Agenda item

Craffu cyn penderfynu ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd 2020 (Cynllun Cydraddoldeb Strategol i ddilyn).

Cofnodion:

Mae angen i’r Cyngor gyflwyno eu Hamcanion Cydraddoldeb Strategol o fewn cynllun Cydraddoldeb Strategol. Y cynllun hwn fydd y trydydd cynllun o’r fath i’r Cyngor ac mae’n disodli fersiwn 2016 – 2020 ar 1 Ebrill 2020. Daethpwyd â’r cynllun i’r pwyllgor ar gyfer craffu cyn-penderfyniad cyn ei fabwysiadu. Rhoddodd y swyddog gyflwyniad byr ar y cynllun, gan fod y cyd-destun wedi ei drafod yn ystod yr eitem flaenorol pan fu’r pwyllgor yn craffu perfformiad y flwyddyn flaenorol wrth gyflawni cyfrifoldebau deddfwriaethol y cyngor. Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau.

 

·      Yn nhermau gorfod cynnal asesiadau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar bob penderfyniad, dim ond un allan o 13 y gallwn ddod o hyd iddo ar gyfer penderfyniadau’r gyllideb. Yn yr un modd, yng nghyswllt yr Asesiadau Effaith Cronnus y cyfeiriwch atynt, nid wyf wedi eu gweld a byddai gennyf ddiddordeb gwybod sut y cawsant eu cyfrifo a pha bolisïau a gafodd eu cynnwys wrth eu llunio.

Dylid cynnal asesiadau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar bob penderfyniad a, hyd y gwn, credais i hynny gael ei wneud. Rwyf wedi gweld yr Asesiadau Effaith Cronnus felly gallaf ddod o hyd iddynt a’u hanfon atoch.

 

·       Nid yw’r adroddiad hwn yn sôn o gwbl am ddigartrefedd, sy’n ymddangos yn wall i mi, oherwydd er na allaf roi tystiolaeth, clywais am achosion o bobl ddigartref o Sir Fynwy yn cyflwyno fel digartref yng Nghasnewydd oherwydd bod mwy o wasanaethau yno.  

Bydd angen i mi holi ein Rheolwr Tai ar hyn gan ein bod yn tueddu ond i gynnwys materion lle mae tystiolaeth yn awgrymu fod problem, ond byddaf yn sicr yn dilyn hyn lan ar ôl y pwyllgor a chyn cwblhau fy adroddiad.

 

·       Ni allaf weld unrhyw sôn yn y adroddiad yma am y Grant Cydraddoldeb Incwm ac eto roedd cytundeb trawsbleidiol ar hyn y llynedd, felly mae’n teimlo fel nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud ac nid wyf yn si?r fod hynny oherwydd diffyg ewyllys gwleidyddol.

Byddaf hefyd yn holi am hyn.

 

·       Mae sôn am y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod, ond nid wyf yn si?r os caiff ei ddangos yn ddigonol drwy’r amcan yn yr adroddiad ac rwy’n ansicr os yw’n adlewyrchu’n gywir y gwahaniaeth yn y sir a’r sefyllfa go iawn.

Mae hyn yn rhywbeth y gallaf fynd ag ef yn ôl a’i drafod gyda chydweithwyr wrth gwblhau’r adroddiad.

 

·       Mae’r iaith a ddefnyddir yn teimlo’n or-strategol ac fel canlyniad mae’n teimlo fel rhywbeth ‘ticio’r blwch’ ac eto o edrych yn agosach, nid yw’n cynnwys y manylion y byddwn yn ei ddisgwyl.

Mae hynny’n ddefnyddiol ac mae’n rhywbeth y gallaf ei drin ar gyfer dogfennau’r dyfodol.

 

·       Mae’r diffiniad o dlodi yn broblem go iawn yn fy marn i, oherwydd mod i eisiau deall y feincnod ar gyfer gwneud asesiadau ac yn neilltuol pan nad oes unrhyw ddiffiniad wedi’i gytuno o dlodi. Rwy’n ansicr sut y gallwn ddweud ein bod wedi ymwreiddio rhywbeth na allwn hyd yn oed ei ddiffinio.

Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch yma ac mae’r gallu i ddiffinio tlodi yn rhywbeth yr ydym wedi cael anhawster ag ef ac efallai fod angen i mi adolygu’r sefyllfa’n cyfeirio at ‘ymwreiddio’.

 

·       Rwy’n teimlo y dylai fod mwy o ddadansoddiad ar wella a byddwn wedi hoffi gweld adran ar yr hyn weithiodd yn dda yn y cynllun diwethaf, beth na wnaeth weithio’n dda ac yn y blaen. Rwy’n teimlo fod angen i’r cynllun fod yn fwy uchelgeisiol os ydym o ddifrif am drechu tlodi ar sail trawsbleidiol. 

Mae hyn yn rhywbeth y gallaf fynd ag ef yn ôl a meddwl amdano ar gyfer y cynllun nesaf. Byddaf yn trosglwyddo eich sylwadau i’r aelod cabinet cyn cwblhau’r cynllun.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Teimlaf ein bod wedi rhoi craffu digonol i hyn ac wedi codi materion i gael eu hystyried cyn mynd â drafft terfynol y cynllun i’r cyngor. Byddwn yn sicrhau y caiff sylwadau a barn aelodau eu hysbysu i’r aelod cabinet a swyddogion perthnasol yn dilyn y cyfarfod i’w galluogi i fireinio’r adroddiad cyn i’r Cyngor ei ystyried.

 

 

Dogfennau ategol: