Agenda item

Craffu ar gynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21

Cofnodion:

O gofio bod cyd-destun cynigion y gyllideb wedi eu gosod yn Adroddiad Monitro’r Gyllideb Mis 7, dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol pe byddai’r swyddogion yn cyflwyno’r prif bwyntiau cyn symud ymlaen at y cwestiynau.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid bod y broses o osod cyllidebau’n cychwyn, bob blwyddyn, gydag asesiad o’r gyllideb sylfaenol, y pwysau y gwyddom amdanynt, Setliad Llywodraeth Cymru a mewnbwn Treth Cyngor, ac yna mae angen ceisio cau’r bwlch gyda chynigion ar gyfer arbedion.  Pwysleisiodd y swyddogion ein bod wedi gorfod lleihau’r gyllideb dros sawl blwyddyn, felly wrth ystyried pwysau £9.7 miliwn ac yna pwysau o ran cyflogres, mae’r pwysau bellach yn gyfystyr â £11.25 miliwn. Eglurwyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r dyfarniad cyflog i athrawon, nid yw hyn wedi mynd yn ddigon pell o ran cwrdd â’r £11.2 miliwn. Eglurodd yr aelod cabinet bod gennym fwy o gostau sydd angen eu talu, a’n bod yn gorfod cynnig arbedion sy’n amhoblogaidd yn y pen draw gan arwain at yr angen i godi treth cyngor.

 

Mae’r meysydd sy’n rhoi’r pwysau ariannol mwyaf, o fewn cylch gwaith y pwyllgor, wedi eu trafod eisoes, yn enwedig y pwysau o £3 miliwn ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal, a’r £5 miliwn ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sef yr un pwysau dro ar ôl tro.

 

Her:

 

  • A oes costau cudd yn y ffigurau rhain a fyddai’n cyfiawnhau’r angen am ysgol arbennig?

 

Rydych yn gywir wrth ddweud bod pwysau ar wasanaeth trafnidiaeth cartref i’r ysgol mewn sir wledig. Mae dadleuon dros ysgol arbennig wedi eu cyflwyno droeon ond mae’n rhaid amau a ellid sefydlu un sy’n effeithiol o ran sgôp a graddfa ar gyfer Sir Fynwy.  Mae hyd yn oed cario plant o’r gogledd i’r de yn gostus ac rydym wedi cytuno i ddod â chynigion ger bron o ran cefnogi plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

·           Mae’r Aelod Cabinet wedi crybwyll cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i drafod fformiwla cyllido a’n cais am gyllid gwaelodol. A oes modd i chi ein diweddaru ar gynnydd os gwelwch yn dda? Ac a oes mod i chi roi sicrwydd ni, pe byddai cyllid ychwanegol yn cael ei roi, y byddech yn ystyried tynnu’r toriad o 2% i gyllidebau ysgolion unigol yn ôl?

 

Pe byddai cyllid gwaelodol yn cael ei gytuno, byddai’n rhoi £833 mil ychwanegol, a phe byddem yn llwyddo i sicrhau’r arian yma, byddem yn ail edrych ar y toriad o 2% i gyllidebau ysgolion unigol. Ni allaf roi ateb pendant, gan fod hyn yn ddibynnol ar p’unai y byddwn yn derbyn cyllid ychwanegol neu beidio, ond o ran cynnydd, rydym yn ymwybodol bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru. 

 

·           Felly, pe na byddem yn derbyn cyllid ychwanegol, sut y byddai disgwyl i ysgolion ymdopi â thoriad o 2% i’w cyllideb, oherwydd mae’n anochel bellach ein bod yn sôn am gostau staff?

 

Mae hwn yn gwestiwn anodd i’w ateb gan nad yw penderfyniadau ar staff yn cael eu gwneud gan y corff llywodraethu.  Mewn nifer o’n hysgolion, mae costau staffio’n uchel iawn gan bod staff profiadol wedi cyrraedd brig eu graddau cyflog, ond y neges graidd gan benaethiaid yw y bydd hyn yn arwain at doriadau staff. Byddwn yn parhau i gefnogi ysgolion i ddod o hyd i ddatrysiadau eraill.

 

Aelod o’r Cabinet – Rydym eisoes wedi gwneud yr holl arbedion mawr y gallwn eu gwneud.  Rydym mor ddiwastraff ag y gallwn fod, felly peidiwch â lledaenu’r baich i weddill yr awdurdod, bydd yn anghymesur i weddill yr awdurdod. Yr hyn sy’n annheg yw’r lefel isel o gyllid yr ydym yn ei derbyn.  Pe byddem yn derbyn cyllid ychwanegol, gallem wneud penderfyniadau gwahanol.

 

  • Eglurwch sut mae’r system benthyciadau’n gweithio os gwelwch yn dda?

 

Rydym yn cydnabod, o dan drefniadau ariannu teg presennol, mai dim ond 3 blynedd sydd gan ysgolion i dalu diffygion yn ôl, sy’n heriol iawn. Mae’r system yn caniatáu i’r diffyg gael ei dalu’n ôl dros gyfnod hirach er mwyn lleihau’r effaith.

 

  • Mae’r benthyciadau’n ddi-log ar hyn o bryd, ond mae hyn ar sail cyfraddau llog isel.  Pe byddent yn codi, does bosib y byddai hyn yn cael effaith.  Byddai’n well gen i pe na byddai’r ddyled yn dwyn llog o gwbwl.

 

Yn anffodus, nid yw’r arian yma gennym i’w fenthyg, mae’n rhaid i ni ei fenthyca, felly rydym yn talu llog arno. Yr hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd yw ein bod yn ei amsugno ac yn ei gadw oddi wrth ysgolion a bod ysgolion yn parhau i geisio clirio’r diffygion yn gynnar.

 

  • A yw hyn yn golygu y gallai ysgol gymryd benthyciad yn awr am gyfnod o 10 mlynedd a thalu mwy nac y maent wedi ei fenthyg yn ôl?


Byddai’r sefyllfa hon yn annhebygol am y byddai’r benthyciad ar gyfradd sefydlog.

 

·           A oes modd i chi egluro unrhyw fesurau sydd mewn lle i liniaru gorwariant gwasanaethau plant, gan dderbyn bod y sefyllfa hon yn un anodd tu hwnt?

 

Bydd angen buddsoddi yn lle cyntaf er mwyn ehangu strwythur y tîm MIST, ond fe ddylai hyn arbed arian yn y tymor hir drwy leihau’r gwaith sydd angen ei roi i gyfreithwyr allanol. Er gwybodaeth y pwyllgor, ar gyfartaledd, mae cyfrifoldeb am blentyn sy’n derbyn gofal yn costio £40 mil, felly byddai 10 plentyn y flwyddyn yn costio £400 mil, ac nid oes modd cuddio rhag hyn.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Rydym wedi trafod y prif bwysau ariannol, y mesurau lliniaru y mae swyddogion wedi eu rhoi yn eu lle a’r posibilrwydd o dderbyn cyllid gwaelodol y byddai’r cyngor yn elwa’n sylweddol ohono, yn enwedig gwasanaethau plant.  Rydym yn cefnogi’r aelod cabinet yn hyn o beth a gofynnwn i gael ein diweddaru ar gynnydd.  Mae gennym bryderon o ran y toriadau o 2% i ysgolion ac rydym yn cydnabod pryderon yr ysgolion. Mae gennym bryderon, hefyd, o ran strwythur y system fenthyca, o ran chwyddiant.  Rydym yn cydnabod y gellid gwneud arbedion posibl o ran costau cyfreithiol drwy roi’r prosiect MIST ar waith yn gwasanaethau plant.