Agenda item

Craffu ar y cynigion Cyfalaf a Refeniw drafft ar gyfer 2020-21 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Pedair Blynedd Tymor Canolig (adroddiadau i ddilyn).

Gweler y linc isod am fanylion – Agenda'r Cabinet 20fed Rhagfyr 2019:

 

·         Cynigion Cyllideb Cyfalaf Drafft 2020/21 i 2023/24.

·         Cynigion y Gyllideb Refeniw Ddrafft 2020/21.

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4192

 

Cofnodion:

Gan ein bod eisoes wedi gosod y cyd-destun ar gyfer y cynigion am arbedion yn y gyllideb drwy drafod y pryderon ac y cawsoch y cynigion ac asesiadau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Asesiadau Effaith Cronnus a aeth i’r Cabinet ym mis Rhagfyr, cawn esboniad byr o’r cynigion am arbedion cyn cymryd cwestiynau.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid fod proses gosod cyllideb bob blwyddyn yn dechrau gydag asesiad o’r gyllideb llinell sylfaen, pwysau hysbys, setliad Llywodraeth Cymru a’r mewnbwn Treth Gyngor ac yna geisio pontio’r bwlch rhwng hyn gyda chynigion am arbedion. Y prif bennawd yw fod gennym bwysau o £5.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf ar gyfer y maes gwasanaeth hwn. Mae’r gyllideb refeniw yn fwy perthnasol i’r maes gwasanaeth hwn gan nad yw’n cyfrannu’n sylweddol at y gyllideb cyfalaf. 

 

Pwysau Pennawd o £5.5 miliwn

 

·         Pwysau £1 miliwn ar gyfer oedolion gydag anableddau – oherwydd oedran cynyddol y boblogaeth, mwy o alw am leoliadau mewn colegau preswyl a lleoliadau byw â chymorth a’r trwybwn o blant yn dod yn oedolion.

 

·         Pwysau o £373k ar gyfer cynnydd mewn ffioedd darparwyr – caiff hyn ei glymu i’r cyhoeddiad diweddar o gynnydd o tua 6.2% mewn cyflog byw.

 

·         Troi’r Byd a’i Ben i Lawr (ein model gofal yn y cartref) – gydag angen yn dal i fod heb gael ei ddiwallu, byddwn angen £1.048 miliwn yn fwy o gyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

·         Prosiect MIST mewn gwasanaethau plant (tîm aml-asiantaeth yn edrych ar ofal pen uchel ar gyfer plant) – angen £287k i gynyddu cefnogaeth tîm.

 

·         Pwysau o £2.6 miliwn yn y flwyddyn ar wasanaethau plant.

 

·         Cynnig i gynyddu’r tîm diogelu ar gost o £153k.

 

Cynigion am arbedion yn gyfanswm o £1 miliwn:

 

·         £116k fel canlyniad i Lywodraeth Cymru yn cynyddu’r cap tâl wythnosol dibreswyl fydd yn rhoi incwm ychwanegol i ni.

 

·         Ailnegodi’r contract gyda’r gwasanaeth iechyd ar ddarpariaeth gwely yng nghontract Severn View a allai fod yn gyfanswm o £166k

 

·         Arbedion o fewn darpariaeth gyfreithiol mewn gwasanaethu plant yn gyfanswm o £100k.

 

·         MIST ~ er ei fod yn gofyn am fuddsoddiad o £287k, mae’n bwriadu sicrhau arbedion o £250k.

 

·         Ffioedd a chostau cyffredinol mewn gofal cymdeithasol (yn cynnwys costau diogelu’r cyhoedd) yn gyfanswm o £189k.

 

·         Rhai arbedion llai mewn effeithiolrwydd.

 

·         £150k fel rhan o’r agenda newid ymarfer.

 

Her:

 

  • Pam fod y Cyllid Gofal Integredig ar gyfer prosiect MIST wedi dod i ben? 
    Roedd yn brosiect penodol gyda Blaenau Gwent ar gyfer tîm amlddisgyblaeth ar gyfer gwasanaethau plant.

 

  • Er ein bod yn canolbwyntio’n bennaf ar gylch gorchwyl gwasanaethau oedolion, gan gydnabod fod y sefyllfa yn debygol o fynd yn gynyddol anodd a chydnabod bod angen datrysiad cenedlaethol, mae’n dal i fod angen i ni ystyried sut i gael cyllideb gytbwys. Felly mewn ymdrech i feddwl tu allan i’rblwch, bu Troi’r Byd a’i Ben i Lawr yn enghraifft mor dda o ymarfer arloesol, a fyddai’n well buddsoddi yn ein staff ein hun yn hytrach na chomisiynu darparwyr masnachol.? 

 

Mae cwestiwn p’un ai ‘dyfu eich gwasanaeth ei hun’ drwy fuddsoddi yn eich staff eich hun yn hytrach na chomisiynu darpariaeth allanol yn rhywbeth yr ydym wedi’i ystyried. Bu’n rhaid i ni ystyried os byddai’n gweithio hyd yn oed pe byddai’n bosibl, oherwydd ar hyn o bryd rydym yn ei chael yn anodd denu staff ac felly hefyd y sector preifat. Mae’n broblem enfawr yn genedlaethol. Hyd yn oed pe byddai gennym chwistrelliad enfawr o arian, nid wyf yn si?r y gallem newid y deinamig hwnnw. Rydym yn gorfod bod yn greadigol iawn wrth i ni dderbyn y lefel isaf o gyllid ac mae hynny wedi golygu fod yn rhaid i ni fod yn ddyfeisgar. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n drafftio adroddiad “Ail-gydbwyso Gofal” felly bydd yn ddiddorol gweld os yw’n trafod y problemau a beth yw’r darlun cymharol ledled Cymru.

 

Canlyniad a Chasgliad y Cadeirydd:

 

Mae’r pwyllgor wedi ei chael yn her fawr i graffu ar y gyllideb gan na allwn ddod i gasgliadau fod y gwasanaeth yn sylweddol brin o adnoddau ac rydym hefyd yn cydnabod fod staff yn ceisio bod yn greadigol a meddwl yn wahanol.

 

Rydym wedi trafod y pwysau ar ofal cymdeithasol yn fanwl ac yn cydnabod fod recriwtio yn y sector yn broblem fawr. Nodwn yr incwm grant a dderbyniwyd ac mae’r pwyllgor yn croesawu’r caniatâd i ni ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i gynorthwyo sefyllfa’r gyllideb refeniw. Mae’r pwyllgor yn parhau’n bryderus fod defnyddio derbynebau cyfalaf i gefnogi’r sefyllfa refeniw yn sefyllfa anghynaliadwy i fynd i’r afael â’r problemau sylfaenol gyda’r gyllideb a gyflwynwyd eisoes ym mis 7.

 

Mae Aelodau’n falch i ddweud na chynigiwyd unrhyw gynnydd cost ar gyfer y gwasanaeth prydau cymunedol. Mae aelodau hefyd yn croesawu’r dull misol newydd o fonitro’r gyllideb sy’n cynorthwyo adrannau wrth ragweld gorwariant a galluogi gosod camau lliniaru yn eu lle pan mae hynny’n bosibl.

 

Mae’r pwyllgor yn teimlo’n gryf fod y fformiwla cyllid yn anfantais anghymesur i Sir Fynwy ac yn cefnogi ymgeision y Prif Swyddog i godi hyn gyda Llywodraeth Cymru ac i ofyn am lawr cyllid, a fyddai’n gymorth sylweddol i Sir Fynwy a nifer o awdurdodau gwledig eraill. Mae’r pwyllgor yn cefnogi ymdrechion y Prif Swyddog Adnoddau a’r Arweinydd i symud ymlaen drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gydag adolygiad annibynnol o’r fformiwla ac wedi gofyn am i seminar gael ei chynnal yn y Gwanwyn. 

Dogfennau ategol: