Agenda item

Cais DM/2019/01480 – Newid defnydd tir i ddarparu ar gyfer dau gartref parc a hyd at bedair carafán deithiol – Anghenion Teithwyr (safle teulu preifat yn unig) Tir ger Sunnybank, A48 Cylchfan Crug i Parkwall, Crug, Sir Fynwy

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyo gyda’r saith amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Bu gwaith cloddio ar y safle a mynegwyd pryder y gall tir yng nghefn y safle yn awr fod yn ansefydlog gyda choed, tyfiant a cherrig wedi eu symud. Gellid bod angen ymchwilio hyn cyn ystyried cymeradwyo’r cais.

 

·         Mynegwyd pryder y byddai maint y datblygiad arfaethedig yn arwain at orddatblygiad o’r safle, yn neilltuol pan mae cerbydau teithio ar y safle.

 

·         Mae’r safle yn cyd-ffinio â Border Waste Crick. Ni roddwyd caniatâd cynllunio i’r safle hwn gan fod pryder am lithriad tir tuag at y draffordd.

 

·         Mynegwyd pryder y gallai’r gwaith cloddio effeithio’n niweidiol ar ddiogelwch preswyl yr ymgeisydd a’i deulu gan y gallai fod potensial ar gyfer tirlithriad yn yr ardal.

 

·         Roedd Cyngor Cymuned Matharn wedi edrych ar Bolisi Cynllunio H8 ac mae’n ystyried nad yw’r cais yn ateb gofynion y polisi. Ystyriwyd nad oedd y safle yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer y datblygiad arfaethedig gan arwain at orddatblygiad y safle. Ystyriwyd nad oedd y safle i gyd yn addas ar gyfer ei ddatblygu.

 

·         Dan y polisi parcio, bydd y ddau gartref parc, fel yr unedau preswyl, angen pum lle parcio. Dylid bod angen ardal droi er mwyn galluogi cerbydau i adael y safle mewn gêr symud ymlaen wrth ymuno â’r briffordd.

 

·         Mae amodau model carafán yn amlinellu’r angen am fwlch o chwe metr rhwng carafanau a chartrefi symudol oherwydd eu natur fflamadwy.

 

·         Mae’r Awdurdod lleol wedi cynnal asesiad sipsiwn a theithwyr ac amlinellwyd fod angen wyth safle o amgylch y Sir.

 

·         Mae’r safle mewn perchnogaeth breifat ac mae’r ymgeisydd ar gyfer y safle yn byw o fewn yr asesiad. Mae’r ymgeisydd wedi sefydlu bod angen canfod cartref o fewn y Sir. Byddai’r safle hwn yn darparu’r angen hwnnw.

 

·         Edrychwyd ar y safle yn nhermau polisi H8  a sefydlwyd fod y datblygiad yn diwallu’r maen prawf hwnnw.

 

·         Mae wedi ei leoli mewn lleoliad cynaliadwy.

 

·         Ystyrir bod yr amwynder gweledol yn dderbyniol.

 

·         Ymchwiliwyd yr agwedd diogelwch priffordd a dynodwyd fod gwelededd yn dda o’r safle.

 

·         Yn nhermau maint arfaethedig y datblygiad ar y safle, os ystyrir ei fod yn orddatblygiad o’r safle, dywedodd yr ymgeisydd y byddai’n fodlon cael dim ond y ddau gartref parc ar y safle ar ei gyfer ei hun a’i fab, a fyddai’n ganiatâd personol iddo ef a’i deulu gael cartref o fewn y Sir.

 

·         Yng nghyswllt y gwaith cloddio yng nghefn y safle, dywedodd yr ymgeisydd wrth yr Adran Cynllunio nad oedd wedi gwneud unrhyw waith oedd angen caniatâd cynllunio. Nid oedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer symud coed a thirlunio. Fodd bynnag, os oes gan y Pwyllgor bryderon, gellid ychwanegu amod cyn-dechrau i sicrhau sefydlogrwydd a diogelwch y tir yng nghefn y safle.

 

·         Dywedodd Adran Iechyd yr Amgylchedd y byddai angen trwydded carafanau.

 

·         Mae hwn yn safle mewn perchnogaeth breifat.

 

·         Byddai tynnu’r pedair carafán deithiol o’r cais yn lliniaru’r problemau am or-ddatblygiad y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir  M. Feakins ac eiliodd y Cynghorydd Sir R. Harris gymeradwyo cais rhif  DM/2019/01480 yn ddarostyngedig i’r saith amod a amlinellir yn yr adroddiad a’r amodau ychwanegol dilynol:

 

·         Ail-ddisgrifio a thynnu cyfeiriad at garafanau teithio.

 

·         Ychwanegu amod caniatâd personol.

 

·         Bod y caniatâd ar gyfer dau gartref parc yn unig.

 

·         Amodau tirlunio yn cynnwys dull amgáu. 

 

·         Amod yng nghyswllt gwiriad fod yr arglawdd i’r cefn (gogledd) yn sefydlog i alluogi datblygiad i fynd rhagddo.

 

Awgrymodd Aelodau hefyd gynnwys amodau ar gyfer Cynllun Rheoli Adeiladu ac ychwanegu amod i amlinellu bod y safle ar gyfer defnydd masnachol yn unig.

 

Amlinellodd swyddogion na fyddai angen cael cynllun rheoli adeiladu ar gyfer maint y datblygiad gan y byddai ar gyfer gosod dau gartref parc. Amlinellwyd hefyd bod amod i gyfyngu defnydd y safle ar gyfer preswyl  yn unig yn ddiangen gan y byddai unrhyw ddefnydd arall yn groes i unrhyw ganiatâd cynllunio ac felly y gallai’r Cyngor gymryd unrhyw gamau gweithredu priodol i unrhyw ddefnyddiau na roddwyd caniatâd amdano. 

 

Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid y cynnig                      -           9

Yn erbyn y cynnig                               -           0

Ymatal                                                 -           4

Cariwyd y cynnig.

 

Gwnaethom benderfynu cymeradwyo cais rhif DM/2019/01480 yn ddarostyngedig i’r saith amod a amlinellwyd yn yr adroddiad a’r amodau ychwanegol dilynol:

 

  • Ail-ddisgrifio a thynnu cyfeiriad at garafanau teithio.

 

  • Ychwanegu amod caniatâd personol.

 

  • Bod y caniatâd ar gyfer dau gartref parc yn unig.

 

  • Amod tirlunio yn cynnwys dull amgáu.

 

Amod am wiriad i sicrhau fod yr arglawdd i’r cefn (gogledd) yn sefydlog i alluogi datblygiad i fynd rhagddo.