Agenda item

Adrodd ar Berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion adroddiad perfformiad ar gyfer chwarter 2, a oedd yn seiliedig ar y fframwaith perfformiad statudol ac a oedd yn cynnwys dangosyddion perfformiad Llywodraeth Cymru, darparwyd cyd-destun lleol pan fo hynny’n berthnasol. Tynnodd y swyddogion sylw at y pwysau cynyddol sydd ar y gwasanaeth, gan fod nifer uwch o oedolion angen ymyriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Clywodd yr aelodau bod y nifer o Blant Sy’n Derbyn Gofal (LAC) wedi cynyddu, sy’n gadarnhaol yn nhermau gallu helpu mwy o blant ond mae hyn yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth.  Dywedwyd wrth y pwyllgor bod mwy o bwyslais wedi bod ar gynnig cymorth yn gynnar (early help offer) a chynnig cymorth i deuluoedd (family support offer) a bod yr ymyriadau rhain yn cynorthwyo nifer o deuluoedd. Y gobaith yw y bydd y math yma o wasanaethau yn lleihau’r nifer o atgyfeiriadau sy’n cael eu gwneud. Clywodd aelodau y bydd y Tîm Teuluoedd Ynghyd (families together team) yn helpu plant i adael gofal ac ail ymuno â’u teuluoedd yn ystod yr 18 mis nesaf.

 

Eglurodd y swyddogion bod angen cynyddu’r ddarpariaeth gofal maethu mewnol, am nad yw’n diwallu’r galw ar hyn o bryd. Eglurwyd bod strategaeth yn ei lle ar hyn o bryd sy’n canolbwyntio ar recriwtio a chadw staff sy’n ymwneud â gwaith cymdeithasol am eu bod yn cael anhawster recriwtio staff i’r tîm diogelu plant gan fod natur y rôl yn golygu bod pwysau mawr ar ysgwyddau’r staff.

 

Her:

 

  • Rydych wedi nodi bod ein niferoedd LAC wedi cynyddu a bod hyn yn groes i’r tuedd a welir yng Nghymru, a’ch eglurhad yn yr adroddiad yw mai am ein bod yn dod yn fwy ymwybodol o achosion diogelu plant y mae’r niferoedd yn cynyddu. A yw ein prosesau asesu yr yn fath â phrosesau cynghorau eraill?  Pam bod ein niferoedd yn uwch?

 

Mae asesiad trylwyr yn cael ei wneud cyn i unrhyw blentyn ymuno â’r rhestr diogelwch.  Mae’ch cwestiwn yn un anodd i’w ateb am nad oes targed delfrydol ar gyfer nifer ein achosion.   Rwy’n hyderus bod ein prosesau’n union fel y dylent fod. Gall ein arferion newid a gwella bob amser, ond a fyddai hynny’n gostwng y niferoedd? Mae’n anodd dweud. Nid yw gweld niferoedd yn codi neu’n gostwng yn fater cadarnhaol nac yn un negyddol. Yr hyn sy’n bwysig yw penderfynu a yw ein trothwy’n gywir. Mae ein dull o weithio’n un aml-asiantaeth sy’n seiliedig ar batrwm Gwent. 

 

  • Rydych wedi crybwyll anawsterau o ran recriwtio? A oes unrhyw ffordd o wneud y swydd yn un mwy amrywiol?

 

Rydym yn ail edrych ar sut y dylem strwythuro a rheoli llwyth gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rheolaidd, ac mae’r holl staff cymwys yn gwneud elfennau o’r  gwaith, ond mae rhai timau’n gwneud mwy ohono a dyma’r darlun a welir ledled Cymru. Rydym yn adolygu hyn yn barhaus ac rydym yn teimlo bod y strwythur cywir yn ei le gennym ar hyn o bryd o ran y ffordd yr ydym yn rheoli gwaith y tîm ac yn creu’r diwylliant cywir.

 

·           Rydych yn dweud bod ein niferoedd LAC wedi cynyddu o’u cymharu â’r cyfartaledd yng Nghymru. A oes unrhyw berthynas rhwng hyn a’r ystadegau o ran camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau iechyd meddwl?  A ydym yn gwneud gwaith cefnogol gyda theuluoedd ar hyn?

 

Ydym, rydym yn gweithio gyda theuluoedd er mwyn deall yr hyn sydd angen newid a rhoddir y gefnogaeth ar ffurf 2 ffrwd –cefnogaeth ar lefel cyn ymyrraeth, a chefnogaeth sy’n dilyn i mewn i ofal addysg.

 

  • A yw’r gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi i’r rheiny sy’n gadael gofal yn ddigonol?

 

Ydy, rydym yn darparu cefnogaeth i’r rheiny sy’n gadael gofal. Mae gan bob un becyn sydd wedi ei deilwra’n arbennig ar eu cyfer. Mae gan rai pobl broblemau penodol ac felly mae angen i ni deilwra pob pecyn.  

 

  • A oes modd i chi egluro’r problemau sy’n ymwneud â recriwtio gofalwyr maeth a’r berthynas â MIST?

Recriwtio gofalwyr maeth yw’r broblem sydd gennym, ac mae’n broblem barhaus. Mae bwlch yn y cyflog, ac felly mewn gwirionedd, ein cynnig o gefnogaeth sy’n ein gwneud yn wahanol i eraill ac yn denu pobl i ddod yn ofalwyr maeth yn Sir Fynwy. Ein dull o ran gofalu am blant, yn arbennig, sy’n denu gofalwyr maeth atom. Mae’r prosiect MIST yn canolbwyntio ar gael y gofalwyr iawn. 

 

Casgliad a Chanlyniad y Cadeirydd

 

Rydym wedi craffu ar hyn mewn manylder ac mae’r pwyllgor yn deall natur y problemau y mae swyddogion yn eu hwynebu. Rydym yn cytuno fel pwyllgor bod y gwasanaeth yn ymdopi i orau ei allu gyda’r galw sydd arno. Rydym hefyd yn cytuno yr hoffem graffu ar y gefnogaeth y mae’r rheiny sy’n gadael gofal yn ei gael er mwyn cael gwell dealltwriaeth ohoni. Felly amserlennu adroddiad ar becyn y rheiny sy’n gadael gofal a MIST.