Agenda item

Lleihau Tlodi Plant a chynhwysiant cymdeithasol a gwella cynhwysiant economaidd: Craffu ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a'i argymhellion

Cofnodion:

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Amlinellwyd cyd-destun yr adroddiad, a hysbysir Aelodau, o'r 79 cam a amlinellir yn y Cynllun Corfforaethol, dewiswyd y cam ar dlodi plant a chynhwysiant economaidd er mwyn cymhwyso'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy' yn ei erbyn.  Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithredu'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy' yn eu gweithgareddau.  Eglurodd y Swyddfa Archwilio Cymru fod yr adroddiad wedi canolbwyntio ar gymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth leihau tlodi plant a hybu cynhwysiant economaidd, yn hytrach na chynnal adolygiad o'r ffordd y mae'r Cyngor yn perfformio yn y meysydd hynny. Dywedodd y Swyddfa Archwilio Cymru mai dyma'r adolygiad cyntaf o'i fath a bod cymhwyso'r egwyddor drwy'r lens 'hirdymor' wedi eu galluogi i asesu pa mor dda oedd y Cyngor wrth gymhwyso gofynion y Ddeddf.  Nododd y Swyddfa Archwilio Cymru ei bod, wrth asesu’r 'hirdymor, eu bod yn ceisio nodi gweithgareddau sy'n rhychwantu cenedlaethau a gweld tystiolaeth o gynlluniau ar gyfer cyfnod o 25 mlynedd. Y prif ganfyddiad oedd bod gan y Cyngor ddealltwriaeth dda o ofynion y Ddeddf a'r materion allweddol, ond nad oes ganddi gynllun digon 'hirdymor'.

 

Clywodd y Pwyllgor y bydd y Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol 5 mlynedd yn helpu i ddarparu dull gweithredu cydgysylltiedig a bod gwaith archwiliadol yn cael ei wneud gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gael dealltwriaeth ddyfnach o ffactorau sy'n gysylltiedig â llesiant. Fodd bynnag, roedd swyddogion yn cydnabod mai un maes allweddol ar gyfer gwella yw datblygu dull gweithredu hirdymor a ffordd o fesur canlyniadau perfformiad yn ystyrlon. Er nad oes cyllideb benodol i gyflawni'r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, mae cyfleoedd cyllid grant yn cael eu harchwilio a allai helpu i ddatblygu ymyriadau tymor hwy ac mae gennym drefniadau cydweithredol cadarnhaol.  Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda chynghorau tref a chymunedol a'r sector busnes ar fentrau i helpu i leddfu newyn gwyliau. Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd wedi sefydlu Panel Ymyriad Cynnar a all nodi'r partneriaid mwyaf priodol i helpu teuluoedd. Mae angen i ni gael gafael ar ffrydiau ariannu mwy arloesol i wneud pethau'n wahanol.

 

Mae'r Ddeddf yn cymhwyso gwahanol lensys i'w gofynion ac un o'r lensys yw'r 'lens cyfranogiad'. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod angen iddo weithio'n agos gyda chymunedau er mwyn nodi pwy sydd angen mwy o gymorth i'w helpu allan o dlodi.   Dywedodd swyddogion fod y Cyngor yn datblygu ei ymwybyddiaeth o unigedd cymdeithasol mewn cymunedau gwledig ac amaethyddol a'i fod yn ceisio nodi'r bobl y bydd gan Brexit y goblygiadau mwyaf iddynt, gan gydnabod bod cysylltiadau â'i gymunedau yn hanfodol er datblygu'r mewnwelediad.  Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud darn o waith yn ymwneud â chredyd cynhwysol a sut y gellir defnyddio data i dargedu'r rhai y mae angen y cymorth mwyaf arnynt ac mae'r cyngor yn canolbwyntio yn yr un modd ar sut y gellir defnyddio data i gael gwell dealltwriaeth o bwy sydd angen help.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd yr adroddiad hwn, yn wahanol i adroddiadau eraill gan Swyddfa Archwilio Cymru, yn darparu 'cynigion ar gyfer gwella', fodd bynnag, bydd SAC yn gweithio gyda'r Cyngor i ddatblygu cynllun gweithredu, a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor yng ngwanwyn 2020.

 

Her:

 

·         Pam y gwnaeth SAC ddewis canolbwyntio ar y pwnc hwn dros feysydd eraill sydd wedi'u hamlinellu yn ein Cynllun Corfforaethol?  A gynhaliwyd adolygiadau tebyg gyda chynghorau eraill fel y gallwn feincnodi ein hunain yn erbyn eraill?

Dewiswyd y pwnc hwn gan ein bod yn teimlo, er ei bod yn ddyddiau cynnar o ran cynnydd, y byddai'n ddefnyddiol i ni ddefnyddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy i asesu sut mae'r Cyngor yn perfformio o ran gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.   Nid yw Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu'r pwnc hwn gydag unrhyw gyngor arall, ond byddant yn edrych i weld a oes unrhyw beth cymharol a allai helpu'r cyngor i feincnodi ei hun o ran ei berfformiad.

·         Os nad yw'r adolygiad hwn wedi'i gynnal o'r blaen, pwy sy'n diffinio 'da' a beth yw 'da' o ran gweithred? A heb unrhyw allu i dynnu cymariaethau ag eraill, a fyddai SAC yn ystyried gofynion unigol pob sir?

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod y safon i asesu a yw cyrff cyhoeddus yn bodloni gofynion deddfwriaeth, yn hytrach na gwneud cymariaethau rhyngddynt. Rydym yn cydnabod bod gan bob sir anghenion unigol.

·         Mae'n gadarnhaol bod Swyddfa Archwilio Cymru drwy’r adolygiad wedi gwerthfawrogi'r gwaith GovTech y mae'r Cyngor wedi bod yn ei wneud ac mae'n dda gweld ei fod wedi cael ei gydnabod.  Mae'r Aelodau'n edrych ymlaen at weld effaith y gwaith hwn.

·         Nodwn y diffyg diffiniad o dlodi plant ac unigedd cymdeithasol a theimlwn ei bod yn anodd asesu perfformiad heb ddiffiniad clir.

Nid oedd yr adolygiad hwn yn dadansoddi perfformiad y cyngor yn benodol o ran lleihau tlodi plant na hyrwyddo cynhwysiant economaidd, felly ni chyfeiriwyd at unrhyw ddiffiniadau yn yr adroddiad. Seiliwyd yr adolygiad dim ond ar gymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy drwy'r 'lens hirdymor' er mwyn llunio barn ynghylch a yw'r cyngor yn gweithredu gofynion y Ddeddf.

·         Rydym yn ei chael yn anodd iawn craffu ar hyn o gofio bod y cwmpas yn gyfyngedig. Er enghraifft, byddem yn disgwyl adolygiad ar y pwnc hwn i ystyried y gwasanaeth prydau bwyd cymunedol neu i ystyried y gwaith y mae'r gr?p trafnidiaeth strategol wedi'i wneud, ond rydym yn cydnabod bod hwn yn fath gwahanol o adolygiad.  

·         Sut yr ydych wedi ymdrin â'ch dadansoddiad? Pwy gafodd gyfweliad fel rhan o'r adolygiad hwn?

Cynhaliwyd gweithdai gyda swyddogion ac aelodau Cabinet gan fod ffocws penodol i'r adolygiad.   Byddwn yn cynnal adolygiad llawn bob blwyddyn o sut mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu ar draws pob gwasanaeth, felly bydd mwy o gyfle i roi adborth llawn ar sut y mae'r Cyngor yn gwneud.

·         O ran paragraff 18 o'ch adroddiad, mae hwn yn gwestiwn i swyddogion y Cyngor.   Sut yr ydych yn bwriadu gwella sut yr ydych yn mesur canlyniadau?

Mae'n anodd iawn gwybod sut i fesur llwyddiant nes bod cam gweithredu wedi'i weithredu ond rydym yn cydnabod bod angen i ni roi mwy o gapasiti yn hyn, yn enwedig o ran cael y data.  Mae Prifysgol Abertawe yn ymgymryd â gwaith ar dlodi ac yn datblygu model data a fyddai'n ystyried ystod eang o ffactorau cymhleth a gall hyn ein helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r ffactorau sy'n arwain aelwydydd i ddisgyn i dlodi ac i nodi patrymau. Mae'r gwaith ar gam cynnar iawn, ond dyma fyddai'r cyfle cyntaf i brifysgol brofi methodoleg ymchwil yng nghyd-destun y sector cyhoeddus, felly edrychwn ymlaen at adrodd yn ôl i'r pwyllgor ar hyn.

·         Sut y gallwn fod yn hyderus ein bod yn gweithio gyda phobl gywir? 

Y tîm Cymunedol a Phartneriaethau yw'r tîm sydd â'r rôl allweddol o bontio rhwng y cymunedau a'r cyngor wrth osod polisi ac mae peth o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan yr aelodau tîm hynny, er mwyn mynd i'r afael â thlodi yn sicrhau cynnydd gwirioneddol.

·         Ni allwn weld unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at 'gyfalaf cymdeithasol' ac mae hyn yn ystyriaeth wirioneddol bwysig i bobl unig ac ynysig. Mae mesuriadau incwm ac amddifadedd wedi'u sefydlu'n eithaf da, ond o ran cyfalaf cymdeithasol, h.y. â phwy mae gan bobl fynediad atynt, pa gymorth sydd ar gael iddynt, dylai hyn fod yn ystyriaeth bwysig wrth asesu i ba raddau y mae'r ddeddf wedi'i chymhwyso ac eto nid yw wedi'i adlewyrchu o dan 'fesurau atal'.  Pam?

Roedd SAC yn archwilio hyn dim ond gan ddefnyddio'r pum ffordd o weithio.  Mae llawer o waith yn cael ei wneud ynghylch hyn, megis ysgolion cymunedol, y gwaith gwirfoddoli a gellir dod â hyn i'r pwyllgor yn y gwanwyn.

·         Rwy'n gwerthfawrogi hyn, ond nid wyf yn credu bod yr adolygiad hwn wedi dadansoddi hyn o safbwynt holistig. 

Mae'r adolygiad hwn ond wedi archwilio'r trefniadau sydd gan y Cyngor mewn lle, nid y canlyniadau gwirioneddol, ond hoffem edrych ar hyn o safbwynt ehangach fel darn o waith yn y dyfodol os yw hynny o gymorth i'r cyngor.

·         Gan dderbyn na allwn dynnu cymariaethau â chynghorau eraill er mwyn rhoi cipolwg i ni ar y materion y mae gwir angen i ni fynd i'r afael â hwy, mae angen i ni gael rhyw ffordd o nodi'r materion nad ydym yn dioddef ohonynt eto, ond sy'n debygol ddod, felly sut y gallwn fod yn barod?

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i ni gynyddu ein gallu o ran data i ddeall yn well beth sy'n digwydd a beth allai fod yn dod. Er bod yr adolygiad hwn ond yn canolbwyntio ar 1 o'n 79 cam gweithredu, mae llawer o ddarnau o waith megis y gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy'n archwilio ffactorau sy'n arwain at ganlyniadau gwaeth i bobl ifanc, felly o ran gwaith ataliol, mae pob gwasanaeth cyhoeddus yn chwilio ar waith ataliol a all ein galluogi i roi ymyriadau cynnar ar waith.

 

Cyfraniad yr Aelod Cabinet:

 

Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn yn fawr a gallwn weld bod allbynnau cynnar o'r strategaeth cyfiawnder cymdeithasol, felly byddem yn awyddus i Swyddfa Archwilio Cymru ddychwelyd ac archwilio'r elfennau o fewn y strategaeth.  Mae'r adborth yn ddefnyddiol iawn i ni o ran myfyrio ar ein hymarfer a rhoi hwb i'r hyn rydym yn ei wneud.  Mae'r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol yn strategaeth drosfwaol ac os yw'r Cadeirydd a'r Pwyllgor yn cytuno, hoffem ddychwelyd at y cynllun gweithredu yn y gwanwyn.  Hoffem roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith GovTech, y gwaith ar iechyd meddwl ac unigedd cymdeithasol o fewn y gymuned ffermio a gall y Tîm Cymunedol a Phartneriaethau gynnig diweddariad llawn ar y gwaith y maent yn ei wneud gyda chymunedau.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Fel Pwyllgor, rydym yn cydnabod mai ffocws cul oedd i'r adolygiad hwn, ond mae wedi bod yn ddefnyddiol o ran ein helpu i nodi'r cyfeiriad yr ydym yn teithio iddo. Byddai gan y Pwyllgor ddiddordeb mawr yn y gwaith y mae Prifysgol Abertawe yn ei wneud mewn perthynas â modelu data ac yn yr un modd, hoffai'r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith GovTech.  Edrychwn ymlaen at eich gwahodd yn ôl yng Ngwanwyn 2020 i gyflwyno eich cynllun gweithredu ac rydym yn diolch i chi am eich holl waith caled ar y pwnc pwysig hwn.

Dogfennau ategol: