Agenda item

Strategaethau Cyrhaeddiad

Cofnodion:

Croesawodd y pwyllgor y cyfle i gyfarfod yn uniongyrchol gyda phennaeth a dirprwy bennaeth Ysgol Uwchradd Cas-gwent er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’u ffactorau llwyddiant o ran gwella cyrhaeddiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn ogystal â thrafod yr heriau y maent yn eu hwynebu fel ysgol sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.  Cyflwynodd y pennaeth y dirprwy bennaeth Kelly Bowden sy’n Bencampwr Prydau Ysgol am Ddim yn Ysgol Uwchradd Cas-gwent.  Rhoddwyd gwybod i’r aelodau bod Prydau Ysgol am Ddim yn fater cymhleth a bod yr ysgol wedi gweithio ar nifer o strategaethau, ac wedi troi cefn ar rai ohonynt.  Cyfaddefodd yr ysgol nad yw’r canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim cystal ag y dylent fod, a bod hyn yn ddarlun a welir ar draws Cymru.

 

Eglurodd yr ysgol eu bod yn edrych ar fesur ehangach na’r 5 TGAU yn unig, a chyflwynwyd gwybodaeth (atodiad 1) er mwyn dangos rhai o’r mesurau ehangach rheiny. Eglurwyd eu bod wedi penderfynu asesu’r plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ar draws yr ysgol gyfan, ac nid y plant sy’n nghyfnod allweddol 4 yn unig. Dywedwyd mai un o’r mesurau sydd wedi bod fwyaf effeithiol yw gwneud ymweliadau â’r cartref i siarad gyda theuluoedd er mwyn deall y ffordd orau o gefnogi anghenion y plentyn.

 

Ffactorau allweddol eraill yw safon uchel o ddysgu a chwricwlwm sy’n addas ar gyfer anghenion dysgwyr. Bu iddynt gadarnhau bod yr arolwg yr ymgymerwyd â hi wedi dangos bod plant yn teimlo’n ddiogel yn eu hysgol a bod hyn yn rhywbeth y maent yn falch ohono.  Pan ofynnwyd i blant pa werthoedd sy’n bwysig iddynt, cydraddoldeb oedd ar y brig, ni waeth beth fo cefndir y plentyn, ac eglurwyd y byddai’r 5 gwerth oedd ar y brig yn ffurfio rhan o ddatganiad cenhadaeth yr ysgol, wrth i’r plant chwarae rhan allweddol wrth osod cyfeiriad ac ethos yr ysgol. 

 

Her:

 

  • Gallaf ddychmygu bod symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn gam enfawr i bob plentyn, ond yn enwedig i bobl ifanc sy’n agored i niwed, a gallaf ddychmygu ei bod yn hawdd iawn syrthio’n ôl, felly beth ydych chi’n wneud gyda’r ysgolion cynradd er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r disgyblion wrth iddynt gychwyn yn yr ysgol uwchradd?

 

Rydym yn adeiladu cwricwlwm newydd ac rydym yn gweithio gyda’r ysgolion cynradd lleol er mwyn deall pa blant y mae angen i ni eu cefnogi, gan y bydd rhai o’r plant yn mynd i Wyedean ac nid Cas-gwent.  Rydym yn hyderus bod gennym reolaeth dros y sefyllfa.  Cymaint yw’n ffydd mewn swyddogion ymgysylltu â’r teulu, rydym wedi penodi ail un.

 

  • A ydych chi wedi gwerthuso eistedd TGAU dros 3 blynedd yn hytrach na 2?

Rydym yn teimlo mai mynd yn ôl at eistedd TGAU dros gyfnod o 2 flynedd yw’r peth iawn i’w wneud i’n dysgwyr.  Rydym yn edrych ar adeiladu’r cwricwlwm a byddwn yn monitro’r effaith, oherwydd nid ydym yn gwybod sut y bydd cymwysterau’n edrych yn y dyfodol.

 

  • A oes modd i chi dynnu sylw at rai o’r heriau sy’n gysylltiedig â bod yn ysgol ar y ffin?

 

Rydym wedi gweld gostyngiad yn ein niferoedd, mae cludiant hefyd yn broblem fawr i ni, yn ogystal â rhai problemau o ran recriwtio.  Rydym yn credu’n gryf mewn dathlu’r Iaith Gymraeg, ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus o ran Bagloriaeth Cymru, am nad yw rhai rhieni eisiau i’w plant weithio tuag at y cymhwyster yma.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

A ran y pwyllgor, fe hoffwn longyfarch eich hysgol ar y gwaith anhygoel yr ydych wedi ymgymryd ag o er mwyn adeiladu undod a cheisio cefnogi eich disgyblion sydd fwyaf agored i niwed.  Fe hoffwn fod wedi cael mwy o amser i siarad â chi heddiw, ond rydym yn gwerthfawrogi eich amser yn fawr ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i glywed gennych yn unionyrchol. Roedd y pwyllgor wedi cytuno yr hoffai wahodd Ysgol Uwchradd y Brenin Henry i siarad am eu strategaethau ac rydym wedi cytuno y bydd hyn yn cael ei raglennu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.