Agenda item

I nodi’r Rhestr Gweithredu o’r cyfarfod diwethaf

Cofnodion:

Nodwyd y Rhestr Weithredu o'r cyfarfod blaenorol. Darparwyd y diweddariadau canlynol:

 

·         Rheoli Perfformiad: Ymatebodd y Prif Swyddog, Adnoddau  ers y cyfarfod diwethaf, i’r Awdurdod ymateb i argyfwng COVID 19 trwy flaenoriaethu cefnogaeth i gymunedau a busnesau. Mae'r adroddiad Rheoli Perfformiad a gynlluniwyd wedi'i ohirio. Canolbwyntiwyd ar les staff gan adlewyrchu'r amgylchiadau newydd. Gwnaethpwyd sylwadau ar gyflwyno Timau Microsoft ar draws y sefydliad. Gwneir dadansoddiad o ryngweithio staff trwy Dimau er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer gweithio a chyfathrebu yn y dyfodol. Holodd Aelod a oedd unrhyw asesiad yn cael ei gynnal i'r effaith seicolegol ar staff yn gweithio gartref (e.e. arwahanrwydd). Cadarnhawyd bod arolwg staff ar y gweill. Er bod amgylchiadau pawb yn wahanol, hyd yn hyn mae'r ymatebion yn dangos bod gweithio gartref wedi bod yn brofiad cadarnhaol gyda mwy o ryngweithio gyda chydweithwyr i rai. Mae llawer o ddeunyddiau lles ar gael. Bydd Neuadd y Sir yn ailagor yn fuan yn unol â gofynion pellter cymdeithasol Llywodraeth y DU ar gyfer staff sydd eisiau gweithio yno am gyfnodau byr.

 

·         Tybiaethau Archwilio Anffafriol:  Cyfeiriodd y Prif Archwilydd Mewnol at y gwaith yn ymwneud â Gwaith Asiantaeth 2018/19 a 2019/20. Mae'r holl ymatebion bellach wedi dod i law ac mae'r adroddiad terfynol wedi'i anfon at uwch reolwyr ym mis Mawrth 2020. Mae rheolwyr wedi cytuno i roi'r rhan fwyaf o'r argymhellion ar waith. Bydd fersiwn gryno o'r adroddiad yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Archwilio ac yn cael ei ychwanegu at y rhaglen waith.

·         Asesiad Risg Strategol yr Awdurdod Cyfan:  Darparodd y Rheolwr Perfformiad ddiweddariad ar y gwaith yn ymwneud â risg a chyfleoedd tymor hir sy'n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent. Mae'r gwaith hwn yn dal i gael ei ddatblygu ac mae COVID 19 wedi effeithio ar y graddfeydd amser. Ar hyn o bryd, mae cofrestr risg yr Awdurdod cyfan wedi'i diweddaru yn unol â'r risgiau newydd a berir gan COVID 19 (e.e. yr effaith ariannol). Bydd y risgiau newydd yn cael eu rheoli a'u lliniaru yn unol â threfniadau rheoli risg strategol yr Awdurdod. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod trefniadau Cynllunio Brys a Pharhad Busnes ar waith i reoli'r argyfwng presennol, a chyfrifoldeb y Pwyllgor Archwilio yw ceisio sicrwydd ynghylch trefniadau rheoli risg strategol yr Awdurdod a sicrhau bod adroddiadau rheolaidd ar y rhain. Bydd adroddiad monitro dros dro yn ymdrin â COVID 19 yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith.

·         Adolygiad Blynyddol y Pwyllgor Buddsoddi: Eglurodd y Prif Swyddog y bu cyfathrebu rheolaidd ac aml gyda thenantiaid ym Mhorth y Castell a Pharc Hamdden Casnewydd. Er na chytunwyd ar unrhyw gonsesiynau rhent hyd yma, mae anfonebau rhent chwarterol wedi'u cyhoeddi a gallant ysgogi sgyrsiau pellach. Mae mesurau cymorth Llywodraeth y DU ar gyfer cadw swyddi staff a’r cynllun ffyrlo mewn grym. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd gan yr Awdurdod Lleol ddiffyg sylweddol yn deillio o golli incwm o'r Gwasanaethau Hamdden, Cofrestryddion ac ati. Mae cyllid o £78m ar gael gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn aros am y meini prawf cymhwysedd. Caiff y Pwyllgor Archwilio adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol a rhoddwyd sicrwydd bod y Pwyllgor Buddsoddi yn derbyn adroddiadau rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol. Gofynnodd Aelod ynghylch ailagor posibl rhai llefydd hamdden gyda phellter cymdeithasol a'r effaith ar Bolisi Buddsoddi yn y dyfodol.  Ymatebwyd bod y buddsoddiadau er budd tymor hir. Bydd y Pwyllgor Buddsoddi yn parhau i fonitro a rheoli'r sefyllfa sy'n esblygu’n barhaus. Nid oes unrhyw gynlluniau cyfredol ar gyfer strategaethau gadael.

 

Dogfennau ategol: