Agenda item

Cyflwyniad ynghylch yr Adolygiad o'r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol - Craffu ar gynigion.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Cath Fallon gyflwyniad ar y strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, yn dilyn cyflwyniad byr gan y Cynghorydd Sara Jones. Cyhoeddwyd y strategaeth ddwy flynedd yn ôl fel dogfen fyw y gellir ei haddasu, rhoi ystyriaeth i ffactorau allanol a sicrhau ei bod bob amser yn berthnasol ac yn gymwys i aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas. Cafodd y strategaeth ei diwygio yr haf diwethaf yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau ac roeddem i fod i wneud yr un peth eleni ond cafodd y proses ei hymestyn oherwydd y pandemig. Bydd angen i’r heriau y byddwn yn anochel yn eu hwynebu fel canlyniad gael eu hadlewyrchu yn y fersiwn diweddaraf.

Mae’r strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymwneud â phobl, lle a ffyniant, sef y nod o roi cyfiawnder cymdeithasol wrth galon yr hyn a wnawn, gyda’r strategaeth yn rhaglen eang i roi’r weledigaeth ar waith. Rydym eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol, tra’n gweithio mewn partneriaeth gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i alluogi cymunedau cysylltiedig a gofalgar i gefnogi pobl i fyw’n annibynnol ond hefyd yn cyflawni ar gyfiawnder cymdeithasol, gwell ffyniant a gostwng anghydraddoldeb. Rydym eisiau galluogi gwasanaethau lleol gwell drwy gefnogi gwirfoddolwyr a gweithredu cymdeithasol. 

Mae hyn yn gydnaws gyda blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ostwng anghydraddoldeb rhwng, ac o fewn, cymunedau yn ogystal â chefnogi pobl fregus, ac ystyried ein heffaith ar yr amgylchedd. Ymhellach, mae’n gydnaws gydag amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc, ac ymateb i heriau a newidiadau demograffig. Mae hefyd yn ein galluogi i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cymunedau a busnesau i fod yn rhan o sir sy’n ffynnu’n economaidd ac sydd â chysylltiadau da.

Y tîm Cymuned a Datblygu Partneriaeth sy’n gyrru’r strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, gan weithio fel pont rhwng anghenion a dymuniadau cymunedau. Daethom i’r casgliad fod gweithio ardal a datblygu cymunedol yn gweithio’n dda. Mae gan rai o’n clystyrau ardal fwy o ymgysylltu a nifer uwch yn mynychu nag eraill, ond rydym yn gweithio mewn amgylchedd lle mae cyfleoedd eraill i gysylltu.

Bu rhai datblygiadau cadarnhaol oherwydd gwaith partneriaeth y tîm, yn ein rhwydwaith gwasanaethau cymorth ieuenctid a dulliau cydlyniaeth cymunedol, a fu’n hanfodol, yn arbennig yn ystod y pandemig, o ran sut ydym yn ymgysylltu gyda’n preswylwyr BAME. Bu’r Rhaglen Ysgolion Bro yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion, gwirfoddolwyr a rhieni i gasglu a defnyddio ein cyfalaf cymdeithasol hefyd yn gadarnhaol iawn.

Cyn Covid-19, teimlem fod angen i ni hyrwyddo’r cynllun yn fwy eang, yn fewnol ac yn allanol, ond gyda ffocws cryfach ar ddatblygu cymunedol. Mae ‘Be Community’ yn sicrhau ein bod yn rhoi’r gefnogaeth a’r cyngor gorau oll i’n gwirfoddolwyr. Rydym hefyd yn cynyddu cyllid hyblyg i sicrhau y gallwn helpu pan welwn angen go iawn yn y gymuned. Gwelsom, wrth i ni ymrwymo fel awdurdod, y bydd cynghorau tref a chymuned yn dilyn. Teimlem ei bod yn bwysig edrych ar ein partneriaethau a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ofyn os yw ein strwythur partneriaeth yn rhy gymhleth, gyda meysydd o orgyffwrdd neu ddyblygu, a sicrhau fod y gymuned yn bartner cyfartal.

Newidiodd ein gwaith yn sylweddol iawn ar ôl i’r pandemig daro, gyda’r ffocws yn symud i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn siopa ar gyfer preswylwyr, mynd i nôl presgripsiynau ac yn y blaen. Cafodd hyn ei gydlynu drwy Rwydwaith Rhithiol Gr?p Gweithredu Gwirfoddolwyr. Sefydlwyd Tîm Recriwtio Diogel i sicrhau ein bod yn cynnal y gwiriadau cywir ar wirfoddolwyr. Fe wnaeth y Tîm Angen sicrhau fod y gefnogaeth gywir ar gael yn y lle cywir – fe wnaethom sylweddoli’n fuan y byddai’n rhaid i ni weithio’n agos iawn gyda Gwasanaethau Cymdeithasol i frysbennu pob ymholiad a gawsom. Drwy Gyfnewidfa Cymunedol Ddigidol Sir Fynwy fe wnaethom gysylltu’n ddigidol i gynyddu’r cyfleoedd hyn i’r eithaf, gan hefyd ddod â’n partneriaid Trydydd Sector i’r berthynas, gan sicrhau fod gennym yr uchafswm o gefnogaeth wirfoddol ac arbenigol ar gael. Mae hyn wedi cynnwys 76 o gydweithwyr o 15 o wahanol dimau a 3 sefydliad allanol. Gwnaed 765 o gysylltiadau, gyda 227 o wirfoddolwyr yn trin 537 cais am help.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn awr yn ystyried mabwysiadu dull seiliedig ar le at weithio partneriaeth, gyda ffocws ar atal ac ymyriad cynnar. Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi llywodraethiant a chyfeiriad i’r timau, gan sicrhau fod yr adroddiad yn aml-asiantaeth, heb fod yn dyblygu gwaith ac wedi’i gydlynu gymaint ag sydd modd. Mae pwyslais ar weithio llwyddiannus drwy’r Rhwydwaith Rhithiol yn bwysig cyn ail gyfnod clo posibl. Y camau nesaf: teimlwn ei fod yn dull gweithredu seiliedig ar rwydweithiau cymdogaeth a chynnal gweithio traws-gyfarwyddiaeth a’r momentwm sydd gennym ar hyn o bryd. Mae cyflenwi wedi ei dargedu, seiliedig ar ddata a’i yrru gan ddata yn bwysig iawn – rydym ar bwynt lle gallwn ddynodi aelwydydd penodol mewn ardaloedd penodol, yna darparu’r math iawn o gefnogaeth. Rydym hefyd angen gwneud yn sicr fod gan dimau strwythur caniatâd a’r gefnogaeth y maent ei angen, hefyd.

Yn nhermau cydlyniaeth polisi, mae angen i ni ystyried sut olwg sydd ar ein strategaeth cyfiawnder cymdeithasol diwygiedig yng ngoleuni’r newidiadau. Mae’n amlwg fod angen i ni gadw cyfiawnder cymdeithasol wrth galon popeth a wnawn.  Rydym yn edrych yn awr at ostwng anfantais, a sicrhau cyfiawnder rhyng-genhedlaeth. O fewn y strategaeth gynhwysfawr, mae gennym gynlluniau gweithredu wedi’u targedu ar gyfer mynd i’r afael â tlodi ac anghydraddoldeb a fu’n cael eu datblygu ers peth amser – rydym yn gweithio ar ddogfen a ddylai fod yn barod ar gyfer ymgynghori yn fuan. Mae gennym hefyd Gynllun Gweithredu Datblygu Bwyd gan fod sicrwydd bwyd yn fater pwysig. Rydym yn edrych sut mae hyn yn cysylltu gyda’n cadwyni cyflenwi lleol ac o safbwynt llesiant economaidd. Mae iechyd/llesiant meddwl ac ynysigrwydd cymdeithasol hefyd yn rhan o hyn. Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn y sector Tai i  fynd i’r afael â digartrefedd. Caiff y polisïau eu hintegreiddio gyda’r Cynllun Cydraddoldeb a’r Fframwaith Gwirfoddoli Cymunedol Gwirfoddolwyr.

Roedd cynnig yn gynharach yn y flwyddyn gan y Cynghorydd Batrouni am yr angen am thema benodol yn y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi ac Anghydraddoldeb. Rydym wedi ailffocysu rôl Judith Langdon a Ryan Coleman, sy’n edrych nawr ar y thema o sicrhau ffyniant ac atal ein dinasyddion rhag profi tlodi. Fodd bynnag, er ein hymdrechion sylweddolwn bydd adegau ym mywydau pobl lle byddant yn profi caledi ariannol. Lle mae hyn yn digwydd byddwn yn dod ynghyd i roi cefnogaeth i sicrhau fod y profiadau mor fyr, anaml ac mor hylaw ag sydd modd. Byddwn yn helpu pobl i ddod allan yn fwy cydnerth o’r profiad hwnnw.

Mae llawer iawn o ddata tu ôl i’r hyn y bu’r swyddogion Langdon a Coleman yn gweithio arno. Y blaenoriaethau yw sgiliau cyflogadwyedd a cymorth cyflogaeth, tlodi mewn gwaith, iechyd meddwl a chefnogaeth emosiynol, cefnogaeth deg ar gyfer tlodi unigrwydd ac atal argyfwng. Ffocws ein gweithgareddau yw cefnogaeth i unigolion, teuluoedd ac aelwydydd i adeiladu hunan-gydnerthedd, creu cymdogaethau llewyrchus a chefnogol i alluogi cymunedau i adeiladu cydnerthedd lleol; gweithio tuag at sir gysylltiedig lle gall pobl a chymunedau ffynnu a gostwng anghydraddoldeb; a defnyddio ein pwysau i ddylanwadu ar achosion strwythurol tlodi ac anfantais, gan gydweithio i wella cyfleoedd a ffyniant i bawb.

Rydym yn ymgynghori nawr gyda’n partneriaid yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i weithredu strwythur gwaith seiliedig ar le, a diwygio ein strategaeth Cyfiawnder Troseddol i gyfarfod nesaf y Gr?p Ymgynghori Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Cabinet i’w gymeradwyo.

 

Her:

Atebodd y swyddog Judith Langdon gwestiynau gan aelodau:

 

Mae’r strategaeth yn siarad am drechu anghydraddoldeb – pa fath o ‘anghydraddoldeb’ mae hyn yn cyfeirio ato?

 

Gallai ‘anghydraddoldeb’ gynnwys nifer eang o feysydd. Ar hyn o bryd mae’n fyrfodd am ‘anghydraddoldeb incwm’. Rydym yn ffodus i gael mwy o ddata ar gael ar hynny, sy’n ei gwneud yn rhwyddach i ddangos maint yr anghydraddoldeb mewn ffordd weledol. Felly dyna yw ein prif ffocws, er efallai yn bwysicach yw’r profiad byw fel canlyniad i’r anghydraddoldeb hwnnw. Byddwn felly’n edrych ar agweddau tebyg sut y caiff anghydraddoldeb incwm ei ddangos mewn anfantais addysgol, ansicrwydd bwyd ac yn y blaen. 

 

Wrth ‘drechu tlodi’, pwy ydyn ni’n eu diffinio fel tlawd?

 

Mae hwn yn fater cymhleth. Mae mesurau safonol a ddefnyddir o ran incwm isel, naill ai dan 50% neu 60% o incwm canolrif, ond nid yw hyn o reidrwydd yr un peth â ‘thlodi’. Y rheswm pam nad oes unrhyw un diffiniad a gytunwyd yn genedlaethol yw ei bod yn bosibl (fel y dangosir, er enghraifft, gan waith Sefydliad Joseph Rowntree) i fod dan 60% ond fel un aelwyd gyda gwariant cymharol isel, nad yw hyn o reidrwydd yn gyfystyr â thlodi. Yn yr un modd, gall pobl fod sy’n nes tuag at y trothwy y bydd eu profiadau byw yn nes i’r hyn a adnabyddwn ni fel tlodi. Rydym wedi trafod hyn fel gr?p partneriaeth, gobeithio, pan ddaw’r cynllun gweithredu ymlaen i gefnogi’r strategaeth, byddwn yn ehangu ar ddealltwriaeth a gaiff ei rhannu o’r hyn a olygwn wrth ‘dlodi’.

 

A oes cyllideb benodol ar gyfer dau swyddog newydd, a sut mae’n gweithio?

 

Nid oes cyllideb benodol wedi’i dynodi ar gyfer y maes gwaith hwn ond mae cryn dipyn o adnoddau sy’n eistedd tu ôl i’r gwaith hwnnw sy’n trin tlodi ac anghydraddoldeb. Yn neilltuol, fel y soniodd Cath Fallon, byddwn yn edrych ar ailgomisiynu’r Grant Tai a Cymunedau dros tua’r 6 mis, sydd ag adnodd sylweddol tu ôl iddo. I raddau helaeth mae’n fater o ddefnyddio a chymhwyso ein hadnoddau yn ddeallus i gael yr effaith orau bosibl.

 

Pryd fydd y pwyllgor yn gweld y Dangosyddion Perfformiad Allweddol, fel y gallwn ddal yr aelod o’r Cabinet a’r swyddog i gyfrif?

 

Mae hyn yn gyflwyniad lefel uchel. Mae llawer iawn o ddata tu ôl iddo. Pan ddaw’r cynllun gweithredu llawn ymlaen fel rhan o’r strategaeth, gwelir yn glir fod llawer o ddata Dangosyddion Perfformiad Allweddol ynddo.

 

Y tueddiad newydd, fel y dangosir yn y ddau adroddiad diweddar gan IFS a’r Comisiwn Cyfiawnder Cymdeithasol, yw bod anghydraddoldeb incwm yn gostwng ond bod cynnydd enfawr mewn anghydraddoldeb cyfoeth. A fyddwch yn ystyried y broblem yma?

 

Byddwn, mae hwn yn bwynt pwysig iawn yr ydym yn ei gydnabod ac y byddwn yn bendant yn ei ystyried yn ein gwaith.

 

Mae tai yn allweddol: mae tlodi plant yn dyblu pan gaiff costau tai eu hystyried, er enghraifft, a yw’r maes yn cael y sylw angenrheidiol?

 

Mae tai yn hanfodol ar gyfer ansawdd byw da. Y flaenoriaeth yw set lefel uchel o feysydd ar gyfer gweithredu ar unwaith. Mae llawer o waith presennol sy’n mynd rhagddo. Mae’r Grant Tai a Chymunedau yn amlygu fod tai yn sylfaen i lawer iawn o’r gwaith hwn, felly ni ddylid dehongli absenoldeb y gair ‘tai’ yn y rhestr o flaenoriaethau fel bod yn dangos diffyg sylw i’r maes tai. Dylai hyn fod yn amlwg yn y cynllun gweithredu llawn.

 

Pam nad oes unrhyw sôn am symudedd cymdeithasol? Yngl?n ag addysg, a ydym yn ystyried gweithredu cynlluniau gweithredu unigol yn llawer cynharach nag oed TGAU, gyda’r gobaith o welliant nes ymlaen yn ein ffigurau, wrth i’r plant hynny dyfu?

Mae un o’r ddwy swyddog a fu’n gweithio ar dlodi ac anghydraddoldeb wedi gweithio ar raglen ysgolion bro hyd yma, maes lle’r ydym wedi bod ar y blaen. Rydym wedi edrych sut y gallwn ddefnyddio holl asedau cymuned leol i helpu cefnogi addysg a chyfleoedd bywyd y lleiaf breintiedig yn ein hysgolion. Bu’r rhaglen yn rhedeg am tua 18 mis ac oherwydd ei phwysigrwydd, daethpwyd â’r swyddog i’r gwaith tlodi hwn. Mae’n integreiddio gwaith y rhaglen i’r gwaith ehangach hwn ar dlodi ac anghydraddoldeb. Cafodd set o Ddangosyddion Perfformiad Cydraddoldeb eu datblygu am addysg, bylchau cyrhaeddiad prydau ysgol am ddim, sy’n rhan amlwg o’r strategaeth gynhwysfawr.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Bu gwaith swyddogion yn ystod y pandemig yn rhagorol wrth gefnogi cymunedau ar draws Sir Fynwy. Cododd y Cynghorydd Batrouni nifer o bwyntiau: dymunai wybod manylion y partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw, a gofynnodd am y diffiniad o anghydraddoldeb yr ydym yn ei weithredu. Fe wnaethom drafod mater cymhleth sut y diffiniwn fod yn ‘dlawd’, symudedd cymdeithasol a’r gyllideb ar gyfer y ddau swyddog. Hoffem weld Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn eu lle a gellir dal aelodau’r Cabinet i gyfrif. Cadarnhaodd Cath Fallon y bydd swyddogion yn symud ymlaen â’r pwyntiau hyn pan fo cynlluniau gweithredu unigol sy’n eistedd tu ôl i’r strategaeth cyfiawnder cymdeithasol gynhwysfawr yn dod trwodd.