Agenda item

Rheoli Llifogydd – gwersi a ddysgwyd – adborth i’r Pwyllgor Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Ross Price a Ruth Donovan adroddiad ar lafar.

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal ei sesiwn craffu ei hun ar yr 8fed o Hydref gyda’r gweinidog dros yr Amgylchedd er mwyn adolygu eu hymateb i’r llifogydd y llynedd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n arwain ar lunio ymateb ar y cyd gan yr holl awdurdodau lleol, gyda’u Swyddog Llifogydd eu hunain, Jean-Francois Dulong. Bydd yn casglu’r ymatebion gan bob llywodraeth leol ac yn ei gyflwyno i’r sesiwn craffu ar yr 8fed o Hydref. Derbyniom e-bost gan Lywodraeth Cymru gyda chwestiynau, roedd hyn yn ddefnyddiol o ran rhoi gwybod i ni ar beth y dylai ein hymateb ganolbwyntio; rydym yn llunio’r ymateb dan sylw ar hyn o bryd. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd gyda Thîm Llifogydd Llywodraeth Cymru, ac mae gennym berthynas dda.

Y cwestiwn cyntaf gan Lywodraeth Cymru yw a yw’r cyllid a dderbynnir ganddynt ar gyfer llifogydd a rheoli erydiad arfordirol, ac ar gyfer awdurdodau i ddarparu ymateb brys i lifogydd, yn ddigonol. Mae gennym ddyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r i reoli’r perygl o lifogydd, sydd, yn ein hachos ni, yn deillio o gyrsiau d?r cyffredin a, a llifogydd tir a d?r wyneb. Yr awdurdod rheoli risg ar gyfer llifogydd sy’n deillio o brif afonydd, sef yr hyn a effeithiodd Sir Fynwy fwyaf y gaeaf diwethaf (o Afon Gwy, Mynwy a Wysg), yw Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym, felly, wedi ein cyfyngu i raddau o ran yr hyn y gallwn ei wneud, a pha gynlluniau y gallwn eu rhoi ar waith o ran llifogydd sy’n deillio o brif afonydd. Rydym yn cael cyllid refeniw o £105 mil y flwyddyn er mwyn diwallu ein dyletswyddau statudol, ac mae hyn yn cynnwys darparu’r holl weithgareddau sydd wedi eu gosod yn ein cynllun a’n strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd. Mae gennym hefyd ddyletswyddau statudol o ran cynnal a chadw, archwilio, cofnodi a mapio asedau yn ogystal â chynnal ymchwiliadau, dal i fyny gyda hyfforddiant a meddalwedd. Yn fwyaf nodedig, o fis Ionawr 2019, daethom yn gorff cymeradwyo ar faterion yn ymwneud â dreiniau ar ddatblygiadau tai newydd. Nid ydym wedi derbyn cyllid ychwanegol i dalu am y gwaith ychwanegol yma, er bod y gost wedi bod yn sylweddol. Mae’r ymatebion i’r llifogydd y gaeaf diwethaf wedi arwain at ôl-groniad o ffrydiau gwaith eraill, megis ceisiadau o ran y broses SAB, ond hefyd o ran darparu ein dyletswyddau dydd i ddydd. Byddai cyllid ychwanegol yn ein helpu i ddelio â hyn.

Mae elfen gyfalaf y cyllid ychydig yn well na’r elfen refeniw. Mae’n talu am yr holl gynlluniau llifogydd yr ydym yn eu hyrwyddo. Fel arfer, mae digwyddiad sy’n achosi llifogydd, rydym yn ymchwilio er mwyn canfod y ffynhonnell a’r mecanweithiau, adnabod pwy sy’n cael eu heffeithio, gwneud cais i Lywodraeth Cymru er mwyn rhedeg cynllun llifogydd, megis adeiladu waliau neu fariau sy’n amddiffyn rhag llifogydd, ac ati. Yn ystod blynyddoedd diweddar, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran sicrhau’r cyllid yma. Mae’r llifogydd y llynedd wedi cynyddu’r nifer o gynlluniau sydd eu hangen, ac wedi amlygu problemau sydd wedi bodoli ers amser maith. Rydym wrthi’n datblygu blaenraglen pum mlynedd. Yn ystod y dair blynedd ddiwethaf rydym wedi derbyn tua £160 mil o gyllid grant er mwyn cyflawni cynlluniau llifogydd; eleni £130 mil yn unig sydd gennym. Mae cyfanswm y ffigur yn debygol o gynyddu o ganlyniad i lifogydd y llynedd, ond rydym yn cystadlu gydag awdurdodau lleol eraill.

Yn dilyn y llifogydd yn ystod y gaeaf, gwnaeth Llywodraeth Cymru grant  ymateb brys i lifogydd ar gael; gwnaethom gais llwyddiannus am ychydig dros £100 mil, ar gyfer delio gyda’r ymateb a oedd ei angen yn syth yn dilyn y digwyddiad; gosod bagiau tywod, gwaith clirio brys ar geuffosau a chyrsiau d?r. Gwnaed y gwaith pwysig yma i safon ardderchog; ac roedd ennill y costau’n ôl yn fonws mawr.

Yr elfen nesa o ran cyllid yw grant sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer trigolion sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd. Roedd y grant wedi ei gyfyngu i £1000 ar gyfer pobl heb yswiriant, a £500 ar gyfer y rheiny oedd â yswiriant. Fel awdurdod lleol, roeddem yn gyfrifol am weinyddu’r grant, ac roedd hyn yn cynnwys archwilio’r eiddo a sefydlu canolfannau cyswllt y gallai’r cyhoedd eu ffonio i wneud cais am y grant. Rhoddodd hyn straen arall ar ein hadnoddau, ac nid ydym wedi gallu hawlio’r costau’n ôl – byddwn yn pwysleisio hyn yn ein hymateb.

Y prif gyllid oedd y Cynllun Cymorth Ariannol Brys, a rannwyd yn ddwy ran; ymateb ac adfer. Dyma’r maes y cafwyd y prif anawsterau ynddo. Nid oes hawl awtomatig i’r cynllun, ond yn hytrach, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei roi ar waith ar gyfer digwyddiad penodol (gwnaethant hyn ar gyfer y llifogydd ym mis Chwefror). Yna mae trothwyon penodol yn cael eu gosod; yn 19/20 ein trothwy oedd £313 mil, sy’n golygu bod angen i ni wario hyd at y swm yma cyn bod yn gymwys am unrhyw gymorth. Yna, byddem yn derbyn 85% o’r arian sy’n cael ei wario dros £313 mil – sy’n golygu bod angen i’r awdurdod ddod o hyd i 15% o’r arian yma. Mae termau ac amodau ynghlwm â’r gronfa yma. I ni, y prif amodau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar y pryd, oedd y byddent yn hyblyg gyda’r cyllid, na fyddent, o bosib, yn gorfodi’r trothwy 85%, a’u bod, yn wir, yn annog awdurdodau lleol i wneud cais, hyd yn oed os mai tebygol fyddai y byddent yn gwario llai na’r trothwy. Rhoddodd hyn yr argraff i ni y byddem yn gymwys. Bu iddynt, hefyd, ychwanegu elfen yngl?n â rhoi gostyngiadau treth cyngor a chyfraddau busnes i gartrefi a busnesau a effeithiwyd gan y llifogydd. Bu iddynt ein hannog i roi tri mis o ryddhad i’r cartrefi rheiny a hawlio’r arian yn ôl o dan y cynllun.

Roedd casglu cost yr ymateb yn llawer o waith. Gwnaethom hynny, a gwelsom mai dim ond £321 mil yr oeddem wedi ei wario. Golygodd hyn ein bod £8 mil dros y trothwy; ac unwaith y byddai’r 85% wedi ei gyfrif, gallem hawlio £6857. Yn gyffredinol, roedd hyn yn siomedig iawn o herwydd mai’r termau ac amodau safonol a dderbyniwyd gennym am y grant. Ni dderbyniom amryw o’r pethau yr harweiniwyd ni i gredu y byddem yn eu derbyn. Y teimlad cyffredinol yng Nghymru yw mai ymarfer diwerth oedd hwn, gydag ychydig iawn o gyllid yn deillio ohono.

Rydym hefyd yn bwriadu casglu costau adfer ar gyfer cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. Rydym wedi canfod £8.8 miliwn o gostau y bydd Sir Fynwy’n eu hysgwyddo dros dair blynedd. Yn ddiweddar, rydym wedi clywed sôn y byddwn yn derbyn peth o’r cyllid hwnnw; o gwmpas £2.3 miliwn ar gyfer 2021. Cyfnod byr iawn sydd gennym i wario’r arian, ac nid yw’r amser o’r flwyddyn yn ddelfrydol ar gyfer gwneud gwaith megis rhoi wyneb newydd ar ffyrdd. Yn anffodus, ychydig iawn o wybodaeth sydd wedi dod gyda’r arian o ran a oes modd i ni gario peth ohono drosodd i’r flwyddyn ganlynol os nad ydym yn ei wario.

Yr ail gwestiwn yw a fydd angen mwy o gyllid brys y gaeaf hwn er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddelio â llifogydd. Pwysleisiodd y gaeaf diwethaf y ddiffyg adnoddau sydd gennym ar gyfer ymateb i’r digwyddiadau yma tra’n parhau i gynnal dyletswyddau eraill. Mae angen ystyried, hefyd, y gwaith a wnaed gan Priffyrdd a Cynnal a Chadw Tir. Heb os, mae angen cyllid ychwanegol arnom os byddwn yn wynebu digwyddiad arall fel y llynedd. Un problem y llynedd o ran cymorth ariannol brys oedd bod angen ysgwyddo a hawlio’r costau cyn diwedd y flwyddyn ariannol – digwyddodd y llifogydd ganol Chwefror a bu iddynt barhau hyd nes canol Mawrth, felly parhaodd ein gwaith o glirio ceuffosydd a chyrsiau d?r, ac ati ymhell y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol. Gan fod y pot hwn o arian wedi diflannu, ceisiom hawlio’r arian yn ôl drwy’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys, fel y crybwyllwyd, nid oeddem yn llwyddiannus o ran adennill rhai o’r costau yma.

Y trydydd cwestiwn yw a oes digon o gefnogaeth yn cael ei roi i awdurdodau lleol i’w galluogi i godi ar eu traed yn dilyn llifogydd mawr; rydym dal yn y cam adferiad yn dilyn llifogydd y gaeaf diwethaf, ac mae’n debygol y byddwn yn parhau yn y cam yma am amser maith. Mae’r cwestiwn yn dibynnu ar faterion ariannon (drwy’r CCAB), fel sydd wedi ei ddisgrifio’n barod. Mae hefyd yn symud ymlaen i grybwyll ymgymryd ag ymchwiliad a gwneud newidiadau er mwyn rheoli’r risg y bydd hyn yn digwydd eto; rydym yn edrych ar nifer o gynlluniau llifogydd ar hyn o bryd, ac rydym yn rhoi pwysau ar CNC yn rheolaidd i symud pethau yn eu blaen o ran llifogydd prif afonydd ar draws y sir. Roedd un o’r prif broblemau a gawsom y gaeaf diwethaf yn ymwneud ag amddiffynfeydd rhag llifogydd preifat a byndiau, fel arfer mewn ardaloedd gwledig; yn arbennig, mae byndiau yn Llanwenarth, Prioress Mill Lane a Llanbadoc. Mae’r rhain yn fwndiau tir mawr nad ydynt yn cael eu rheoli ar hyn o bryd gennym ni na CNC. Nid ydynt, ychwaith, yn ddarostyngedig i ymchwiliadau na gwaith chynnal a chadw. Methodd y bwndiau yma mewn modd difrifol y gaeaf diwethaf. Mae bwnd Llanbadog bellach wedi cael ei gydnabod fel ased CNC, sydd yn newyddion da iawn. Mae ein Harweinydd, y Cynghorydd Fox, mewn cyswllt rheolaidd gyda CNC yngl?n â’r mater hwn. Rydym, fel awdurdod, wedi ein cyfyngu o ran yr hyn y gallwn ei wneud, am eu bod yn asedau sy’n perthyn i brif afonydd. Wrth i’r glaw gychwyn yn barod yr Hydref/Gaeaf hwn, mae trigolion yr ardaloedd yma’n dod yn bryderus iawn. Byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru a CNC, ac yn enwedig CNC i ryddhau cyllid yn llawer cynt.

Y pedwerydd cwestiwn yw pa mor effeithiol yw’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydiad Arfordirol o ran darparu swyddogaeth gynghorol a chydlynol i Lywodraeth Cymru. Nid ydym yn chwarae llawer o ran yn y materion yma. Mae’r pwyllgor yn un eithaf newydd. Ni allwn roi ymateb, mewn gwirionedd, oni bai am ddweud nad oes gennym fodd uniongyrchol o drafod gyda’r pwyllgor, efallai y gellir gwella hyn.

Gwnaeth yr Aelod Cabinet Jane Pratt y sylwadau pellach canlynol:

Mae’r darlun a roddwyd heddiw’n un sy’n achosi pryder mawr. Deliodd ein swyddogion, mewn modd rhagorol, â’r llifogydd. Mynychodd y Swyddog Price a minnau gynhadledd y llynedd, ac ynddi, dywedodd y Swyddfa Dywydd yn gwbwl glir beth sy’n ein wynebu: gallwn fod yn sicr y bydd gaeafau gwlyb a hafau poeth iawn yn parhau. Mae’n sefyllfa anodd iawn am nad oes modd i ni gychwyn ar y gwaith y telir amdano gyda’r arian ychwanegol (y tu hwnt i’r £2.3 miliwn yr ydym wedi ei dderbyn) gan nad oes sicrwydd y gallwn ei adennill gan Lywodraeth Cymru. Nid oes gennym yr un lefel o arian wrth gefn â sir megis RCT, a effeithiwyd gan lifogydd difrifol hefyd. Pryder arall yw CNC: caiff ei ariannu’n wael, mae’n araf yn ymateb, ac nid oes ganddo adnoddau digonol. Mae lefelau glo gyda lifddwr sy’n codi hefyd yn broblem. Rwyf wedi bod yn y swydd hon ers mis Mai y llynedd, ac nid wyf wedi cael gwahoddiad i unrhyw gyfarfod gan y Pwyllgor Llifogydd ac Erydiad Arfordirol, sy’n gywilyddus. Teimlir yr effeithiau o hyd: er enghraifft, ni wnaethpwyd y gwaith angenrheidiol gan CNC ar ffordd yr A466 (yn dilyn tirlithriad), sy’n golygu y bydd yn rhaid i ni ei chau y flwyddyn nesaf. Mae aneffeithlonrwydd o fewn y sefydliadau yma’n cael effaith pellgyrhaeddol.

Her:

Ym Mrynbuga, dros y blynyddoedd, mae’r afon wedi cronni bob ochor i’r bont. Ai cywir yw nodi mai cyfrifoldeb CNC yw carthu afonydd, ac a fydd arian yn ar gael iddynt yn y dyfodol ar gyfer gwneud hyn gyda’r Wysg?

Ie, CNC sy’n gyfrifol am afonydd. Nid ydynt yn eu carthu’n rheolaidd, fodd bynnag. Oni bai bod afon yn cael ei charthu yr holl ffordd i’w gollyngfa, dim ond creu man isel sy’n llenwi’n ôl i fyny’n naturiol y mae carthu mewn un lleoliad yn ei wneud. Ond, mae CNC yn cael gwared â chroniadau o gerrig mân, felly byddwn yn cysylltu â hwy yngl?n â’r ynysoedd sydd wedi ffurfio’n raddol ym Mrynbuga, er mwyn gweld a oes modd iddynt wneud archwiliad gyda’r bwriad o gael gwared ohonynt.

Beth yw’r terfyn amser o ran ymateb i CLlLC?

Y terfyn amser o ran ymateb i CLlLC yw diwedd y dydd yfory.

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae’r holl aelodau wedi cydnabod ymateb cadarn MCC i lifogydd y gaeaf diwethaf, a llesiwyd eu diolchgarwch am yr ymdrechion a wnaed gan swyddogion yn ystod yr argyfwng, yn ogystal â gan breswylwyr o ran codi arian at y gronfa gymorth. Awgrymodd y Cynghorydd Roden y dylid ail-ystyried rheoliadau 1015 os y byddwn yn wynebu gaeafau gwlyb yn barhaus, ac awgrymodd efallai y bydd amser yn dod pan na ddylid adfer tai sy’n dioddef llifogydd yn rheolaidd, gan ddychwelyd y gorlifdiroedd yn ddolydd.

Pwysleisiodd y Cynghorydd Pratt bwysigrwydd cyfleoedd ymgysyllty, a sicrhau bod trafodaeth uniongyrchol yn digwydd gyda gweinidogion ac uwch swyddogion.<0}Byddwn yn cyflwyno ymateb cadarn i Lywodraeth Cymru, fel yr eglurwyd gan y swyddogion, ond mae’n bwysig fod pob awdurdod lleol yn cael y cyfle i sgwrsio’n uniongyrchol â gweinidogion, a thynnu sylw at broblemau penodol. Roedd pryderon o’r cychwyn, pan sefydlwyd CNC, yngl?n â’r ymrwymiad o ran ariannu yn y tymor hir; mae’r wybodaeth sydd wedi ei rhoi i ni heddiw yn fwy o destun pryder byth.