Agenda item

Astudiaeth Gwerth am Arian y GCA - Debbie Harteveld (GCA)

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Gyfarwyddwr Price gyflwyniad i’r pwyllgor. Roedd yr adroddiad wedi ei ysgrifennu gan ymgynghorydd allanol. Diben yr adolygiad yw adlewyrchu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a bod yn ymwybodol o hyn, yn ogystal â bod yn ymwybodol o’r meysydd y mae angen i ni wella ynddynt. Defnyddiwyd ystod eang o ddata cyfanredol o feysydd amrywiol o fewn yr awdurdod lleol, yn ogystal â thystiolaeth gan arbenigwyr allanol. Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y GDA yn gwneud y pethau iawn, yn eu gwneud yn dda a bod y pethau hyn yn cael effaith.

Her:

A oes problem gyffredinol yn Sir Fynwy o ran dysgu uwchradd, o’i gymharu â’r perfformiad ar lefel gynradd, neu broblem o ran cynnal y perfformiad dros amser?

Cytunodd adroddiad Estyn bod gwelliant wedi digwydd yn gynt ar lefel gynradd nag ar y lefel uwchradd. Mae amser a sylw wedi ei roi er mwyn sicrhau bod arweinyddiaeth dda bellach yn ei lle ar lefel uwchradd. Rydym wedi buddsoddi amser er mwyn sicrhau bod cytundeb rhyngom ni, yr ysgolion a’r GDA yngl?n â’n disgwyliadau o ran y canlyniadau (mae’r disgwyliadau o’r lefel uchaf). Yn anffodus, ni fydd metrigau traddodiadol ar gael yn y dyfodol; yn gyntaf o herwydd y ffordd y mae arholiadau wedi eu heistedd y tro hwn, ni fyddwn yn defnyddio’r data hwn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Yn ail, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi na fydd categoreiddio’n debygol o ddigwydd yn y flwyddyn nesaf. Yn drydydd, roeddem yn mynd i mewn i’r flwyddyn nad oedd Estyn yn gwneud arolygon ynddi. Bydd rhaid i ni weithio gyda’r GDA er mwyn dod o hyd i ffyrdd o roi hyder i’r pwyllgor hwn, ac i’r cyngor yn gyffredinol, bod ein ysgolion yn symud yn y cyfeiriad cywir.

Mae Ysgol y Brenin Henri VIII bellach yn cefnogi ysgol arall. Dylai hyn arwain at arweinyddiaeth bositif a gwasgaredig o fewn yr ysgol dan sylw sydd i’w datblygu. Mae’r bartneriaeth bresennol rhwng Cil-y-coed ag Esgob Llandaf yn dwyn ffrwyth. Rydym yn gwneud cynnydd yng Nghas-gwent o dan arweinyddiaeth newydd. Croesawodd Ysgol Uwchradd Trefynwy bennaeth newydd ddoe – fe ddylai hyn ysgogi’r ysgol. Mae’r pedair ysgol felly, mewn sefyllfa gref o ran gwella yn y dyfodol.

Gyda llai o staff, a oes mwy o ddirprwyo wedi digwydd i ysgolion o ran gwella, a sut mae hyn wedi newid eich dull gweithredu?

Mae llai o staff o fewn y GDA, ac mae hyn yn rhan o’n dull o symud tuag at system hunan-wella, a sicrhau bod capasiti’n cael ei adeiladu o fewn cymuned yr ysgol. Yn ei dro, bydd hyn yn cynyddu’r ddirprwyaeth a’r adnoddau i ysgolion. Ein dull yn hyn o beth, yn bennaf, yw annog ysgolion i gyflawni gwasanaethau ar gyfer ysgolion eraill, gan ddarparu safon dysgu priodol a phroffesiynol a sicrwydd ansawdd ar gyfer y fecanwaith dan sylw. Mae hyn, hefyd, yn helpu ysgolion i deimlo’n rhan o’n gwaith. Rhesymol yw mai ymarferwyr o fewn ysgolion yw’r rhai sy’n rhoi’r arweiniad yma.

O dan y cwricwlwm newydd, mae’r Dyniaethau’n cwmpasu nifer o bynciau: a fydd y GDA yn sicrhau y bydd digon o adnoddau ar gyfer y gwahanol bynciau?

Dros amser, byddwn yn gwneud yn si?r bod yr adnoddau priodol yn eu lle. Boed hyn wrth i ysgolion weithio ar ddatblygiad y cwricwlwm newydd neu staff sydd â’r arbenigedd yn sicrhau y gall cydlynu ddigwydd. Yn 2022 byddwn yn gweld cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru; mae gwaith wedi mynd rhagddo yn barod o fewn ysgolion er mwyn eu helpu i feddwl am sut i’w roi ar waith. Nid pawb sydd yn yr un lle, yn ôl y disgwyl.

Onid yw’r cwricwlwm newydd yn cael eu ohirio, o ystyried Covid?

Mae’r bil wedi ei roi ger bryn y Senedd ar gyfer cwricwlwm Cymru. Mae ysgolion wedi cael y cyfle i gychwyn cynllunio nawr. Byddwn yn gwrando ar ymarferwyr a phenaethiaid ac yn addasu yng ngwyneb yr adborth y byddant yn ei roi.

Bydd trydydd ysgol gynradd Gymraeg yn agor yn Sir Fyny o fewn y blynyddoedd nesaf. A fyddwn yn methu allan ar athrawon sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan eu bod yn dueddol o fyw yng Nghaerdydd?

Mae hyn yn peri pryder ar lefel genedlaethol. Yn ddiweddar, bu i ni lansio’r rhaglen Darpar Benaethiaid, sy’n canolbwyntio ar ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a meysydd eraill ble mae prinder. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ymgysylltu ar y cynlluniau sabothol, sy’n bwysig o ran hybu’r Gymraeg ar draws y rhanbarth. Mae modd i ni gyfuno adnoddau o bob cwr o Sir Fynwy a’r pedwar awdurdod lleol arall, a chreu diddordeb yn y swyddi rheiny. Y gobaith yw y gallwn gadw ymarferwyr o safon uchel yn y rhanbarth hwn. Mae cysylltiadau gyda Phrifysgolion sy’n hyfforddi athrawon hefyd yn allweddol i ni, nid yn unig o ran denu ymarferwyr newydd i mewn i’r rhanbarth, ond eu cadw yma hefyd- rhoi cyfleoedd dysgu o safon uchel iddynt, gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yna canfod y rheini o fewn y garfan hon a allai ddod yn arweinwyr y dyfodol.

A oes graddau wedi eu rhoi ar asesiadau?

Mae’r ysgolion wedi ymgymryd â phroses eang er mwyn penderfynu beth fyddai canlyniad bob plentyn wedi bod. Mae’r graddau wedi eu rhoi i’r byrddau arholi ac maent hwythau wedi ymgymryd â’u proses eu hunain. Nid yw’r broses hon, felly, wedi ei selio ar asesiadau penodol. Bydd pob plentyn yn derbyn eu canlyniadau yn unol â’r arfer, ond bydd y modd y mae’r graddau wedi eu cyfrifo’n wahanol. Ni fyddwn, felly’n defnyddio’r graddau rhain at ddibenion atebolrwydd eleni.

Casgliad y Cadeirydd:

Bu i ni gyffwrdd â’r materion sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd ysgolion dros amser, yn enwedig ysgolion uwchradd – mae angen monitro’r mater yma. Wrth symud ymlaen, mae gwrando ar y rheiny sy’n derbyn y gwasanaeth yn bwysig iawn. Rhoesom ystyriaeth i gyflwyno’r cwricwlwm newydd a’r pwysau a ddaw yn ei sgil. Dyma gyfnod heriol iawn.

 

 

 

Dogfennau ategol: