Skip to Main Content

Agenda item

Y diweddaraf ar Oleuadau Stryd (adroddiad i ddilyn).

Cofnodion:

Roedd y pwyllgor wedi gofyn am ddiweddariad ar bolisi goleuo strydoedd. Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y gwasanaeth a’r pwysau arno a chadarnhawyd na chynigir unrhyw newidiadau i’r polisi presennol ar oleuadau stryd.. 

 

Clywodd aelodau y penderfynwyd yn 2014 i sicrhau arbedion costau a buddion ehangach i’r amgylchedd mewn gostwng carbon, llygredd golau a bioamrywiaeth drwy droi goleuadau stryd bant mewn ardaloedd preswyl yn y prif drefi. Cafodd hyn ei ymestyn yn 2017 i drefi llai a phentrefi. Defnyddiodd y cyngor fenthyciad i uwchraddio’r system rheoli i system Harvard oedd yn rhoi opsiynau ar gyfer amserau troi ymlaen a bant, pylu a gweithredu ran o’r nos. Sicrhawyd arbedion yn bennaf drwy ostwng defnydd ynni o lai o oriau gweithredu a gwelliannau mewn technoleg, ynghyd â defnydd ynni o lai o oriau gweithredu a gwelliannau mewn technoleg, ynghyd â newid o fylbiau halogen traddodiadol i fylbiau LED. Dywedwyd wrth y pwyllgor fod y cyngor, yn wahanol i lawer o awdurdodau eraill, wedi penderfynu na fyddai dim yn cael eu troi i ffwrdd yn llwyr ac felly polisi’r cyngor ar gyfer goleuadau preswyl yw troi bant yn unig rhwng canol-nos a 5:30 a gweithredu pylu ar adegau eraill. Mae gwelliannau i dechnoleg wedi golygu y gellir pylu’r bylbiau LED diweddaraf ar draws ystod llawer ehangach a chaiff y rhain eu defnyddio wrth roi pob bylb newydd. Ar gyfer llusernau newydd, mae’r cyngor yn awr yn pylu ardaloedd preswyl i 20% yn lle troi goleuadau bant.

 

Esboniodd swyddogion nad yw’r gost o amnewid yr holl unedau RC gydag unedau wedi’u rhaglennu ymlaen llaw yn y gyllideb ac y byddai oddeutu £210,000.  Wrth i’r unedau RC hyn fethu, cânt eu hamnewid gyda’r dechnoleg newydd. Hysbyswyd aelodau er bod llawer o bryderon am ddiogelwch a lefelau troseddu uwch pan ymgynghorwyd ar y polisi, nad oes unrhyw dystiolaeth i brofi fod lefelau troseddu wedi cynyddu ers cyflwyno’r polisi. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu a lle mae gan yr Heddlu bryderon penodol am ddiogelwch, cafodd y cyfnod troi-bant ei ostwng a bydd y goleuadau LED newydd a gaiff ei bylu i 20% yn datrys y broblem o ganfyddiad troseddu.

 

Yn nhermau adnoddau, clywodd y pwyllgor fod yr arbedion costau o lai o ddefnydd ynni yn cael eu defnyddio i ad-dalu benthyciad SALIX dros y 16 mlynedd nesaf ond ychydig iawn mae hyn yn ei adael i’w ailfuddsoddi yn y seilwaith heneiddiol. Mae tîm o 3 o bobl gyda chyfrifoldeb am oleuadau stryd, felly mae problem adnoddau. 

 

Her:

 

·       Fe wnaethoch sôn fod Havard wedi mynd â’i ben iddo, lle mae hynny yn ein gadael ni? 

Mae cwmni arall wedi cymryd trosodd ond nid yw ein holl oleuadau ar system Harvard, mae rhai ar systemau gwahanol.

 

·       Os yw technoleg yn gwella drwy’r amser, ydyn ni’n gwella gyda’r amserau? A oes gwerth mewn uwchraddio’r seilwaith?

Mae cyfarpar cymysg mas yna. Mae’r marchnad yn esblygu’n barhaus felly rydym yn uwchraddio gyda’r dechnoleg orau pan mae pethau’n torri. Byddai’n gostus iawn i newid yr holl oleuadau felly rydym yn newid fel mae angen i ni wneud hynny. Mae ein cyllidebau yn gostwng ond nid oes unrhyw arbediad y gellid ei droi’n arian yn dod yn ôl gan fod hynny’n talu’r benthyciad. Rydym yn rheoli goleuadau traffig ac arwyddion diogelwch yn ogystal â cholofnau goleuadau stryd ac felly mae’n rhaid i ni gynnal a chadw ac uwchraddio’r rhain. Caiff rhai eu rhedeg ar gebl alwminiwm ac mae’n ddrud iawn i’w hamnewid i gyd, felly mae yngl?n â buddsoddi yn y seilwaith.

 

·     Roedd pryderon am ddiogelwch i ddechrau. Allwn ni wneud rhywbeth pan mae pryderon?

Nid ydym wedi cael llawer o gwynion gyda materion troseddu neu ddiogelwch. Lle cawsant eu dynodi, gallwn droi goleuadau yn ôl ond rydym wedi cymryd ymagwedd bragmatig at y polisi.

 

·       Pryd ydyn ni’n rhagweld y bydd goleuadau newydd yn lle’r holl hen oleuadau?

Bydd y cyfan wedi eu newid erbyn yr haf. Aeth y cyfnod cyntaf i mewn 5-6 mlynedd yn ôl, felly dydyn nhw ddim mor effeithiol.

 

·       A fydd unrhyw fantais ariannol?

Na, caiff ei fuddsoddi’n ôl mewn LED. Mae hyn o’i hanfod yn ymarferiad arallgyfeirio cyllideb yn hytrach nag arbed cyllideb. Nid yw'n ymwneud ag arian yn unig, mae ystyriaethau amgylcheddol yma hefyd.

 

·       Rwy’n bryderus y dywedwch y gall gymryd 10 mlynedd i fabwysiadu priffordd felly mae’r goleuadau yn dechnoleg hen – mae’n hurt y byddai’n cymryd cyhyd i fynd drwy’r broses.

Y rheswm yw ei fod yn aml yn costio arian i’r datblygwr ac felly nad ydynt yn gwthio llawer am gynnydd.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Rydym wedi croesawu’r cyfle i gael diweddariad ar y materion ers i’r Cynghorydd Easson eu codi. Mae’r adroddiad yn glir iawn wrth gyflwyno’r problemau adnoddau y dylem fod yn gwybod amdanynt a chadarnhau i ni na fydd newid ar y polisi presennol. Hoffwn godi mater mabwysiadu priffyrdd gyda’r Pennaeth Cynllunio. Os oes gan aelodau unrhyw gwestiynau pellach ar hyn, byddwn yn argymell eich bod yn cydlynu’n uniongyrchol gyda swyddogion.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: