Agenda item

Craffu Cyn-penderfyniad ar Ddrafft Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cofnodion:

Roedd Pennaeth Perfformiad a Gwelliant wedi cyflwyno ail Adrodd Blynyddol drafft  y BGC a oedd yn cynnig trosolwg o berfformiad y bwrdd yn ystod Ebrill 2019-Mawrth 2020 ar yr amcanion yn ei gynllun lesiant, yn unol gydag anghenon y ddeddfwriaeth Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Esboniodd fod yr adrodd yn ymdrin â’r camau y mae BGC wedi eu dewis i gyflawni ei amcanion a’r rhesymau pam y dewiswyd y rhai hynny a sut y mae’r bwrdd wedi gweithredu’r 5 ffordd o weithio a amlinellir Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol  yn ei waith yn ystod y flwyddyn. Roedd y swyddog wedi esbonio fod yr adroddiad hefyd yn cynnig trosolwg o’r cynnydd sydd wedi ei wneud ar y 19 cam yn erbyn pedwar amcan llesiant sydd wedi eu dewis gan y bwrdd ac roedd yn cynnwys astudiaeth achos manwl o’r gwaith sydd wedi ei wneud gan Bartneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y dechrau gorau posib mewn bywyd. Roedd hefyd yn crynhoi'r gwaith craffu sydd wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn a throsolwg o’r gwaith rhanbarthol sydd wedi ei wneud a’r dystiolaeth a’r wybodaeth sydd wedi eu defnyddio er mwyn mesur cynnydd fel y dangosyddion cenedlaethol sydd wedi eu hamlinellu yn y ddeddf. 

 

Dywedodd y swyddog fod gwasanaethau cyhoeddus wedi bod ar flaen y gad wrth ymateb i’r pandemig covid-19 ac mae yna gyfeiriad o’r dystiolaeth sydd yn datblygu yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, bydd mwy o dystiolaeth fanwl ar yr effaith ar lesiant yn cael ei ddarparu mewn adroddiadau pellach. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr holl bartneriaid wedi cyfrannu at yr adroddiad  a byddai’n cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y cyfarfod nesaf cyn ei gyhoeddi ar y wefan. 

 

Roedd y Rheolwr Partneriaethau wedi ymuno yn y cyflwyniad o’r adroddiad ac esboniodd tra bod yr adroddiad yn fyr gan fod yr holl bartneriaid wrthi’n brysur yn ymateb i’r pandemig covid-19, maent dal yn gobeithio ei fod yn cynnwys y brif wybodaeth ar ran y  Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a bod modd ffocysu ymdrechion y bwrdd nawr ar ymateb i’r heriau yma gyda’i gilydd.

 

Y prif bwyntiau i’w hamlygu yw:

 

·         Mae’r adroddiad ond yn cynnig cipolwg o’r gwaith a wneir gan bartneriaid cyngor tref ac mae llawer mwy yn cael ei wneud o ran hyn os oes diddordeb gan aelodau i ddysgu mwy.   

 

·         Un maes o arfer da yw bod y cynghorau tref sydd yn dod o dan ddyletswyddau’r ddeddfwriaeth wedi, dros y 12 mis diwethaf, eu cynnwys fel rhan o strwythur y BGC, fel bod cynrychiolwyr nawr yn rhan o fwrdd y rhaglen ac yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau cynnar ar ddatblygu gweithgareddau i ymateb i’r heriau gyda’n gilydd.  

 

·         Mae gwaith helaeth wedi ei wneud gan y cynghorau tref dros flynyddoedd a dyma eu cyfraniad ariannol a chydnabyddiaeth o’r gwaith o ddarparu gweithgareddau chwarae agored a hollol gynhwysol yn y sir.  Mae’r BGC wedi buddsoddi mewn hyn dros nifer o flynyddoedd, drwy arian grant ac amser swyddogion ac mae cynghorau tref wedi cyfrannu at y gwaith hwn, gan gydnabod pa mor werthfawr yw’r ddarpariaeth chwarae mynediad agored am ddim i bobl ifanc na fyddai n medru fforddio mynychu’r ddarpariaeth chwarae dros yr haf. Rydym wedi ehangu’r model ac mae 500-600 o blant yn mynychu, gan gynnwys plant ag anableddau. Yn ystod y flwyddyn, rydym hefyd wedi medru cynnig bwyd am ddim yn ystod yr haf i blant a fyddai wedi mynd heb bryd o fwyd o bosib pe na baent yn medru fforddio’r ddarpariaeth chwarae dros yr haf, ac felly, rydym hefyd yn mynd i’r afael gyda thlodi bwyd.  

 

·         Mae maes arall o ymarfer yn cael ei amlygu yn yr astudiaeth achos a ddarparwyd gan Bartneriaeth Strategol  Plant a Phobl Ifanc. Mae’r gwaith hwn wedi lleihau’r modd y mae asiantaethau yn meddwl mewn seilos a bod yna mwy o gydweithio rhwng y  ffrydiau gwaith gwahanol. Er enghraifft, y gwaith ar Effeithiau  Profiad Niweidiol Adeg Plentyndod sydd yn amlygu’r angen bod oedolyn gan bob plentyn y mae modd ymddiried ynddo ond hefyd bod angen ystyried pwysigrwydd lles meddyliol ac emosiynol pobl ifanc wrth iddynt dyfu’n h?n. Mae hyn yn cynnwys ystyried y modelau o ofal sydd angen a sut y mae ysgolion yn medru dod yn fwy blaengar wrth edrych allan i galon y gymuned. Mae’r astudiaeth achos yn arddangos y cymhlethdodau sydd ar waith, gan gydnabod bod rôl gan yr holl bartneriaid i’w chwarae. Drwy gydol yr astudiaeth achos, rydym wedi ceisio gweithio drwy’r systemau yn yr asiantaethau sector cyhoeddus er mwyn gwella pa mor dda y mae eu systemau yn gweithio o ran atal plant rhag disgyn i’r bylchau.  

 

·         Mae’r gwaith Dinasyddiaeth Weithgar a nodir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys ceisio dwyn cymunedau yn agosach at waith y BGC, gan eu cofleidio yn yr heriau yr ydym yn wynebu ac yn ystod y  pandemig, maent wedi amlygu eu cryfder a’u dygnwch, ac felly, rydym am eu parchu drwy eu cynnwys hwy a gweithio gyda hwy yn hytrach na’u cyfarwyddo. 

 

Her:

 

·         Gan dderbyn bod 6 blaenoriaeth allweddol y BGC wedi eu drafftio cyn y pandemig, a oes angen eu newid nawr yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd?

Rwyf dal yn credu y bydd y blaenoriaethau dal yn berthnasol ond mae’r pandemig wedi amlygu’r angen i newid rhai o’r pethau yr oeddem yn gwybod bod angen eu newid. Mae Covid wedi cael effaith negatif ar nifer o bobl, ac i’r sawl a oedd angen mynediad at gymorth cyn covid, mae eu hangen yn fwy nawr. Mae’r heriau a nodwyd cynt dal yn bodoli ond bydd mwy o heriau er mwyn ceisio mynd i’r afael gyda thlodi, unigrwydd ac iechyd meddwl.

 

·         Gan gydnabod ei fod yn debygol y bydd heriau newydd, a fydd ymrwymiadau blaenorol i leihau allyriadau carbon drwy symud i gerbydau electrig dal yn flaenoriaeth? A ydym wedi cyflawni hyn hyd yma?   

Un o’r trafodaethau sydd yn digwydd o fewn cymunedau yw sut ydym yn symud o’r pandemig i’r blaenoriaethau mwy hirdymor.  Felly, tra ein bod wedi ail-agor canol trefi ac wedi creu mwy o barthau i gerddwyr ac wedi derbyn ymateb positif gan ein cymunedau, mae hyn hefyd yn gyson gyda’r blaenoriaethau hirdymor   i sicrhau dyfodol carbon niwtral erbyn 2030. Mae’r arian wedi ei sicrhau ac mae 11 o’r 15 mannau gwefru   electrig nawr yn eu lle ond mae yna fuddion ychwanegol fel Ynni Gwent yn defnyddio rhai o’u hadnoddau er mwyn gosod  diffibriliwr drws nesaf i’w mannau gwefru, ac felly, mae’r gwaith ‘dyfodol cynaliadwy’ yn parhau’n flaenoriaeth.

 

·         Mae’r adroddiad ychydig yn ddatgymalog. Yn cydnabod bod pobl wahanol wedi cyfrannu i’r adroddiad a’r ffaith fod hyn  yn ei gwneud hi’n anodd ysgrifennu adroddiad, mae angen ei olygu fel ei fod yn llifo.

Mae’n ymdrech ar y cyd ac mae yna nifer o gyfranwyr, ac felly, nid oedd un awdur. Fel arfer ac yn y dyfodol, bydd bwrdd golygyddol yn casglu’r adroddiad a’n paratoi’r drafft terfynol ond mae’r amgylchiadau wedi bod yn anodd eleni ac nid ydym wedi cael digon o amser.   

 

·         Rwy’n aneglur yngl?n â pha gamau y mae’r bwrdd rhanbarthol wedi eu cymryd ac sydd wedi cael effaith ddiriaethol. Rwyf yn ansicr yngl?n ag a ydym ond yn cofnodi pethau yr oeddem eisoes yn gwneud. Os felly, beth yw gwerth y bwrdd? Pa wahaniaethau allweddol sydd wedi eu gwneud gan y bwrdd? Er enghraifft, sut y byddem yn mesur gwaith y bwrdd o ran lleihau allyriadau carbon o’i gymharu gyda’r camau yr oedd pobl wedi cymryd  yn sgil y newidiadau amgylcheddol a achoswyd gan y cyfnod clo? 

Mae’r pwynt yr ydych yn ei wneud yn dda. Byddwn yn medru mesur cyfraniad Sir Fynwy ar leihau allyriadau carbon drwy gymharu data Sir Fynwy gyda thueddiadau’r DU,  ond rwy’n cydnabod ei fod yn anodd cadarnhau’r effaith. Mae’r math o faterion y mae’r bwrdd wedi eu blaenoriaethu yn rhai cymdeithasol cymhleth  ac mae angen dulliau aml-asiantaeth er mwyn eu datrys ond rwyf yn cydnabod eich pwynt.  Mae’r coronafeirws o bosib yn golygu bod angen newid y blaenoriaethau.  

 

·         Mae angen diweddaru rhannau o’r adroddiad. Er enghraifft,  safle’r Rhwydwaith Fusnes  a GovTech, gan fod bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers ei weithredu ac nid oes sicrwydd ei fod yn cyflawni unrhyw beth gan nad oes yna ddangosyddion allweddol. A oes yna oedi wedi bod?  

Ariannwyd y gwaith ar GovTech gan Swyddfa Cabinet y DU a gwnaed penderfyniad  ym mis Mawrth i oedi’r gwaith yn sgil y pandemig, ac felly tra bod hyn wedi digwydd, mae ychydig o’r ymchwil o ran trafnidiaeth ac unigrwydd wedi parhau, ond mae’n bwynt teg a dylid cyfeirio ato yn yr adroddiad. 

 

·         Mae’r data ‘Llefydd Llewyrchus’ ar gyfer 2020, ond nid oes cymariaethau gyda 2018 neu 2019. Hefyd, mae penawdau’r data wedi newid, er enghraifft, mesur data ‘cydraddoldeb llesiant’ yn 2018/19 ond mae hyn wedi newid yn 2020 i ‘cydraddoldeb cyflogaeth’, ac felly, rwy’n ansicr yngl?n ag ystyr y rhain ac yn methu gwneud cymariaethau. Rwy’n gwerthfawrogi bod y gwaith yma dal yn parhau ond nid wyf yn medru gweld unrhyw gysondeb.   

Mae’r data ‘Llefydd Llewyrchus’yn deillio o ddarn o waith a wnaed gan 5 awdurdod lleol Gwent ar ‘Lefydd Hapus’ rhwng  2018 a 2019/20. Mae pob un o’r sgorau pennawd yn seiliedig ar ddangosydd Awdurdod Lleol, ac felly, mae’n bwysig o ran deall y sgorau yma yr hyn yw’r dangosydd a bod yna gydnabyddiaeth fod y materion yma yn gymhleth ac mae angen mwy o dystiolaeth a data er mwyn deall y darlun yn llawn. Mae angen i ni ddeall sut y bydd covid yn effeithio ar lesiant, ac felly, mae’r adroddiad ond yn dechrau ymdrin gyda hyn a bydd hyn yn rhywbeth y bydd y BGC yn parhau i fesur. O ran mesur yr effaith economaidd, mae angen ail-fodelu rhai o’r rhain a bydd angen diweddaru hyn.

 

·         Rhaid i aelodau gael eu hysbysu o’r hyn sydd i ddigwydd i GovTech, gan nad oedd llawer yn gwybod fod y gwaith wedi ei oedi a byddent yn disgwyl diweddariadau pellach.  

Mae’r pwynt hwn wedi ei dderbyn a byddwn yn diweddaru aelodau o hyn ymlaen.     

 

·         O ran mesur cynnydd, os nad oes yna ddata ar gyfer y flwyddyn flaenorol ac eleni, a fydd y data o werth pan fydd y data ar gael flwyddyn nesaf?   

Ni fyddwn yn parhau gyda pheth o’n ffyrdd confensiynol o fesur perfformiad. Bydd rhaid i ni edrych ar hyn mewn ffordd newydd, sydd yn cyflwyno nifer o heriau ond cyfleoedd hefyd.  Er enghraifft, bydd yn anodd mesur digwyddiadau chwaraeon,  ond mae’r gwaith Dinasyddiaeth Weithgar  wedi dangos y nifer o bobl sydd wedi gwirfoddoli a’n cyfrannu i helpu eraill yn ystod y pandemig, ac felly, mae’r twf yn y nifer o bobl sydd yn dymuno gwneud gwahaniaeth yn rhywbeth yr ydym yn medru ei gasglu.  Ni fyddem wedi cofnodi’r data yn y gorffennol ond rydych yn gywir, mae angen i ni gael sgwrs yngl?n â sut i symud ymlaen gan pan nad ydym yn medru mesur yn yr un ffordd. Bydd angen i ystyried a meddwl yn wahanol.   

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Rydym wedi trafod materion yngl?n â’r ffodd y mae’r adroddiad yn llifo a sut y mae sawl awdur gwahanol yn golygu bod yr adroddiad yn  ddatgymalog a’r elfennau sydd angen eu diweddaru. Rydym wedi amlygu materion o ran diweddaru aelodau ar faterion fel GovTech. Rydym wedi codi pryderon am fesur perfformiad yn dilyn y cyfnod  covid ac rydym yn cydnabod bod angen newid rhai o’r mesurau. Mae aelodau o’r pwyllgor yn pryderi am y rhai hynny sydd wedi bod ar ymyl y dibyn ond wedi llwyddo hyd yma ond nawr wedi eu gwthio dros y dibyn yn sgil covid. Nid oes modd gorbwysleisio’r pwysau ar deuluoedd mewn tlodi, ar aelwydydd ag incwm llai, sydd wedi gorfod ymdopi gyda’r baich o  ddysgu plant gartref, ac ar ochr arall y sbectrwm, y rhai hynny sydd yn byw ar ben eu hunain ac wedi dioddef unigrwydd ac arwahanrwydd, sydd wedi eu gwaethygu gan y pandemig. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith a wneir ac nid yw drafftio’r adroddiad hwn wedi bod yn hawdd a diolch i chi am eich ymdrechion ac rydym yn gofyn i chi nodi ein hadborth. 

 

Dogfennau ategol: