Agenda item

Cais DC/2018/00218 – Cadw ffens estyllog clos pren ar derfyn deheuol, a chodi lefel gardd rhif 21 rhwng 120mm a 810mm dros hyd y ffens, 21 Cilgant Jasper Tudor, Y Fenni NP7 9AZ.

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i’r pedair amod a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mynychodd Mrs. H. Trotman, yn gwrthwynebu’r cais, y cyfarfod ar wahoddiad yr Is-gadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

·         Ym mis Awst 2017 roedd yr ymgeisydd wedi codi wal blociau bris ar hyd y terfyn rhwng y ddwy annedd.

 

·         Gosodwyd ffens newydd chwe throedfedd chwe modfedd ar ben y wal oedd wedi codi lefel y terfyn i 2.7 metr mewn uchder sy’n torri caniatâd datblygu a ganiateir. Bu hyn yn ei lle am ddwy flynedd a hanner, gan effeithio’n ddifrifol ar ei hamwynder preswyl.

 

·         Ni fu unrhyw ymgynghori ymlaen llaw ac ystyriai’r gwrthwynebydd y byddai’n rhaid bod wedi tresmasu i wneud y gwaith adeiladu, yn groes i’r ddeddf ar waliau cydrannol.

 

·         Ystyriai’r gwrthwynebydd fod yr ymgeisydd wedi torri cyfamodau cyfyngol David Wilson drwy beidio cael caniatâd ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol cyn datblygu.

 

·         Wrth i amser fynd rhagddo roedd y gwaith daear yn niweidio tir y gwrthwynebydd. Ystyriwyd fod yr ymgeisydd wedi newid llif naturiol y tir gan adael i dd?r gronni yng ngardd y gwrthwynebydd.

 

·         Mae’r wal yn cael effaith argae gyda chronnii difrifol ddilynol ar dd?r gydag unlle i’r d?r ddraenio iddo.

 

·         Mae’r ymgeisydd wedi codi lefel y ddaear ar ei ochr ef o’r terfyn sy’n uwch na’r wal gan olygu fod pridd a daear yn gorlifo i ardd y gwrthwynebydd.

 

·         Cynhaliwyd cyfarfod ar 10 Hydref 2019 gyda phob parti a chytunwyd fod niwed yn cael ei achosi i eiddo’r gwrthwynebydd. Gofynnwyd i’r gwrthwynebydd baratoi cynllun yn dangos system o ddraeniad i geisio datrys y broblem ar gost iddi hi. 

 

·         Mewn cyfarfod blaenorol awgrymwyd y gellid gosod system ddraeniad Ffrengig fyddai’n lliniaru’r problemau draeniad. Paratowyd cynllun ar y cyngor hwn. Mae’r cynllun yn rhoi system o ddraeniad ar gyfer eiddo rhif 19 a 21 yn rhedeg ar holl hyd y ddau derfyn. Byddai hyn yn cysylltu gyda draen storm y gwrthwynebydd ar ei heiddo. Roedd pawb yn y cyfarfod wedi cytuno i hyn.

 

·         Rhoddwyd mynediad i eiddo’r gwrthwynebydd i wneud y gwaith hwn. Yn ystod y gwaith hwn, ystyriai’r gwrthwynebydd fod yr ymgeisydd wedi methu gosod y bibell ddraeniad ar ochr gardd y gwrthwynebydd. Ni hysbyswyd y gwrthwynebydd am y newid hwn yn y cynllun. Felly mae d?r yn dal i gronni gan nad oes ganddo unlle i ddraenio iddo.

 

·         Mae llifogydd hefyd yn digwydd ar batio’r gwthwynebydd. Mae’r gwaith a wnaed wedi methu trin y difrod a achosir i eiddo’r gwrthwynebydd.

 

·         Heb osod pibell rydyllog ar ochr y gwrthwynebydd i’r terfyn, ni fydd unrhyw welliant gan fod y lefelau a godwyd gan yr ymgeisydd yn ddieithr i’r datblygiad gwreiddiol.

 

·         Mae dwysedd cerrig mân yr ymgeisydd wedi gwaethygu’r problemau llifogydd ymhellach. Mae difrod i ardd y gwrthwynebydd yn y maes hwn yn ddifrifol.

 

·         Roedd y gwrthwynebydd wedi bod yn berchennog ei heiddo am dros flwyddyn o pan oedd yn newydd cyn i’r ymgeisydd adeiladu’r wal. Bu gaeaf caled yn ystod y cyfnod hwn ac ni fu unrhyw lifogydd.

 

·         Mae codi’r ddaear wedi effeithio ar amwynder preswyl y gwrthwynebydd ac yn parhau i wneud hynny.

 

·         Ar ôl cael cyngor cyfreithiol, mae’r gwrthwynebydd wedi tynnu’n ôl ei chynnig ewyllys da i ganiatáu’r ymgeisydd i gael mynediad i’w draen storm.

 

·         Nid yw’r ymgeisydd wedi rhoi unrhyw warantau yng nghyswllt dim o’r gwaith a ddigwyddodd.

 

·         Mae’r gwrthwynebydd yn bryderus fod gweithredoedd yr ymgeisydd yn effeithio ar werth ei heiddo, ac mae’n ystyried na chafodd camau digonol eu cymryd i atal difrod i eiddo’r gwrthwynebydd.

 

·         Yng nghyswllt y ffens, mae effaith niweidiol ar eiddo’r gwrthwynebydd. Mae’r uchder presennol yn 2.7 metr. Mae diwygiad yr ymgeisydd yn awgrymu y caiff y 30 cm uchaf yn awr ei newid am ddelltwaith. Fodd bynnag, byddai hyn yn dal i fynd â’r ffens yn uwch na’r uchder a reoleiddir.

 

·         Mae’r gwrthwynebydd yn ystyried y bydd yr opsiynau sydd ar gael yn cael effaith negyddol ar ei heiddo.

 

·         Gofynnodd y gwrthwynebydd i’r Pwyllgor Cynllunio  ystyried gwrthod y cais a bod y wal a’r ffens yn cael eu tynnu a dychwelyd y tir i’w lefel wreiddiol.

 

Cafodd yr ymgeisydd gyfle i ymateb ond  gwrthododd y cynnig.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol dros Lan-ffwyst Fawr, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

 

·         Nid oedd gan yr Aelod lleol unrhyw wrthwynebiad o ran egwyddor i godi’r tir. Fodd bynnag, gellid bod wedi gwneud hynny yn well heb fod angen cael ail ffens a heb waethygu problemau draeniad presennol.

 

·         Gobeithid y byddai’r ddau barti yn medru dod i gytundeb. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd hynny.

 

·         Mae niwed tybiedig yn cael ei wneud i eiddo’r gwrthwynebydd sy’n gonsyrn sylweddol. Felly, dywedodd yr Aelod lleol ei fod yn ei chael yn anodd cefnogi’r cais heb i’r problemau am yr ail ddraeniad gael eu hunioni.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a nodi’r sylwadau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae Peiriannydd Draeniad Cyngor Sir Fynwy wedi ymchwilio’r gwaith a wnaed ac wedi dweud y bydd y gwaith a wnaed, dros gyfnod, yn lliniaru’r amgylchiadau. Mae’r Awdurdod wedi gwneud yr hyn a all i ddatrys y sefyllfa.

 

·         Codwyd gardd yr ymgeisydd gan 700mm sy’n mynd â’r ffens gydrannol lan at 2.7 metr, sy’n uwch na’r ddau fetr o uchder a reoleiddir.

 

·         Bydd y draeniad gwael yn achosi problemau i’r ffens gydrannol wreiddiol, fydd yn pydru dros gyfnod. Bydd problemau am pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw y ffens wreiddiol ar ôl i ffens arall gael ei chodi ar du mewn y ffens wreiddiol.

 

·         Bydd unrhyw estyniad i’r ffens gydrannol yn ddiolwg. Dylid diogelu’r polisi datblygiad a ganiateir drwy beidio caniatáu unrhyw godi ar erddi fyddai’n newid natur ecoleg eiddo cyfagos.

 

·         Cafodd y problemau draeniad eu datrys yn foddhaol. Mae angen ymchwiliadau pellach.

 

·         Nid oes unrhyw dystiolaeth bendant fod cyflwr anffodus gardd eiddo rhif 19 yn llwyr yn ganlyniad i’r gwaith tir a wnaed yn eiddo rhif 21. Nid yw o fewn rhodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol i ganfod datrysiad o fewn y terfyn llinell goch. Dim ond ers ychydig fisoedd y cafodd y datrysiad i’r problemau draeniad ei osod ac ni fu cyfle hyd yma i brofi os yw’n effeithlon.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir G Howard ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir E. Easson ein bod o blaid gwrthod cais DC/2018/00218 ar y sail fod diffyg tystiolaeth y cafodd niwed i eiddo cyfagos ei ddatrys.

 

Pan y’i rhoddwyd i bleidlais, pleidleisiodd 10 Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio o blaid gwrthod y cais. Cafodd y cynnig felly ei gario.

 

Fe wnaethom benderfynu ein bod o blaid gwrthod cais DC/2018/00218 ar sail diffyg tystiolaeth y cafodd niwed i eiddo cyfagos ei ddatrys. Caiff y cais ei ailgyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol gyda rhesymau priodol am wrthodiad.