Agenda item

Adroddiad Monitro Cyllideb - Mis 7

Cofnodion:

Craffu Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 7 a’r drafft gynigion Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2020-21 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canol pedair blynedd

 

Yn ei flaen-gyfarfod, trafodwyd yr hoffai fynychu’r Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu ar 30 Ionawr gan fod materion o ddiddordeb a pherthnasedd i’r pwyllgor hwn ar agenda’r cyfarfod hwnnw. Gofynnwyd i aelodau os byddai’n bosibl cynnull cyfarfod ar y cyd o’r pwyllgorau fyddai’n galluogi aelodau Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf i gael cyfraniad cyfartal a hawliau pleidleisio ar y deunydd pwnc. Cadarnhaodd ein Swyddog Monitro y gellid trefnu hyn. Gofynnwyd i aelodau roi’r cyfarfod yn eu dyddiaduron.

 

Cytunodd y pwyllgor i drafod adroddiad Monitro Cyllideb Mis 7 mewn cysylltiad gyda’r drafft gynigion Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2020-21 ac mae adroddiad monitro’r gyllideb yn rhoi’r cyd-destun ehangach ar gyfer yr heriau a gaiff eu hwynebu yn y flwyddyn bresennol ac yn y dyfodol.

 

Clywodd aelodau fod y cyngor yn wynebu heriau sylweddol ym mis 7, gyda lefel gorwariant gwasanaethau yn sylweddol iawn ac yn rhyfeddol o gymharu â blynyddoedd diweddar. Esboniodd swyddogion i ni fod â hanes rhagorol o reoli gorwariant mewn blynyddoedd blaenorol fel ein bod ar bwynt all-dro’r gyllideb fel arfer yn torri’n wastad neu’n dychwelyd gwarged bach a’n bod yn parhau i geisio hynny.

   

Mae paragraff 3.2 yn rhoi tabl sy’n dangos gwarged cyngor net o £4 miliwn. Yn nhermau cyd-destun, daw’r rhain o 3 maes:

 

 

·         Pwysau gwasanaethau plant a phlant sy’n derbyn gofal

·         Pwysau mewn gofal cymdeithasol oedolion

·         Cefnogaeth ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol

 

Yn nhermau materion yn ymwneud â’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, y byddwn yn eu hystyried yn llawnach yn y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu yr wythnos nesaf, caiff pwysau eu crynhoi o amgylch parcio, cludiant teithwyr ac incwm cynllunio ac mae’r rhain yn gosod pwysau sylweddol ar y gyllideb refeniw.

 

Nid oes gennym lefelau sylweddol o gronfeydd wrth gefn felly bu’n rhaid i ni roi cynlluniau adfer ar waith ac adweithio ac ymateb i’r sefyllfa yr ydym ynddi. Mae cynlluniau adfer i gyfyngu pob gwariant nad yw’n hanfodol a, lle’n bosibl, edrych ar sicrhau arbedion pellach tra’n rhwystro’r sefyllfa bresennol.

 

Mae adran 3.10 yr adroddiad yn dangos y sefyllfa bresennol a manylion ein cynllun gweithredu. Rydym yn rhagweld diffyg o £3.987m a buom yn ffodus i fedru gwneud dyfarniadau cyflog athrawon yn y flwyddyn bresennol, gyda £310k yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr adenilliad o £1.9m o Dreth ar Werth yn dilyn rheoliad Ealing am incwm gwasanaethau hamdden hefyd yn cynorthwyo’r sefyllfa. Penodwyd ymgynghorwyr i weithio gyda ni ar sicrhau’r adferiad hwn ac mae gennym achos cryf. Yr agwedd olaf i hysbysu’r pwyllgor amdano yw ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru sy’n cynnig hyblygrwydd i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i gyllido costau’n gysylltiedig gyda diwygio gwasanaethau. Bu hyn yn ddefnyddiol i ni. Yn flaenorol, roedd angen caniatâd ond nawr yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru, gall y cyngor wneud y penderfyniad hwnnw. Ymhellach, buom yn ymchwilio ein gwariant i ddynodi costau’n gysylltiedig gydag ad-drefnu gwasanaethau a gallai dros £2m o gostau ad-drefnu gael eu sicrhau drwy ddefnyddio derbyniadau calaf.

 

Gallai pwysau’r gaeaf ddal fod yn feysydd risg yn nhermau’r gyllideb a hefyd y meysydd gwasanaeth cyfnewidiol sy’n bwyntiau pwysau, yn arbennig gwasanaethau tai; fodd bynnag, rydym yn edrych ar ble’r ydym gyda hynny ymhell cyn y sefyllfa cyllideb all-dro. Gobeithir fod hyn wedi rhoi cyd-destun defnyddiol yn nhermau’r cyfrif refeniw.

 

Yn nhermau’r sefyllfa gyfalaf, mae lefel fach o danwariant yng nghyswllt Ysgolion y 21ain Ganrif. Caiff derbyniadau cyfalaf eu dangos yn yr adroddiad ac mae’r penderfyniad i wneud defnydd hyblyg o dderbyniadau cyfalaf wedi effeithio ar hyn. Bydd hynny’n cael effaith eleni a’r flwyddyn nesaf, ond mae’n rhaid i ni gydbwyso pwysau ar y cyfrif refeniw gyda’r cyfalaf. Yn nhermau mis 7, mae’r adroddiad yn rhoi manylion y gwariant a’r tanwariant penodol i gylch gorchwyl y pwyllgor ynghyd â sylwadau cyfarwyddwyr.

 

Soniwyd eisoes am y gyfarwyddeb cyfalafu a rydym wedi trosglwyddo £500k o wariant drosodd i’r gyllideb cyfalaf. Yn nhermau arbedion, os cyfeirir at baragraff 3.1.1, byddwch yn gweld i ni ganfod 86% o’r £6.446 miliwn sy’n rhan o gyllideb eleni. Mae gweddill yr arbedion hynny naill ai wedi gohirio neu ni fedrir eu cyflawni a rhoddir mwy o fanylion arno yn yr adroddiad, gyda manylion am bortffolio’r pwyllgor hwn yn yr atodiad.

 

Her:

 

·        A fedrwch esbonio’r problemau yn gysylltiedig â ffermio solar a gwerthu trydan i’r grid cenedlaethol.?

I egluro, roedd y gwariant a fanylir o fewn yr adroddiad ar y fferm solar yng nghyswllt systemau monitro ac roedd gennym ddiffyg incwm fel canlyniad, ond cafodd hyn ei unioni erbyn hyn ac ni ddylai achosi’r broblem i barhau i 2021. Yn nhermau eich cwestiynau, y broblem gyda  fferm solar yw cyfyngiadau grid ac nid yw’n rhwydd ei goresgyn. Mae hyn yn broblem i’r Grid Cenedlaethol a darparwyr ei datrys ac mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymgeisio datrys hyn drwy eu sgyrsiau ar lefel genedlaethol.

 

 

Dogfennau ategol: