Agenda item

Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 7 – Adroddiad ar gyfer craffu chwarterol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r pwyllgor ar y sefyllfa alldro refeniw a chyfalaf ym mis 7 sy’n amlinellu llithriadau cyfalaf a defnydd cronfeydd wrth gefn i gynorthwyo sefyllfa’r gyllideb refeniw. Tynnodd swyddogion sylw at baragraff 2.21 sy’n adrodd rhagolwg diffyg refeniw net o £3.99m a’r addasiadau i ddychwelyd y gyllideb i sefyllfa gytbwys cyn diwedd mis Mawrth 2020.

 

Cyflwynodd swyddogion y sefyllfa refeniw a’r sefyllfaoedd unigol ar gyfer pob maes gwasanaeth a amlinellir ym mharagraff 3.2. Hysbyswyd aelodau mai’r prif feysydd consyrn yw gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a hefyd wasanaethau plant. Trafododd aelodau’r rhesymau gyda’r prif swyddog a esboniodd fod gwasanaethau ar gyfer oedolion iau gydag anableddau wedi cyfrannu tuag at y pwysau ar y gyllideb a bod sefyllfa’r gyllideb ar gyfer y maes gwasanaeth yn gymharol gyfnewidiol. Er bod y maes gwasanaeth yn hollol ymroddedig i gefnogi pobl ifanc sydd angen annibyniaeth drwy fyw â chymorth, esboniodd y gall pob achos effeithio’n sylweddol ar wariant ariannol y gwasanaeth.

 

Tynnodd swyddogion sylw at baragraffau 3.5 a 3.7 ac esboniodd ddefnydd hyblyg o dderbyniadau cyfalaf i wrthbwyso peth pwysau yn y gyllideb refeniw a thalu’r gwariant cost yn gysylltiedig gyda diwygio gwasanaeth. Er y croesawyd y defnydd o dderbyniadau cyfalaf, dywedodd y pwyllgor nad yw hyn yn cael gwared â’r broblem ar gyfer blynyddoedd y dyfodol ac na chaiff ei ystyried yn ddull gweithredu cynaliadwy ar gyfer y gyllideb.

 

Clywodd Aelodau fod y cyngor yn rhagweld arian ar hap unwaith yn unig yng nghyswllt adfer TAW gan HMRC o weithredu rheoliad Ealing, cyfraniad grant yn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer costau cyflogau athrawon a pheth cyllid ychwanegol yn deillio o’r gyfarwyddeb cyfalafu.


Her:

 

·           A oes angen i ni wario arian y Gronfa Gofal Integredig (IMF) mewn amserlen benodol ar gyfer ailddatblygu Heol Crug, oherwydd os felly, rydym yn bryderus am yr oedi mewn cynnydd.

 

Mae angen i ni wario’r arian ICF erbyn diwedd y flwyddyn nesaf a chawsom beth oedi sylweddol sy’n nodweddiadol o gynlluniau cyfalaf mawr, ond dylem fedru gwario’r arian ICF ac nid oes terfyn amser ar gyllid y cyngor.

 

·           Rwy’n bryderus am yr effaith ar ein cyllidebau ein hunain oherwydd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gostwng y cyllid ar gyfer gofal iechyd parhaus, yn neilltuol yn nhermau cymorth ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu. A oes cyfle i edrych ar gronni cyllidebau, gan y teimlaf y dylai’r bwrdd iechyd ystyried hyn o gofio y bu’r Ddeddf mewn grym am 6 mlynedd.

 

Mae gennym broblem fawr gydag anableddau dysgu a theimlwn y dylai’r ffocws fod ar yr unigolyn a sut y gallwn fel partneriaeth roi’r gefnogaeth orau iddynt. Yn nhermau cronni cyllidebau, mae’n gymhleth iawn yn gyfreithiol ond mae parodrwydd i edrych ar hyn. Mae swyddogion yn aelodau o Fwrdd Diogelu Oedolion Gwent a chawsom drafodaethau am hyn a byddwn yn parhau i fynegi ein dymuniad i edrych ar hyn o safbwynt rhanbarthol, ond rydym yn cydnabod ei bod yn anodd a bod ffordd bell i fynd ond mae’r trafodaethau yn dechrau.

 

·         Deallwn fod pwysau am gomisiynu yn nhermau swyddi gwag. A ydym yn gwneud unrhyw waith rhanbarthol yn nhermau comisiynu i drin y mater?

 

Rydym yn gwneud gwaith rhanbarthol gyda’r Tîm Trawsnewid i ddefnyddio arian yr ICF, yn edrych yn neilltuol ar gomisiynu yn y sector gofal a sut y gallwn drin y problemau’n gysylltiedig gyda recriwtio yn y sector gofal drwy gynnig cymhellion, hyfforddiant a help gyda chofrestru. Rydym yn cael problemau neilltuol gyda recriwtio yn Sir Fynwy ac mae amrywiaeth o resymau am hyn, felly mae’r arian ICF y gwnaethom ei ddyrannu’n benodol yn ein cynorthwyo i drin hyn. Mae gan awdurdodau eraill wahanol broblemau, tebyg i brinder therapyddion galwedigaethol a staff ail-alluogi a all achosi ‘oedi wrth drosglwyddo gofal’. Er bod prinder cenedlaethol o therapyddion galwedigaethol, ni chawsom broblemau yn recriwtio disgyblaethau eraill.  

 

Canlyniad a Chasgliad y Cadeirydd:

 

Mae’r pwyllgor yn nodi’r pwysau ar y gyllideb gofal cymdeithasol ac iechyd, y caiff rhai ohonynt eu cynorthwyo gyda grantiau, ac eraill a gaiff eu cynorthwyo drwy ddefnyddio cyfalaf a dderbynnir. Ni theimlwn fod hyn yn ddull cyllideb cynaliadwy yn yr hirdymor, o gofio am y diffyg cyllideb sylfaenol a byddai gennym bryder am dynnu arian allan o’r gyllideb hon pan wyddom fod pwysau o’r fath. Mae’n gysur i ni fod symud o fonitro cyllidebau yn chwarterol i fisol yn rhoi gwybodaeth yn llawer cynharach i’r swyddogion a’r gweithredwyr ar ‘achos ac effaith’ fel y gall y sefyllfa gael ei rheoli mor effeithlon ag sydd modd. Bydd yr adroddiad nesaf ar y cynigion am arbedion ar y gyllideb yn ein galluogi i ymchwilio camau lliniaru ymhellach.

 

Dogfennau ategol: