Agenda item

Myfyrdodau ar ysgolion Sir Fynwy trwy'r Cyfnod Clou COVID-19 a dychwelyd i'r ysgol yn yr haf. Diweddariad Llafar - Will McLean

Cofnodion:

Rhoddodd Y Prif Swyddog Will McLean ddiweddariad cyffredinol. Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Llywodraeth gefnogaeth i ddysgwyr sy’n agored i niwed a gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol. Ymatebodd Sir Fynwy i’r cais hwn yn dda iawn. Mae ein holl ysgolion wedi cyflawni’r ddwy agwedd allweddol hon. Y dull a ddefnyddiwyd i ddarparu gofal plant oedd drwy hybiau mewn ysgolion – gweithiodd y model yn arbennig o dda. Edrychom ymhellach ar y galw ym mhob tref, cymerodd yr awdurdod lleol gyfrifoldeb am adnabod a chofrestru plant. Mewn rhai ardaloedd penodol, mae galw mawr ee rhedwyd dau hwb yn y Fenni, yn Llan-ffwyst Fwyaf a Deri View gan fod ysbyty cyffredinol rhanbarth yn y dref; yn Ne y sir roedd hybiau yn Rogiet a Dewstow, ac roedd hybiau pellach yn Thornwell a Monnow yn Nhrefynwy. Yn ogystal â hyn agorwyd Ysgol Rhaglan er mwyn cefnogi ardaloedd gwelid y sir. Un o’r pethau mwyaf positif i ddeillio o’r cyfnod hwn yw’r clystyrau o ysgolion sydd wedi gweithio i gefnogi’r hybiau. Rydym wedi gweld mwy o gydweithio yn ein clystyrau, gan weld gwell cysylltiadau personol rhwng rhai o’r penaethiaid. Yn ystod Gwyliau’r Pasg, rhoddodd MonLife gymorth – rhoddodd hyn gyfle i athrawon gamu i ffwrdd o’r ysgol. Darparodd MonLife gyfuniad o waith ieuenctid, addysg awyr agored a chwaraeon a datblygiad. Croesawyd hyn yn fawr gan rieni a phlant.

Yn ystod tymor yr haf, cadwyd yr saith hwb ar agor, ond daeth yn amlwg bod ysgolion uwchradd eisiau agor er mwyn cynnig cymorth i’w dysgwyr mwyaf agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol. O ganlyniad, roedd 11 hwb ar agor. Penderfynom ddarparu gofal plant hyd at Flwyddyn 8. Ychydig iawn o alw oedd am y ddarpariaeth o’i gymharu ag oedran cynradd. Bu modd i’r ysgolion uwchradd roi eu systemau eu hunain ar waith a defnyddio’r amser fel modd o brofi, i raddau, sut y byddent yn gweithredu unwaith y byddai plant yn dychwelyd i’r ysgol. Mae dwy o’n hysgolion uwchradd yn gartref i Uned Adnoddau Anghenion Arbennig, ac roedd y ddwy ysgol ar agor yn ystod y cyfnod dan sylw.

Ar y 22ain o Fehefin, newidiom ein model er mwyn paratoi ar ddychweliad plant i’r ysgol ar y 29ain. Agorodd pob ysgol yn Sir Fynwy eu drysau i ddysgwyr agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol. Galluogodd hyn yr hybiau i dderbyn llai o blant, a galluogodd hyn yr ysgolion i roi cynlluniau gweithredol yn eu lle a’u profi. Pwynt pwysig i’w wneud yw bod darparu gofal plant yn ystod y cyfnod hwn wedi rhoi pwysau sylweddol ar ein ysgolion – roedd gennym nifer uchel o blant yn derbyn gofal plant o’i gymharu ag awdurdodau eraill o’r un maint. Dychwelodd 80 o blant yn ystod yr wythnos gyntaf a chododd y nifer i 300 erbyn y diwedd. Gwnaeth gweithwyr MCC yn dda iawn o ran trefnu’r broses, gwnaeth y Penaethiaid yn dda iawn o ran rheoli’r cydbwysedd rhwng darparu ar gyfer plant gweithwyr allweddol a’u dymuniad o weld cymaint o blant â phosibl yn dychwelyd. Rheolwyd hyn drwy beidio â dweud na wrth unrhyw un o ran darparu gofal plant.

Felly, mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol, ond mae pawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith wedi ymateb i’r her yn llwyddiannus. Bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud cyhoeddiad am 12.30 heddiw yngl?n â’r cynlluniau at y dyfodol.

Rhoddodd Sharon Randall-Smith ddiweddariad pellach yngl?n â manylion penodol dysgu:

Mae’r ysgolion wedi ymateb yn dda iawn i’r pwysau sydd wedi ei roi arnynt, yn enwedig o ran dysgu. Eu blaenoriaeth gyntaf oedd lles, ond roedd pob un ohonynt yn barod i gadw cysylltiad gyda disgyblion a rhieni er mwyn parhau i ddysgu, hyd yn oed yn ystod y cyfnod cynnar iawn. Rodd gan rai ysgolion fwy o allu na’u gilydd o ran ymateb i’r heriau. Ond roedd gan bob ysgol drefniant yn ei le a oedd yn sicrhau bod gwaith yn cael ei roi i blant, a chefnogaeth yn cael ei roi i deuluoedd. Yn wreiddiol, roedd 50% o’r ysgolion yn manteisio ar Hwb; mae hyn wedi cynyddu’n sylweddol. Mae llawer wedi manteisio ar ddysgu proffesiynol, gan wneud yn si?r bod yr hyn y mae gofyn i blant ei wneud yn addas ac ymgysylltiol, yn ogystal â chwmpasu eu lles. Mae’r model dysgu’n dwyn ffrwyth bellach; ac mae’r dysgu’n fath gwahanol o ddysgu. Mae ysgolion wedi derbyn llawer iawn o hyfforddiant a dysgu proffesiynol gan ein cydweithwyr yn y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA). Mae ymgysylltiad wedi cynyddu mewn rhai ardaloedd, ond nid mewn ardaloedd eraill. Rydym wedi derbyn adborth defnyddiol gan bobl ifanc. Mae’r adborth yma wedi ei rannu gydag ysgolion: er enghraifft, edrych ar niferoedd, mynediad at adnoddau ayyb.

Nododd ysgolion yn syth y byddai rhai plant yn ei chael hi’n anoddach ymgysylltu gyda’r cynnig dysgu, Mae ysgolion wedi gweithio’n uniongyrchol gyda rhieni y mae eu plant angen adnoddau ychwanegol ac a oedd yn cael trafferth ymgysylltu’n ddigonol. Rydym wedi creu perthnasau da iawn gyda rhieni.

Mae pryder yngl?n â rhai plant a rhieni’n parhau. Yn yr achosion rhain rydym wedi cadw cysylltiad agos. Er enghraifft, rydym yn cysylltu dair gwaith yr wythnos gyda theuluoedd mewn rhai ysgolion. Rydym wedi edrych, hefyd, ar ffyrdd eraill y mae modd i ni roi cymorth. Mae hyn yn parhau’n flaenoriaeth i ysgolion wrth symud ymlaen. Mae brwdfrydedd enfawr o fewn ysgolion i ddatblygu dysgu; mae arfer da wedi ei rannu’n effeithiol iawn gyda hybiau – mae ysgolion yn gweithio gyda’u gilydd. Mae ysgolion wedi blaenoriaethu disgyblion sy’n peri pryder yn eu sesiynau ‘dal i fyny a pharatoi’. Mae ysgolion wedi dweud yn glir na fyddant yn dychwelyd i’r hen ffordd am eu bod wedi canfod cymaint o gryfderau ac wedi gwneud y fath ddatblygiadau positif o ran y ffordd y maent yn dysgu bellach;  cydamserol (hy ‘wyneb yn wyneb’), cysylltiad gyda grwpiau o blant, yn ogystal â dysgu anghydymserol, sef rhoi hyblygrwydd i’r dysgwr i ymgysylltu ar yr amser mwyaf addas ar eu cyfer. Mae ysgolion wedi edrych ar ddysgu fel teulu. Gall pawb ddysgu gyda’u gilydd, a gwneud y profiad yn un mwy ystyrlon.

Mae’r wythnosau diwethaf, wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol, wedi cael eu defnyddio’n effeithiol iawn i baratoi disgyblion a staff, gan gynnig dull cyfunol, cynhwysfawr wrth i ni symud yn nes at fis Medi a thu hwnt. Bydd yr angen am gefnogaeth gan y GCA yn parhau

Her:

Y pryder yw y bydd y bwlch o ran cyrhaeddiad yn cynyddu os nad yw pob plentyn yn dychwelyd ym mis Medi, wrth i fwy a mwy o ddysgu ar-lein gael ei ddefnyddio i sicrhau eu bod yn dal i fyny. A oes ystyriaeth wedi ei roi i’r posibilrwydd y gallai’r gwasanaethau cymdeithasol weithio law yn llaw ag ysgolion? Beth am gefnogaeth gwirfoddolwyr?

Mae dysgwyr sy’n agored i niwed yn peri pryder ar lefel genedlaethol. Rydym yn gobeithio y bydd cymaint o ddisgyblion â phosibl yn ôl yn yr ysgol ym mis Medi. Mae angen cau’r bwlch – dyma un o’n amcanion ar hyn o bryd. O ran hygyrchedd digidol: rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt. Bu i ni brynu a darparu 200 cysylltiad gwe personol (My-Fi), ac mae offer wedi ei fenthyca rhwng ysgolion (tua 80 darn o offer ar gyfartaledd ar lefel ysgol uwchradd). Un canlyniad positif iawn yw pa mor agos yr ydym wedi gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol, rydym wedi gofalu bod anghenion plant sy’n agored i niwed yn cael eu diwallu.

O ran gwirfoddolwyr: bu i ni gyfarfod yn ddiweddar gyda Jill Langford a’i thîm er mwyn dysgu sut y gallwn ddefnyddio’r nifer helaeth o wirfoddolwyr sydd ar gael i ni, a bu i ni gwrdd â gr?p craidd o benaethiaid. Roeddynt eisiau amser i ystyried yr hyn a fyddai ei angen arnynt. Rydym wedi trafod cefnogi lles: mae plant yn dysgu orau pan mae lles yn uchel; sut y gallwn gefnogi cyflenwi, a chefnogi teuluoedd – mae hyn yn allweddol o ran atal y blwch rhag ymestyn. Rydym wedi cwrdd yn wythnosol gyda'r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn trafod ac adolygu darpariaeth gefnogol ar gyfer plant sydd angen cymorth. Rydym wedi defnyddio GCA i ganfod unrhyw rwystrau i gefnogaeth dysgu. Mae ysgolion wedi cadw mewn cysylltiad agos gyda theuluoedd sy’n agored i niwed, fel y nodwyd yn gynharach. Mae ein gwasanaethau Dechrau’n Deg wedi nodi teuluoedd y maent yn eu hadnabod yn dda; mae’r rhain wedi cael eu trafod ac rydym wedi edrych ar yr hyn sydd ei angen arnynt er mwyn ffynnu. Mae rhannu dyfeisiadau rhwng ysgolion wedi bod yn gam positif. Mae’n bosib y bydd angen i ni edrych ar hyn eto wrth i rieni ddychwelyd i’r gwaith.

O ran ffiniau, a gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr; a allai problem godi o ran gofal plant, er enghraifft, pe byddai rywun yn dysgu yn Wyedean a’u plant yn cael eu haddysg yng Nghymru? A oes gwybodaeth ddigonol yn cael ei roi i rieni sy’n weithwyr allweddol yngl?n â meithrinfeydd a darpariaeth gofal plant?

Mae her anochel yn codi wrth geisio rheoli’r sefyllfa o ran pa mor agos yw ysgolion Lloegr. Rydym wedi gweithio’n unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, wedi cynnig hyblygrwydd i ysgolion eu dadansoddi mewn ffordd sy’n addas ar eu cyfer hwy a’u cyd-destun lleol. Byddwn yn parhau i wneud hynny, er mwyn eu galluogi i wneud y defnydd gorau o’u cyfleusterau a’u hadnoddau (o ran staff dysgu).

Rydym wedi llwyddo i ddarparu gofal plant helaeth yn ystod y cyfnod yma. Galluogodd penderfyniadau cynnar i ymestyn cylch gorchwyl ein Dechrau’n Deg ni i ddefnyddio adnoddau’n effeithiol, ac rydym wedi llwyddo i ddefnyddio ambell i ddarparwr preifat. Rydym wedi cael cymorth gan Gynllun Cymorth Gofal Plant Coronafirws (CCAS) Llywodraeth Cymru. Ataliwyd yr hawl i 30 awr o ofal plant dros dro, a neilltuwyd yr oriau er mwyn cefnogi plant gweithwyr allweddol yn ystod y cyfnod hwn. Buddiol yw pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod pawb yn ymwybodol na all ein hysgolion ddarparu gofal plant pan fydd mwy o blant yn dychwelyd i’r ysgol.

Yn ôl Wales Online, mae llai o ddysgu ar-lein ar gael yng Nghymru nac yn unman arall yn y DU. Ond mae platfform cenedlaethol yn bodoli – onid yw’r holl gyfleusterau cenedlaethol ar gael yng Nghymru?

Gan ein bod yn sir sydd ar y ffin, mae bod yn y canol rhwng penderfyniadau San Steffan a Chaerdydd yn peri pryder parhaus. Gobeithio y bydd cyhoeddiad heddiw’n arwain at ddychweliad ein plant i’r ysgol, fel sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Rydym wedi gweithio o fewn y canllawiau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac rydym wedi gweithio gydag ysgolion er mwyn eu dadansoddi yn y modd sy’n berthnasol iddynt hwy. Roedd gan Cymru fantais yn barod gan fod yr Hwb yn cael ei ddefnyddio cyn y cyfnod clo. Bu’n rhaid i Loegr fynd ati ar frys i gaffael darparwr, ond mae Hwb yn benodol i Gymru, ac mae’n sicrhau y gellir rhannu gwybodaeth yn helaeth, creu gwersi, ac mae’n rhoi mynediad llawn i bob disgybl yng Nghymru i ddarpariaeth Microsoft a Google. Fe’i darparwyd ymhell cyn y pandemig.

Rydym wedi derbyn adborth gan rieni yngl?n â dysgu cydamserol. Mae’n bosib iawn bod darpariaeth mwy anghydamseredig mewn rhai ysgolion; bydd pob ysgol yn rhoi’r model ar waith mewn modd gwahanol. Mae’r dull hwn yn rhoi mwy o ryddid ac mae’n fwy hygyrch gan fod modd ei ddefnyddio ar yr amser gorau i’r disgybl, ac felly mae’n arwain at well canlyniadau, fel y mae astudiaethau wedi dangos.

Mae nifer o blant nad ydynt yn derbyn datganiadau anghenion dysgu ychwanegol. Gall y datganiadau gymryd amser. Pa ddarpariaeth a sicrhawyd ar gyfer plant sydd yn y broses o dderbyn un, neu blant sydd wedi methu allan ar un? Beth a roddwyd mewn lle ar eu cyfer, ac a fydd yr un peth yn cael ei roi yn ei le yn y dyfodol pe byddai cyfnod clo arall yn digwydd.

Cawsom drafodaethau uniongyrchol gyda rhieni plant sy’n mynychu Unedau Adnoddau Anghenion Arbennig. Ar gyfer y rheiny heb ddatganiad, gweithiom er mwyn sicrhau bod plant sy’n agored i niwed yn cael eu hadnabod a’u cefnogi. Mae gwneud hynny’n her, ac rydym yn parhau i edrych ar hyn. Byddwn yn adlewyrchu ar y cymorth yr ydym wedi ei roi wrth i ni baratoi at fis Medi. Mae’n rhaid i ni feddwl am gyfyngiadau clo lleol posib, a sicrhau bod ysgolion yn barod i ymateb. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud yn si?r ein bod yn diwallu’r gofynion o dan y Ddeddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol; Mae hyn yn anodd, yn aml, am mai yn yr ysgol fel arfer y meddylir am y ddarpariaeth yn cael ei chyflenwi.

Bydd rhai plant wedi gwneud cyn lleied â phosibl yn ystod y cyfnod yma – sut y byddant yn cael eu hintegreiddio’n ôl i mewn i drefn gwersi arferol yn yr ysgol?

Mae’r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i roi’r cyfle i bob disgybl ailgydio, dal i fyny a pharatoi wedi bod yn ran sylfaenol o’r ffordd yr ydym yn gwneud hynny. Mae’r dair wythnos yma o gyswllt rhwng dysgwyr a’u hysgolion yn holl bwysig. Mae’r dair elfen yn bwysig iawn; neges y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi trwy gydol y cyfnod yma, yw mai lles yw’r flaenoriaeth gyntaf – mae hyn yn ymwneud â’r rhan ‘ailgydio’. Mae angen y rhan ‘dal i fyny’ am ei bod yn amlwg bod angen i ni ddeall ble mae ein dysgwyr wedi cyrraedd. Y trydydd rhan. ‘paratoi’; y neges yr ydym wedi ei derbyn gan benaethiaid yw bod y cyfnod hwn yn allweddol er mwyn galluogi pobl ifanc i ddychwelyd a deall sut i gael mynediad at yr addysg a’r Hwb, sut y gallent ryngweithio’n ddigidol gyda’u hysgol ac ati. Mae ein cydweithwyr yn yr adran addysg wedi cysylltu â’r dysgwyr rheiny sydd angen mynediad i ysgol – rydym yn ymwybodol bod gr?p sy’n agored i niwed sydd ddim yn gwneud hyn. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau cysondeb. Mae’n bwysig nad ydym yn meddwl am ddyfodol deuaidd, gyda phlant yn yr ysgol neu ddim yn yr ysgol – mae’n debygol y bydd cymysgedd, ac mae’r elfen ‘paratoi’ yma’n holl bwysig o ran sut yr ydym yn rheoli’r sefyllfa wrth symud ymlaen.

Beth yw’r statws ar gyfer teuluoedd sydd â un o’r rhieni neu’r plant yn un o’r categorïau sy’n cael eu gwarchod? Plant sydd â chyflyrau meddygol yn dychwelyd, neu blant sydd â rhieni â chyflyrau meddygol.

Nid oes disgwyl i unrhyw blentyn sy’n meddu ar llythyr gwarchod fod yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae’r un peth yn wir am staff, neu’r rheiny sydd â theulu agos sy’n meddu ar lythyr. Bydd ystyriaeth bellach yn cael ei roi i’r drefn o ran cysgodi yn ystod mis Awst. Rydym wedi gweithio’n agos iawn gydag undebau llafur, ein cydweithwyr yn AD a phenaethiaid yngl?n â staff yn dychwelyd, neu’r rheiny sydd a chyflyrau iechyd isorweddol yn aros gartref. Byddwn yn aros am ganllawiau pellach yngl?n â chysgodi yn y dyfodol. Rydym yn bendant ar hyn o bryd bod plant yn ymuno â gr?p yn y bore ac nad ydynt yn gadael y gr?p hwnnw. Mae hyn er mwyn ceisio lleihau cymysgu a sicrhau bod pellter cymdeithasol yn cae ei gadw.

Er mwyn diwallu gofynion cadw pellter cymdeithasol a oes cyfleusterau hamdden yn cael eu defnyddio?

Ar hyn o bryd mae ysgolion Cas-gwent a’r Brenin Henri VIII yn defnyddio canolfannau hamdden. Nid oedd angen i Drefynwy a Chil-y-coed wneud hynny. Rydym wedi cychwyn paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer lleoliadau eraill er mwyn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol os oes angen yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi nodi nifer o adeiladau ar draws yr awdurdod, er y byddai angen ystyried goblygiadau AD a staff ychwanegol.

A oes modd cadarnhau bod gan bob disgybl fynediad at TG?

Nid wyf yn ymwybodol ar hyn o bryd o unrhyw achos ble nad oes offer TG wedi ei ddarparu i’r rheiny sydd ei angen. Rydym wedi cael ein ariannu gan Lywodraeth Cymru; daethant ag ail gyfran y gronfa Technoleg Addysg yn ei blaen er mwyn gallu ei rhoi i blant yn ôl yr angen.

A ellir rhoi sicrwydd pellach na fydd y bwlch o ran cyrhaeddiad yn cynyddu yn ystod y cyfnod yma?

Lansiodd y Gweinidog Addysg fenter gwerth £29m y bore ma er mwyn ceisio sicrhau y bydd mwy o weithwyr yn cael eu defnyddio y flwyddyn nesaf er mwyn cau’r bwlch. Bydd manylion yn ymddangos yn ystod y dyddiau nesaf. Gall dod o hyd i’r staff cywir yn y pynciau allweddol fod yn her. Ond rydym yn aros am fanylion pellach gan Lywodraeth Cymru y bore ma.

Casgliad y Cadeirydd:

Rydym wedi ystyried teuluoedd camweithredol, sydd o bosib heb yr adnoddau sydd eu hangen a’r defnydd o TG. Braf iawn yw clywed bod anghenion technegol pob plentyn wedi eu diwallu. Rhoddwyd ystyriaeth i broblemau ysgolion ar y ffin a dysgu cyfunol. Trafodwyd y mater o ddisgyblion gydag ADY, neu’r rhai sydd heb dderbyn datganiad. Rhoddwyd ystyriaeth i faterion sy’n ymwneud â gwarchod. Bydd cyhoeddiad y Llywodraeth heddiw’n rhoi eglurder, ac edrychwn ymlaen at hynny.