Agenda item

Craffu ar Adroddiad Perfformiad ar Risgiau a Strwythur Ymateb Argyfwng Gwasanaethau Cyhoeddus COVID-19 (Atodiad 4 yr adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor yn manylu’r risgiau a oedd yn ymwneud gyda’r pandemig coronafeirws  yn y sir, gan amlinellu’r rhai sydd angen ymateb gan wasanaethau cyhoeddus ynghyd ag ymateb gan y Cyngor a throsolwg o’r  strwythur aml-asiantaeth rhanbarthol ar gyfer ymateb i argyfyngau ac adferiad. Gofynnwyd i Aelodau ystyried a ydynt yn credu bod y risgiau allweddol wedi eu nodi, bod lefel y risgiau yn gymesur a phu’n ai bod y mesurau lliniaru priodol yn eu lle, gan wneud unrhyw argymhellion perthnasol i’r Cabinet neu’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus. 

 

Dyma osod y cyd-destun yngl?n â pham fod y pwyllgor yn derbyn yr ymateb aml-asiantaeth hwn heddiw. Bydd aelodau yn cofio ein bod wedi newid cylch gorchwyl y pwyllgor hwn y llynedd er mwyn caniatáu’r pwyllgor hwn i ystyried yr ymatebion aml-asiantaeth ehangach  i’r hyn y mae ein trigolion yn wynebu. Rôl y pwyllgor yw craffu’r strwythurau yma gan eu bod wedi eu creu yn unol gyda’r ddeddfwriaeth  argyfwng sifil cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’n bwysig fod y pwyllgor yn deall y strwythurau yma. O ran yr asesiad risg, rydym yn teimlo y dylid eich cynnwys yn y broses o ystyried hyn cyn bod y Cabinet yn ei ystyried, a hynny yn sgil yr ystod o bartneriaid sydd yn rhan o hyn. 

 

Roedd yr adroddiad yn darparu trosolwg o’r trefniadau ymateb brys sydd yn eu lle ac mae Atodiad 1 yn darparu diagram o’r strwythurau adrodd. Cyn mis Mai, esboniwyd fod yna Dîm Ymateb Brys yn ei le. Fodd bynnag, mae’r rhain fel arfer yn delio gydag argyfyngau byrdymor, ac felly,  penderfynwyd atal y gr?p hwn a chreu Gr?p Cydlynu Covid 19 sydd yn cynnwys y Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau, Prif Swyddog Cynllunio Brys a’r Pennaeth Adnoddau sydd yn atebol i’r Uwch Dîm Rheoli a’n bwydo i mewn i’r Gr?p Cydlynu Strategol  Gwent. Mae yna atodiadau pellach ar y risgiau a’r ddau gynllun sydd wedi eu rhannu ar draws y mudiad gan y Prif Weithredwr, a’r llythyr gan y gweinidog Julie James sydd wedi gofyn i’r BGC i ail-ystyried ei amcanion yn sgil y pandemig covid. Bydd y rhain yn cael eu hystyried gan y BGC yn ei gyfarfod ond rydym am roi gwybod i chi nawr er mwyn gofyn a ydych yn teimlo fod hyn yn gywir ac a oes unrhyw adborth gennych yr ydym am i ni ei rannu gyda’r BGC.

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at Atodiad 4 lle’r amlygwyd risg 3 o ran y risg i les economaidd  y sir, risg 6 o ran y niwed i blant ac oedolion bregus, risg 8 o ran methu diwallu anghenion dysgwyr gan gynnwys dysgwyr bregus. Tynnwyd sylw’r Aelodau hefyd at y pedair risg benodol, sef 15-18, fel y rhai sydd yn ymwneud yn benodol gyda’r pandemig, risg 17 sy'n cael effaith economaidd sydd yn arwain at golli swyddi a’r risg sydd yn cyfeirio at y feirws yn cynyddu tlodi mewn cymunedau. 

 

 

Heriau:

 

·         O ran risg 8 a dysgu, rhywbeth sydd wedi ei godi yn sgil trafodaethau yr wyf wedi eu cael gydag etholwyr a theulu a ffrindiau yw’r anghydraddoldeb o ran y gefnogaeth sydd yn cael ei darparu i ysgolion Sir Fynwy i blant. Pe bawn yn profi ail don o’r feirws,  a fyddai modd i ni sicrhau bod yr un lefel o gefnogaeth ar gael i bawb? Mater arall a godwyd gyda mi yn ystod trafodaeth gyda’r  Welsh Amateur Boxing Association ar gemau stryd oedd  na roddwyd unrhyw negeseuon i’r sawl rhwng 16 a 25 mlwydd oed. Teimlwyd fod negeseuon wedi eu hanelu at oedolion neu rieni'r plant hynny sydd mewn ysgolion cynradd.   .

O ran y gefnogaeth i ysgolion, mae hyn wedi bod yn her sylweddol i’r adran addysg ac ysgolion ac mae’r don gyntaf wedi  golygu ein bod wedi dysgu nifer o wersi. Pe bawn yn profi ail don, bydd yr holl wersi sydd wedi eu dysgu a’r profiad yn golygu ein bod mewn lle gwell. Mae’r ail gwestiwn a godwyd gennych yn bwysig iawn ac rwyf yn gyfarwydd â’r sylwadau yma. Mae’r gr?p oedran yma yn weithgar iawn yn gymdeithasol ac mae’r modd yr ydym yn cyfathrebu gyda hwy yn bwysig iawn a rhywbeth sydd angen i ni ystyried. 

 

·         Mae’n bwysig sicrhau ein bod yn cyfathrebu gyda’r grwpiau o bobl ifanc oherwydd mae’r data sydd yn dod i’r amlwg yn awgrymu bod y bobl ifanc yn llai tebygol o gael eu heffeithio gan i’r feirws ond yn gyfrifol am y twf yn y nifer o achosion. Mae data o’r UDA yn dangos yr effeithiau hirdymor.  

Rydych yn gywir. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i edrych ar yr hyn sydd yn digwydd ar draws y byd ac yn ystyried y dystiolaeth.  

 

·         Nid wyf yn teimlo bod risg 8 yn adlewyrchu pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa, sydd yn anghyson yn fy marn i. Mae dysgu ar-lein yn mynd i fod yn hanfodol iawn os ydym yn profi ail don ac nid wyf yn teimlo fod y risg yma wedi ei gofnodi’n ddigonol. Rwyf wedi gofyn y cwestiwn i’r aelod cabinet yngl?n ag a ydym yn gwybod pa ysgolion sydd yn gwneud yn dda a pha rai na sydd yn gwneud ‘gystal ond nid wyf wedi derbyn ateb boddhaol. Rhaid i ni  sicrhau bod unrhyw arferion da yn cael eu rhannu.

 

·         Rwyf yn teimlo hefyd fod risg 1, sydd yn ‘isel’ ac yn cyfeirio nad oes yna ddull cyflenwi cynaliadwy, yn wrthgyferbyniol gyda risg 15 sydd yn ymwneud gyda chyflenwi gwasanaethau a mesurau lliniaru sydd yn ‘uchel ‘ a’n ‘ganolig’. Nid yw hyn yn gyson ac mae angen ail-asesu rhif 1 yn fy marn neu’i integreiddio i mewn i risg 15.

Mae’r rhesymeg dros asesu’r sgoriau fel y maent, yn enwedig o ran risg 1, yn ymwneud â’r ffaith ein bod yn credu bod y risg nad yw’r awdurdod yn medru parhau fel ag y  mae yn isel, ond o ran risg 15, rydym yn gwybod bod rhai gwasanaethau o dan straen sylweddol a bu’n rhaid i ni atal rhai gwasanaethau fel casglu sbwriel o aelwydydd a chanolfannau ailgylchu a chyflwyno systemau cadw lle.  Felly, dyma’r rhesymeg y tu nôl i’r sgoriau yma. Mae hon yn ddogfen fyw sydd yn adlewyrchu’r awyrgylch deinamig o’n cwmpas. Os yw’r pwyllgor yn credu fod lefel y risg a glustnodir i risg 1 yn rhy isel, yn ogystal â risg 15, mae modd argymell eu bod yn cael eu hail-asesu a gallwn roi gwybod i’r  Cabinet.

 

·         Mae lefel y risg cyn cymryd y mesurau lliniaru ar gyfer risg 1 yn iawn ond rwy’n argymell cynyddu’r lefel 2020 a 2021 ar ôl y mesurau lliniaru o isel i ganolig, gan fy mod yn teimlo bod gormod o ansicrwydd.   

 

·         A fyddai’n bosib  swyddogion i rannu manylion yngl?n â sut oeddynt wedi penderfynu ar y lefelau yma o risg?    

Mae fersiwn lawn yr asesiad risg yn cynnwys mwy o fanylion ac yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ond rwy’n derbyn y pwynt ei fod yn anodd i aelodau i ddeall hyn heb wybod sut ydym wedi penderfynu ar y lefel o risg. Mae’r Swyddogion yn hapus i dderbyn unrhyw argymhellion eraill o ran lefel y risg a’i rannu gyda’r cabinet,   ynghyd â nodi a yw’r pwyllgor yn teimlo fod y risgiau wedi eu cofnodi’n ddigonol. 

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Mae yna faterion wedi eu crybwyll sydd yn ymwneud gyda chysondeb o ran dysgu ar-lein ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi ei godi gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a oedd wedi cwestiynu’r  Gwasanaeth Cyflawni Addysg sydd wedi bod yn paratoi ysgolion ar gyfer dulliau dysgu cyfun o fis Medi ymlaen. Roedd aelodau hefyd wedi mynegi pryderon am y plant a fydd yn sefyll arholiadau'r flwyddyn nesaf ond sydd â rhieni na sydd yn medru yn defnyddio technoleg neu'n gorfod gweithio oriau hir, ac felly’n methu cynnig yr un lefel o gefnogaeth i addysg eu plant. Rhoddwyd sicrwydd i’r pwyllgor fod pob plentyn yn derbyn I pad. Yn olaf, mae’r pwyllgor hwn wedi cyrraedd consensws   y dylai lefel y risg ar gyfer risg 1 ar ôl y mesurau lliniaru, gael ei godi o isel i ganolig, fel y trafodwyd.  

 

Dogfennau ategol: