Agenda item

Diweddariad

           Gorsaf Magwyr

           Gorsaf yr Hafren

           Gorsaf Cyffordd Twnnel Hafren

Cofnodion:

·         Gorsaf y Fenni, rhoddodd Network Rail y diweddariad byr dilynol: Mae AE yn awr wedi cwblhau ein hasesiad o’r datrysiad signalu sydd ei angen. Mae canlyniad hynny’n golygu nad oes newid yn y lleoliad gwreiddiol a gynigiwyd. Rydym wedi dechrau trafodaethau cynnar gyda Swyddog Cadwraeth Cyngor Sir Fynwy i gasglu eu gofynion cyn dechrau dylunio.”

 

Ychwanegwyd y cynigiwyd cyllid i Gyngor Sir Fynwy o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd/Llywodraeth Cymru ynghyd â MetroPlus (Cam 2) i gychwyn gwaith arall yng Ngorsaf y Fenni (amlinelliad o waith posibl yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol). Ni aethpwyd ymlaen â hyn hyd yma ond rhoddir adroddiad arno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Holwyd os oes angen cyfarfod interim gydag aelodau yn ardal y Fenni parthed y cyllid a gynigiwyd i wella’r orsaf. Dywedodd Christian Schmidt ei bod yn allweddol derbyn mwy o wybodaeth gan Network Rail yn y lle cyntaf.

 

·         Cyffordd Twnnel Hafren (STJ): Holodd Aelod os yw  Grand Union Trains (GUT) yn dal i gynllunio cyflwyno gwasanaeth uniongyrchol o STJ i Paddington ym mis Mai 2021. Roedd rhan o’r cytundeb yn cynnwys cyfleusterau parc a theithio newydd yn STJ gyda mannau cysgod beiciau a ffordd gyswllt M4. Cadarnhawyd yr hysbyswyd GUT am ein cynlluniau ond na fu newyddion pellach.

 

Dywedwyd y rhoddwyd fersiwn gwell yn lle’r ddyfais tawelu a osodwyd yn SJT oedd yn achosi anhawster.

 

Gosodwyd peiriant tocynnau newydd na fydd, oherwydd ei safle a dim clwyd, yn galluogi deiliaid tocynnau tymor i fanteisio o’r tocynnau tymor newydd sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd nag o’r blaen. Gofynnwyd am ddod â’r mater i sylw Trafnidiaeth Cymru gan ei fod yn bwynt pwysig i gymudwyr. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth er mwyn cysylltu gyda Trafnidiaeth Cymru. Byddir yn cyfathrebu gyda gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar bwnc rheoli’r maes parcio yn y dyfodol fydd yn cynnwys pob maes parcio rheilffyrdd. Gofynnodd y Cadeirydd i Christian Schmidt i sicrhau fod y gr?p yn cael eu diweddaru ar ddatblygiadau.

 

·         Gorsaf Magwyr: Ym mis Mehefin roedd MAGOR (‘Magor Action Group on Rail’) a Chyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais i’r Gronfa Gorsafoedd Newydd a hefyd Gronfa Restoring your Railways (RYR) gyda chefnogaeth Jessica Morden AS a John Griffiths AS. O’r 200 o geisiadau a gyflwynwyd, roedd Magwyr ar y rhestr fer o 50 gydag un orsaf arall yng Nghymru ar gyfer Cronfa RYR, ac os yw hynny’n llwyddiannus byddai’n rhoi cyllid at GRIP3. 

 

Cysylltwyd â MAGOR hefyd fel rhanddeiliad ar gyfer Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru ar roi’r gorau i’r cynllun am Ffordd Liniaru M4 ac wedi rhoi mewnbwn ar rai o’r canfyddiadau dechreuol. Dylid nodi y gall yn bosibl y caiff y llinellau llacio eu rhyddhau i roi gwasanaeth rheilffordd asgwrn cefn rhwng Caerdydd a gorsafoedd STJ (soniwyd am Orsaf Magwyr yma). Mae’n werth nodi y rhoddir blaenoriaeth i deithio integredig a theithio llesol.

 

Cafodd astudiaeth rheolaeth traffig a pharcio o ardal Magwyr sy’n cynnwys effaith bosibl yr orsaf llwybr cerdded ei chwblhau. Cafodd adroddiad cynhwysfawr Capita ei gylchredeg a bydd yn helpu astudiaeth GRIP3.

 

Dywedwyd bod rheilffyrdd SouthWestern wedi cael £1m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i newid defnydd teithio i orsafoedd..