Skip to Main Content

Agenda item

Strategaeth Sbwriel / Polisi Gwastraff a Chasgliadau a Safleoedd Amwynderau Dinesig

I ystyried strategaeth sbwriel Sir Fynwy sy'n gyson â'r Strategaeth Sbwriel Genedlaethol sy'n cael ei datblygu ar y cyd â sefydliad Cadwch Gymru'n Daclus.

 

Adroddiad cynnydd ar:

·         Goblygiadau'r Polisi Casglu Gwastraff newydd

·         Effaith cyflwyno trwyddedau i’r Ganolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu

·         Effaith cau rhai o'r Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu a'r cyfeiriad posibl ar gyfer y gwasanaethau hyn

 

 

Cofnodion:

Adroddiad perfformiad ar y Strategaeth Sbwriel, y Polisi Gwastraff a Chasgliadau a newidiadau i'r Safle Amwynderau Dinesig

 

Gwnaed gwaith craffu cyn gwneud penderfyniadau yn gynnar yn 2019 ynghylch y penderfyniad i gyflwyno trwyddedau yng Nghanolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu yn Sir Fynwy a gweithredu newidiadau gwasanaeth mewn rhai safleoedd.  Roedd y Pwyllgor hefyd wedi craffu ar y Polisi Casgliadau Gwastraff newydd a Strategaeth Sbwriel y Cyngor. Roedd y gwasanaeth wedi bwriadu adolygu'r newidiadau ar ôl eu cyflwyno.  Roedd y Pwyllgor wedi gofyn i adroddiad perfformiad gael ei gyflwyno iddynt ar ôl i’r newidiadau cael eu gweithredu er mwyn mesur a yw'r newidiadau i'r gwasanaethau a ddarperir wedi bod yn llwyddiannus ac i drafod unrhyw oblygiadau ar breswylwyr y gallai fod angen mynd i'r afael â hwy ymhellach. Roedd yr adroddiad yn amlinellu perfformiad ar y materion canlynol yn eu tro: 

 

·         Cynnydd y Strategaeth Sbwriel

·         Goblygiadau'r Polisi Casglu Gwastraff newydd

·         Effaith cyflwyno trwyddedau i’r Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu

·         Effaith cau rhai o'r Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu a'r cyfeiriad posibl ar gyfer y gwasanaethau hyn

 

Her:

 

Strategaeth Sbwriel

 

Roedd y cynnydd a ragwelwyd ar y Strategaeth Sbwriel wedi bod yn destun rhywfaint o oedi cychwynnol oherwydd bod ffrydiau ariannu newydd dim ond wedi cael eu cadarnhau gan Lywodraeth Cymru’n ddiweddar.  Mae'r gwasanaeth wedi amlygu sut y byddai cadarnhau ffrydiau ariannu’n gynharach yn galluogi cynllunio mwy effeithiol ar gyfer defnyddio arian er mwyn cyflawni'r Strategaeth Sbwriel. Heriodd y pwyllgor y swyddogion fel a ganlyn:

 

·         O ran diffinio "sbwriel", a fyddai gwastraff gardd sy'n dechrau cyflwyno ymddangosiad gwael yn cael ei ddiffinio fel "sbwriel"?

Rydym yn cymryd y farn mai "sbwriel" yw unrhyw ddeunydd ar ôl yn y lle anghywir, felly byddai hynny'n cael ei ystyried yn "sbwriel".

·         Roeddem yn pryderu y gallai fod cynnydd mewn tipio anghyfreithlon o ganlyniad i gyflwyno newidiadau gwasanaeth i Ganolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu. A yw hyn wedi digwydd?

·         Mae riportio tipio anghyfreithlon wedi cynyddu, ond credwn y gallai hyn fod o ganlyniad i'r canfyddiad y byddai'n cynyddu o ganlyniad i'r newidiadau a gyflwynwyd gennym, oherwydd nid ydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn gwirionedd ers i'r newidiadau gael eu rhoi ar waith.

·         Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ail-ddynodi rhai o'r ardaloedd gorffwys fel "cilfachau". A fydd goblygiadau cost i ni o ganlyniad i'r newid hwn ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw gyfraniad i ni tuag at gynnal a chadw'r ardaloedd hyn yn y dyfodol?  A fydd y bloc toiledau sy'n anaddas i'w ddefnyddio ac sydd ar gau ar hyn o bryd yn cael ei ddileu?

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gorffen dynodi'r safleoedd yn gilfachau, bydd cyfrifoldeb y rheini yn disgyn yn ôl i ni ac nid oes unrhyw awgrym ar hyn o bryd o unrhyw gyfraniad tuag at gynnal yr ardaloedd hyn. Rydym hefyd yn ansicr beth fydd yn digwydd i'r bloc toiledau sydd ar gau.

·         Rydym yn sylwi bod gr?p amgylcheddol Llanfihangel Crucornau wedi cael gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod hwn ond nad oeddent yn gallu gwneud hynny, ond sut mae eu gwaith wedi mynd rhagddo ers iddynt adrodd i'r Pwyllgor hwn?

Mae'r rhaglen wedi mynd yn dda iawn, mae'r gr?p yn treialu sticeri amrywiol ar finiau gwastraff ac yn adrodd bod gostyngiad mawr wedi bod yn y sbwriel yn dilyn y newidiadau. Byddwn yn eu gwahodd yn ôl i'r Pwyllgor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf.

·         A yw'r sbwriel oherwydd y bobl sy'n gyrru drwy'r ardal?

Ydy, mae'r sbwriel oherwydd taflu sbwriel “wrth yrru heibio” yn bennaf.  Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn annog yr angen am ddeddfwriaeth i erlyn troseddwyr (ar hyn o bryd nid oes gennym y ddeddfwriaeth hon yng Nghymru).

 

Goblygiadau'r Polisi Casglu Gwastraff newydd

 

·         Rydym wedi clywed bod rhai problemau cychwynnol pan gyflwynwyd y Polisi Casglu Gwastraff o ran colli casgliadau. A allwch egluro'r materion hynny a'r hyn yr ydych wedi'i wneud i'w goresgyn?

Un o'r prif wersi a ddysgwyd a gyfrannodd at y casgliadau a fethwyd oedd addasrwydd y cerbyd i gynnal y casgliadau mewn ardaloedd lle nad oedd llawer o le, naill ai oherwydd ffyrdd bach neu gerbydau wedi'u parcio.  Rydym wedi canfod nad yw broblem oherwydd bod y cerbyd â’r dyluniad anghywir neu eu bod yn rhy fawr, ond yn hytrach bod yr ardal yr oedd y cerbyd wedi yn cael ei anfon yno yn rhy fach. O ran sut rydym wedi datrys hyn, rydym bellach wedi gwneud yn si?r bod gan bawb y casgliad cywir gyda'r cerbyd cywir.

·         A yw'r materion ynghylch capasiti wedi'u datrys?

Cawsom rywfaint o drafferth i benderfynu ar gapasiti'r cerbydau a'r staff i gwblhau'r rowndiau ~ mewn rhai achosion, roedd y rowndiau'n rhy fawr ac yn heriol. Mae'n anodd iawn cydbwyso ac rydym am osgoi defnyddio gormod o adnoddau. O ran y Cynllun Datblygu Lleol a thai yn y dyfodol, os caiff ystadau presennol eu hymestyn ar raddfa fach, dylai'r rowndiau allu ymdopi, ond pe bai ystâd fawr newydd yn cael ei hadeiladu, byddai angen mwy o gapasiti o ran fflyd. Y trothwy yw tua 1000 o dai, a fyddai'n gofyn am gylch newydd a sawl cerbyd newydd, ond byddai eiddo newydd yn darparu incwm o'r dreth gyngor a fyddai o gymorth, pe bai'r tai ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig fel pwysau ariannol. 

·         Beth yw'r heriau eraill rydych chi wedi dod ar eu traws a sut ydych chi wedi eu datrys?

·         Rydym wedi dysgu gwersi o'r gweithredu ac yn aml iawn gellid mynd i'r afael yn syml â'r newidiadau a gafodd effaith fawr. Er enghraifft, roedd y mapiau cychwynnol a roddwyd gennym yn rhy anodd i'w darllen, felly aethom i'r afael â hynny.  Anfonom lythyrau at breswylwyr hefyd drwy'r Post Brenhinol, ond nid oeddem wedi ystyried y ffaith na fyddai’r Post Brenhinol yn eu dosbarthu dros y penwythnos, felly roedd pobl yn cael y wybodaeth yn rhy hwyr. Rhan o'r broblem hefyd oedd bod y broses o weithredu hyn yn cyd-ddigwydd â gostyngiad yn nifer y staff yn y Ganolfan Gyswllt.  Nid oes gan y chatbot Monty y gallu i roi atebion i gwestiynau cymhleth a oedd yn gofyn am ymyrraeth ddynol, ac roedd hyn yn ychwanegu at rwystredigaeth y cyhoedd pan oedd pobl am wybod pryd oedd eu casgliad sbwriel. Rydym wedi mynd i'r afael â hyn nawr drwy gael system wahanol i reoli cwynion a byddem yn awr yn sicrhau bod gennym oruchwyliwr dynodedig i reoli'r raddfa hon o newid unwaith eto.

·         Deallwn y gall gwahanol ffyrdd o gyfathrebu achosi anhrefn, ond a yw'r system ar gyfer adrodd ar faterion yn symlach? Ydych chi'n credu y gallai bod cael cymaint o ffyrdd o adrodd ar faterion yn ddryslyd ac a oedd dyblygu o ran galwadau yn cael eu cofnodi drwy'r ganolfan gyswllt a thrwy'r ap Fy Sir Fynwy?

·         Cawsom broblemau mawr gyda chyfathrebu ac nid oedd gennym ddigon o staff yn y ganolfan gyswllt i ddelio â'r nifer o alwadau. Cawsom gyfnod brig o ran cwynion ac roedd prosesau gwaith dyblyg oherwydd bod galwadau yn cymryd amser i'w prosesu.  Pan fyddwn yn gweithredu newid gwasanaeth y tro nesaf, byddem yn sicrhau bod staff yn y swyddfa i ymdrin yn benodol â chwynion. Roedd y rhain yn newidiadau enfawr ac roeddem wedi dweud hyn wrth y cyhoedd, ond nid oeddem yn cydnabod lefel y cymhlethdod o ran y wybodaeth yr oedd ei hangen arnom i ddarparu i’r cyhoedd. Rydym wedi dysgu o hyn.  Mae Matthew Gatehouse wedi cytuno i adrodd yn ôl ar y chatbot Monty a chyfathrebu’n gyffredinol.

·         A ydym yn hyderus nawr bod cwynion yn cael eu datrys?

Ydym, ond rydym yn dal i gael cwynion am y rownd gwastraff gardd. Credwn fod y cynnydd sydyn mewn cwynion o ganlyniad i sefyllfa'r tywydd, ond mae'n rhaid i ni reoli hynny a chydbwyso'r criwiau a'r capasiti yn unol â hynny. Un o'r anawsterau fu trefnu'r rowndiau ac wrth i bobl dalu am y cynllun, mae'n bwysig iawn ei fod yn cael ei wneud yn iawn.

·         Rydym yn cydnabod bod y rhain wedi bod yn amseroedd digyffelyb i chi o ran newidiadau i gasglu gwastraff, ond ymddengys eich bod wedi myfyrio'n fanwl ar y broses weithredu a sut y gallwch fynd i'r afael â chamgymeriadau a wnaed a dysgu oddi wrthynt.  Ydych chi'n gwneud dadansoddiad ôl-weithredu er mwyn dysgu o'ch profiadau?

Do, ar ddiwedd y gwaith, ym mis Ebrill/Mai, fe wnaethom adolygiad o'r hyn a aeth yn dda/ddim cystal, ac fe wnaethom logio materion fel ein bod ni'n eu deall. Gwnaethom newidiadau mor sylweddol ym mis Gorffennaf a effeithiodd ar dros 5000 o eiddo, felly rydym wedi dysgu o'r profiadau ym mis Mawrth a byddwn yn parhau i ddysgu o'n profiadau fel nad ydym yn gwneud camgymeriadau eto. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfle i ddod â'n portffolio drwy'r broses graffu gan fod y Pwyllgor yn cynnig seinfwrdd defnyddiol iawn i ni, ac rydym yn gweld hyn yn amhrisiadwy i ni o ran ein helpu i hunanwerthuso a myfyrio ar ein profiadau.

·         Rydych wedi cael profiad o rai problemau mewn perthynas â'r system gwastraff gardd.  A ydych yn cyfyngu nifer y casgliadau ar ddiwrnod penodol, fel eich bod yn gwybod yn union faint o gasgliadau fydd ar y rownd?

Gall preswylwyr brynu cymaint o fagiau ag y dymunant ac wrth iddo gael ei fapio, mae gennych syniad bras yn seiliedig ar y flwyddyn flaenorol faint o fagiau fydd ar y rownd, ond nid yw'n fanwl gywir.  Mae'n ymddangos yn amcangyfrif cywirach am yr ardaloedd trefol, ond mewn ardaloedd gwledig, gall y rowndiau fod yn fawr iawn ac os oes llawer o fagiau, mae'n cymryd mwy o amser.

·         A allem gyfyngu nifer y bagiau ac yna annog eiddo mwy o faint i gompostio?

Mae gennym dargedau heriol o amgylch hyn ac os ydym yn darparu biniau neu fagiau, mae angen i ni weithio allan yr opsiwn gorau, gan fod hwn yn wasanaeth â thâl ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn nid yn unig ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Ar hyn o bryd nid yw'r gwasanaeth yn talu amdano'i hun ac mae angen i ni ymchwilio ymhellach i hyn a dychwelyd atoch gyda dewisiadau.

·         Fel gwasanaeth dewisol, credwn ei bod yn bwysig bod y gwasanaeth yn talu amdano'i hun, oherwydd ni fyddai'n deg i drethdalwyr y cyngor cyffredinol (er enghraifft, un person a allai fod yn byw mewn annedd fach) fod yn rhoi cymhorthdal i eiddo mawr.

Rydym yn cytuno ac mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ddychwelyd ato a dod â thrafodaeth gyda chi ar sut i symud y gwasanaeth yn ei flaen.

·         O ran y bagiau polypropylen, ydych chi'n gwybod eto pa ardaloedd fydd yn cymryd rhan yn y peilot? Pa waith ydych chi'n mynd i'w wneud gydag Aelodau o flaen llaw?

Byddwn yn treialu un ym mhob rhanbarth storfa, felly bydd un yn Nhrefynwy, un yn Llangybi a Brynbuga ac un yng Nghaerwent/Cil-y-coed. Byddwn yn cynghori Aelodau o flaen llaw fel y gallant roi gwybod i'r cyhoedd mewn da bryd.   Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, byddwn yn cyflwyno wedyn fesul cam. Y bwriad yw lleihau'r defnydd o fagiau plastig a chynyddu gwerth y deunydd eildro. Byddwn yn:

Darparu enghreifftiau i'r aelodau o fagiau i'w dangos i'r cyhoedd a byddwn yn eu rhoi yn y canolfannau.

 

Effaith cyflwyno trwyddedau i’r Ganolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu

 

·         Rydych wedi cyfeirio at newidiadau mewnol yn ddiweddar, beth fu effaith hyn?

Mae'r ailstrwythuro wedi dod â chyfeiriad cliriach o ran lle mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd a'r cyfeiriad y mae angen i'r gwasanaeth ei ddilyn yn y dyfodol.  Er bod y gwasanaeth wedi dibynnu ar staff asiantaeth dros dro i weithio yn yr adran dros y cyfnod o newid, roedd staff bellach yn gweithio mewn swyddi parhaol a oedd wedi galluogi'r tîm i fod yn y sefyllfa iawn i symud y cyfeiriad strategol a gytunwyd yn ei flaen.

·         Beth fu effaith cyflwyno'r trwyddedau?

Cyflwynasom y trwyddedau ym mis Mehefin i bob cartref, ond nid oedd pob aelwyd ar ein system, felly nid oedd rhai pobl wedi cael y wybodaeth na'u trwyddedau, ac rydym wedi datrys y rhain erbyn hyn.  Ar y cyfan, mae'r gweithredu wedi bod yn llyfn ac mae pobl wedi deall beth yw diben hyn. Cawsom rywfaint o feirniadaeth gan y cyhoedd y tu allan i'r Sir, yn enwedig Casnewydd a Phowys.  Mae'r newidiadau wedi lleihau ein costau’n sylweddol drwy beidio â chymryd gwastraff o siroedd eraill.  I rai cymunedau ar y ffin sydd wedi gofyn am ddod â sbwriel atom am fod eu canolfan yn bellach i ffwrdd, rydym wedi'u galluogi i ddod â gwastraff i'n safleoedd os ydynt yn talu wrth y bont bwyso.

·         A ydym wedi rhoi cyhoeddusrwydd i'r ffaith y gall pobl sy'n byw ar ffin Sir Fynwy ddod i dalu?  Pa gyhoeddusrwydd rydym yn gwneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o hyn?

Rydym wedi rhoi cyhoeddusrwydd i hyn ar y wefan. Rydym wedi cael llawer o ymholiadau ar y mater hwn drwy'r cyfryngau, felly maent wedi bod yn ddefnyddiol o ran rhoi gwybod i bobl.  Nid yw hyn yn cynhyrchu unrhyw refeniw i ni, ond rydym yn deall i rai cymunedau, mae hwn yn ddewis mwy ymarferol.

·         Ble'r ydym arni o ran ein cyfradd ailgylchu?

Rydym yn y chwartel gwaelod am y tro cyntaf erioed.   Mae awdurdodau eraill wedi gwella eu harferion sydd wedi helpu eu cyfradd ailgylchu ac mae'r broses o gyflwyno trwyddedau wedi gostwng ein cyfradd ailgylchu.   Mae angen i ni ystyried sut i godi ein cyfradd ailgylchu, ond byddai'r ymyriad tebygol yn galw am orfodi gwastraff bagiau du.  Rydym yn cysylltu â Chynghorau Tref a Chymunedol er mwyn annog y cyhoedd i ailgylchu mwy ar ymyl y ffordd, yn hytrach na mynd â bagiau gwastraff du i'r canolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu.  Er enghraifft, roedd 38% o wastraff bagiau du a gymerwyd i ganolfan gwastraff cartref ac ailgylchu Brynbuga yn wastraff bwyd, y gellid bod wedi ei ailgylchu.

·         Ble'r ydym arni o ran gorfodi?

Mae'r polisi gorfodi wedi cael budd o fewnbwn aelodau. Y nod yw addysgu yn hytrach na chosbi pobl, fel mai gorfodi yw'r dewis olaf. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyfraddau ailgylchu o 75-80%, felly i gyrraedd hynny o 64%, mae gennym gryn ffordd i fynd. Caiff dyletswyddau gorfodi yn ymwneud â sbwriel eu cwmpasu o fewn rolau staff. Mae hysbysiad gorfodi Adran 46 yn aros gyda'r eiddo am byth, ond dyna'r dewis olaf mewn gwirionedd.

 

Canlyniadau a Chasgliad y Cadeirydd:

 

·         Rydym wedi craffu ar berfformiad y gwasanaeth o ran cyflawni ffrydiau gwaith mawr dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn teimlo bod y gwasanaeth wedi dysgu llawer o wersi ac wedi goresgyn yr heriau allweddol.

·         Rydym yn falch o weld cynnydd ar waith trin â sbwriel a hoffem adolygu hyn eto gyda gr?p amgylcheddol Llanfihangel Crucornau i glywed cynnydd ar eu prosiectau.

·         Hoffem gyflwyno trafodaeth yn y dyfodol am y Ganolfan Gyswllt a'r chatbot a bydd hyn yn cynnwys hyn yn ein blaenraglen waith.

·         Rydym yn fodlon â'r broses o roi'r Polisi Casglu Gwastraff ar waith ac rydym yn fodlon bod y mater o ran casgliadau a fethwyd bellach wedi cael sylw. Yn yr un modd, mae'r pryderon ynghylch addasrwydd y cerbydau wedi'u datrys.

·         Rydym yn cydnabod y bydd safleoedd tai newydd sydd heb eu diffinio eto yn y Cynllun Datblygu Lleol yn bwysau ariannol y mae angen eu hystyried.

·         Credwn yn gryf fod angen i'r Polisi Gwastraff Gardd fod yn hunangynhaliol a gofynnwn i chi ddychwelyd atom i gael dadl bellach ar hyn ar yr adeg briodol.

·         O ran y bagiau ailgylchu polypropylen newydd, gofynnwn i chi ymgysylltu â'r Aelodau a briffio'r cyhoedd drwy'r cyfryngau priodol.  Yr ydym hefyd am gael mwy o gyhoeddusrwydd yngl?n â'r opsiwn i gymunedau ar y ffin dalu i gael gwared ar sbwriel yn Sir Fynwy, os yw hynny'n fwy cyfleus iddynt. 

·         Rydym yn gofyn i'r Cabinet adolygu'r gweithrediadau yng nghanolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu Llanfihangel Troddi a Brynbuga er mwyn gwella cyfraddau ailgylchu.

·         Rydym yn cefnogi'r strategaeth sbwriel a'r polisi gorfodi ac yn argymell bod y rhain yn cael eu cymeradwyo gan y Cabinet. 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: