Cofnodion:
Cyflwynodd y swyddog Alan Burkitt adroddiad llafar ar y Gymraeg yn Sir Fynwy. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ym Mesur y Gymraeg 2011, yn cynnwys rhoi trosolwg o berfformiad i Gomisiynydd y Gymraeg; rydym wedyn yn derbyn ymateb gydag asesiad y Comisiynydd ei hun. Mae’r gwasanaeth cyfieithu yn brysur iawn; ar gyfer hynny, mae llawer o’r 176 o safonau’r Gymraeg y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw yn cynnwys rhoi gwybodaeth, dogfennau ac yn y blaen. Mae ein gwasanaeth yn rhagorol, a chaiff ei redeg gan Becky Davies sy’n dosrannu ac yn cofnodi. Tua 18 y mis fe wnaethom amcangyfrif ein bod yn cyfieithu 1.6 miliwn o eiriau y flwyddyn, sy’n sylweddol fwy na chyn cyflwyno safonau’r Gymraeg. Mae’r defnydd gan staff yn rhagorol – anaml iawn mae dogfen wedi mynd allan heb gyfieithiad Cymraeg. Mae’r wefan yn hollol ddwyieithog.
Mae cynllunio gweithlu yn ofyniad yn edrych pa adnoddau sydd ar gael o fewn adrannau, yn ymarferol archwiliad o bwy yn yr adrannau hynny sydd â sgiliau yn y Gymraeg, o rhugl i lawr i ddysgwyr. Yn ddiweddar mae Sir Fynwy wedi nodi ‘Sgiliau yn y Gymraeg – Dymunol’’ o ystyried fod gennym 10,000 o breswylwyr yn siarad Cymraeg yn Sir Fynwy, nid oes unrhyw swydd lle na fyddai sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol. Y mater allweddol yw bod nifer staff ar y rheng flaen h.y. swyddi a hysbysebir fel ‘Sgiliau yn y Gymraeg – Hanfodol’ yn isel. Mae hyn yn dod â heriau. Mae eisoes yn anodd penodi i rai swyddi yn Sir Fynwy, yn arbennig mewn Gofal Cymdeithasol ac nid oes gennym drosiant mawr o staff. Mae felly’n anodd meithrin yr adnodd critigol hwnnw. Mae 34 aelod o staff sy’n siarad Cymraeg nad ydynt yn staff ysgol allan o tua 2,000. Cynhaliwyd cyfarfod Adroddiad Sicrwydd Ansawdd yr wythnos honno lle dynododd y comisiynydd fod nifer y staff rheng-flaen mewn rhai awdurdodau lleol yn wael. Mae 34 yn siarad Cymraeg yn rhugl yn y cyngor nawr, o gymharu â 28 pan ddechreuais ar y swydd. Mewn 36 swydd wag y llynedd, dim ond un a ddynodwyd fel swydd lle roedd y Gymraeg yn hanfodol.
Nid ydym wedi derbyn unrhyw gwynion swyddogol, sy’n amlwg yn rhywbeth cadarnhaol. Dim ond 1 g?yn a gawsom erioed a gwnaethom ei herio’n llwyddiannus. Fodd bynnag, mae rhai cwynion – rwy’n aml yn derbyn negeseuon e-bost yn cyfeirio at wahanol faterion, yr ydym yn eu trin ar unwaith.
Yn ogystal â recriwtio, problem fawr yw nad ydym yn rhagweithiol gyda’r gwasanaethau a gynigiwn. Os oes rhywun yn gofyn am rywbeth, rydym wedyn yn ceisio ei ddarparu, yn hytrach na chynnig pethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y lle cyntaf. Mae’r Comisiynydd, fel rhan o’i adroddiad, yn cynnal gweithgaredd ‘siopwr dirgel’ lle caiff staff croesawu eu hannerch yn Gymraeg ac os nad oes ymateb effeithlon, y casgliad yw fod y sefydliad yn brin yn ei sgiliau. Mae hyn yn rhywbeth mae angen i ni edrych o ddifrif arno ar gyfer adolygiad yn y dyfodol. Y newyddion da yw fy mod yn credu fod popeth arall yn ei le yma, yn cynnwys brwdfrydedd a chefnogaeth swyddogion. Yn ffodus, yr agwedd yn Sir Fynwy os oes rhywbeth angen ei wneud, y caiff hynny ei wneud yn iawn; mae hyn yn rhagorol ond mae angen i ni fod yn fwy rhagweithiol.
Her:
Yng nghyswllt recriwtio, pam fod ‘Dim angen y Gymraeg’ wedi ei nodi ar rai hysbysebion swydd?
Bu’r opsiwn hwnnw yno bob amser. Adolygais y materion hyn gydag Adnoddau Dynol, gan fod llawer yn dweud nad oes angen sgiliau yn y Gymraeg. Cytunwn fod gan bawb yng Nghymru allu yn yr iaith, pa bynnag mor fach, ac rydym felly wedi symud ymaith o ysgrifennu hyn. Mae bellach fwy o ffocws ar ‘Dymunol’. Mae’r rhai gyda sgiliau yn y Gymraeg yn tueddu i beidio gael eu penodi am y rheswm hwnnw, gyda’u gallu yn yr iaith yn cael ei ddarganfod yn ddiweddarach.
Sut ydyn ni’n cymharu gydag awdurdodau eraill ar y Gororau?
Mae nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg mewn rhan o Bowys, yn ymestyn o Ystradgynlais i Fachynlleth, ond mae llai o siaradwyr yr agosaf yr ewch at Glawdd Offa. Serch hynny, maent yn dal i fod heb addysg cyfrwng Cymraeg. Mae llawer mwy o siaradwyr yng Nghaerffili, er nad oes llawer yng Nghasnewydd, ac mae’n debyg fod gennym ni fwy o siaradwyr Cymraeg nag sydd ganddynt ym Mlaenau Gwent. Mae’n debyg ein bod yn debyg i Dorfaen, ac felly’n isel drwyddi draw. Rydym yn colli rhywbeth pa mae plant yn gadael addysg Gymraeg: os oes ganddyn nhw sgiliau yn y Gymraeg, fe ddylem fod yn dweud wrthyn nhw eu bod eu heisiau yma yn Sir Fynwy. Mae’n sgil hanfodol mewn achosion, fel, er enghraifft, gleifion dementia sy’n cael trafferthion i gyfathrebu yn Saesneg oherwydd eu bod wedi dychwelyd i’r Gymraeg. Mae’n rhywbeth o sefyllfa cyw-ac-wy o’n rhan ni yn cynnig y Gymraeg a phobl yn gofyn am hynny.
Mae’r adroddiad yn sôn fod 10,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn Sir Fynwy, tua 10% o’r boblogaeth, tra bod gan Lywodraeth Cymru nod o 30% o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. A fedrir cyflawni’r nod hon yn Sir Fynwy?
Mae Llywodraeth Cymru eisiau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, sef tua traean o’r boblogaeth. Y cyfrifiad yw’r ffigur mwyaf cywir ar gyfer siaradwyr, ond nid ydyn ni wedl cael cyfrifiad ers 2011, yn seiliedig ar ystadegau 2010. Bryd hynny roedd 8500 o siaradwyr Cymraeg, 9.9% o boblogaeth Sir Fynwy. Roeddem yn un o ddim ond dau le a welodd gynnydd ers y cyfrifiad blaenorol yn 2001. Mae’n her enfawr i’r sir. Bydd yr ysgol gynradd newydd yn sicr yn help. Mae’r nifer o bobl sy’n dysgu drwy’r Canolfannau Addysg Oedolion a Choleg Gwent yn rhagorol. Rydyn ni hefyd yn cynnig pecyn hyfforddiant cynhwysfawr i staff, gyda tua 70 yn manteisio ar y cyfle y llynedd. Bu’n llai eleni oherwydd Covid-19. Mae angen i ni ddal ati fel yr oeddem, gyda phwyslais ar hyrwyddo’r iaith, a cheisio cael mwy o staff sy’n siarad Cymraeg yn yr awdurdod. Yna, bydd mwy o bobl yn ei defnyddio ac yn ei gwerthfawrogi. Gobeithio y bydd cynnal yr Eisteddfod yma wedi helpu. Mae’r ddemograffeg am fwy na dim ond dysgwyr, gan fod llawer o bobl yn symud i’r ardal yma o rannau eraill o Gymru, gan ddod â’u sgiliau yn y Gymraeg gyda nhw, ac yn ffurfio llawer o’n niferoedd. Hefyd, mae pobl o Loegr sydd wedi dysgu Cymraeg.
Pan mae’r Comisiynydd yn edrych ar Sir Fynwy, a yw’n rhoi ystyriaeth fod gennym lawer o bobl o Fryste yn byw yma, fydd yn effeithio’n sylweddol ar nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir?
Mae hynny’n bwynt da iawn. Rydyn ni wedi cwrdd gydag Aled Roberts, y Comisiynydd newydd, sydd ei hun yn dod o sir ar y Gororau ac felly’n gyfarwydd gyda’r heriau. Mae Safonau eisiau i bawb gyrraedd yr un lefel ar yr un pryd, ac rwyf bob amser wedi teimlo nad yw hynny’n ymarferol. Oherwydd y pwynt rydyn ni’n dechrau ohono, efallai na fyddwn byth yn cyrraedd lefel siroedd eraill tebyg i Geredigion. Rwy’n credu fod y Comisiynydd newydd yn gwerthfawrogi bod Sir Fynwy ac awdurdodau eraill y De Ddwyrain yn gwneud gwaith da iawn gydag adnoddau cyfyngedig. Rwy’n credu y byddai angen iddo roi ystyriaeth i Fryste ond os caiff y plant hynny addysg Gymraeg dda yna mae ganddynt yr un cyfle ag unrhyw un arall o siarad yr iaith. Rwy’n credu fod gan y Gomisiynydd ddealltwriaeth dda o’r materion demograffeg yma yng Nghymru, ac mae’n gwybod ein bod yn gwneud ein gorau glas yn Sir Fynwy. Lle y gallai, ac y dylai, ein gwthio yw ar elfen bod y Gymraeg yn ‘hanfodol’, hynny yw cynyddu nifer y siaradwyr yn ein gweithlu, lle rydym yn rhoi cyfle i’r miloedd o blant a gafodd addysg Gymraeg gyfle i weithio i’n hawdurdod. Byddai hon yn feirniadaeth ddilys, ynghyd â pha mor ragweithiol ydym yn y gwasanaethau a gynigiwn.
Roedd nifer o siaradwyr Cymraeg yn arfer byw yn Llanofer, a wyddom os ydi hynny’n dal i fod yn wir, ac i ba raddau?
Na, rwy’n gwybod fod Arglwyddes Llanofer yn gyfaill mawr i’r Gymraeg ond ni chredaf fod llawer o siaradwyr yno nawr. Roedd ysgol Gymraeg yn arfer bod yno. Mae’r niferoedd mwyaf o amgylch yr ysgolion Cymraeg: y Fenni ac ardal Cil-y-coed.
Crynodeb y Cadeirydd:
Cododd y Cynghorydd Easson fater pwysig yr Eisteddfod yn hybu’r Gymraeg. Gwnaeth y Cynghorydd Batroumi bwynt dilys am i’r Comisiynydd roi ystyriaeth i leoliad Sir Fynwy a’n mewnlif o bobl o Fryste. Nododd hefyd waith rhagorol y Swyddog Burkitt yn hyrwyddo’r Gymraeg yn Sir Fynwy.
Dogfennau ategol: