Agenda item

Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent - Victoria Robinson, Ellie Mitchell a Nicole Rossiter (Arup)

Cofnodion:

 

Croesawyd Nicola Rossiter, Uwch Ymgynghorydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Victoria Robinson, Uwch Gynllunydd, Arup i’r cyfarfod. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent ddechrau mis Tachwedd a bydd y sleidiau a gyflwynir heddiw ar gael yr adeg honno.

 

Prif bwyntiau’r cyflwyniad:

 

·         Cyflwyno Astudiaeth Trafnidiaeth WelTAG Cam 2 ar gyfer Ardal Cas-gwent a’r cyd-destun presennol (COVID 19, Brexit, dileu tollau Pont Hafren, cyhoeddiadau newid hinsawdd ac yn y blaen).

·         Cafodd y problemau i’w cyfarch eu haileirio a’u haildrefnu a sefydlwyd blaenoriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r materion hyn yn canolbwyntio ar lefelau uchel o dagfeydd, cynyddu llif traffig ac ansawdd aer. Yn ychwanegol mae cysylltiadau bws yn gyfyngedig a theithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn gymharol uwch o ran cost. Y nod yw cael datrysiadau sydd ag allyriadau isel, sy’n gynaliadwy ac sy’n integreiddio ac yn annog teithio llesol.

·         Cafodd 21 cynllun y rhestr hir eu hadolygu a’u rhoi i bum categori i effeithio ar:

o   Gostwng yr amser i deithio

o   Teithio llesol a seiclo

o   Opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus

o   Cerbyd allyriadau isel iawn

o   Opsiynau priffyrdd

·         Cafodd y 21 opsiwn eu profi o gymharu ag amcanion yr astudiaeth yn cynnwys peth ymgysylltu â rhanddeiliaid. Gostyngwyd nifer yr opsiynau o 21 i 15 a gafodd eu profi ymhellach.

·         Cafodd y pump categori eu gostwng i bedwar, gyda’r ddau olaf yn cael eu cyfuno.

·         Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar ym mis Tachwedd a gofynnwyd i’r gr?p annog cynifer o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan.

 

Gofynnwyd cwestiynau fel sy’n dilyn:

 

·         Gofynnodd Aelod os yw’r astudiaeth wedi rhoi ystyriaeth i ddarganfyddiad diweddar mwy o ddifrod i hen Bont Cas-gwent gan holi os y bydd yn rhaid ei chau i gael ei thrwsio. Cadarnhaodd Gerallt Dafydd, Arup, y rhoddwyd ystyriaeth i’r agwedd hon yn yr astudiaeth. Esboniwyd nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gau’r bont gan ei bod yn llwybr pwysig. Pwysleisiwyd fod hwn yn gynllun ar draws y ffin a gefnogir gan Gyngor Dosbarth Fforest y Ddena, Cyngor Sir Swydd Caerloyw, Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gymreig a’r Adran Trafnidiaeth dan arweiniad Cyngor Sir Fynwy.

·         Gofynnodd Aelod pa model a ddefnyddir i fesur llif traffig ar draws y ffin. Esboniodd Gerallt Dafydd fod mynediad ar gael i fodel Tollau Pont Hafren. Caiff y cynlluniau priffordd yn yr opsiynau eu profi’n unol â hynny. Gofynnwyd os oedd unrhyw fodelu o gyfeiriad Fforest y Ddena. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu gyda’r aelod gr?p ar ôl y cyfarfod.

·         Gofynnodd Aelod sut y trefnir yr ymgynghoriad cyhoeddus. Atebwyd na fydd cyfle ar gyfer cyfarfod ymgynghori cyhoeddus gyda phobl yn bresennol oherwydd y pandemig. Caiff y digwyddiad ei drefnu mewn gofod digidol ond bydd copi caled o’r dogfennau a’r arolwg ynghyd ag amlen rhadbost i’w dychwelyd ar gael i’r bobl hynny nad oes ganddynt fynediad i dechnoleg (neu ddymuniad i’w ddefnyddio). Cynigiodd y Cadeirydd help Tîm Cyfathrebu Sir Fynwy. Mae Partneriaeth Economaidd y Fforest hefyd wedi cynnig hyrwyddo’r ymgynghoriad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfranwyr am yr adroddiad interim, gan ychwanegu y croesewir unrhyw wybodaeth bellach i’w chylchredeg i’r Gr?p.