Agenda item

Cais DM/2018/01418 – Annedd newydd gyda gwaith cysylltiedig. Tir i’r de ddwyrain o Sunnybrooke, Heol Llanelen, Llan-ffwyst.

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn destun i’r chwe amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun i Gytundeb Cyfreithiol Adran 106.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Llan-ffwyst, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol.

 

·         Mynegwyd pryder am amwynder cymdogion, gan y byddai’r annedd newydd a gynigir yn uwch na’r anheddau eraill a fyddai’n agos i’r annedd newydd. Gan nad oes unrhyw gynllun yn dynodi safle’r annedd arfaethedig yng nghyswllt ei chymdogion agosaf, ni fedrai’r Pwyllgor Cynllunio weld sut y byddai’r annedd newydd a gynigir yn cyd-fynd â’r anheddau presennol. Gallai fod materion o oredrych a fedrai fod yn annerbyniol. Gofynnodd yr Aelod lleol i’r cais gael ei ohirio i’w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i alluogi swyddogion i gael cynllun yn dangos safle’r annedd newydd arfaethedig yng nghyswllt yr anheddau presennol.

 

·         Fodd bynnag, pe na byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn cefnogi gohirio’r cais, ystyriai’r Aelod Lleol fod angen amod ychwanegol yn y cais i dynnu hawliau datblygu a ganiateid ar gyfer estyniadau/newidiadau i’r to.

 

Dynodwyd y pwyntiau dilynol wrth nodi manylion y cais:

 

·         Mae’r cynllun safle a gynigir yng nghyswllt yr ystafell fwyta / ystafell fyw yn dangos drysau Ffrengig yn agor i ardal yr ardd. Fodd bynnag, ni ddangosir hyn ar y darluniad gwedd. Felly, pe cymeradwyid y cais, gellid cytuno ar y manylion hyn drwy’r Panel Dirprwyo.

 

·         Mae’r Cynllun a ddangoswyd i’r Pwyllgor yn dangos yn union lle byddai’r annedd arfaethedig. Ystyriwyd pan ddarllenwyd yr holl gynlluniau gyda’i gilydd, ei fod yn rhoi ystyriaeth gytbwys i’r effaith ar breifatrwydd.

 

·         Gellid ystyried amod ychwanegol i’r cais i ddileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer estyniadau/newidiadau i’r to.

 

·         Roedd y Swyddogion Cynllunio wedi edrych ar y safle ac wedi ystyried y materion amwynder gyda golwg ar gael barn gytbwys ar yr effaith ar amwynder preswyl i’r adeiladau cyfagos. Mae gan y cynlluniau a gyflwynwyd lefelau llawr gorffenedig a chafodd y pellter rhwng yr annedd arfaethedig ac anheddau cyfagos ei ystyried yn llwyr wrth ddod i’r argymhelliad. 

 

·         Nid oedd yr Adran Priffyrdd wedi gwneud unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig.

 

·         Yng nghyswllt y gwahanol lefelau uchder rhwng yr annedd newydd arfaethedig a’r anheddau presennol gyferbyn, barn gytbwys y swyddogion Cynllunio oedd bod hyn yn dderbyniol.

 

·         Mae’r gofodau parcio ceir ar gyfer y datblygiad newydd arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi gan sicrhau parcio oddi ar y stryd ac ardal droi. Mae hyn wedi arwain at enilliad net o un gofod parcio ychwanegol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir S. Woodhouse y dylid gohirio ystyried cais DM/2018/01418 tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio i alluogi swyddogion i gael cynllun yn dangos safle yr annedd newydd arfaethedig mewn cysylltiad â’r anheddau presennol.

 

Mewn pleidlais a gymerwyd, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

Dros ohirio                   -           6

Yn erbyn gohirio          -           9

Ymatal          - 0

 

Ni chariwyd y cynnig.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir S. Woodhouse y dylem ystyried gwrthod cais DM/2018/01418 ar y sail na fyddai’r Pwyllgor Cynllunio yn medru barnu’n ddigonol os y byddai effaith dderbyniol ar amwynder cymdogion.

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

Dros wrthod                -           3

Yn erbyn gwrthod       -           9

Ymatal                         -           1

 

Ni chariwyd y cynnig.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir M. Feakins ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy y dylid cymeradwyo cais DM/2018/01418 gyda’r chwe amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun i Gytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd, y dylid ychwanegu amod ychwanegol i dynnu hawliau datblygu a ganiatawyd ar gyfer estyniadau/newidiadau i’r to. Y Panel Dirprwyo i gytuno i wedd ddiwygiedig y drysau Ffrengig.

 

Mewn pleidlais a gymerwyd, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid y cynnig                      -           8

Yn erbyn y cynnig                               -           2

Ymatal                                     -           1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2018/01418 gyda’r chwe amod a amlinellir yn yr adroddiad ac yn destun Cytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd, y dylid ychwanegu amod ychwanegol i dynnu hawliau datblygu a ganiatawyd ar gyfer estyniadau/newidiadau i’r to. Y Panel Dirprwyo i gytuno ar wedd ddiwygiedig y drysau Ffrengig.

 

Dogfennau ategol: