Agenda item

Monitro Perfformiad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Blaenorol 2018-19.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd adroddiad blynyddol i’r pwyllgor yn rhoi manylion perfformiad y cyngor wrth ymwreiddio deddfwriaeth cydraddoldeb mewn ymarfer. Cyflwynwyd Deddf Cydraddoldeb 2010 ym mis Ebrill 2011 ac mae dyletswyddau penodol y Ddeddf yn cynnwys y gofyniad i gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n gydnaws â Chynllun Cydraddoldeb Strategol a rhoi manylion ei amcanion cydraddoldeb drwy gynllun gweithredu cynhwysfawr. Rôl y pwyllgor yw sicrhau bod y polisi ac ymarfer yn cyflawni’r gofynion deddfwriaethol hyn. Cyflwynodd y swyddog yr adroddiad a dangos sut mae’r cyngor wedi ceisio cyflawni ar ei gyfrifoldebau, gan gynnig enghreifftiau. Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan aelodau.

 

Her:

 

·       A gaf holi am i wirio’r cyfeirnod at FEDEP gan y credaf fod hyn wedi dod i ben?

Gallaf wirio hyn ond adeg llunio’r adroddiad hwn, rwy’n credu fod FEDEP yn dal mewn grym.

 

·     Mae gennym gynllun gwrthdlodi sy’n dal i fynd rhagddo 2 flynedd yn ddiweddarach ac mae hynny’n achos pryder i fi. Ymddengys fod adroddiadau y llynedd a’r flwyddyn cynt yn awgrymu’r un peth, felly rwy’n ymwybodol fod angen sicrhau cynnydd. Rwy’n teimlo fod angen peth diweddaru ar yr adroddiad. Enghraifft o hyn yw nad oes brin unrhyw sôn am hiliaeth yn yr adroddiad ac eto rwy’n gwybod am ddigwyddiadau mewn ysgolion. Ydych chi wedi edrych ar y data ar hyn? Ni chaiff ei addysgu mewn ysgolion a gwn am 6 digwyddiad. Credaf fod 45% o ysgolion yn dweud yr hoffent hyfforddiant am hyn, felly hoffwn ei weld yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad.

Yn nhermau hiliaeth, mae mwy o drafodaeth ar hyn yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) 3, ond rwy’n cytuno gyda chi gan y gwn am ddigwyddiadau. Mae’r SEP 3 newydd yn anelu i fynd i’r afael â hynny a sefydlwyd gweithgor i ganolbwyntio ar hyn. Rydym yn edrych ar sut y gallwn ledaenu arfer gorau ac nid wyf yn si?r pam nad yw ysgolion yn gwneud adroddiad am ddigwyddiadau.

 

Mae gennym gyfarfod ar y gweill dan y teitl ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ a byddwn yn falch iawn pe gallech fynychu, felly byddaf yn anfon y manylion atoch. Gwyddom fod peth o’r wybodaeth yn hen, ond adroddiad monitro 2018-19 yw hyn felly nid yw’n dangos tystiolaeth newydd a gawsom. Teimlwn y byddai’n fwy defnyddiol pe byddai’r adroddiad hwn yn dod i aelodau ynghynt yn y flwyddyn i roi darlun llawnach o’r dystiolaeth i’r pwyllgor.

 

·      Mewn ymateb i hyn byddwn yn gwerthfawrogi cael trosolwg cynharach ar yr adroddiad hwn. Mae hefyd yn dibynnu ar i ba ddiben yr ydych yn dod â’r adroddiad i ni. Os mai’r cyfan rydym yn ei wneud yw rhoi ein henwau arno, nid yw mewn gwirionedd o bwys pryd y byddwn yn ei ystyried, ond os yw i gael ei ddefnyddio fel ddogfen bwysig i fireinio a gwella ein hymarfer, dylem gael ei weld ynghynt.

Diben yr adroddiad yw mireinio a gwella ein hymarfer a rydych yn iawn, mae angen i ni gasglu’r dystiolaeth i lunio ein camau gweithredu.

 

·       Rydych wedi paratoi 2 adroddiad, ond ydych chi’n gweithredu ar ben eich hun ar hyn? A yw pobl yn eich hysbysu am eu cynnydd neu ydych chi’n gorfod gwneud ymdrech i fynd atyn nhw? Rwy’n pryderu oherwydd adnoddau.

Rwyf yn gorfod ymgysylltu gyda fy nghydweithwyr i gael yr wybodaeth, gan yn ymarferol hwn yw ymateb y cyngor a fy ngwaith i yw cydlynu pa weithgareddau sy’n mynd rhagddynt a rhoi adroddiad ar gynnydd, ond rwyf bob amser yn derbyn yr wybodaeth. 

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Rwy’n credu fod swyddogion wedi rhoi ystyriaeth i’n sylwadau ac y byddant yn gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i’r adroddiad yn nhermau ein hawgrymiadau am wirio ar FEDEP ac rwy’n gofyn am ystyriaeth i amseriad craffu’r adroddiad monitro yn y dyfodol, yn unol â’n trafodaethau ar rôl a diben. Hoffem wahodd y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc i wneud darn ymgysylltu ar y cyd gyda ni ar hiliaeth. 

 

Dogfennau ategol: