Agenda item

Adroddiad Aneddiadau Cynaliadwy y Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Craffu ar adroddiad polisi cefndirol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddogion Craig O’Connor a Jill Edge yr adroddiad, rhoddasant wybod i’r pwyllgor am yr Arfarniad Anheddau Cynaliadwy, sydd wedi cael ei baratoi er mwyn bod yn sail i’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Her:

A ddylai’r system sgorio a ddefnyddir ar gyfer y diagram ar dudalen 2 gynnwys pwyntiau negyddol er mwyn lleihau sgoriau os oes problemau negyddol yn bodoli? Ee yn Nhrefnynwy mae gennym diffyg o ran capasiti carthion, a llai o fannau parcio ceir na’r rhan fwyaf o drefi mawr eraill.

Daeth yr eitemau yn y diagram gan Lywodraeth Cymru fel llawlyfr ar gyfer yr hyn y dylid ei ystyried. Mae’r ymarfer hwn yn edrych ar y mesurau meintiol ee y cyfleusterau sydd yn bodoli. Wrth symud ymlaen, bydd yr elfennau eraill ar y diagram yn cael eu hystyried, ond nid yw’r rhain yn ffurfio rhan o’r arfarniad yma. Bydd yr asesiad meintiol yma’n cael ei gynnal, a bydd trafodaethau’n digwydd gyda’r Bwrdd Iechyd, Awdurdod Addysg, D?r Cymru, ac ati. Mae gennym gyfarfod mewn ychydig wythnosau i drafod capasiti Trefynwy o ran carthion. Byddwn, felly, yn edrych ar y pethau yma, a byddwn yn ceisio cael mwy o arian gan ddatblygwyr, pe byddai safleoedd yn dod yn eu blaen, ar gyfer gwella ein seilwaith. Dim ond ar yr anheddau rheiny yn Sir Fynwy y teimlir sy’n gynaliadwy y mae’r ymarfer hwn yn edrych, a hynny’n seiliedig ar y wybodaeth feintiol sydd gennym ar hyn o bryd.

Gall treiddiad band Llydan amrywio ar draws ardaloedd bach iawn. Oherwydd natur fryniog y sir. A yw hyn yn cael ei ystyried?

Ni edrychom ar dreiddiad band llydan. Rhoddwyd ystyriaeth i gyflymder, yn seiliedig ar y wybodaeth yr oedd modd i ni gael gafael ynddi wrth gynnal yr arolwg. Bydd hyn yn cael ei ddiweddaru. Nid yw’n amlwg sut y mae modd asesu treiddiad, sut y mae modd ei fesur. Os oes gan yr aelodau syniadau yngl?n â hyn yna gallwn eu hystyried wrth wneud y gwaith yma eto yn y dyfodol.

Beth mae’r dadansoddiadau yma’n ein galluogi i wneud? Beth y mae modd i ni fynnu bod datblygwyr yn ei wneud i ni, o ganlyniad?

Mae’r arfarniad yn sail i’n Cynllun Datblygu Lleol newydd o ran ble y dylem edrych ar dwf posib, a chyfleoedd o ran tai a chyflogaeth. Ein cyfrifoldeb ni fel cyngor yw ystyried pa leoliadau yw’r rhai mwyaf cynaliadwy o ran datblygu twf. Gall y datblygiadau yma o ran twf wella ardaloedd, gan wella, o bosib, y pwyntiau negyddol yr ydym wedi eu trafod. Yn y Cynllun Datblygu Lleol diwethaf, roedd meddygfa ar fin cau, ond diolch i’r twf o ran tai yn yr ardal, fe’i cadwyd ar agor ar gyfer y gymuned. Mae datblygiadau tai newydd, felly’n sicrhau bod rhai gwasanaethau’n cael eu cadw; rydym eisiau cadw busnesau lleol ar agor a sicrhau bod ein hardaloedd lleol yn ffynnu.

Da yw gwybod pa gymunedau sy’n gynaliadwy, a gwybod am yr hyn yr hoffem ei adeiladu, ond os nad oes gennym yr ewyllys gwleidyddol er mwyn mynnu bod yr hyn yr hoffem yn cael ei adeiladu, onid yw’r ymarfer hwn yn ymwneud â’r hyn y gallwn fynnu bod datblygwyr yn ei wneud?

Ie, bydd yr hyn yr ydym ei eisiau gan ddatblygwyr – pa fath o ddatblygiadau, a lefel y twf yr ydym eisiau ei weld ar gyfer Sir Fynwy – yn dod ir’ amlwg drwy’r broses o lunio’r Cynllun Datblygu Lleol yma. Dyma un cam mewn proses hir sydd wedi digwydd dros gyfnod o flynyddoedd o ran datblygu’r cynllun yma. Rydym wedi cael nifer o drafodaethau yngl?n â’r gymysgedd o dai, a’r mathau cynaliadwy o ddatblygiadau a chynlluniau yr ydym eisiau eu gweld. Ond bydd y polisïau manwl rheiny a’r hyn y byddwn yn ei fynnu gan ddatblygwyr yn dod yn nes ymlaen yn y broses. Y cam cyntaf yn unig yw hyn, adnabod pa ardaloedd yw’r rhai mwyaf cynaliadwy, a ble gallai’r twf ychwanegol fod?

Wrth lunio’r strategaeth, oni ddylem, hefyd, ystyried pwysigrwydd denu’r math iawn o gyflogwyr, a rhoi’r seilwaith sydd ei angen yn ei le?

Dylem, mae angen dull holistaidd. Mae’r cynllun yn ymwneud â thwf, tai a chyflogaeth, a sicrhau ein bod yn adeiladu yn y lle iawn. Mae angen i ni sicrhau bod yr holl wasanaethau o fewn cyrraedd rhwydd i bobl. Mae Covid wedi tanlinellu pwysigrwydd “lleol” – mynd i’r gwaith mewn hybiau lleol, ac ati. Mae nifer o drafodaethau’n digwydd yngl?n â chanolbwyntio mwy ar bethau lleol, a chydbwysedd o ran gwaith/bywyd. Rydym eisiau gwella ein anheddau presennol er mwyn sicrhau y gallwn wella yn hyn o beth. Yn bendant, mae’n bwysig iawn ystyried y darlun cyflawn, a dyma pam ein bod angen selio ein penderfyniad ar dystiolaeth gadarn.

A oes gennym syniad beth mae’r data newydd gan Lywodraeth Cymru’n ei awgrymu? A yw’r data’n debygol o newid unrhyw beth yn sylweddol?

Rydym yn dal i weithio ein ffordd drwy’r manylion ar hyn o bryd. Rydym yn siarad gydag ymgynghorwyr yngl?n â sut y mae’r amcanestyniadau poblogaeth yn effeithio ar Sir Fynwy, felly mae’n debyg ei bod yn rhu gynnar i ddweud sut y bydd hyn yn datblygu o ran lefelau twf. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn edrych eto ar yr opsiynau o ran twf, yn seiliedig ar y ffigurau yma, a byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Gallwn ymgysylltu gyda’n cymunedau er mwyn gweld ble y maent yn teimlo y dylem fynd. Mae problemau allweddol yn Sir Fynwy sydd angen eu datrys o hyd; tai fforddiadwy, poblogaeth sy’n heneiddio, dibyniaeth ar geir, ac ati. Mae angen i ni adolygu’r ffigurau a’r dystiolaeth newydd, ac yna rhoi sylw i broblemau, gan sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau sydd er budd ein cymunedau. Pan fyddwn yn ail asesu’r arfarniad anheddau, gan ddefnyddio’r un fethodoleg, bydd yn cael ei anfon allan i bob cyngor cymuned.

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym wedi rhoi sylwadau ar rai o’r agweddau o fewn yr adroddiad, gan awgrymu edrych eto ar y capasiti o ran sgorio- mae’r swyddogion wedi pwysleisio’r data ansoddol a meintiol, ond mae angen i ni gydbwyso’r cyfyngiadau a allai wneud datblygu pellach yn yr ardaloedd rheiny’n fwy problemus. Ac yn yr un modd, rydym wedi clywed sut y gall datblygiad ddod â chyfleoedd o ran twf busnes; weithiau mae cymunedau’n wynebu anawsterau cyn i’r broses gael ei hail-asesu, a chaiff seilwaith newydd ei roi yn ei le. Nododd y swyddogion mai’r nod yw gwella cymunedau, a’u gwneud yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir. Mae disgwyl i’r gweithdai ar y CDLl ail-gychwyn, a bydd hyn yn bwysig o ran bwydo i mewn i’r broses. Clywsom bryderon yngl?n a threiddiad band llydan a chyflymder, awgrymodd y Cynghorydd Becker ein bod yn edrych ar faint o bobl y mae Open Reach yn ddweud y maent wedi eu goleuo mewn ardal ar gyfer ffibr, yn benodol ffibr i gabinet o’u cymharu â faint o dai sy’n cael eu gweinyddu gan y cabinet dan sylw. Cynigiodd y Cynghorydd Roden y dylid cyflwyno pedwerydd egwyddor sgorio ar gyfer ffactorau negyddol.

 

 

Dogfennau ategol: