Agenda item

Archwilio cynigion cyllideb drafft 2020/21

Cyfeiriwch at y ddolen isod am fanylion – Agenda’r Cabinet 20fed o Ragfyr 2019:

 

·         Cynigion Cyllideb Gyfalaf Drafft 2020/21 i 2023/24

·         Cynigion Cyllideb Refeniw Drafft 2020/21

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4192

 

 

Cofnodion:

Drafft Gynigion Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2020-21

 

Esboniodd swyddogion, ar ôl iddynt siarad yn helaeth am y mannau pwysau ym mis 7 a fu yn flaenllaw yn yr her cyllideb, mae paragraff 3.4 yr adroddiad yn dangos pwysau o £9.7 miliwn, sydd yn ddigynsail. Esboniwyd y bu’n anodd iawn cyflwyno set o gynigion cydlynus i ymgynghori arnynt ac y byddai angen rhoi sylw i’r holl adborth i’r Cabinet ei ystyried ar 19 Chwefror cyn y Cyngor ar 5 Mawrth. Tynnodd swyddogion sylw at baragraff 3.7 sy’n cyflwyno’r drafft gynigion a gofyn i aelodau am eu barn. Gwnaed tybiaethau y byddai cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cyllido dyfarniad cyflog athrawon a hefyd y byddai pensiynau yn cael eu hariannu’n llawn. Fe wnaethant ailadrodd y bydd y gallu i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i gynorthwyo’r gyllideb refeniw yn ddefnyddiol. Ymchwiliwyd ffioedd a chostau ac mae posibilrwydd y gellid gwneud arbediad o 2% i Gyllideb Ysgolion Unigol os metho popeth arall. Esboniodd swyddogion i’r dreth gyngor gael ei modelu ar lefel ddarbodus.

 

Her:

 

·        Rydych wedi cyfeirio ym mharagraff 3.5 at y pwysau ac rydych yn ei ddadansoddi ymhellach ym mharagraff 3.18. O ble daeth y pwysau hyn dros y 12 mis diwethaf. A oeddent yno bob amser neu a fu cynnydd sydyn?

Mae gwasanaethau plant wedi gweld cynnydd digynsail yn nifer achosion plant sy’n derbyn gofal a rydym yn ansicr pam, ond mae nifer o resymau posibl. Daethom yn fwy llwyddiannus mewn gweithgaredd ataliol ac mae hefyd fwy o ffocws ar yr ochr farnwrol yn nhermau barn llysoedd ar yr angen am gyfrifoldeb rhieni corfforaethol. Mae hyn wedi golygu cost sylweddol ond mae’n waith hollol hanfodol. Yn nhermau plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, mae mwy o asesiad wedi arwain at ddynodi bod angen mwy o gymorth ar y pen mwyaf aciwt, yn nhermau lleoliadau allan o’r sir. Yn nhermau gofal cymdeithasol oedolion, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu mewn misoedd diweddar. Mae oedolion gydag anableddau yn byw’n hirach ac mae eu rhieni yn heneiddio ac yn methu gofalu amdanynt ac mae hyn yn digwydd yn genedlaethol.

 

·         A oes angen consyrn am y costau sy’n gysylltiedig gyda’r cwricwlwm ysgol newydd? A gafodd hyn ei ddynodi yn eich trafodaethau gydag ysgolion, yn neilltuol yng nghyswllt yr arbediad o 2% ar Gyllidebau Ysgolion Unigol?

Rydym wedi cynnal cyfarfodydd gyda phenaethiaid ysgol a digwyddiadau ymgynghori a thrafodaethau gyda’r fforwm cyllideb ysgolion ac mae adborth yn dod trwodd. Deallwn fod pwysau ar ysgolion ac mai dyma’r rhesymeg dros y dull benthyciadau sy’n rhoi hyd at 10 mlynedd i ysgolion weithredu eu cynlluniau adfer cyllideb i ddod â’u cyllidebau allan o sefyllfa ddiffyg. Nid oes unrhyw awydd i ni osod gostyngiad o 2% ar ysgolion, ond mae’r pwysau ariannol ar y cyngor mor sylweddol fel y bu’n rhaid i ni ystyried hynny. Os cawn unrhyw gyllid ychwanegol, byddwn yn ceisio ei ostwng neu ei ddileu.

 

·         A yw cynghorau eraill yn yr un sefyllfa â ni?

Mae eu fformiwla cyllid yn anfantais i rai cynghorau. Teimlwn fod Sir Fynwy dan anfantais neilltuol ac rydym yn cael trafodaethau yn genedlaethol am yr hyn a deimlwn sy’n wall cyllido. Pe byddid yn mynd i’r afael â hyn, byddai o fudd i bump awdurdod lleol ac ni fyddai’n costio llawer i Lywodraeth Cymru, ond byddai’n cynnig £1 miliwn ychwanegol i ni.

 

Casgliad y Cadeirydd: 

 

Mae’r pwyllgor wedi trafod rhesymau am y pwysau sylweddol mewn gwasanaethau cymdeithasol, gan gydnabod fod hyn tu allan i’n cylch gorchwyl ond gwnaethom hynny er mwyn deall y cyd-destun ar gyfer y cynigion cyllideb a gyflwynir i ni. Rydym wedi craffu ar y cynigion o fewn ein cylch gorchwyl ond nid oes gennym unrhyw argymhellion penodol. Cefnogwn y cais gan Sir Fynwy i Lywodraeth Cymru am lawr cyllid a’r angen am adolygiad annibynnol, gan nodi y cynhelir seminar yn y gwanwyn. Nid yw’r pwyllgor wedi trafod y cynigion gweithredu a gyflwynwyd i ni yn hwyr, ond rydym wedi cytuno i fynychu’r Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu i gynnal craffu ar y cyd o hyn. 

 

Dogfennau ategol: