Agenda item

Dyfodol Gwasanaethau Bws - Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

 Rhoddodd y Cadeirydd groeso cynnes i Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru, i’r cyfarfod i drafod newidiadau arfaethedig i gyllid y diwydiant bws yng Nghymru. Bydd  newidiadau hyn yn galluogi trethdalwyr i gael mwy o reolaeth dros wasanaethau.

 

Ar gyfer gwasanaethau amserlen, mae’r cynllun teithio rhatach yn costio tua £70m i’w redeg yng Nghymru a hefyd mae grantiau/cyllid (gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol) ar gael i weithredwyr bws. Caiff cyfanswm o tua £115m ei roi i gefnogi’r diwydiant bws bob blwyddyn (heb gynnwys trafnidiaeth rhwng y cartref a’r ysgol). Eleni, oherwydd COVID 19, bydd swm y cyllid i’r diwydiant bws yn nes at £200m i dalu am e.e. y capasiti is a gynigir oherwydd gofynion pellter cymdeithasol.

 

Cafwyd problemau wrth geisio cyflwyno un tocyn cyffredin ond mae uchelgais i gael tocyn integredig i deithwyr ei defnyddio’n rhwyddach ar deithiau bws a rheilffordd yn annibynnol o wasanaethau, amserlenni a thocynnau a osodir gan weithredwyr.

 

Yng nghyd-destun newid hinsawdd, caiff mwy o deithiau eu gwneud mewn car preifat yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn rhannol oherwydd annigonolrwydd y rhwydwaith trafnidiaeth. Y nod yw gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn deniadol i helpu mynd i’r afael â newid hinsawdd e.e. tagfeydd ar ffyrdd ac ansawdd aer. Cafodd y sleidiau cyflwyno eu rhannu drwy e-bost gydag Aelodau’r Gr?p.

 

Gwahoddwyd Aelodau’r Gr?p i ofyn cwestiynau:

 

·         Roedd Aelod o’r Gr?p yn bryderus am ddeddfwriaeth, gan nodi methiannau’r gorffennol i alinio gwasanaethau bws a thrên, a chyfeiriodd at y diffyg cysylltiad rhwng amserlenni sy’n gwrthannog teithwyr bws rhag defnyddio’r trenau. Dywedwyd efallai na fyddai cwmnïau bws yn cydymffurfio gydag integreiddiad heb gael deddfwriaeth sylfaenol. Esboniwyd fod trafodaethau masnachol yn mynd rhagddynt yng nghyswllt cyllid. Bydd hyn yn cynnwys cytundeb i ymrwymo i bartneriaeth hirdymor lle gall Llywodraeth Cymru gael dylanwad. Mae’r gweithredwyr hynny sy’n dewis peidio cydweithio yn peryglu mynediad i’r cyllid. Mewn ymateb i gwestiwn, derbyniwyd y gall fod angen deddfu.

·         Gofynnodd Aelod o’r Gr?p sut y caiff ymgysylltu gyda chwsmeriaid bws ei gynllunio gan nodi’r angen am fwy o hyrwyddo a marchnata ar wasanaethau bws. Caiff yr agwedd hon ei chynnal gan Trafnidiaeth Cymru. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt i weld os oes gan awdurdodau lleol ddiddordeb mewn rhan-berchnogaeth o Trafnidiaeth Cymru.  Mae uchelgais i gael brand cenedlaethol Trafnidiaeth Cymru  ar gyfer gwasanaethau bws yn Nghymru.

·         Tynnodd Aelod Gr?p at yr angen i gadw newid hinsawdd ar yr agenda trafnidiaeth. Cadarnhawyd fod newid hinsawdd yn ganolog i syniadau Llywodraeth Cymru. Mae’n flaenoriaeth i wneud teithio bws yn opsiwn deniadol i gwsmeriaid sy’n defnyddio ceir preifat. Gall fod angen newidiadau sylweddol ar gyfer hyn tebyg i wneud llai o ofod ar gael ar gyfer ceir ar ffyrdd a mwy ar gyfer bysus, signalau blaenoriaeth ar gyfer bysus ac yn y blaen.

·         Esboniodd Aelod o’r Gr?p yr anawsterau yn cysylltu teithiau trên a bws. Cytunwyd fod angen llawer o waith i wella a chreu hybiau trafnidiaeth, i hefyd gynnwys Teithio Llesol. Yn nhermau gwasanaethau Cas-gwent rhwng Caerloyw a Chaerdydd, cafodd y rhain eu gostwng i lai nag un trên bob awr. Mae angen mwy o wasanaethau.

·         Gofynnodd Aelod o’r Gr?p hefyd am amserlenni ac esboniwyd fod Cynllun Bws Argyfwng yn ei le ar hyn o bryd lle bu’n rhaid i weithredwyr bws gytuno i newidiadau. Bydd newid mwy sylweddol ddiwedd mis Hydref. Gall fod yn rhaid i gyllid dan BES barhau gan fod ymbellhau cymdeithasol yn rhwystro gwasanaethau rhag bod yn fasnachol. Byddai’n anodd rhagweld amserlenni yn ystod y pandemig. Mae’r contract newydd hwn ar gyfer 12 mis.

·         Holodd Aelod o’r Gr?p am gynlluniau blaenorol ar gyfer cyfnewidfa trafnidiaeth trên/bws yng Nghas-gwent. Dywedwyd fod angen newidiadau o’r fath ledled Cymru ac mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw cael y gallu i roi rheolaeth dros weithredwyr (safleoedd bws, amserlenni ac yn y blaen)  a byddai’n rhan o adeiladu’r achos dros fuddsoddiad ffisegol tebyg i’r hyn sydd ei angen yng Nghas-gwent.

·         Holodd aelod o’r Gr?p os oedd yr arolwg y soniwyd amdano ar gyfer llwybrau bws trefol a llwybrau gwledig gan gyfeirio at bwysigrwydd cysylltu cymunedau. Cynigiodd Cyfeillion Bws 65 gydweithredu gyda Llywodraeth Cymru i rannu eu profiad. Dywedwyd fod yr arolwg yn un ar draws Cymru yn defnyddio modelau traffig i fesur lle mae pobl a nwyddau yn teithio ohono ac iddo. Esboniwyd y galw “Hyblyg” am wasanaethau ymatebol. Mae rhai treialon gwledig hefyd yn cael eu cynnal. Awgrymwyd fod defnyddwyr gwasanaeth rheolaidd yn oedrannus ac yn anghyfarwydd â datrysiadau technolegol. Yn ychwanegol, gall signal symudol fod yn wael mewn ardaloedd gwledig felly gall fod nad yw hwn yn fodel ymarferol. Ychwanegwyd fod gwasanaeth cymunedol ar alw Grass Routes ar gael yn Sir Fynwy. Medrir archebu hyn dros y ffôn.

·         Soniodd Aelodau am yr ymgyrch gyfredol i greu Gorsaf Llwybr Cerdded Magwyr sy’n “ticio pob blwch” yn nhermau cysylltu gyda gwasanaethau bws, gostwng defnydd car, opsiynau teithio llesol ac yn y blaen. Holwyd pam nad oes gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn symud ymlaen â’r opsiwn hwn. Croesawyd y cafodd Gorsaf Magwyr ei chyhoeddi’n ddiweddar fel dymuniad gan Lywodraeth Cymru yn nhermau uchelgeisiau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd yng ngogledd a de Cymru. Heblaw am Reilffyrdd y Cymoedd, ychwanegwyd mai’r Adran Trafnidiaeth gyda chyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n berchen gweddill gwasanaethau trên Cymru. Mae sgwrs yn mynd rhagddi gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ddiffyg buddsoddiad yn y system rheilffyrdd yng Nghymru yn gyffredinol.

·         Holodd y Swyddog Teithio Llesol os yw’n nod i gynnwys raciau beic ar wasanaethau bws. Mae trafodaethau wedi cynnwys rhaciau beic ar wasanaethau Traws Cymru ac mae angen rhoi ystyriaeth bellach i’r awgrym am bob gwasanaeth e.e. elfennau gofod. Awgrymwyd y gallai’r raciau fod gefn neu ar flaen y cerbydau. Mae hefyd angen i gynnwys mwy o gynlluniau ar gyfer rhaciau beic ar y trenau.

 

Diolchodd y Cadeirydd yn fawr iawn i Simon Jones am ymuno â’r cyfarfod a chymryd rhan yng nghyfarfod heddiw.