Agenda item

Adrodd ar berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ar gyfer 2019-20.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau a thynnwyd sylw at y pwyntiau allweddol dilynol yn nhermau esbonio perfformiad ar dargedau:

 

·           Mae ein ffocws ar ofal sy’n canolbwyntio ar y person a darparu’r deilliannau mae pobl eu heisiau. Gall fod yn anodd meintioli hynny ar ddangosyddion perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘oedi wrth drosglwyddo gofal’. Mae rhai o’r problemau wrth gyrraedd targedau ar gyfer cael pecynnau gofal yn eu lle o fewn amserlen benodol yn gysylltiedig ag achosion cymhleth lle gall fod angen ailgartrefu person.

 

·           Mae ysbytai yn tueddu i weithredu egwyddor pwyll piau hi a derbyn pobl i ysbyty a’u cadw i mewn am gyfnod, pan deimlwn ni y gallent dderbyn gwell gofal yn eu cartrefi. Y cwestiwn yw pa waith ataliol fedrai helpu pobl i aros yn iach yn eu cartrefi fel nad yw’n rhaid iddynt gael eu derbyn i  ysbyty. Mae prosiect ‘Homefirst’ yn enghraifft allweddol o hyn.

 

·           Rydym yn ymwneud â gwaith partneriaeth effeithlon gydag iechyd i gynyddu rhyddhau o ysbyty. Mae tîm yn ei le yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall i sicrhau fod gan y person y gefnogaeth iawn i’w galluogi i adael yr ysbyty ac osgoi arosiadau maith diangen.

 

·           Mae’r targed am ddiogelu oedolion yn faes allweddol o gonsyrn – gwelsom gynnydd yn nifer y pryderon, sydd wedi rhoi pwysau ar y gwasanaeth. Mae’n gadarnhaol fod y ‘ddyletswydd i adrodd’ wedi arwain at weithredu ar bryderon ac mae’n dangos fod codi ymwybyddiaeth yn gweithio, fodd bynnag bydd angen rheoli capasiti yn y dyfodol a chaiff ei gynnwys o fewn ein trafodaethau ar y gyllideb.

 

 

 

Her:

 

·           Dengys yr adroddiad fod oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael mwy o sylw yn yr ysbytai cymunedol gyda threfnu oriau gwaith wedi’i nodi fel rheswm. Ymddengys fod tîm rhyddhau ar y cyd mewn ysbytai mwy yn effeithlon. A yw’r rhain ar gael mewn ysbytai cymunedol hefyd? Ac os felly, beth yw’r rhesymau am y nifer uwch o achosion oedi wrth drosglwyddo gofal mewn ysbytai cymunedol?

 

Mae’r timau yn eu lle mewn ysbytai cymunedol. Y rheswm am y lefelau uwch mewn ysbytai cymunedol yw bod yr ysbytai hyn yn trin achosion mwy cymhleth. Mae’r prif ysbytai wedi rhyddhau pobl i’r ysbytai cymunedol oherwydd bod ganddynt anghenion cymhleth ac angen cefnogaeth arbenigol er mwyn medru dychwelyd adref. Mae’r timau therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn rhyddhau pobl cyn gynted ag sy’n bosibl ac mewn llawer o achosion, gall pobl fynd adref ond weithiau mae addasiadau cymhleth yn golygu fod angen i’r person symud i lety arall, ond ceisiwn osgoi hyn i’r graddau mwyaf posibl.

 

Canlyniad a Chasgliad y Cadeirydd:

 

Mae’r pwyllgor yn derbyn yr esboniadau am berfformiad y gwasanaeth yn nhermau bod ‘oedi wrth drosglwyddo gofal’ oherwydd achosion cymhleth. Sylweddolwn nad dim ond yn Sir Fynwy mae hyn yn broblem a bod pryderon am y sector gofal yn genedlaethol.

 

Yn nhermau’r cynnydd mewn pryderon am ddiogelu oedolion, sylweddolwn fod hyn yn broblem o fwy nag o elw nag o gapasiti. Gofynnwn am e-bost gan y Prif Swyddog am sut ydym yn trin hyn, gan ein bod yn y gr?p perfformiad is yn y cyswllt hwn. Deallwn fod y darlun yn newid ond nid yw’r mater hwn yn mynd i ddod yn haws i’w ddatrys ond hoffem gael sicrwydd fod mesurau lliniaru yn eu lle.

 

Dogfennau ategol: