir gwneud hyn ym Mrynbuga. Yr anhawster o ran cyfleusterau ailgylchu heb staff ynddynt yw eu bod yn denu llawer o dipio anghyfreithlon. Dyma pam y cafwyd gwared arnynt ar y cychwyn. Gwelwyd hefyd dannau bwriadol yn cael eu cynnau ar rai o safleoedd Torfaen. Ond gallem edrych ar gael bin Gwastraff Trydanol bach ym Mrynbuga.

 

Gan bwysleisio y gallai preswylwyr Brynbuga ddefnyddio’r cynllun gwastraff gwyrdd newydd, beth yw’r ymateb i breswylwyr h?n sy’n bryderus am allu symud bin ag olwynion arno?

 

Roedd peth dryswch yn amlwg yn yr ymatebion i’r arolwg ein bod yn cyfyngu’r cynllun gwastraff gardd – nid dyma’r sefyllfa. Rydym yn edrych ar opsiwn gwahanol hy biniau yn hytrach na bagiau.

 

A yw gwastraff gwyrdd yn helpu o ran targedau ailgylchu? Os felly, pe byddem yn cau Brynbuga, a fyddai hyn yn cael effaith arnynt?

 

Mae gwastraff gwyrdd yn cyfrannu at ein targedau, boed trwy’r CAGC neu’r cynllun stepen drws.

 

A ellid, yn syml, gwrthod bagiau du, fel sy’n digwydd yng Nghrughywel er enghraifft?

 

Mae’r safleoedd ym Mhowys yn derbyn amrywiaeth o ddeunyddiau domestig y gellir eu hailgylchu – papur, caniau, poteli plastig, ac ati. Yr ydym ni’n eu casglu ar stepen y drws. Mae Powys bellach yn casglu mwy ar stepen y drws hefyd, ac o ganlyniad maent wedi lleihau nifer y safleoedd. Maent wedi cael gwared â sgipiau heb staff o’r safleoedd heb staff ynddynt oherwydd y camddefnydd ohonynt.

 

Rwy’n amau y byddai angen caniatâd cynllunio arnom ar gyfer safle arall?

 

Gallwn edrych ar Safleoedd dod â gwastraff. Nid oeddwn yn awgrymu’n gynharach y byddai angen caniatâd cynllunio arnom ar gyfer y rhain, er mae’n debygol y byddai. Roeddwn yn awgrymu y byddai, yn bendant, angen caniatâd cynllunio ar gyfer canolfan ailgylchu lawn a thrwydded gan CNC. Nid yw hyn yn awgrymu na allem gael biniau bychain neu sgipiau fel oedd yn yr archfarchnadoedd gynt – mae’n debygol y gallem wneud rhywbeth gyda’r syniad yna. Fodd bynnag, dim ond deunyddiau y gellir eu rhoi allan i’w casglu ar stepen y drws ar hyn o bryd y byddai’r rhain yn eu cymryd. Felly, byddai’n well gennym wthio pobl i wneud mwy o ddefnydd o’r system honno, yn enwedig gan fod safleoedd dod â gwastraff yn achosi problemau o ran tipio anghyfreithlon.

 

Mae’r £30 mil rhagdybiedig ar gyfer diweddariadau yn eitem gyfalaf, ac nid ydyw, felly, wedi ei gostio mewn un flwyddyn, ond caiff ei wasgaru dros y blynyddoedd y mae’n dibrisio – felly gallai’r swm fod cyn ised â £5 pe byddai’n cael ei rannu dros 6 mlynedd?

 

Mae hyn yn gywir: mae’n arian cyfalaf y gellir ei rannu dros nifer o flynyddoedd. Diben yr adroddiad yw pwysleisio bod angen gwario’r swm yma’n gyffredinol, heb ystyried sut y caiff y gwariant ei wneud.

 

Nodir £40 mil fel y gost flynyddol, ond yn barod rydym hanner ffordd drwy’r flwyddyn hon, felly dim ond arbediad o £20 mil a fyddai’n cael ei wneud mewn gwirionedd yn y flwyddyn bresennol pe byddai’r safle’n cau ar unwaith.

 

Cytunwyd ar £40 mil gyda Viridor. Pe byddai’n rhaid i’r safle gau, byddent yn rhoi arbediad o £40 i ni eleni, heb ystyried pryd yn ystod y flwyddyn y byddai’r ganolfan yn cau. Wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, yn amlwg y bydd hyn yn newid, a ni fydd Viridor yn pasio’r costau dan sylw yn ôl i ni. Gan fod Brynbuga’n ganolfan mor fach, ni fyddem yn argymell ei bod yn ail- agor ar hyn o bryd gan fod Covid yn parhau – nid oes modd i ni reoli’r safle a rheoli diogelwch o ran Covid. Rwy’n deall bod pobl yn dweud y dylid rhoi cyfle i Frynbuga wella, ond heb os, ni fyddai swyddogion yn argymell ail-agor safle Brynbuga yn ystod y pandemig.

 

Sylwadau cyffredinol y Cynghorwyr:

Y Cynghorydd Laura Jones: Yn ddaearyddol, addas yw cael mwy nag un canolfan ailgylchu yn Sir Fynwy; diolch i’r Cyngor mae gennym fwy nac un yn y sir, ond dylem gofio mai priodol yw hyn. Byddai cau Brynbuga’n cael yr effaith fwyaf ar yr henoed, ac i’r rheiny sy’n gallu teithio, bydd yn cynyddu’r traffig a faint o deithio sy’n digwydd ar draws Sir Fynwy. Er mai priodol yw nodi bod pawb arall yn gwneud hyn, nid yw’r ffaith y byddai angen i Frynbuga wneud hyn hefyd yn gwella’r sefyllfa. Felly mae gennyf bryderon yn hyn o beth. Mae’r ymddygiadau o ran casglu ar stepen y drws wedi gwella’n ystod y pandemig. Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i annog hyn. Roedd llawer o’r dystiolaeth a dderbyniwyd gennym yn dangos bod mwy o addysg ei angen – rwy’n cytuno bod hyn yn rhywbeth y mae angen i’r pwyllgor a’r cyngor edrych i mewn iddo ar gyfer safleoedd eraill, hyd yn oed os nad yw hyn yn cynnwys Brynbuga wrth symud ymlaen. Rwy’n rhannu’r pryderon fod diogelwch Brynbuga’n is na’r safon a ddisgwylir, a bod angen £30 mil er mwyn gwneud gwelliannau, gellir cynyddu’r mannau parcio er enghraifft. Yn bendant mae ffactorau o blaid cau. Ond, mae wedi dod i’r amlwg, er fod casglu ar stepen y drws yn cynyddu, nid yw’r preswylwyr yn teimlo bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

 

Y Cynghorydd Batrouni: Ydi, mae Five Lanes yn safle gwledig, ond mae’n gwasanaethu poblogaeth drefol, ac felly mae’r ddemograffeg a’r defnydd, rwy’n cymryd, yn wahanol. Wrth gwrs, mae angen i Brynbuga wella, ond mae’r preswylwyr yn gofyn am amser i wneud y gwelliannau yma, gan weithio ar y cyd â Chyngor y Dref  - mae’n ymddangos fod y neges yn cael ei hanwybyddu. Hoffwn i’r pwyllgor hwn gael golwg ar y cynllun busnes o ran dod â chostau’n fewnol, pan fydd yn barod. Yn ôl pob sôn, llwyddodd Torfaen i haneru eu costau wrth wneud hynny – byddai arbediad cyfwerth yn un sylweddol i MCC, a byddai hyn yn helpu o ran unrhyw gynllun busnes ar gyfer Brynbuga. O ran y dirwyon posibl a drafodwyd, byddai unrhyw ddirwy’n cael ei chyflwyno i’r sir gyfan, ac ni fyddai’n berthnasol i Gyngor Tref. Dylid cael trafodaeth gyda Cyngor Tref Brynbuga ynghylch rhannu’r costau gweithredu o £30 mil, a chostau cludo ychwanegol o £60 mil. Rwy’n cynnig, yn unol â ffocws y Cabinet ar wasanaethau lleol, ein bod yn rhoi mwy o amser i Frynbuga, gan roi gwybod i breswylwyr am y problemau a gofyn am gynllun ymarferol, dichonadwy er mwyn rhoi’r hyn sydd ei angen ar waith.

 

Y Cynghorydd Easson: Nid yw’n ymddangos fod gennym fesurau monitro digonol yn eu lle o ran bagiau du yn unrhyw un o’n safleoedd. Rwy’n cytuno gyda’r Cynghorydd Batrouni y dylem adolygu’r mater yn ystod y cyfnod nesaf, yn hytrach na gwneud penderfyniad heddiw. Pe byddem yn monitro’r sefyllfa yn agosach, efallai y byddai Brynbuga’n diweddu mewn sefyllfa well nac y mae ynddi ar hyn o bryd. Mae parcio ceir yn broblem, ond dylem edrych ar sut y gallwn ddefnyddio Brynbuga mewn ffordd well. Efallai y dylem hefyd edrych ar nifer y dyddiau y gallai fod ar agor, ac annog pawb – yn yr holl safleoedd – i beidio â gadael bagiau du yno. Hoffwn weld arolygon pellach yn cael eu gwneud a mentrau’n cael eu cymryd. Rwy’n meddwl bod cynnwys ffigurau yn yr adroddiad nad ydynt yn ffeithiol, ond sy’n cynrychioli argraff pobl, yn achosi dryswch. Nid oes gennyf broblem o ran lleihau’r oriau o 8-4 ond hoffwn i hyn gael ei ail-asesu ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Rwyf hefyd yn hapus gyda chau Five Lanes a Llan-ffwyst am ddiwrnod ychwanegol, ac yn hapus i eitem E fynd yn ei blaen.

 

Y Cynghorydd Webb: Rwy’n diolch i’r swyddogion am lunio’r adroddiadau a’r deunydd darllen manwl yma. Rwy’n awgrymu, pe byddai bin Gwastraff Trydanol yn cael ei osod ym Mrynbuga, y byddai preswylwyr yn monitro’r defnydd ohono er mwyn sicrhau na fyddai’n cael ei gamddefnyddio.

 

Y Cynghorydd Smith: Mater sy’n ymwneud ag arian yw hwn. Os y bydd y gwasanaeth yma’n parhau, am gost o £40 mil, mae angen i’r aelodau ystyried o ble y bydd yr arian hwn yn dod hy o ba wasanaeth arall y bydd yr arian yn cael ei gymryd. Ac yn bendant, nid oes modd cynnal y gwasanaeth yn ei gyflwr presennol. Mae nifer o broblemau. Roeddwn yn hoffi rhesymeg Alison y byddai Treth Cyngor 20 o gartrefi ym Mrynbuga yn talu am gost y safle, ond rydym yn darparu nifer o wasanaethau eraill gyda’r dreth honno. Eithaf diddorol yw ystyried beth y mae pobl yn ei roi mewn bagiau du mor rheolaidd. Mae’r anallu i ddidoli ym Mrynbuga’n bwynt pwysig – mae’r safle wedi ei gyfyngu i raddau helaeth. Dylem nodi hefyd fod gan Torfaen fynediad at arian grant sydd ddim ar gael i Sir Fynwy. Mae Torfaen yn dangos sut y dylid ailgylchu, a byddwn yn annog aelodau i fynd i weld sut y mae gwahanu a didoli eitemau’n cael ei wneud yn iawn. Mae gennyf bryderon cryf ynghylch cael gwared â’r sgip o safle Brynbuga; o ystyried lleoliad y maes parcio a’r strydoedd bychan, mae’n beryglus ac yn llygru. Mae’n colli unrhyw wasanaeth yn anffodus ond mae angen i ni edrych tua’r dyfodol, gan gynnwys y pwynt positif o gael mwy o fannau parcio – Rwyf wedi methu â dod o hyd i fan parcio lawer gwaith wrth ymweld â’r meddyg.

 

Y Cynghorydd Howarth: Mae gennyf ofn ‘tincro’ gyda gwastraff, a goblygiadau cael gwared â safle, yn enwedig o ran targedau ailgylchu, yn ogystal â’r goblygiadau o ran coelcerthi a llosgi gwastraff. Mae safleoedd llwyddiannus yng Nghryghywel a Llangynidyr nad ydynt yn cymryd bagiau du, efallai y gellid cadw Brynbuga yn yr un modd. Rwy’n credu fod angen i ni ymchwilio ymhellach, gan edrych ar a allai Cyngor Tref Brynbuga ddarparu rhai o’r cyfleusterau yma.

 

Y Cynghorydd Powell: Rwy’n cefnogi’r hyn a ddwedwyd gan y Cynghorydd Smith. Fy mhrif bryder yw nid rhoi stop ar unrhyw beth, ond bod â chyfleuster gwastraff sydd ar gyrion maes parcio, nid yw hyn yn teimlo’n ddiogel nac yn iawn. Mae’n ymddangos y byddai cael safle dod â gwastraff yn rhywle arall yn fwy diogel. Mae’r un nifer o bobl h?n yn y Fenni, ac fel preswylwyr yn y Fenni, dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yr ydym yn mynd i safle ailgylchu. Gallwn ailgylchu popeth sydd ei angen arnom ar stepen y drws. Yn wir, ni all nifer o henoed yrru, ond does bosib ei bod yn fwy diogel iddynt ddefnyddio gwasanaeth stepen y drws.

 

Y Cynghorydd Clarke: Roedd cyflwyniad Alison yn dda iawn, ac yn yr un modd roedd ymatebion y swyddogion yn dda iawn hefyd. Fel Awdurdod, bydd angen i ni wario £150 miliwn eleni – er gwaethaf Covid – felly nid wyf yn meddwl y dylai dod o hyd i’r swm sydd ei angen fod y tu hwnt i’n gallu er mwyn sicrhau bod y safle’n parhau ar agor. Byddwn yn annog y cyngor i ddefnyddio synnwyr mathemategol a synnwyr ymarferol i ddatrys y mater hwn. Dylid rhoi cyfle i Frynbuga wella, ac os nad yw’n gwella, yna byddai’n haeddu cau.

 

Y Cynghorydd Groucott: Mae’r dadleuon sydd wedi eu cyflwyno gan breswylwyr Brynbuga wedi creu argraff arnaf, ac o ganlyniad byddwn yn cefnogi’r syniad o ddod o hyd i ffordd ymlaen gyda hwy er mwyn gwarchod y cyfleuster. Mae teithio i safle mewn man arall yn awgrymu y byddai amser yn cael ei roi yn y cyfleusterau eraill i’r traffig ychwanegol, ond mae’r adroddiad hefyd yn dweud y byddai’r amser mewn safleoedd eraill yn lleihau. Nid yw hyn yn gwneud llawer o synnwyr i mi. Rwy’n meddwl ei fod yn dangos mai’r bwriad yw cwtogi’r gwasanaeth, yn hytrach na’i wella.

 

Y Cynghorydd Thomas: Rwy’n cefnogi’r hyn y mae’r Cynghorydd Groucott a’r Cynghorydd Batrouni wedi ei ddweud. Yn Seminar yr Aelodau, roeddwn yn fwy amheus yngl?n â safle Brynbuga, a gallaf ddeall pryderon y swyddogion, ond gwnaeth Brynbuga achos cryf iawn heddiw. Mae nifer o ymatebion wedi dod i law, ac mae’n amlwg bod y Cyngor Tref o blaid cadw’r cyfleuster ar agor mewn un ffurf neu’i gilydd. Os yw’r preswylwyr a’r Cyngor Tref eisiau ymuno mewn menter ar y cyd, o rhyw fath, er mwyn rhoi cymhorthdal i’r cyfleuster, yna eu dewis hwy yw hynny. Gobeithiaf mai gwir ymgynghoriad yw hyn heddiw. Rwy’n cytuno gyda’r Cynghorydd Clarke nad yw’r arian sydd dan sylw’n swm enfawr – dylem edrych arno, a pheidio â gwneud penderfyniad byrbwyll. Mae’n ymddangos mai dyma sy’n digwydd ar hyn o bryd. Rwy’n meddwl bod angen ailystyried.

 

Y Cynghorydd Woodhouse: Rwyf wedi cael fy synnu fod y preswylwyr yn gweld eisiau’r cyfleuster tra mae ar gau dros dro. Hoffwn weld ystyriaeth yn cael ei roi i rhyw fath o gyfleusterau heb staff ynddo wrth i ni wynebu’r argyfwng yma, ac yn y dyfodol. Rwy’n si?r y gallai trigolion Brynbuga fonitro cyfleuster o’r fath eu hunain er mwyn atal camddefnydd.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym wedi ystyried y gyfradd ailgylchu isel ym Mrynbuga, ac wedi clywed mai dyma’r safle sy’n perfformio waethaf yng Nghymru. Rydym yn deall safbwynt Cyngor Tref Brynbuga, ond nid yw’n safle da: mae’n rhu fach ac mae pryderon o ran iechyd a diogelwch. Rydym wedi dadansoddi cyfansoddiad y gwastraff. Gwelir ymweliadau rheolaidd yn cael eu gwneud i’r safle er mwyn cael gwared â bagiau du y gellir eu hailgylchu ar y stepen drws. Mae’r gwastraff yn cynnwys gwastraff bwyd. Mae pryderon y gymuned wedi tynnu sylw at dipio anghyfreithlon; ni ddylid gwneud esgusodion dros hyn, ac ni ddylai cau’r safle roi’r argraff fod tipio anghyfreithlon yn dderbyniol, ond, at hyn, ni ellir defnyddio tipio anghyfreithlon fel esgus dros beidio gwneud y newidiadau arfaethedig. Roedd y pellter y byddai’n rhaid teithio yn bryder arall i’r aelodau a’r gymuned; Mae preswylwyr Cas-gwent yn teithio 7 milltir, rhai preswylwyr yn teithio 14 milltir – felly mater o ganfyddiad yw hyn. Mae’r pellter i Llan-ffwyst a Five Lanes yn 10 milltir o Frynbuga, ac mae Covid wedi rhoi lens newydd i ni o ran dadansoddi gwastraff. Nid yw hyn yn esgus dros y penderfyniad, ond mae wedi ein galluogi i ddadansoddi cyfraddau defnydd, a gwneud argymhellion yn yr adroddiad yma.

Yr ymateb clir gan y swyddog heddiw i bryderon Cyngor Tref Brynbuga yngl?n â’r hyn y bydd y preswylwyr yn ei ddefnyddio yn lle’r ganolfan, yw ailgylchu ar stepen y drws. Bydd hyn yn lleihau teithiau diangen a llygredd aer. Nid yw ail agor y safle yn ystod Covid yn opsiwn hyfyw. Nid yw’r pellteroedd posib y bydd angen eu teithio mor wahanol â hynny i’r hyn y mae disgwyl i breswylwyr eraill Sir Fynwy ei deithio. Mae’r themâu a geir yn ymateb y cyhoedd yn debyg iawn; rydym wedi eu darllen i gyd ac wedi trafod ein hymateb iddynt. Mae gennym ddata sy’n profi’r rhesymeg dros yr opsiwn arfaethedig. Mae’r adroddiad yn edrych ar opsiynau gwahanol, megis a ellir rhedeg y safle’n allanol, ond nid yw hyn yn cael ei argymell os yw’r safle i gael ei redeg yn y modd cywir.

Wrth wneud y dadansoddiad o gyfansoddiad y gwastraff, yn yr amser rhwng yr ymgynghoriad a’r pwynt y rhoddwyd y penderfyniad o’r neilltu, roedd y sefyllfa’n waeth. Wrth i hyd yn oed llai o ailgylchu gael ei wneud, mae angen i’r gyfradd ailgylchu ar stepen y drws gynyddu. Mae angen i ni leihau faint o wastraff sy’n cael ei greu, a lleihau’r teithiau a wneir er mwyn cael gwared â gwastraff bagiau du. Pan ofynnwyd am farn y preswylwyr ar a oedd cyfleusterau gwastraff yn adnodd allweddol iddynt, nid oedd mor bwysig i bobl ag yr oeddem wedi tybio.

O ran sylwadau’r Aelodau, maent wedi gofyn a oes modd ystyried hunan-wasanaeth, ond mae’r swyddog wedi pwysleisio mai dim ond pethau y gellir eu hailgylchu ar stepen y drws neu gyda gwastraff cyffredinol y byddai’r cyfleuster yn ei dderbyn. Gwnaeth y Cynghorydd Batrouni gais i ni ystyried sut y Mae Cyngor Tref Brynbuga wedi cymryd cyfrifoldeb am weithredu cyfleusterau yn y gorffennol, a gofyn i ni ystyried rhoi mwy o amser, a’r cyfle iddynt wneud gwahaniaeth. Gwnaeth y Cynghorydd, hefyd, bwynt ynghylch gwarchod ein hardaloedd gwledig a’u gwasanaethau, ac i’r cyngor roi hyn ar waith. Gwnaeth y Cynghorydd Howarth gais i fan gollwng gwastraff gweddilliol fod ar gael.

 

Pleidlais ar Argymhellion

Cefnogodd y pwyllgor rai o’r argymhellion megis oriau agor wedi eu hadolygu ar gyfer CAGC. Wrth drafod dyfodol canolfan ailgylchu gwastraff cartref Brynbuga, roedd y pwyllgor yn erbyn y cynigion o 4 pleidlais i 3. 

 

 

Dogfennau ategol: