Skip to Main Content

Agenda item

Craffu ar sut mae'r Cyngor yn defnyddio arian Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl i ddatblygu rhyngwyneb effeithiol rhwng tai a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau canlyniadau hanfodol i ddefnyddwyr gwasanaeth.

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor am gael adroddiad ar sut mae’r Cyngor yn defnyddio arian Grant Cyfleusterau i’r Anabl i sicrhau canlyniadau hollbwysig i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae Aelodau wedi craffu hyn dros nifer o flynyddoedd ond maent yn ceisio sut deall sut y gall gwaith partneriaeth effeithlon rhwng staff tai a gofal cymdeithasol ddarparu addasiadau i gartrefi a fyddai’n cynyddu annibyniaeth a hefyd lesiant person. Cyflwynwyd astudiaeth achos i’r cyfarfod sy’n dangos sut mae ramp tu allan i annedd wedi galluogi’r person i barhau eu diddordebau’n annibynnol yn y gymuned yn dilyn llawdriniaeth gritigol. Trafodwyd cyd-destun yr adroddwyd a nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

  • Roedd nifer yr achosion wedi gostwng ganol y llynedd dim ond i gynyddu yn yr hydref ac wedyn aros yn yr unfan. Gall y sefyllfa newid yn aml heb achos.

 

  • Mae rheolwr newydd yn ei swydd a chafodd y gwasanaeth ei adolygu’n ddiweddar. Mae staff yn hyderus y gallant wella’r amserlen o atgyfeiriad i weithredu a chyrraedd  targed o 7-10 diwrnod. Nid yw’r adolygiad wedi dynodi unrhyw elfennau penodol o’r broses sy’n achosi oedi, ond awgrymwyd fod sawl maes lle gellid gwneud pethau’n fwy prydlon.

 

  • Y blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth yw cryfhau’r cynnig a sicrhau fod y gwaith a wneir o ansawdd uchel tra’n gostwng yr amserlenni ar gyfer cwblhau. Gall peth o hyn fod wedi’i gyflawni drwy ganfod synergedd gyda chontractwyr.

 

Her:

 

  • Mae’r adroddiad yn dangos gostyngiad mewn cyllid o £900k i £600k a gellir gweld hyn hefyd yn y cynigion cyllideb. Beth yw goblygiadau hyn ?

 

Dyma’r sefyllfa bresennol. Derbyniodd y gwasanaeth gyllid ychwanegol ychydig flynyddoedd yn ôl i brosesu’r ôl-groniad o achosion. Mae’r cynnydd mewn cyllid yn golygu na fu’n rhaid i ni ddogni cyllid ar gyfer pobl.

 

  • Mae’r gostyngiad mewn cyllid pan nad ydym yn cyflawni ar ein targed ar hyn o bryd yn ymddangos yn ddisynnwyr ac yn bryder. Nid yw’r achosion heb eu trin yn awgrymu y dylem fod yn gostwng cyllid.

 

Aelod Cabinet dros Gyllid – Y £600k yw’r gyllideb sylfaenol a dyrannwyd £300k i glirio’r ôl-groniad. Rydym wedi gofyn am adroddiad cynnydd ar sut y mae’r £300k wedi lliniaru hynny felly mae angen i ni yn awr ystyried y canfyddiadau ac adolygu’r gyllideb cyfalaf i weld os oes cwmpas i ddarparu cyllid uwchben y lefel sylfaen.

 

  • Pwy all wneud atgyfeiriadau? A all aelodau wneud atgyfeiriad ar ran aelod o’r cyhoedd?

 

Gallant. Gall aelodau, cyfeillion a pherthnasau atgyfeirio pobl at y gwasanaeth a hefyd i Careline. Byddwn yn darparu gwybodaeth i bob aelod etholedig ar y gwasanaethau a sut i atgyfeirio.

 

  • A yw’r oedi mewn prosesu’r addasiadau hyn yn arwain at i bobl orfod aros mewn ysbyty am gyfnodau estynedig pan fyddent yn cael gwell gofal yn eu cartrefi? 

 

Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei brofi ond mae ein harchwiliad manwl o hyn wedi dangos na allwn gwtogi’r amserlen 7-10 diwrnod ar gyfer cwblhau. Mae gennym berthynas dda gyda chontractwyr ac nid oes gennym unrhyw oedi yn gysylltiedig gyda therapyddion galwedigaethol yn prosesu ceisiadau, ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn gyson wrth ddarparu gwasanaeth ansawdd uchel. 

 

·         Dylai’r Cynllun Datblygu Lleol newydd a gynhyrchir ystyried materion hygyrchedd ar gyfer yr holl dai a dylunio ‘cartrefi am oes’.

 

Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried a byddem yn annog y Pwyllgor Cynllunio i hyrwyddo hyn.

 

  • A yw contractwyr yn cael eu cymeradwyo i sicrhau y darperir gwasanaeth ansawdd uchel?

 

Ydynt. Caiff contractwyr eu gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DAS) a’u cynnwys ar restr gymeradwy i sicrhau y darperir gwasanaeth ansawdd uchel.

 

  • A oes potensial am gyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer cyflawni hyn?

 

Mae’r sector iechyd yn dechrau sylweddoli fod angen i ni gydweithio a bod y Bwrdd Iechyd yn cyllido Careline a hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer rampiau ar gyfer anheddau drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol, felly rydym yn gweithio mewn partneriaeth.

 

  • Yn yr adroddiad cyfeiriwch at oedi blaenorol yn gysylltiedig gyda therapyddion galwedigaethol yn prosesu ceisiadau. Fodd bynnag, rydych wedi dweud nad yw hyn yn achosi oedi ar hyn o bryd. A fedrwch esbonio’r rhesymau am oedi?

 

Mae gennym berthynas dda iawn gyda’r therapyddion galwedigaethol ond yn neilltuol gydag addasiadau plant, gall fod angen syrfëwr i asesu’r gwaith. Mae ein therapyddion galwedigaethol yn gweithio’n rhan-amser ac mae swydd arolygydd yn 0.6 swydd gyfwerth ag amser llawn, felly weithiau mae hyn yn golygu os cyrhaeddir y cam hwn y gall ceisiadau gymryd ychydig yn fwy o amser. Mae hefyd adegau pan ellir bod yn aros am gymeradwyaeth gan ail reolwr. Amlygwyd hyn mewn archwiliad felly rydym yn holi os oes angen ail lofnod. Yn ychwanegol, caiff gwybodaeth ei hanfon drwy’r post ac weithiau mae oedi cyn dychwelyd gwaith papur, ond sylweddolwn fod angen i ni fod yn fwy rhagweithiol, gan fod gennym staff mewn cymunedau a fedrai wirio os yw pobl yn ei chael yn anodd llenwi’r gwaith papur. Rydym hefyd yn cydnabod y dylem roi dyddiad i gontractwyr ac wedyn wirio’r cynnydd gyda nhw. Felly er nad oes un agwedd sengl i’r gwasanaeth sy’n achosi oedi, credwn y gallwn ostwng yr amserlen drwy drafod yr holl faterion hyn. Mae’r syrfëwr wedi cynllunio amser i ffwrdd ar gyfer problem iechyd a bydd angen i ni gynllunio ar gyfer a lliniaru ar gyfer hyn, ond fel yr esboniwyd, mae ein sefyllfa staffio yn fregus.

 

·         A yw Cyllid Gofal Canolraddol yn cael ei ddyrannu ar sail blwyddyn wrth flwyddyn? A yw hyn yn achosi problemau i’ch gwasanaeth? A oes unrhyw ddisgwyliad y gellir rhoi’r cyllid yn y brif ffrwd?

Caiff ei ddyrannu’n flynyddol ac awgrymodd Swyddfa Archwilio Cymru nad yw cyllid yn cael ei brif ffrydio’n ddigonol. Rydym wedi tynnu sylw fod hyn yn broblem, ond mae’n un gyffredin i bob awdurdod lleol.

 

Canlyniad a Chasgliad y Cadeirydd:

 

Rydym yn ddiolchgar am yr astudiaeth achos gan fod hyn yn dangos sut y gall y grant wneud gwelliannau sylweddol i lawer o fywydau, cynyddu annibyniaeth pobl a hefyd wella eu llesiant. Rydym hefyd yn fodlon y cafodd y gwasanaeth ei adolygu a’ch bod wedi dynodi y gellir gwneud gwelliannau drwy ddatblygu perthynas gyda’r cyhoedd a hefyd gyda chontractwyr.

 

Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio ymarfer ar draws Cymru a gofynnwn i swyddogion fewnbynnu i’r gwaith hwnnw os yn bosibl a dangos effaith cyllid grant ar fywydau pobl.

 

Rydym yn bryderus fod y gyllideb sylfaen o £600k yn annigonol i ateb y galw ac i’ch galluogi i ddarparu gwasanaeth ansawdd uchel ac argymhellwn i’r Aelod Cabinet dros Gyllid bod y £900k yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn sy’n cyfrannu at ein hamcan corfforaethol i adeiladu cymunedau cryf a chadarn. 

 

Dogfennau ategol: