Cofnodion:
Derbyniwyd adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer gwrthodiad yn amodol ar y ddau reswm a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynychodd yr Aelod lleol dros Lanfihangel Troddi y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellu’r pwyntiau dilynol:
· Mae hwn yn gais a ail-gyflwynwyd a gafodd ei newid yn sylweddol. Cafodd ei ostwng mewn maint gan dros 50%.
· Cafodd yr adeiladau allanol diffygiol eu gadael allan o’r cyflwyniad diweddaraf.
· Caiff adroddiad peiriannydd ymgynghori ar yr adeiladau ei gadw o fewn y datblygiad a fernir yn addas ar gyfer eu addasu ac yn ystyried eu bod mewn cyflwr buddiol.
· Mae’r cais wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r lleoliad gwledig o ran ei ddyluniad a hefyd ei orffeniad.
· Nid oes gan y cais arddull trefol, modern a nodweddion y cais blaenorol.
· Mae’r ail-gyflwyniad yn cynnig gostwng lefel llawr yr adeilad drwy fabwysiadu ymarferiad tanategu i ddarparu ar gyfer elfen deulawr. Nid yw’r tanategu yn annodweddiadol o ysguboriau a addaswyd a bydd yn gwella sylfeini’r waliau cerrig presennol.
· Mae hefyd yn cynyddu maint a gofod defnyddiol yn yr adeilad.
· Awgrymodd yr Adran Cynllunio y byddai’n cefnogi addasu’r adeilad fel gosodiad gwyliau. Fodd bynnag, mynegodd yr Aelod lleol bryder gan y byddai’r ymddangosiad, dyluniad a maint y datblygiad yr un fath ag ar gyfer defnydd preswyl.
· Mae asiant yr ymgeisydd wedi tynnu sylw at nifer o ddatblygiadau tebyg a gafodd ganiatâd cynllunio. Roedd yr ymgeisydd yn ystyried y gallai’r Awdurdod gael ei weld yn anghyson ar ôl cymeradwyo ceisiadau tebyg ar gyfer trawsnewid strwythurau ategol.
· Ni fyddai’r datblygiad, sy’n cynnwys strwythur ysgubor carreg gwreiddiol, ynghyd ag addasu adeiladau ategol a godwyd yn y 1950au, yn cael ei farnu yn fodern yn unol â chofnodion cynllunio
· Os gwrthodir y cais, mae’n debygol y bydd yr ymgeisydd yn ystyried cyflwyno apêl ffurfiol.
· Derbyniodd y cais lawer o lythyrau cefnogaeth gan gymdogion agos a gan Gyngor Cymuned Llanfihangel Troddi sy’n cydnabod yr angen am ddarpariaeth tai fforddiadwy yn rhannau gwledig Sir Fynwy.
· Mae’r datblygiad arfaethedig yn cyflawni’r holl ganllawiau cynllunio atodol.
· Ni fu unrhyw wrthwynebiad lleol i’r datblygiad arfaethedig.
· Byddai datblygu’r safle ar gyfer defnydd preswyl yn welliant gweledol i’r ardal ac yn sicrhau fod yr adeiladau sydd ar hyn o bryd yn mynd yn ddiffaith yn cael eu tynnu oddi yno.
· Bydd y safle yn parhau i fod yn ddolur llygad os na chaiff ei ddatblygu.
· Mae cymdogion yn cydnabod y byddai’r addasu yn dod â’r adeiladau hyn, sydd mewn cyflwr gwael, yn ôl i ddefnydd fel cartref.
· Gofynnodd yr Aelod lleol i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried cymeradwyo’r cais.
Nodwyd y pwyntiau dilynol yn dilyn ystyriaeth o adroddiad y cais a’r sylwadau a fynegwyd:
· Nid oes digon o waith carreg neu ragoriaeth pensaernïol i’r adeiladau i alluogi ei addasu yn annedd breswyl.
· Byddai’n arwain at ddatblygiad mewn ardal wledig mewn lleoliad anghynaliadwy tu allan i derfyn anheddiad.
· Mae’r cais yn groes i bolisi cynllunio.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir G. Howard fod cais DM/2018/01720 yn cael ei wrthod am y ddau reswm a amlinellir yn yr adroddiad.
Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
Dros wrthod - 13
Yn erbyn gwrthod - 0
Ymatal - 1
Cariwyd y cynnig.
Fe wnaethom benderfynu y dylid gwrthod cais DM/2018/01720 am y ddau reswm a amlinellir yn yr adroddiad.