Agenda item

Adroddiad Monitro'r Gyllideb - Mis 7

Cofnodion:

Awgrymodd y swyddogion mai doeth fyddai trafod yr Adroddiad Monitro Cyllideb ar gyfer Mis 7 ar y cyd â’r cynigion drafft o ran Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2020-21 gan fod yr adroddiad monitro cyllideb yn darparu’r cyd-destun ehangach o ran yr heriau a wynebir yn y flwyddyn bresennol ac hefyd yn y dyfodol.

 

Clywodd yr aelodau bod y cyngor yn wynebu heriau enfawr ar ddiwedd mis 7. Mae gorwariant gwasanaethau’n sylweddol o’u cymharu â gorwariant blynyddoedd diweddar. Eglurodd y swyddogion ein bod wedi llwyddo i reoli gorwariant yn ystod blynyddoedd blaenorol, a’n bod fel arfer, ar adeg alldro’r cyllideb, yn adennill y costau neu hyd yn oed yn dychwelyd gwarged, ac rydym yn parhau i ymdrechu i fod yn yr un sefyllfa eleni.

 

Ym mharagraff 3.2 mae tabl sy’n dangos gwarged net o 4m ar gyfer y cyngor.  O ran cyd-destun, mae’r rhain yn deillio o 3 maes:

 

·         Pwysau ar y Gwasanaethau Plant a Phlant sy’n Derbyn Gofal

·         Pwysau o fewn gofal cymdeithasol i oedolion

·         Cefnogaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

 

Eglurodd y swyddogion, gan nad oes gennym lefelau uchel o gronfeydd wrth gefn, rydym wedi gorfod rhoi cynlluniau adfer yn eu lle er mwyn ymateb i’r sefyllfa yr ydym ynddi. Nod y cynlluniau adfer yw lleihau gwariant dianghenraid ac, ble mae hynny’n bosibl, creu arbedion pellach a cheisio cael gafael ar y sefyllfa bresennol.

 

Cyfeiriwyd y pwyllgor at baragraff 3.10 yn yr adroddiad, sy’n dangos y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd ac sy’n rhoi gwybodaeth yngl?n â’n cynllun gweithredu.  Dywedodd y swyddogion ein bod yn rhag-weld diffyg o £3.987m ac rydym yn ffodus y byddwn yn gallu talu’r dyfarniad cyflog i athrawon yn y flwyddyn ariannol bresennol, gan fod £310 mil ohono’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.  Bydd yr arbediad TAW o ganlyniad i reol Ealing, sy’n ymwneud ag incwm gwasanaethau hamdden, hefyd yn helpu’r sefyllfa.  Clywodd yr aelodau bod ymgynghorwyr wedi eu penodi i weithio gyda ni ar yr arbediad hwn er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i ni lwyddo. Clywodd y pwyllgor bod gennym bellach yr hyblygrwydd i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i dalu costau sy’n gysylltiedig â diwygio gwasanaeth.  Cyn hyn, roedd angen caniatâd ond bellach, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, gall y Cyngor wneud y penderfyniad. Ymhellach i hyn, rydym wedi bod yn edrych yn fanwl ar ein gwariant er mwyn dod o hyd i gostau sy’n ymwneud â diwygio gwasanaeth. O ganlyniad rydym wedi canfod dros £2m o gostau diwygio y gellid eu talu gan ddefnyddio derbyniadau cyfalaf.

 

Gall pwysau’r gaeaf fod yn her o hyd o ran y gyllideb, yn ogystal â’r meysydd gwasanaeth anweddol sy’n rhoi pwysau mawr, yn enwedig gwasanaethau plant, fodd bynnag, rydym yn edrych ar ble rydym yn sefyll o ran hyn, ymhell cyn y sefyllfa gyllidol alldro. 

 

O ran y sefyllfa cyfalaf, mae tanwariant bychan yn gysylltiedig ag Ysgolion y 21ain Ganrif. Dangosir derbyniadau cyfalaf yn yr adroddiad ac mae’r penderfyniad i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf mewn ffordd hyblyg wedi cael effaith ar y rhain.  Bydd yr effaith i’w weld eleni a’r flwyddyn nesaf, ond mae’n rhaid cydbwyso’r pwysau ar y cyfrifon refeniw gyda’r cyfalaf.   O ran mis 7, mae’r adroddiad yn amlinellu’r manylion o ran gorwariant a thanwariant sy’n benodol i gylch gwaith y pwyllgor, ynghyd â sylwadau’r cyfarwyddwyr.

 

Rydym wedi crybwyll y gyfarwyddeb cyfalafu yn barod ac rydym wedi trosglwyddo gwariant o £500 mil drosodd i’r gyllideb cyfalaf.  O ran arbedion, wrth gyfeirio at baragraff 3.11, fe welwch, o’r £6.446 miliwn sydd wedi ei adeiladu i mewn i’r gyllideb ar gyfer eleni, rydym wedi dod i hyd i 86%. O ran gweddill yr arbedion dan sylw, mae oedi wedi bod neu maent yn anghyraeddadwy a darperir mwy o fanylion yn yr adroddiad. Ceir manylion ar gyfer portffolio’r pwyllgor hwn yn yr atodiad.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid ar gyfer Gofal a Iechyd Cymdeithasol bod paragraff 3.60 yn rhoi manylion am y camau lliniaru sydd wedi eu cymryd er mwyn ymateb i’r gorwariant o fewn Gwasanaethau Plant a’r cynnig i osod derbyniadau cyfalaf yn erbyn gorwariant.  Yn yr un modd, mae paragraff 3.9 yn manylu ar faint o gyfalaf fydd yn cael ei ddefnyddio i gryfhau’r gyllideb refeniw, gan ychwanegu nad oes cyfalaf yn nghyfarwyddiaeth y gwasanaethau cymdeithasol. Eglurodd fod gosod nifer o dargedau er mwyn gwneud arbedion yn rhan o’r broses gosod cyllidebau, a theimlir nad yw hyn yn gyraeddadwy.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Cyllid ar gyfer Addysg bod paragraff 3.2 yn egluro bod y gyfarwyddiaeth plant a phobl ifanc wedi gorwario o ran cefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol.  Pwysleisiodd y sefyllfa o ran dileu swyddi o fewn ysgolion, dyfarniadau cyflog athrawon a chyllidebau ysgolion unigol, a grybwyllwyd eisoes. 

 

Her: 

 

  • Mae ysgolion sydd mewn diffyg yn achosi pryder mawr Mae’n ymddangos bod gan ysgol King Henry gynllun ar y gweill, ond mae’r diffyg yng Nghil-y-coed a Trefynwy’n cynyddu er bod ganddynt gynlluniau yn eu lle, felly fy nghwestiwn yw, pa waith sy’n digwydd o ran lliniaru’r sefyllfa?

 

Mae gan King Henry gynllun yn ei le, ond nid ydynt yn ei gyrraedd ar hyn o bryd. Mae gwelliant bychan i’w weld yng Nghil-y-coed. Dim ond blwyddyn o’r cynllun arbed a welir yn yr adroddiadau rhain, mewn gwirionedd mae’n fwy defnyddiol edrych ar y cynnydd dros gyfnod o 3 blynedd. Rydym yn monitro’r ysgolion yn fisol er mwyn gwneud yn si?r eu bod yn gwneud gwelliannau. Rydym yn gweithio gyda Cil-y-coed ar rai mentrau ‘buddsoddi i wella’, felly mae’n bosib y byddwch yn gweld cynnydd yn y lle gyntaf, ond maent ar y llwybr cywir o ran cyrraedd eu targed o ddod yn ôl.

 

  • Gwyddom fod Plant sy’n Derbyn Gofal wedi cynyddu felly ni allwn weld sut y mae modd i ni wneud arbedion, gan ystyried na allwn ddefnyddio cyfalaf. Felly beth yw’ch cynlluniau hirdymor i ddatrys hyn?

 

Rydych yn gywir wrth ddweud nad oes nifer o gamau y gallwn eu cymryd a byddwn yn trafod hyn yng nghynigion y gyllideb. Rydym yn ceisio lleihau costau o ran comisiynu, ond rydym yn brwydro yn erbyn pwysau aruthrol.

 

Canlyniad y Cadeirydd:

 

Rwy’n meddwl ein bod yn rhannu’r un pryder, sef bod ein holl ysgolion uwchradd mewn diffyg mawr a nifer o’n hysgolion cynradd hefyd. Mae’n rhaid i ni dderbyn y gwahaniaethau rhwng ysgolion ac rydym yn derbyn bod hyn yn ddarlun cenedlaethol, ond dyw hyn yn fawr o gysur i brifathrawon sy’n ceisio rheoli’r sefyllfa. Byddwn yn parau i fonitro hyn yn ofalus a gobeithiwn weld rhai gwelliannau.