Skip to Main Content

Agenda item

Cais DM/2019/00898 – Annedd deulawr ar wahân newydd gyda garej integrol a mynediad tramwyfa o’r briffordd gyda pharcio ar y safle a throi. Tir i gefn Rosemary, Heol Beaufort, Osbaston, Trefynwy.

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r saith amod a amlinellir yn yr adroddiad ac i Gytundeb Cyfreithiol Adran 106.

                            

Mynychodd Aelod lleol Dixton gyda Osbaston y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellu’r pwyntiau dilynol. Anerchodd y Pwyllgor Cynllunio fel yr Aelod lleol ac fel aelod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy.

 

·         Roedd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy wedi trafod y cais ac wedi nodi y cynhaliwyd cyfarfod yr wythnos flaenorol i drafod y cais, bod Adran Cynllunio Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud argymhelliad i gymeradwyo’r datblygiad arfaethedig. Mynegwyd pryder nad oedd yn ymddangos fod Adran Cynllunio Sir Fynwy wedi ystyried barn Cyngor y Dref ac felly nad yw’r adroddiad ar y cais yn cynnwys barn Cyngor y Dref.

 

·         Mae Cyngor Tref Trefynwy yn ystyried mai ei rôl yw cynrychioli preswylwyr lleol. Gofynnwyd cwestiynau a oes unrhyw bwynt cael Pwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy os na chaiff ei sylwadau eu rhoi i Aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Fynwy i’w hystyried.

 

·         Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy yn ystyried y cafodd y broses ar gyfer y cais hwn ei ruthro. Fel arfer, mae gan Gynghorau Tref 21 diwrnod i ymateb i gais cynllunio. Fodd bynnag, yn yr achos hwn dim ond 14 diwrnod a roddwyd.

 

·         Ni all y Pwyllgor gymeradwyo’r cais heddiw. Dim ond argymell cymeradwyo y gallai oherwydd mai diwrnod olaf yr ymgynghoriad yw 7 Chwefror 2020. Yn anffodus, gan na fu’r porth cynllunio ar gael ar-lein am gyfnod, ni all yr Aelod lleol wirio hyn. Mae angen eglurdeb cyn yr ystyrir y cais.

 

·         Gofynnwyd am ohirio’r cais i alluogi’r Aelod lleol i gasglu gwybodateh gan breswylwyr. Fodd bynnag, ni chytunwyd i hynny.

 

·         Mae Cyngor Tref Trefynwy yn ystyried fod y broses wedi tanseilio democratiaeth leol. Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Trefynwy yn ystyried rhoi’r gorau iddi.

 

·         Roedd Arolygwr Llywodraeth Cymru wedi gwrthod apêl yn erbyn arddull tebyg o ddatblygiad ar lain fwy tua 50 metr i ffwrdd tua 15 mlynedd yn ôl. Byddai’r rhesymau dros wrthdroi’r cais blaenorol yr un mor berthnasol i’r cais cyfredol sy’n cael ei ystyried.

 

·         Ychydig o ddatblygiad fu ar Heol Beaufort yn y blynyddoedd cydrhwng, gan gadw ei chymeriad gwreiddiol.

 

·         Mae’r datblygiad darniog hwn sy’n mynd rhagddo yn arwain, dros gyfnod, at newid sylweddol a niweidiol i gymeriad Dixton gyda Osbaston.

 

·         Mae tair ffordd i gyrraedd Heol Beaufort. Mae pob un o’r ffyrdd yn ddarn sylweddol o ffordd un trac, lle na all dau gar basio ei gilydd. Felly mae angen i gerbydau facio neu ddefnyddio tramwyfeydd cartrefi i alluogi cerbydau i basio. Mae datblygiadau darniog wedi gwaethygu’r broblem hon. 

 

·         Mae’r datblygiad arfaethedig yn rhy bell i gerdded i ysgolion uwchradd. Nid oes unrhyw siopau na meddygfeydd yn yr ardal sy’n arwain at ddibyniaeth ormodol ar ddefnyddio ceir.

 

·         Ychydig o balmentydd sydd sy’n llesteirio cerdded ar hyd y llwybr hwn.

 

·         Nid yw’r datblygiad arfaethedig yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i greu cymunedau neilltuol. Mae risg y bydd effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal.

 

·         Bydd cymeradwyo’r cais yn andwyol i fywyd gwyllt, gwaethygir y risg llifogydd a bydd cynnydd mewn perygl ar gyfer cerddwyr a seiclwyr.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais am y rhesymau a ddynodwyd.

 

Mynychodd Mr J. Craig, yn cynrychioli gwrthwynebwyr, y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae’r cynnig wedi derbyn mwy na 60 gwrthwynebiad sy’n tanlinellu lefel y consyrn.

 

·         Nid yw’r cynnig yn gais dymunol a phriodol ac nid yw’n cydymffurfio gyda’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

·         Mae Cyngor Tref Trefynwy wedi pleidleisio ar ddau achlysur gwahanol i wrthod y cais.

 

·         Nid yw’r cais yn gydnaws gyda phroses cynllunio y Llywodraeth ganolog sef osgoi colli darnau o erddi, gostwng amwynderau, cydgordiad y system ecolegol ac mae’n gosod baich nas croesewir ar seilwaith lleol.

 

·         Nid yw’r cais yn cyflawni ystyriaethau golwg strydoedd dymunol, gan fod yn ddatblygiad tandem.

 

·         Cafodd dau gais lleol eu gwrthod am yr un rhesymau yn y 12 mis blaenorol.

 

·         Mae dwy enghraifft o ddefnydd mwy derbyniol o ddatblygiadau gardd a gymeradwywyd yn yr ardal. Mae’r rhain yn ddatblygiadau ochr wrth ochr ac nid tu ôl i’w gilydd.

 

·         Nid yw’r cais yn gwella cymeriad ac amwynder Osbaston. Ystyrir nad yw’n rheidrwydd adeiladu gan fod datblygiad sylweddol o dai newydd yn Nhrefynwy.

 

·         Pe cymeradwyid y cais, mynegwyd pryder y caiff ceisiadau eraill o natur debyg eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio i’w cymeradwyo.

 

·         Mae diffyg ardaloedd chwarae diogel yn Osbaston ar hyn o bryd.

 

·         Mae perygl fod Osbaston yn colli ei natur unigryw ac yn dod yn ardal dwysedd uchel.

 

·         Dywedodd Llywodraeth Cymru fod newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth. Mynegwyd pryder na fydd seilwaith presennol yn ymdopi gyda’r amodau tywydd gwael a ragwelir yn y dyfodol. Mae llifogydd eisoes yn digwydd yng ngerddi eiddo presennol yn agos at y llain

 

·         Yng nghyswllt mynediad, mae’r tu blaen yn gul gan lesteirio cerbydau adeiladu.

 

·         Nid oes unrhyw balmentydd digonol i gerddwyr heb unrhyw lwybrau diogel i’r ysgol.

 

·         Mae mynediad i’r eiddo drwy lôn un trac yn arwain, at achlysuron, at rai cerbydau orfod bacio’n ‘ddall’ i Heol Beaufort.

 

·         Mae’r Adran Priffyrdd yn hyderus na fydd un annedd arall yn effeithio’n niweidiol ar lif traffig. Fodd bynnag, ystyriwyd na roddwyd unrhyw sylw i amodau lleol.

 

·         Nid oes unrhyw siopau, meddygfeydd neu ardaloedd chwarae lleol.

 

·         Ychydig iawn o ddarpariaeth parcio sydd ar gyfer cerbydau dosbarthu. Bydd ymwelwyr i’r ardal yn parcio ar Heol Beaufort gan rwystro traffig, sydd eisoes yn digwydd ar yr heol hon. Mae gorlif parcio eisoes yn digwydd gyda cherbydau’n defnyddio palmentydd yn Heol Beaufort.

 

·         Mae’r cais yn groes i gynllun gofodol Llywodraeth Cymru, nid yw’n parchu natur neilltuol y gymuned ac nid yw’n gwarchod eiddo preswyl.

 

Mynychodd Mr G. Buckle, asiant yr ymgeisydd, y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae’r safle yn cynnwys arwynebedd o 700 metr sgwâr sy’n fwy na digon i gefnogi un annedd.

 

·         Cynlluniwyd yr annedd newydd arfaethedig i ffitio i’r safle presennol ac mae’n eistedd yn gysurus ar y llain.

 

·         Mae’r dyluniad yn rhoi ystyriaeth i sylwadau cymdogion a sylwadau a wnaed yng nghyswllt ecoleg a bioamrywiaeth.

 

·         Ni ymyrrir ar y cwrs d?r presennol ar hyd terfyn de ddwyreiniol y safle gan sicrhau y cedwir cynefin presennol bywyd gwyllt.

 

·         Bydd y gwrych a’r coed presennol yn ffurfio sgrin ar gyfer yr adeiladau presennol yn Heol Duchess, i’r de ddwyrain.

 

·         Mae mynediad i’r safle o Heol Beaufort. Cynigir dymchwel y garej bresennol a rhoi tramwyfa athraidd newydd fydd yn rhoi parcio i o leiaf tri cherbyd yn gwasanaethu’r annedd newydd ac yn sefydlu ardal droi fydd yn galluogi cerbydau i fynd i mewn a gadael y safle gan symud ar ymlaen.

 

·         Bydd y dramwyfa newydd yn rhoi mynediad i’r brif annedd gan roi ardaloedd troi o fewn y safle.

 

·         Cafodd pob gwrthwynebiad rhesymol a gyflwynwyd ei drin drwy ail-ddylunio gofalus a darparu adroddiadau ecolegol a thirwedd arbenigol.

 

·         Bydd draeniad d?r wyneb o’r safle yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth y Swyddfa Gymreig a bydd yn destun cynigion draeniad cynaliadwy fydd yn cynnwys casglu d?r glaw.

 

·         Mae safle’r cais o fewn safle datblygu Trefynwy ac mae mewn ardal a ddatblygwyd yn helaeth dros y 50 mlynedd flaenorol.

 

·         Pan brynodd yr ymgeisydd yr annedd roedd yn sefyll ar ben ei hun mewn caeau agored.

 

·         Mae’r annedd arfaethedig yn gysurus ar y llain ac o fewn yr ardal o gwmpas.

 

·         Mae nifer fawr o gynlluniau cymysg yn yr ardal ac mae’r datblygiad arfaethedig yn gweithio’n dda o fewn ei osodiad.

 

·         Bydd y datblygiad arfaethedig yn defnyddio deunyddiau traddodiadol. Bydd bod yn gysylltiedig gyda chynllun tirlunio sylweddol yn cynorthwyo’r datblygiad i ffitio i’r ardal o amgylch.

 

·         Gwnaed newidiadau i’r datblygiad arfaethedig yn dilyn y pryderon a nodwyd gan gymdogion a lleihau’r effaith bosibl. Nid oes unrhyw ffenestri preswyl lar y lawr cyntaf yn wynebu anheddau cyfagos ac mae’r annedd arfaethedig bron mewn llinell gyda’r annedd gyferbyn.

 

·         Cafodd uchder cyffredinol yr adeilad ei ostwng ac mae’n is na thrum Charles Close. Hefyd, rhoddwyd garej sengl yn lle garej ddwbl.

 

·         Caiff y gwregys coed lleol a’r tirlunio i’r de ddwyrain ei gadw heb unrhyw broblemau goredrych niweidiol ar anheddau cyfagos.

 

·         Mae’r ymgeisydd wedi penodi ecolegwyr arbenigol i sicrhau bod y cynigion yn ateb gofynion bioamrywiaeth. Mae’r cynnig yn rhoi gwelliant ecolegol gyda chynnwys gwrychoedd o rywogaethau cynhenid.

 

·         Mae’r ymgeisydd wedi rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol ei hangen, yn cynnwys perchnogaeth terfyn, i gadarnhau y gall safle’r cais ddarparu ar gyfer yr annedd arfaethedig ac yn rhoi’r ardaloedd parcio a throi gofynnol.

 

·         Mae’r cynnig yn gwneud defnydd da o dir llwyd ac yn ychwanegu annedd gynaliadwy newydd sydd ei mawr angen ar stoc tai Sir Fynwy.

 

·         Mae’r annedd arfaethedig yn cydymffurfio’n llawn gyda’r Canllawiau Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd yn ddiweddar yng nghyswllt datblygiad mewnlenwi.

 

·         Mae’r annedd arfaethedig o ddyluniad da ac yn hollol gynaliadwy.

 

Ar ôl derbyn adroddiad y cais a’r sylwadau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Cyflwynwyd y cais ym mis Mehefin 2019, pan gynhaliodd yr Adran Gynllunio gyfnod ymgynghori 21 diwrnod. Roedd Cyngor Tref Trefynwy wedi ymateb ar 12 Awst 2019 yn amlinellu ei bryderon.

 

·         Fel canlyniad i’r sylwadau a gafwyd, cafodd y cynllun ei ddiwygio’n sylweddol a chafodd ei ostwng mewn graddfa a maint. Anfonwyd cynlluniau diwygiedig at breswylwyr cyfagos ac i Gyngor Tref Trefynwy ar gyfer sylwadau. Cynhaliwyd proses ymgynghori lawn.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd am y graddiant mynediad, nodwyd fod y Canllawiau Cynllunio Atodol yn dweud yn ddelfrydol na ddylai’r graddiant fod yn fwy na 1:10 gydag uchafswm graddiant o 1:8. Mae’r Adran Cynllunio wedi trafod gyda’r asiant a chynigir ychwanegu amod ychwanegol ar y caniatâd ar gyfer adrannau safle llawn (croestoriad a thoriad hir) i sicrhau fod y graddiant yn briodol.

 

·         Mynegwyd pryder am ddyluniad y datblygiad arfaethedig, nad yw’n gydnaws gyda’r ardal o amgylch a’i fod yn effeithio ar amwynder lleol yr ardal.

 

·         Mae’r ymgeisydd wedi cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio gan adael unrhyw reswm am wrthod y cais.

 

·         Mae’r annedd arfaethedig yn gydnaws gyda graddfa’r ardal o amgylch.

 

·         Bydd gan yr annedd newydd arfaethedig system ar gyfer casglu a storio d?r glaw a’i ddefnyddio i fflysio toiledau a chyflenwi peiriannau golchi. Ni fydd fawr, os unrhyw, dd?r yn golwg i’r ddaear i soegian. Bydd y dramwyfa yn cynnwys arwyneb athraidd i osgoi d?r ffo. Caiff yr holl dd?r wyneb ei reoli ar y safle.

 

·         Mae’r cynnig ar gyfer un annedd ychwanegol. Mae tabl pedwar yn dynodi’r isafswm mynediad ar 2.75 metr. Mae’r cynlluniau yn dynodi hynny fel 3.5 metr. Felly, mae’r mynediad dros yr isafswm sydd ei angen ar gyfer un llain unigol.

 

·         Mae’r Adran Priffyrdd wedi ystyried y graddiant ac ystyrir fod mynediad iddo yn dderbyniol.

 

·         Derbynnir cyfanswm o £8,000 o gyfraniad tai fforddiadwy.

 

·         Mae ffenestri yng nghefn annedd Llys-Wen. Fodd bynnag, mae drychiad blaen yr annedd arfaethedig 5.8 metr ar ongl o gornel gefn Llys-Wen i gornel flaen y garej yn lletraws. Felly, mae holl wynebwedd blaen y cynnig yn edrych ymlaen i Heol Beaufort ac mae Llys-Wen yn edrych tu ôl i’r terfyn. Ni fydd unrhyw broblemau edrych dros anheddau eraill.

 

·         Mae’n 16 metr o gefn Llys-Wen i gornel yr annedd arfaethedig ar ongl 45 gradd. Mae’r annedd arfaethedig yn eistedd ar lefel is na’r annedd bresennol. Felly, ystyrir na fydd unrhyw effaith niweidiol ar amwynder preswyl.

 

·         Mae clustog mawr o du blaen Heol Beaufort yng nghefn yr eiddo sy’n rhannu’r terfyn rhwng Llys-Wen, yr annedd arfaethedig a Rosemary, sy’n derfyn presennol. Cynigir gosod gwrych cynhenid yn lle hyn gan gadw’r ffens yn ei safle presennol. Bydd cryn lawer o sgrinio rhwng yr annedd bresennol a’r annedd arfaethedig.

 

·         Ychwanegir Cynllun Rheoli Adeiladu fel amod cyn-dechrau.

 

·         Ni chaiff dim o’r coed presennol a amgaeir gan y ffens warchod eu syrthio, tocio na thorri eu topiau a chânt eu gwarchod gan amod 6.

 

Rhoddodd Aelod lleol Dixton gyda Osbaston grynodeb fel sy’n dilyn:

 

·         Roedd yr Aelod lleol yn gwrthod y cafodd gwrthwynebiadau eu lliniaru’n ddigonol.

 

·         Mae’r annedd arfaethedig yn anghydnaws ac yn niweidio amwynder gweledol.

 

·         Bydd y datblygiad arfaethedig i’w weld o lawer o dai yn y rhan hon o Osbaston gan ei fod wedi’i leoli ar waelod y dyffryn.

 

·         Byddai’n cael effaith niweidiol ar ansawdd yr amgylchedd ac amwynder gweledol ar gyfer llawer o gerddwyr.

 

·         Mae’r mynediad o’r datblygiad arfaethedig yn uniongyrchol ar lôn gul heb unrhyw welededd o’r ochr chwith. Mae’r mynediad yn beryglus.

 

·         Mae draeniad yn broblem yn yr ardal leol. Gallai lefelau gwahanol greu effaith niweidiol ar ddraeniad yn yr ardal.

 

·         Gallai diffyg darpariaeth parcio achosi perygl i gerddwyr.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir R. Harris ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P Murphy bod cais DM/2019/00898 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r saith amod a amlinellir yn yr adroddiad a Chytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd, bod amodau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i gynnwys adrannau safle llawn (croestoriad a thoriad hir) i sicrhau fod y graddiannau yn briodol yn ogystal â threfnu cynllun plannu.

 

Pan roddwyd hynny i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid y cynnig                                  -           10

Yn erbyn y cynnig                               -           1

Ymatal                                     -           4

 

Cariwyd y cynnig.

 

Fe wnaethom benderfynu cymeradwyo cais DM/2019/00898 yn ddarostyngedig i’r saith amod a amlinellir yn yr adroddiad a Chytundeb Cyfreithiol Adran 106. Hefyd bod amodau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i gynnwys adrannau safle llawn (croestoriad a thoriad hir) i sicrhau bod y graddiannau yn briodol yn ogystal â threfnu cynllun plan