Skip to Main Content

Agenda item

Craffu ar berfformiad diogelu plant.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc er mwyn iddynt allu gwerthuso cynnydd blaenoriaethau diogelu allweddol y Cyngor yn ystod 2018/19 ac effeithiolrwydd diogelu yn Sir Fynwy yn gyffredinol.  Amlygodd yr adroddiad risgiau a chamau lliniaru ac amlinellodd gamau gweithredu allweddol ar gyfer gwella ymhellach.  Eglurodd y swyddog arweiniol, ar ôl adrodd bob chwe mis yn dilyn archwiliadau anfoddhaol blaenorol a'r awdurdod yn cael ei osod o dan 'fesurau arbennig', fod y Cyngor â llawer mwy o hyder yn y daith a wneir a bod y trefniadau adrodd yn y dyfodol i fod ar sail flynyddol.  Clywodd y Pwyllgor y bydd canlyniad arolygiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei gyflwyno’n y dyfodol agos. Trafododd y swyddog arweiniol berfformiad y Cyngor yn fanwl, a gan gyfeirio at Atodiad 2 yr adroddiad, roedd y prif bwyntiau yn cynnwys:

 

·         Dylai diogelu gael ei wreiddio ym mhob gwasanaeth cyngor ac mae hunanasesiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd o fewn pob Cyfarwyddiaeth.

 

·         Mae'r Cyngor yn ymwybodol iawn o risgiau sy'n dod i'r amlwg ar ddiogelu, enghreifftiau allweddol sef caethwasiaeth fodern a chamfanteisio'n rhywiol ar blant a sut mae gan adrannau eraill y Cyngor, fel trwyddedu, rôl allweddol o ran sicrhau bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu. 

 

·         Mae gwasanaethau a gomisiynir yn allanol yn parhau i fod yn her gan fod angen gwirio pob gwasanaeth a gomisiynir yn drwyadl, felly o ran sgorio hunan-arfarnu, mae'r sgôr yn is hyd nes ein bod wedi sicrhau bod pob adran wedi gwneud hynny a bod yr archwiliad mewnol wedi dilysu bod hynny'n wir.

 

Her:

 

·         Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y camau mawr sydd wedi cael eu cymryd ers yr adeg pan ystyrid bod diogelu yn annigonol.  Y llynedd, daeth arolygiad ar y cyd gan Estyn, Gofal Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad bod arferion diogelu yn gadarn, ond bod angen i'r gwaith hwnnw barhau gyda rhai adrannau nad oes ganddynt, o bosibl, gysylltiad amlwg â diogelu.  Hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd ein bod yn gwneud hyn, a'n bod bellach wedi rhoi systemau gwell ar waith, ein bod yn ailedrych ar yr hen system i weld a yw pethau wedi llithro drwy'r rhwyd.

Mae llawer o haenau o ran sut rydym yn sicrhau ein hunain bod gennym y gwiriadau cywir mewn lle. Gallaf eich sicrhau bod y gwiriadau cyflogaeth mewn lle a bod y broses recriwtio fwy diogel yn sicrhau bod y bobl rydym yn eu cyflogi yn cael y gwiriadau cywir mewn lle.  Nid ydym wedi tynnu ein sylw oddi ar hynny. Mae'r elfen rydym yn ei chydnabod sydd o hyd yn drosiannol, ac mae felly'n cael ei hadlewyrchu drwy ein sgorio, yw'r elfen hyfforddi. Mae pob adran yn cwblhau hunan-asesiadau SAFE ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r rhaglen ddiogelu, felly mae ein sgôr hunan-werthuso yn cydnabod, o ran dull traws-gyngor o weithredu'r system hon, ein bod yn dal i fod heb gyrraedd y nod eto. Ar hyn o bryd rydym yn dibynnu ar y broses SAFE's a'r arweinwyr diogelu yn yr adran yn ymgymryd â mwy o systemau â llaw nes ein bod yn gwbl awtomataidd. Mae'n adlewyrchiad o'r gwaith y mae angen i ni ei wneud o gwmpas hyn.

·         Mae pryderon ynghylch cysylltiadau â gwasanaethau a ddarperir gan y gymuned, ac wedi mynychu gr?p mam a'i phlentyn dan arweiniad y gymuned y llynedd, lle'r oedd yn amlwg y gallai unrhyw oedolyn ddod i'r gr?p. Yn ogystal, nid oedd Pennaeth y Ganolfan wedi ei hyfforddi ar ddiogelu. Dilynais y mater ychydig fisoedd yn ddiweddarach ac nid oedd yr unigolyn hwn wedi cael ei hyfforddi o hyd.  Pa mor rhagweithiol ydym ni fel Cyngor yn mynd i gymunedau ac yn cynghori bod angen hyfforddiant ar bobl?

Mae hwn yn gwestiwn da iawn. Mae gennym ein gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol, yna ceir rhai lle mae gennym berthynas betrus ac rydym yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb er bod ein rôl yn llai clir.    Mae'n wir fod hyn yn achos o ran pa mor dda yw'r perthnasau.  Mae angen i bob Cyfarwyddiaeth nodi grwpiau mewn cymunedau a gwneud y cysylltiadau cywir. Mae'r gwaith sy'n ymwneud â gwirfoddoli wedi rhoi llawer mwy o reolaeth i rai o'r gweithgareddau hyn, ond dyma enghraifft wych lle mae angen i bob swyddog a phob aelod etholedig allu bod yn wyliadwrus a thynnu sylw'r achosion hyn atom, yn unol â'n cyfrifoldebau statudol.

·         Mae hyn yn arwain at fater hyfforddi aelodau etholedig. A oes angen i chi weithio gydag arweinwyr gr?p i sicrhau bod pob aelod yn cael ei hyfforddi?

Rydym yn ei wneud, ond mae dal rhai Aelodau sydd heb gael eu hyfforddi ac mae'n anodd iawn, ond mae cyfrifoldebau'r Aelodau yn statudol ac felly, dylent i gyd fynychu hyfforddiant gorfodol.

·         O ran hyfforddiant staff, mae 48% o'r gweithlu heb gael eu hyfforddi ac mae hyn yn bryder. Pryd yr ydym yn disgwyl i 100% o'r staff fod wedi cwblhau'r hyfforddiant?

Nid yw'r ffigurau'n cynrychioli'r sefyllfa ddiweddaraf ac mae angen i ni adolygu hyn ac asesu'r bobl lai amlwg y gallai fod angen yr hyfforddiant arnynt.

·         Mae Atodiad 3 yn sôn am derfynau amser yn nhermau camau diogelu ac mae'n ymddangos y rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o'r camau wedi'u cwblhau erbyn Mawrth 2020. A fyddai'n bosibl i'r Pwyllgor gael adroddiad interim ym mis Ebrill 2020 er mwyn adolygu'r cynnydd a wnaed (o gofio y bydd adroddiadau'n cael eu cyflwyno bob blwyddyn bellach)?  

Mae'n wir y disgwylir i'r rhan fwyaf o gamau gweithredu gael eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2020 ac erbyn hynny, dylem gael adroddiad cynnydd yn erbyn pob cam gweithredu, gyda chanlyniadau, ond ni fydd y data wedi'u dilysu, felly ni fyddem mewn sefyllfa i wneud adroddiad llawn tan fis Tachwedd 2020, ond gallem baratoi adroddiad interim ar y meysydd allweddol.

·         Mae'r adroddiad yn trafod 'rheoli honiadau' ac ataliadau. Mae gennyf bryderon ynghylch ataliadau yn nhermau cyfraith achosion ddiweddar sy'n datgan nad yw gwaharddiadau yn weithred niwtral. Wrth gydnabod nad yw'r penderfyniad i atal yn cael ei wneud yn ddifeddwl, mae'r broses atal yn eithriadol o gostus ac yn peri gofid mawr, felly rwy'n bryderus ynghylch a oes gan ysgolion ganllawiau digonol ar y dull a argymhellir, i sicrhau bod pawb yn gweithredu yn unol â’r gyfraith. 

Deallaf eich pwyntiau ynghylch atal. Mae gennym broses sy'n cefnogi cyflogeion ac mae asesiad risg i lywio'r penderfyniadau hynny, ond mae'n anodd cyffredinoli gan fod pob achos yn unigryw.  Ceir proses glir a chefnogir ysgolion yn hytrach na’u bod yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain i wneud y penderfyniad hwnnw. Mae gennym ganllawiau rhanbarthol yr ydym yn gweithio iddynt.

·         Nid ydym yn sicr a yw hyfforddiant lefel 1 ar gyfer llywodraethwyr ysgol yn ddigon a byddem yn gofyn i chi adolygu hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr.

·         Eglurder ynghylch a yw'r hyfforddiant 'atal strategaeth' yn cwmpasu pob math o ymddygiad eithafol, a chadarnhawyd bod hynny'n wir.

 

 

Canlyniadau a Chasgliad y Cadeirydd:

 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon â'r cynnydd a amlinellwyd yn yr adroddiad a chytunodd ar y canlyniadau canlynol:

 

·         Byddai adolygiad diweddar SAC yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor pan gaiff ei gyhoeddi.

·         I gael adroddiad cynnydd ym mis Ebrill 2020 er mwyn adolygu cynnydd ar gamau gweithredu allweddol, ynghyd â chrynodeb o'r hunanasesiadau a gynhaliwyd ym mhob un o'r cyfarwyddiaethau.

·         Rydym yn gofyn i swyddogion weithio gydag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol i sicrhau bod yr holl aelodau etholedig yn cael eu hyfforddi.

·         Rydym yn gofyn i swyddogion roi eglurhad i ysgolion ar y broses ataliadau.

·         Bydd y Pwyllgor yn craffu ar yr adroddiad blynyddol nesaf ym mis Tachwedd 2020.

 

Dogfennau ategol: