Agenda item

Adolygiad Amgueddfeydd: Craffu ar y cynnydd o ran cyflwyno'r Blaengynllun Amgueddfeydd yn dilyn yr adolygiad blaenorol. Ystyried y camau gweithredu sy'n weddill yng nghyd-destun newydd MonLife, gan gynnwys materion/camau gweithredu cysylltiedig ag atyniadau mewn perthynas â phrofiad ymwelwyr; marchnata adwerthu a chydlynu digwyddiadau.

Cofnodion:

Adroddiad Perfformiad yngl?n â darparu Blaengynllun Amgueddfeydd

 

Daethpwyd ag adroddiad perfformiad i’r pwyllgor er mwyn archwilio datblygiad y gweithrediadau sydd ar ôl sydd wedi'u hamlinellu yn y Blaengynllun Amgueddfeydd, yn dilyn sefydliad MonLife.  Cafodd blaengynllun 2017-22 ei gymeradwyo gan Gabinet ym mis Rhagfyr 2016 a’i hysbysu gan adolygiad y gweithredwyd gan ymgynghorwyr Amion ym Mehefin 2015. Mae cyflwyniad manwl sydd ynghlwm fel Atodiad A i’r cofnodion yn amlinellu’r datblygiad sydd wedi’i wneud ar bob un o’r argymhellion a wnaed gan Amion.  Trafodir y datblygiadau a wnaed yn erbyn yr argymhellion yn ogystal mewn manyldeb yn atodiadau'r adroddiad perfformiad. 

 

Y dyfodol sydd yn yr arfaeth i'r gwasanaeth yw ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr er mwyn egluro’r opsiynau, y costau a’r camau, yn ogystal â’r prosiect Strategaeth Dreftadaeth er mwyn hysbysu cyfleoedd cyllid yn y dyfodol.  Mewn trafodaethau â chyllidwyr, cadarnhawyd y bydd angen cwblhau'r 'broses adolygu casgliadau' er mwyn hysbysu unrhyw gais am gyllid yn y dyfodol ar gyfer y siop ganolog.  Clywodd Aelodau nad yw costau'r astudiaeth ddichonoldeb yn hysbys ar hyn o bryd ac y bydd angen archwilio unrhyw ffynhonnell cyllid allanol. 

 

Her:

 

·         Pam y cymerodd hi gymaint o amser i fynd i’r afael â’r argymhellion ers i Amion gwblhau'r adolygiad yn 2015 a'r adolygiad i'r Cabinet yn 2016? Pam ydych chi'n adolygu hyn nawr?

Cafodd y mwyafrif o weithrediadau sylfaenol eu delio â yn 2017. Gweithred yw hon yr amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor ac achosodd y gwaith ar y Model Cyflenwi Amgen rhywfaint o oedi. Nawr bod MonLife wedi’i sefydlu, mae’n amser i ni symud ymlaen. Gweithred enfawr oedd y weithred sylfaenol o amgylch adeiladau a’r siop ganolog cafwyd ei sefydlu mewn sefyllfa ariannu eithaf gwahanol.  Mae yna gynllun strategol newydd ar gyfer cyllid loteri treftadaeth, sydd wedi gwneud y bidio’n fwy cystadleuol, ac felly rydym wedi torri’r argymhelliad i lawr i brosiectau penodol.  Nawr bod amgueddfeydd wedi’u sefydlu o fewn MonLife, nid oes angen iddynt wneud y pethau hyn ar eu pennau eu hun. Y rheswm am rai o’r oedi yw meddwl am y profiad.

·         Pa argymhellion Amion nad ydynt yn cael eu cymryd ymlaen?  

Roedd rhai o argymhellion Amion yn cynnwys cau rhai amgueddfeydd ac ni chariwyd y rheini ymlaen oherwydd y teimlad oedd ei fod yn bwysig cael presenoldeb ym mhob un o'r 3 dref.   Awgrymodd Amion hefyd y gallai rhai arddangosfeydd gweithredu trwy leoliadau nad ydynt yn amgueddfeydd mewn trefi eraill. Serch hynny, archwilion ni'r posibilrwydd o weithio â manwerthwyr er mwyn sefydlu amgueddfeydd bach a phenderfynon ni bod y 4 tref yn unigryw dros ben a thra bod y cyswllt yn bwysig iawn, mae’r stori leol yn bwysig yn ogystal.    Yr argymhelliad olaf oedd sefydlu corff datblygu ar wahân cafodd ei ddisodli gan MonLife. 

·         Nid oes gan Gil-y-coed, yn wahanol i’r trefi eraill, lleoliad sefydlog i arddangos eu darganfyddiadau ac wrth adnabod nad y castell yw’r lleoliad mwyaf addas i arddangos darnau, mae yna dal gyfle i arddangos casgliad Cil-y-coed ac i adrodd stori Gwastatiroedd Gwent a goresgyniad y Rhufeinwyr ac i ddenu ymwelwyr i’r ardal.  A oes gennych unrhyw feddyliau yngl?n â hyn?

Rydym yn adnabod y mater hwn ac o ganlyniad i’r amodau amgylcheddol yr y castell, mae casgliad Cil-y-coed yn y storfa. Ni wyddom yr ateb eto, ond rydym yn adnabod bod rhaid i ni alluogi mynediad i gasgliad Cil-y-coed a byddwn yn gobeithio y bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cyflwyno dewisiadau y medrir eu hystyried.  Mae lawer yn haws adrodd hanes Y Fenni a Chas-gwent gan fod adeiladau yna. Mae’r prosiect Cronfa Loteri Dreftadaeth yn archwilio sut i adrodd stori ardal pan nid oes adeilad gweladwy sy'n dal casgliadau penodol.  

·         Rhaid canmol bod y Cyngor yn cadw amgueddfeydd ar agor tra bod cynghorau eraill yn eu cau. Gallwn weld gweithrediadau clir yn y cynllun gweithredu ond, fel pwyllgor archwilio, ein diddordeb yw canlyniadau ac allbynnau. Beth oedd y rheswm am y strategaeth a beth yw’r problemau yr ydym yn ceisio eu datrys?  Beth yw ein targed, ein nod? Ai creu incwm yw e?  Beth yw goblygiadau cwblhau’r gweithrediadau hyn? Dwi’n pryderu am eglurdeb eich amcanion. Beth yw'r gwerth sy'n cael ei ychwanegu?

Pwyntiau dilys iawn yw’r rhain. Er mwyn sicrhau grant o’r Gronfa Loteri Treftadaeth, roedd angen i ni fod yn glir yn ein rhesymeg.  Ymwelon ni ag amgueddfeydd eraill megis Derby er mwyn gweld sut yr ydynt yn cael canlyniadau, felly adeiladu’r ‘achos am fuddsoddiad yn y dyfodol’ yw ein fframwaith strategaeth a chanlyniadau. Mae’r broses ymgeisio am grant yn ein gorfodi i fod yn glir yngl?n â’n strategaeth sefydliadol cyn ymgeisio am gyfansymiau sylweddol o arian.  Rydym eisiau symud ymlaen â’r prosiect profiad i ymwelwyr ar yn un pryd, sef y rheswm pam yr ydym wedi gwahanu hyn i mewn i brosiectau penodol.  Atgyfnerthodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yr angen i ystyried yn ofalus yr hyn yr ydym yn ei wneud a pham.  Rydym yn adnabod bod angen i ni ychwanegu gwerth, a cyfle yw hwn yn awr trwy MonLife i ddod â phethau at ei gilydd ac i’r sector cyfan archwilio ei bwrpas.

·         Rydym yn ceisio deall sut y mae’r gwasanaeth yn cyfrannu at yr economi a datblygu ac rydym yn gwerthfawrogi taw achos o archwilio mwy na nifer yr ymwelwyr yn unig yw hwn. A ydych yn mesuro enillion economaidd?

Rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o ymwelwyr, ond mae yna becyn cymorth datblygu sy’n archwilio'r cyfraniad i’r economi ac sy’n amcangyfrif yr enillion ar fuddsoddiad i’r economi lleol.  

·         Beth yw’r paramedrau allweddol yr ydynt yn eu defnyddio i fesur llwyddiant a methiant gyda’r cyhoedd? Mae yna ddiffyg data rhifiadol megis y nifer o ymwelwyr yn y cynlluniau, felly mae’n anodd i ni benderfynu os ydych chi’n llwyddo ai peidio.

Nid ydynt wedi cynnwys ein ffigyrau ymwelwyr yn yr adroddiad hwn, mae hwn yn ymddangos yn adroddiad MonLife. Mae'r blaengynllun gwreiddiol yn uchelgeisiol, ond nid oes ganddo lawer o ran mesurau rhifiadol, felly mae angen i ni fynd i’r afael â hwnna nawr.  Mae’n anodd mesur bodlondeb ymwelwyr oherwydd rydym yn ymwybodol efallai bod ymwelwyr yn dymuno mwynhau’r profiad mewn ystyr mwy eang (gwagle distaw) yn lle dysgu am hanes lleol yn unig, ond yn sicr mae angen i ni ailadrodd ein harolwg ymwelwyr.   Ymchwiliodd y Prosiect Amgueddfa Hapus i mewn i rôl amgueddfeydd mewn perthynas â lles cyffredinol a sut y mae pobl yn teimlo ar ôl ymweld ag amgueddfeydd felly, gan fod hyn yn cael ei archwilio ar lefel genedlaethol, bydd yn ddiddorol tynnu cymariaethau.  

·         A ydych yn gwneud unrhyw arbedion? 

Gwnaethon ni arbedion sylweddol trwy’r ailstrwythuro yn 2017, ond nid yw’r blaengynllun wedi’i yrru gan arbedion. Rydym yn ceisio bod yn fwy effeithiol gyda’r cynnig yr ydym yn ei ddarparu ac yn gweithio ar y gweithrediadau gwella.

·         A oes gennym ni berthynas gwaith effeithiol gyda CADW? A oes gennym ni arwyddion yn safleoedd CADW er mwyn dangos atyniadau eraill i ymwelwyr?

Yn Y Fenni, rydym yn gweithio gyda nhw o ran gofal y castell.  Yng Nghas-gwent, mae gennym ni gysylltiadau lleol da gyda staff yn y castell a’r Ganolfan Wybodaeth i Dwristiaid (GWD) ac felly rhywbeth yr ydym wedi trafod â'r GWD yw hyn, gan fod cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr i'r castell i'w cymharu â'r amgueddfa er gwaethaf eu hagosrwydd, felly rydym yn archwilio sut y gallwn annog pobl i wneud yr ail ymweliad yna. Tuedd CADW yw dehongli’r bensaernïaeth, yn hytrach na bywyd y bobl a’r stori a blaenoriaeth CADW yw cynyddu nifer yr ymwelwyr i’w safleoedd, felly'r cwestiwn yw sut y gallwn annog pobl trwy'r GWD bod yna 2 le allweddol i’w ymweld â.  Mae’r arwyddion yn glir, ond gallwn archwilio cymelliadau i ymweld ag amryw o atyniadau.

·         Pam y dewisoch chi ddydd Mercher fel y diwrnod cau arfaethedig?

Edrychon ni am y diwrnod mwyaf tawel dros y safleoedd i gyd ac os dylid eu cau i gyd ar yr un diwrnod a'r teimlad oedd taw hyn oedd y diwrnod mwyaf tawel yn gyffredinol.

·         Mae MonLife yn mynd trwy gyfnod trosglwyddo, gyda meddylfryd mwy masnachol. Mae gennych chi rôl bwysig i chwarae yn hwnna gan fod yr hanes mor bwysig i hunaniaeth Sir Fynwy.   Mae gennym ni asedau nad ydym yn eu hyrwyddo’n gywir ac mae angen strategaeth arnom ni o amgylch hynny. Mae yna botensial sylweddol ac mae angen i ni feddwl fel tîm MonLife yn hytrach na gwasanaeth amgueddfeydd – mae angen pecyn neu gynnig cyffredinol arnom ni. A ydych yn cytuno?

Rydym nawr mewn safle llawer gwell i edrych ar farchnata a brandio ar draws MonLife, addysg, cefn gwlad a rheoli cyrchfannau ac mae nawr cymaint o synergeddau y gallwn ond manteisio ohonynt. 

·         Beth yw eich amserlenni?

Gobeithiwn apwyntio swyddog prosiect yn y flwyddyn newydd, cynorthwyydd adolygu yn Ebrill 2020 a gobeithiwn cwblhau’r prosiect ym mis Gorffennaf 2021. 

·         Rhai o adborth ymwelwyr amgueddfa Cas-gwent yw ei bod yn sych ac yn hynafol. A fydd canoli’r staff a’r profiad yn cyflawni unrhyw beth arloesol i ddod â phrofiad llawn ac atyniadol?   A allwch roi syniad i ni o sut y gall hyn weithio?

Rydym yn archwilio hyn. Mae yna densiwn yngl?n â sut i adrodd stori leol mewn ffordd hynod ond wedyn i ymgysylltu â’r safleoedd eraill ac mae rhai atyniadau wedi gwneud y camgymeriad o wneud storïau’n rhy debyg, sy’n meddwl bod ymwelwyr yn teimlo eu bod wedi "ymweld ag un, ymweld â phob un", felly cydbwysedd bregus yw hi. Ni fydd yr arian gennym ni i wneud gwaith helaeth ar safleoedd y casgliadau, ond gobeithiwn wneud tipyn o waith gydag arwyddion a’r wybodaeth graidd y gallwch ddisgwyl ei gweld. 

·         Rydym yn adnabod bod natur amgueddfeydd wedi newid ac nid oes gennym yr adnoddau i gynnig arddangosiad hynod ryngweithiol, ond a ydym yn bod yn ddigon uchelgeisiol yn gwneud rhywbeth arloesol yn y mannau hynny?  Mae gennym ni grwpiau cymunedol sydd â llawer o arbenigedd sydd eisiau cymryd rhan gallent helpu ni i'w wneud yn fwy deinamig, sef cyfle wedi’i wastraffu os nad ydym yn ei groesawi.  

Tîm bach ydym ni ac rydym wedi cael ein dal yn newid arddangosfeydd dros dro trwy’r amser, felly rydym yn ceisio bod yn realistig a gwyddom fod angen i ni wneud pethau mwy dychmygus a bydd y gwaith treftadaeth yn ein galluogi i feddwl am y storïau yr ydym yn eu hadrodd a’r cymunedau a grwpiau hanes gwahanol y gallwn eu defnyddio i’w hysbysu. Mae angen i ni gamu i ffwrdd o’r felin a meddwl am yr arddangosiadau sydd gennym ni a sut y gallwn eu gwella. Rydym yn manteisio o ddod â staff at ei gilydd i gael persbectif gwahanol.

·         Rydych yn rhedeg adran sydd â diffyg sylweddol. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn costio arian, felly oes gennych chi ffigwr ac amserlen fras?

Nac oes. Efallai bydd angen cymorth cyllid allanol i’w gwneud.  Dymunwn symud ymlaen mor gynted â phosib, o fewn y 12 mis nesaf. Bydd angen i ni ddod â chynllun diwygiedig yn ôl i gabinet ac efallai bydd angen ymgeisio am gyllid.

·         Un ardal sydd heb ei chrybwyll yw defnydd sefydliadau academaidd. Ai’r rheswm nad ydy’r rhain yn cael eu defnyddio yw oherwydd problem adnoddau? A ydych wedi nodi sefydliadau academaidd?

Mater o le yw hi. Cawsom ychydig sgyrsiau gyda’r Llynges Frenhinol ym Mhortsmouth yngl?n â’r Casgliad Nelson a’r Amgueddfa Forwrol, felly gwyddom ble mae’r cysylltiadau hyn, mater o le yw hi yn unig.  Mae angen dealltwriaeth fwy clir arnom ni o beth y dymunwn ohono a pha gysylltiadau academaidd buasai’n gywir, a dylai'r gwaith o amgylch y storïau yr hoffwn eu hadrodd ein harwain yngl?n â hyn.

·         Rydych wedi crybwyll bod MonLife yn datblygu cynllun dysgu a bod gennych chi 6 nod strategol, ond a yw’r rhain wedi’u cymhwyso a’u meintioli yn ôl y modd y byddwch yn eu mesur? Er enghraifft, yn ôl gweithredu o amgylch gweithdai sy’n seiliedig ar sgiliau i oedolion, nid yw hynny wedi symud ymlaen yn Y Fenni neu yng Nghas-gwent. Beth yw’r rheswm am hynny? 

Rydym yn gweithio ar y 6 nod strategol.  Nid ydym o’r farn bod y gwasanaeth amgueddfeydd yn dilyn dysgu ar ei ben ei hun, bydd yn cael ei gydweithredu trwy MonLife.

·         Mae ciosg Canolfan Wybodaeth i Dwristiaid Cas-gwent wedi cael ychydig o welliannau, ond mae yna ymdeimlad o ddiffyg cysyniad masnachol.  Mae yna gyfle enfawr i wneud rhywbeth sylweddol ac i wneud ein cynnig yn atyniadol. A ydych yn edrych ar gynllun i groesffrwythloni’r gweithgareddau rhwng y ciosg a’r amgueddfa er mwyn cynyddu proffidioldeb?

Ydyn, rydym yn edrych ar yr agweddau masnachol trwy MonLife.

·         A ydych wedi ymgynghori gyda’r cynghorau tref er mwyn gweld os ydynt eisiau buddsoddi fel partner? 

Nid ydym wedi siarad â nhw am y blaengynllun yn benodol, ond byddwn yn ymgysylltu â nhw fel rhan o’r darn treftadaeth mwy eang.

 

Canlyniad a Chasgliad y Cadeirydd:

 

·         Archwiliodd y pwyllgor elfennau’r adolygiad Amion yn gyfan gwbl, yr amser a gymrwyd o gyhoeddi’r adroddiad Amion i symudiad y gweithrediadau ar hyn o bryd.

·          Er mwyn datblygu amgueddfeydd a chynyddu ein holl gynnig twristiaeth, rydym yn cefnogi’r angen i ymgymryd â’r astudiaeth ddichonoldeb.    Pan fydd y gost a maint yr astudiaeth ddichonoldeb wedi’u penderfynu a pan fydd gennych argymhellion clir i gymryd ymlaen, rydym yn gofyn eich bod yn dychwelyd i’r pwyllgor. Mae’n angenrheidiol bod y pwyllgor yn gallu mesuro canlyniadau yn nhermau effaith economaidd a gwerth wedi’i ychwanegu i breswylwyr, felly rydym yn gofyn bod yr adroddiadau perfformiad MonLife a’r Pecyn Cymorth Economaidd yn cael eu dosbarthu.   

·         Mae’n hollbwysig bod mwy o arloesi ac ymgysylltiad â gwirfoddolwyr a chymunedau i wella'r gwasanaeth amgueddfeydd ac rydym yn argymell eich bod yn ymgysylltu â chynghorau trefol a chymunedol ar y cyfle cyntaf er mwyn manteisio'n llawn o unrhyw gyfleoedd i weithio ar y cyd.

·         Argymhellir bod dichonoldeb croesfan i gerddwyr o flaen CWD Cas-gwent yn cael ei archwilio.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: