Agenda item

Gwasanaeth Traws Gwlad ARRIVA i Lydney a Cas-gwent - Richard Gibson, Pennaeth Cyfathrebu Traws Gwlad

Cofnodion:

 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Richard Gibson, Pennaeth Cyfathrebu, Trenau Traws Gwlad Arriva, i’r cyfarfod.

Esboniwyd, oherwydd y pandemig, y bu’n anodd i’r diwydiant trafnidiaeth gynnal gwasanaethau’n ddiogel ar gyfer cwsmeriaid a staff. Mae’r gofyniad am bellter cymdeithasol wedi gostwng nifer y teithwyr i 20%. Mae heintiad a hunanynysu staff hefyd wedi cyfyngu ar y gallu i staffio trenau.

 

Ychydig iawn o bobl sydd wedi dewis teithio ar drên ers mis Mawrth. Cynyddodd busnes ym mis Gorffennaf pan laciwyd cyfyngiadau. Cyflwynwyd gwasanaeth bob awr ar yr oriau brig (bob dwy awr tu allan i’r oriau brig) o Gaerloyw i Gaerdydd ym mis Mawrth. Ym mis Gorffennaf, roedd angen newid i ddiogelu’r amserlen genedlaethol ac i roi’r capasiti sydd ei angen am ymbellhau cymdeithasol mewn modd diogel. Mae hefyd angen mwy o amser i ganiatáu i deithwyr fynd ar ac oddi trenau yn ddiogel. Mae 29 trên ar gael i redeg drwy Sir Fynwy yn darparu gwasanaethau o Gaerdydd i Nottingham, Birmingham a Maes Awyr Stansted a gwasanaethau lleol rhwng Birmingham a Chaerl?r a Birmingham a Nottingham.

 

Gwnaed penderfyniad i roi’r rhan fwyaf o gapasiti lle mae’r mwyaf o angen a chafodd rhai gwasanaethau eu haildrefnu er mwyn galluogi cyfuno dau drên i roi capasiti. Roedd y rhain yn bennaf yn effeithio ar wasanaethau rhwng gorllewin a dwyrain Canolbarth Lloegr ac mewn ardaloedd fel Sir Fynwy lle roedd gwasanaethau eraill yn rhedeg. Esboniwyd nad Sir Fynwy yw’r unig fan lle bu cwymp mewn gwasanaeth. Deellir fod y newidiadau wedi achosi anawsterau i breswylwyr a thwristiaeth. Gofynnwyd cwestiynau fel sy’n dilyn:

 

·         Dywedodd Aelod fod gwasanaethau trên yng Nghas-gwent yn ofnadwy ac mai dim ond ychydig funudau y byddai’n ei gymryd i stopio yng Nghas-gwent gan fod terfyn cyflymder 30mya. Mae trenau yn sefyll yng Nghaerloyw i ennill amser. Gofynnwyd yn daer am ailystyried y newidiadau yng Nghas-gwent a galluogi pob trên sy’n mynd trwyddo i stopio. Dywedwyd bod gwasanaeth o Gaerdydd am 18.45 yna ddim byd pellach tan wasanaeth Trafnidiaeth Cymru am 21.09. Atebwyd y cafodd y newidiadau eu hystyried yn drwyadl ac iddynt gael eu gwneud am resymau da. Nid ydynt yn wasanaethau lleol ond yn rhan o amserlen genedlaethol. Mae amserlenni wedi newid bum gwaith ers effaith COVID 19 ac mae adolygiadau yn gyson.

·         Gofynnodd Aelod am y gwasanaeth 7.26am i Fanceinion a arferai fod yn wasanaeth Great Western Railway. Nid oes unrhyw gynlluniau i ailgyflwyno’r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd ond mae’n dal i gael ei ystyried.

·         Mynegodd Aelod bryder fod gwasanaethau yn cael eu gostwng ar adeg o newid hinsawdd pan mae’r flaenoriaeth yw annog defnydd trafnidiaeth gyhoeddus.

·         Gofynnodd Aelod os byddai’n bosibl cynnal arolwg yng Nghaerloyw i adolygu os yw’r trenau sy’n aros yno am gyfnod digon hir i alluogi stopio yng Nghas-gwent. Cytunwyd cynnal yr arolwg.

·         Fe wnaeth Aelod gydnabod yr esboniad ond dymunai bwysleisio fod y gwasanaeth i ac o Gas-gwent yn hanfodol ar gyfer llawer o bobl.

 

Diolchwyd i aelodau arbenigol y Gr?p am eu cyfraniad gwerthfawr iawn i gyfarfodydd. Diolchwyd Richard Gibson i ddiolch am ei fewnbwn i’r cyfarfod.

Dogfennau ategol: